E-fwletin Ebrill 11eg 2016

E-fwletin Cristnogaeth 21 Ebrill 11eg.

 Annwyl Gyfeillion,

Dyma ein neges heddiw gydag ôl nodyn pwysig ar y diwedd.

 Pwyso a mesur

Mae gen i garden gain wedi ei fframio ar silf fy stydi. Clawr hen docyn llyfr a gefais flynyddoedd yn ôl yn anrheg gan berthynas yw hi. Arni mae yna ddyfyniad gan y polymath Francis Bacon (1561-1626):

“Read not to contradict and confute, nor to believe and take for granted, nor to find talk and discourse, but to weigh and consider”.

Tra bod cyfrol ddiweddar Cynog ac Aled yn ysgwyd y cwch yng Nghymru, mae’n gyd-ddigwyddiad fod yna gyhoeddiad ar thema digon tebyg yn dringo’r siartiau cyhoeddi yn Lloegr ar hyn o bryd hefyd. ‘God is no Thing’, gan Rupert Shortt, yw’r gyfrol honno a chynnig gwrth-ddadl i’r Athiestiaeth Newydd yw bwriad yr awdur. Cafwyd adolygiad campus ohoni gan RowanWilliams yn y Guardian yn diweddar. Bu adolygiad dadlennol gan Terry Eagleton yn y Guardian yn ddiweddar hefyd o ddwy gyfrol ynghylch syniadau’r Pab Ffransis. Mae un ohonyn nhw, The Name of God is Mercy , yn ganlyniad i gyfweliadau unionyrchol gyda’r Pab ei hun. Yn ogystal â hynny, mae’n siŵr y bu nifer o selogion Cristnogaeth 21 yn falch o weld cyfraniad diweddaraf, ac efallai cyfrol olaf, John Shelby Spong yn cael ei chyhoeddi ddechrau’r flwyddyn hon – Biblical Literalism: A Gentile Heresy.

Mae’r wasg Gristnogol Saesneg yn gynhyrchiol iawn gyda chyfrolau dirifedi yn cael eu cyhoeddi’n gyson ar bynciau amrywiol a hynny o sawl traddodiad a safbwynt – a rheini’n cael sylw go lew yn y wasg gyffredinol yn aml. Mae’n amlwg i mi, o gadw rhyw lygad ci bwtsiwr ar y wasg tu draw i Glawdd Offa, fod yna rhyw syched di-baid ar led am wybodaeth grefyddol, dehongliadau diwinyddol a llwybrau tuag at ystyr ysbrydol – a hynny tu fewn a thu fas i Gristnogaeth. Ymhlith Deg Uchaf Siop Lyfrau’r Guardian ar hyn o bryd, ynghyd â chyfrol Shortt, mae trafodaeth ar waddol dirfodwyr yr 20fed ganrif, At the Existentialist Cafe, gan Sarah Bakewell a chyfrol ynghylch The Forgiveness Project, gan y sylfaenydd Marina Cantacuzino (sy’n arddel daliadau Bwdïaeth).

Yn Gymraeg, fel yr amlygodd Enid Morgan yng nghynhadledd C21 yn 2013, dydy pethau ddim mor fywiog – yn enwedig o safbwynt blaengar a rhyddfrydol. Wrth reswm, mae rhywun yn ddiolchgar iawn am Byw’r Cwestiynau a Symud Ymlaen, Vivian Jones, yn y blynyddoedd diwethaf. At hynny, bu C21 yn gyfrifol am gyhoeddi nifer o erthyglau diddorol ar ei wefan – tan rhyw 18 mis yn ôl. Ymhlith yr erthyglau hynny mae yna nifer o adolygiadau o gyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg y tybir y bydden nhw o ddiddordeb posibl i aelodau cyfeillach C21.

Ond nid pawb ohonom sydd â’r gallu, yr awydd, yr amser na’r crebwyll i gadw lygaid effro ar y pethau hyn. Awgrym sydd gen i felly – tybed a fyddai modd sefydlu cornel lyfrau ar wefan C21 i oleuo cŵn bwtsiwr cwsg fel fi o’r deunydd darllen sydd mas ‘na? Byddai medru troi at ddalen o adolygiadau o gyfrolau perthnasol i’r drafodaeth yn agoriad llygad amheuthun iawn. Ma’ ‘na ddigon o lyfrbryfed yn ein plith i’w pwyso a’u mesur mae’n siŵr. Beth amdani?

Fe fyddwch yn gwybod erbyn hyn na lwyddodd Emlyn i orffen y gwaith o ddatblygu’r wefan ar ei newydd wedd ac i gynnwys ein cylchgrawn digidol , Agora, oherwydd iddo fod yn yr ysbyty. Erbyn hyn y mae gartref eto, ond yn disgwyl galwad i fynd yn ôl i gael triniaeth. Am y tro yr ydym wedi cynnwys rhifyn cyntaf Agora ar y wefan fel ag y mae ac ar ffurf pdf ac fe fyddwn yn anfon copi yn uniongyrchol atoch yn ystod y dyddiau nesaf. Erbyn yr ail rifyn ddechrau Mai fe fydd popeth yn ei le.