Rhwng Dau Olau – Tecwyn Ifan

Cynhadledd C21 2014

Rhwng Dau Olau

gan Tecwyn Ifan  

Mae yna ymdeimlad cyffredinol ymhlith llawer o bobl bellach – oddi mewn ac oddi allan i’r eglwys a chylchoedd Cristnogol, ein bod ni’n dod i ddiwedd cyfnod arbennig yn hanes y ffydd, cyfnod sy’n cael ei alw yn Saesneg yn ‘Christendom’, term sy’n cael ei gyfieithu fel ‘Oesoedd Cred’.

Parhaodd Oesoedd Cred o gyfnod Cystenin yn y bedwaredd ganrif hyd at ein dyddiau ni. Un o nodweddion amlycaf y cyfnod yw’r cyswllt a ddatblygodd ynddo rhwng yr Eglwys ag Ymherodraethau a Gwladwriaethau, (yn benodol yn y Gorllewin).

Er bod y berthynas rhwng eglwys ac ymherodraeth wedi clymu statws, grym a chyfoeth gyda rhyddid i addoli a’r hawl i Gristnogion gael eu hamddiffyn gan y wladwriaeth, roedd yna hefyd bris i’w dalu. Disgwylid i’r eglwys wneud ei rhan i gadw trefn a chael y bobl i gydymffurfio â gofynion y drefn, a hefyd i roi sêl ei bendith, ac – yn bwysicach – sêl bendith ei Duw, ar weithgareddau yr Ymherodraeth.

Rhoddwyd pwysau ar bobl i fabwysiadu’r ffydd Gristnogol; caed enghreifftiau o’r awdurdodau yn mynnu troedigaethau gorfodol, neu gael eich cosbi a’ch lladd, ac roedd yn rhaid bod yn Gristion os am fod yn filwr yn y fyddin Rufeinig.

Erbyn hynny mater o gred a dogma oedd ystyr bod yn Gristion, lle mai credu yn Iesu Grist nid dilyn Iesu Grist oedd yn ddisgwyliedig. Nid gweithio i sefydlu teyrnas Dduw ar y ddaear (fel y gwnaeth Iesu Grist) oedd y nod Cristnogol bellach, oedd cyrraedd y baradwys nefol, a’r ffordd i gyrraedd yno oedd trwy achubiaeth y groes – yr Iawn.

Symudodd ffocws y ffydd o’r byd yma i fyd arall, ac mae’r ddeuoliaeth yma i’w gweld ymhlith Cristnogion o hyd.

Wrth ddod i gyfnod ôl-grefyddol, cred rhai y dylid ymladd yn erbyn y bygythiad hwnnw i ddyfodol yr achos Cristnogol, a cheisio adennill y tir a gollwyd dros y blynyddoedd diwethaf. I eraill, mae’r cyfnod hwn yn gyfle i’r eglwys ail-ddarganfod rhai nodweddion gwerthfawr a phwysig a aeth i golli o’r achos Cristnogol cyn dyddiau Cystenin a dyfodiad ‘Oesoedd Cred’.

Gyda’r eglwys bellach yn colli ei statws a’i pharch gan drwch y boblogaeth fe gawn ein hunain fel Cristnogion fwyfwy ar gyrion cymdeithas. Dyw hynny ddim yn brofiad newydd – felly roedd hi yn y dechreuadau. Ymhlith pobl ddi-nod y cyflawnodd Iesu Grist y rhan fwyaf o’i weinidogaeth. Hwy oedd ei gonsyrn. Mae perygl bod yr eglwys yn ystod Oesoedd Cred wedi dyrchafu Iesu i fod mor bell oddi wrth bobl gyffredin fel ei bod hi’n anodd iddynt uniaethu ag ef.

Ond mae’r oes newydd yma yn gyfle i ni roi heibio syniadau dyrchafol a mawreddog am yr eglwys, a’i gweld hi eto fel cyfrwng i wasanaethu eraill, a hynny, nid gyda’r bwriad o ennill pobl yn ôl “i’r gorlan”.   Yn hytrach, os mai Duw yw ffynhonnell bywyd, yna cyfrifoldeb y rhai sy’n ei addoli yw hyrwyddo yr un cyfle i bawb i fyw y bywyd hwnnw i’w lawn botensial, yn ‘Nheyrnas Dduw’. Onid dyna geisiai Iesu ei wneud?

Dave Tomlinson sy’n dweud yn ei gyfrol ‘Re-enchanting Christianity’, “Nid rhwng credinwyr ac anghredinwyr y mae’r frwydr dros deyrnas Dduw; nid brwydr rhwng Cristnogaeth a chrefyddau eraill yw hi, nac ychwaith rhwng y crefyddol a’r anghrefyddol. Ond mae’r ymdrech dros deyrnas Dduw yn digwydd rhwng y rhai sy’n cadarnhau ac yn cyfrannu tuag at fywyd ar y ddaear yma, a’r rhai sydd ddim.”

A ninnau ‘Rhwng Dau Olau’, sef rhwng cyfnod llachar Oesoedd Cred ag oes rhyw yfory gwell yn hanes Achos Iesu Grist, ein braint ni yn y dyddiau hyn yw bod yn dystion i ‘oleuni’ pobl trwy eu gweithredoedd, trwy eu cefnogaeth a’u hymdrech, trwy eu haberth, eu trugaredd a’u cariad er lles bywyd i bawb.

Mae’n bosib bod cerdd Twm Morus ‘Darllen y Map yn Iawn’ yn cyfleu’r ystyr cystal â dim.

(Efallai na fase chi’n ei galw hi’n gerdd grefyddol, ond fe’i hysgrifennwyd hi, mae’n debyg, yn dilyn gwneud ymchwil i’r cyswllt rhwng enwau lleoedd yn Llydaw â saint. Ar fap o Lydaw dodwyd twll pin ymhob man oedd ag enw sant).

 

Darllen y Map yn Iawn

Cerwch i brynu map go fawr;
dorwch o ar led ar lawr.

Gwnewch dwll pin drwy bob un ‘Llan’,
nes bod ’na dyllau ym mhob man.

Cofiwch y mannau lle bu pwll
a chwarel a ffwrnais, a gwnewch dwll.

Y mannau lle’r aeth bendith sant
yn ffynnon loyw yn y pant,

lle bu Gwydion a Lleu a Brân,
lle bu tri yn cynnau tân,

y llyn a’r gloch o dano’n fud:
twll yn y mannau hyn i gyd,

a’r mannau y gwyddoch chi amdanynt
na chlywais i’r un si amdanynt.

Wedyn, o fewn lled stryd neu gae,
tarwch y pin drwy’r man lle mae

hen ffermydd a thai teras bach
eich tylwyth hyd y nawfed ach.

A phan fydd tyllau pin di-ri,
daliwch y map am yr haul â chi,

a hwnnw’n haul mawr canol p’nawn:
felly mae darllen y map yn iawn.

                               Twm Morus