Archif Awdur: Rheolwr Gwefan

E-fwletin Ebrill 11eg 2016

E-fwletin Cristnogaeth 21 Ebrill 11eg.

 Annwyl Gyfeillion,

Dyma ein neges heddiw gydag ôl nodyn pwysig ar y diwedd.

 Pwyso a mesur

Mae gen i garden gain wedi ei fframio ar silf fy stydi. Clawr hen docyn llyfr a gefais flynyddoedd yn ôl yn anrheg gan berthynas yw hi. Arni mae yna ddyfyniad gan y polymath Francis Bacon (1561-1626):

“Read not to contradict and confute, nor to believe and take for granted, nor to find talk and discourse, but to weigh and consider”.

Tra bod cyfrol ddiweddar Cynog ac Aled yn ysgwyd y cwch yng Nghymru, mae’n gyd-ddigwyddiad fod yna gyhoeddiad ar thema digon tebyg yn dringo’r siartiau cyhoeddi yn Lloegr ar hyn o bryd hefyd. ‘God is no Thing’, gan Rupert Shortt, yw’r gyfrol honno a chynnig gwrth-ddadl i’r Athiestiaeth Newydd yw bwriad yr awdur. Cafwyd adolygiad campus ohoni gan RowanWilliams yn y Guardian yn diweddar. Bu adolygiad dadlennol gan Terry Eagleton yn y Guardian yn ddiweddar hefyd o ddwy gyfrol ynghylch syniadau’r Pab Ffransis. Mae un ohonyn nhw, The Name of God is Mercy , yn ganlyniad i gyfweliadau unionyrchol gyda’r Pab ei hun. Yn ogystal â hynny, mae’n siŵr y bu nifer o selogion Cristnogaeth 21 yn falch o weld cyfraniad diweddaraf, ac efallai cyfrol olaf, John Shelby Spong yn cael ei chyhoeddi ddechrau’r flwyddyn hon – Biblical Literalism: A Gentile Heresy.

Mae’r wasg Gristnogol Saesneg yn gynhyrchiol iawn gyda chyfrolau dirifedi yn cael eu cyhoeddi’n gyson ar bynciau amrywiol a hynny o sawl traddodiad a safbwynt – a rheini’n cael sylw go lew yn y wasg gyffredinol yn aml. Mae’n amlwg i mi, o gadw rhyw lygad ci bwtsiwr ar y wasg tu draw i Glawdd Offa, fod yna rhyw syched di-baid ar led am wybodaeth grefyddol, dehongliadau diwinyddol a llwybrau tuag at ystyr ysbrydol – a hynny tu fewn a thu fas i Gristnogaeth. Ymhlith Deg Uchaf Siop Lyfrau’r Guardian ar hyn o bryd, ynghyd â chyfrol Shortt, mae trafodaeth ar waddol dirfodwyr yr 20fed ganrif, At the Existentialist Cafe, gan Sarah Bakewell a chyfrol ynghylch The Forgiveness Project, gan y sylfaenydd Marina Cantacuzino (sy’n arddel daliadau Bwdïaeth).

Yn Gymraeg, fel yr amlygodd Enid Morgan yng nghynhadledd C21 yn 2013, dydy pethau ddim mor fywiog – yn enwedig o safbwynt blaengar a rhyddfrydol. Wrth reswm, mae rhywun yn ddiolchgar iawn am Byw’r Cwestiynau a Symud Ymlaen, Vivian Jones, yn y blynyddoedd diwethaf. At hynny, bu C21 yn gyfrifol am gyhoeddi nifer o erthyglau diddorol ar ei wefan – tan rhyw 18 mis yn ôl. Ymhlith yr erthyglau hynny mae yna nifer o adolygiadau o gyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg y tybir y bydden nhw o ddiddordeb posibl i aelodau cyfeillach C21.

Ond nid pawb ohonom sydd â’r gallu, yr awydd, yr amser na’r crebwyll i gadw lygaid effro ar y pethau hyn. Awgrym sydd gen i felly – tybed a fyddai modd sefydlu cornel lyfrau ar wefan C21 i oleuo cŵn bwtsiwr cwsg fel fi o’r deunydd darllen sydd mas ‘na? Byddai medru troi at ddalen o adolygiadau o gyfrolau perthnasol i’r drafodaeth yn agoriad llygad amheuthun iawn. Ma’ ‘na ddigon o lyfrbryfed yn ein plith i’w pwyso a’u mesur mae’n siŵr. Beth amdani?

Fe fyddwch yn gwybod erbyn hyn na lwyddodd Emlyn i orffen y gwaith o ddatblygu’r wefan ar ei newydd wedd ac i gynnwys ein cylchgrawn digidol , Agora, oherwydd iddo fod yn yr ysbyty. Erbyn hyn y mae gartref eto, ond yn disgwyl galwad i fynd yn ôl i gael triniaeth. Am y tro yr ydym wedi cynnwys rhifyn cyntaf Agora ar y wefan fel ag y mae ac ar ffurf pdf ac fe fyddwn yn anfon copi yn uniongyrchol atoch yn ystod y dyddiau nesaf. Erbyn yr ail rifyn ddechrau Mai fe fydd popeth yn ei le.

 

Rhwng Dau Olau – Tecwyn Ifan

Cynhadledd C21 2014

Rhwng Dau Olau

gan Tecwyn Ifan  

Mae yna ymdeimlad cyffredinol ymhlith llawer o bobl bellach – oddi mewn ac oddi allan i’r eglwys a chylchoedd Cristnogol, ein bod ni’n dod i ddiwedd cyfnod arbennig yn hanes y ffydd, cyfnod sy’n cael ei alw yn Saesneg yn ‘Christendom’, term sy’n cael ei gyfieithu fel ‘Oesoedd Cred’.

Parhaodd Oesoedd Cred o gyfnod Cystenin yn y bedwaredd ganrif hyd at ein dyddiau ni. Un o nodweddion amlycaf y cyfnod yw’r cyswllt a ddatblygodd ynddo rhwng yr Eglwys ag Ymherodraethau a Gwladwriaethau, (yn benodol yn y Gorllewin).

Er bod y berthynas rhwng eglwys ac ymherodraeth wedi clymu statws, grym a chyfoeth gyda rhyddid i addoli a’r hawl i Gristnogion gael eu hamddiffyn gan y wladwriaeth, roedd yna hefyd bris i’w dalu. Disgwylid i’r eglwys wneud ei rhan i gadw trefn a chael y bobl i gydymffurfio â gofynion y drefn, a hefyd i roi sêl ei bendith, ac – yn bwysicach – sêl bendith ei Duw, ar weithgareddau yr Ymherodraeth.

Rhoddwyd pwysau ar bobl i fabwysiadu’r ffydd Gristnogol; caed enghreifftiau o’r awdurdodau yn mynnu troedigaethau gorfodol, neu gael eich cosbi a’ch lladd, ac roedd yn rhaid bod yn Gristion os am fod yn filwr yn y fyddin Rufeinig.

Erbyn hynny mater o gred a dogma oedd ystyr bod yn Gristion, lle mai credu yn Iesu Grist nid dilyn Iesu Grist oedd yn ddisgwyliedig. Nid gweithio i sefydlu teyrnas Dduw ar y ddaear (fel y gwnaeth Iesu Grist) oedd y nod Cristnogol bellach, oedd cyrraedd y baradwys nefol, a’r ffordd i gyrraedd yno oedd trwy achubiaeth y groes – yr Iawn.

Symudodd ffocws y ffydd o’r byd yma i fyd arall, ac mae’r ddeuoliaeth yma i’w gweld ymhlith Cristnogion o hyd.

Wrth ddod i gyfnod ôl-grefyddol, cred rhai y dylid ymladd yn erbyn y bygythiad hwnnw i ddyfodol yr achos Cristnogol, a cheisio adennill y tir a gollwyd dros y blynyddoedd diwethaf. I eraill, mae’r cyfnod hwn yn gyfle i’r eglwys ail-ddarganfod rhai nodweddion gwerthfawr a phwysig a aeth i golli o’r achos Cristnogol cyn dyddiau Cystenin a dyfodiad ‘Oesoedd Cred’.

Gyda’r eglwys bellach yn colli ei statws a’i pharch gan drwch y boblogaeth fe gawn ein hunain fel Cristnogion fwyfwy ar gyrion cymdeithas. Dyw hynny ddim yn brofiad newydd – felly roedd hi yn y dechreuadau. Ymhlith pobl ddi-nod y cyflawnodd Iesu Grist y rhan fwyaf o’i weinidogaeth. Hwy oedd ei gonsyrn. Mae perygl bod yr eglwys yn ystod Oesoedd Cred wedi dyrchafu Iesu i fod mor bell oddi wrth bobl gyffredin fel ei bod hi’n anodd iddynt uniaethu ag ef.

Ond mae’r oes newydd yma yn gyfle i ni roi heibio syniadau dyrchafol a mawreddog am yr eglwys, a’i gweld hi eto fel cyfrwng i wasanaethu eraill, a hynny, nid gyda’r bwriad o ennill pobl yn ôl “i’r gorlan”.   Yn hytrach, os mai Duw yw ffynhonnell bywyd, yna cyfrifoldeb y rhai sy’n ei addoli yw hyrwyddo yr un cyfle i bawb i fyw y bywyd hwnnw i’w lawn botensial, yn ‘Nheyrnas Dduw’. Onid dyna geisiai Iesu ei wneud?

Dave Tomlinson sy’n dweud yn ei gyfrol ‘Re-enchanting Christianity’, “Nid rhwng credinwyr ac anghredinwyr y mae’r frwydr dros deyrnas Dduw; nid brwydr rhwng Cristnogaeth a chrefyddau eraill yw hi, nac ychwaith rhwng y crefyddol a’r anghrefyddol. Ond mae’r ymdrech dros deyrnas Dduw yn digwydd rhwng y rhai sy’n cadarnhau ac yn cyfrannu tuag at fywyd ar y ddaear yma, a’r rhai sydd ddim.”

A ninnau ‘Rhwng Dau Olau’, sef rhwng cyfnod llachar Oesoedd Cred ag oes rhyw yfory gwell yn hanes Achos Iesu Grist, ein braint ni yn y dyddiau hyn yw bod yn dystion i ‘oleuni’ pobl trwy eu gweithredoedd, trwy eu cefnogaeth a’u hymdrech, trwy eu haberth, eu trugaredd a’u cariad er lles bywyd i bawb.

Mae’n bosib bod cerdd Twm Morus ‘Darllen y Map yn Iawn’ yn cyfleu’r ystyr cystal â dim.

(Efallai na fase chi’n ei galw hi’n gerdd grefyddol, ond fe’i hysgrifennwyd hi, mae’n debyg, yn dilyn gwneud ymchwil i’r cyswllt rhwng enwau lleoedd yn Llydaw â saint. Ar fap o Lydaw dodwyd twll pin ymhob man oedd ag enw sant).

 

Darllen y Map yn Iawn

Cerwch i brynu map go fawr;
dorwch o ar led ar lawr.

Gwnewch dwll pin drwy bob un ‘Llan’,
nes bod ’na dyllau ym mhob man.

Cofiwch y mannau lle bu pwll
a chwarel a ffwrnais, a gwnewch dwll.

Y mannau lle’r aeth bendith sant
yn ffynnon loyw yn y pant,

lle bu Gwydion a Lleu a Brân,
lle bu tri yn cynnau tân,

y llyn a’r gloch o dano’n fud:
twll yn y mannau hyn i gyd,

a’r mannau y gwyddoch chi amdanynt
na chlywais i’r un si amdanynt.

Wedyn, o fewn lled stryd neu gae,
tarwch y pin drwy’r man lle mae

hen ffermydd a thai teras bach
eich tylwyth hyd y nawfed ach.

A phan fydd tyllau pin di-ri,
daliwch y map am yr haul â chi,

a hwnnw’n haul mawr canol p’nawn:
felly mae darllen y map yn iawn.

                               Twm Morus

Rhagor ar Ysbrydoledd a Chrefydd

Rhagor ar Ysbrydoledd a Chrefydd

I barhau ar y trywydd a osodwyd gan Aled Jones Williams yn yr erthygl flaenorol,  mae gan Gethin Abraham-Williams (Cyn-ysgrifennydd Cytûn ac Enfys) gyfrol ddifyr dan y teitl, Spirituality or Religion? Do we have to choose ? (ISBN 978 1 8469 4149 8). Mae’n dechrau gyda thrafodaeth ar stori Branwen: ‘A Celtic tale with a Gospel meaning’. Dair blynedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd Seeing the Good in Unfamiliar Spiritualities

(ISBN 978 1 8469 499 4).

Dim ond y llynedd y cyhoeddodd drydedd cyfrol, lle mae’n datblygu ei syniadau ymhellach: Why the Gospel of Thomas Matters: the Spirituality of Incertainties. Yn honno mae ’na rydd gyfieithiad o Efengyl Tomos, sy’n llawn pethau cyfarwydd ac anghyfarwydd sy’n peri syndod, a chwerthin (ISBN 978 1 78279 929 0).

              Tameidiau Tomosaidd

Dywedodd Iesu, ‘Os bydd y rhai sy’n eich arwain yn dweud bod Byd Newydd Duw lan yn yr awyr, fe fyddwch chi’n gwybod eu bod wedi camddeall. Dyna lle bydd yr adar yn dod o hyd i’r Byd Newydd! Mae dweud bod y Byd Newydd yn yr awyr mor ddwl â dweud ei fod e dan y môr. Dyna lle bydd y pysgod yn dod o hyd iddo! Nid mewn un man penodol y mae Byd Newydd Duw. Mae e ar gael ynoch chi ac o’ch cwmpas chi.

                                                                      *****************

Fydd pobl ddim yn eich deall chi nes i chi ddeall eich hunan. Pan fyddwch chi’n deall eich hunan, fe fyddwch chi’n sylweddoli’ch bod chi’n perthyn i deulu Duw cariadus, ac yn adnabod bywyd Duw ynoch chi. Does ’na ddim tlodi mwy, na methu deall pwy a beth ydych chi.

*******************

Does a wnelo bod yn fyw neu’n farw ddim oll ag anadlu nag â chyrff meirw.

*******************

Dywedodd ffrindiau Iesu wrtho, ‘Beth fydd yn digwydd i ni yn y diwedd?’ Dywedodd Iesu, ‘Pam ydych chi eisiau gwybod am y diwedd a chithau ond newydd ddechrau arni? Mae pob diwedd yn dibynnu ar ble ddechreuwch chi. Os ydych chi’n ddigon lwcus i ddechrau yn y man iawn, fe ddarganfyddwch chi fod bywyd yn ddechreuadau i gyd, heb ddiwedd terfynol.’

*******************

Lle bo dau berson yn cwrdd, rydw i yno gyda nhw. Rwy’n gwmni hefyd i’r rhai sy ar eu pennau eu hunain

*******************

Dywedodd Iesu, ‘Pan ddysgwch chi fod fel plant bach sydd, heb deimlo’n swil o gwbl, yn tynnu eu dillad i gyd a’u gadael yn domen flêr ar lawr, yna fe fyddwch yn ymateb i Wir Bresenoldeb Duw heb swildod yn y byd.’

 

Codi Gwên

Codi Gwên

Hayward-04.2013-26

Cavid Hayward

Cymeriad o bwys cynyddol i Gristnogion blaengar o fewn y byd rhithiol yw David Hayward, neu’r ‘Naked Pastor’. Wedi tyfu lan yn Fedyddiwr, ac wedyn yn Bentecostiad, cyn gweithio fel gweinidog yn un o eglwysi rhwydwaith Vineyard, cyrhaeddodd y Parchedig David Hayward ben ei dennyn yn 2010. Gadawodd y weinidogaeth amser llawn, gan deimlo na allai gynnal ei integriti personol tra bo’r eglwys yn dymuno dibrisio cymaint o ddysg gyfoes. Fodd bynnag, aeth ati i greu gweinidogaeth newydd, a hynny ar y we. Yn ôl yn 2006, roedd eisoes wedi sefydlu gwefan Naked Pastor, lle bu’n ysgrifennu a darlunio materion am gyflwr cyfoes crefydd a’r byd. Wedi hynny, aeth ati i greu gwefan yn unswydd ar gyfer ei gelfyddyd (mae’n disgrifio’i hunan fel ‘artist graffiti ar waliau crefydd’), a sefydlu ystafell drafod rithiol, sensitif iawn, o’r enw The Lasting Cartwn 1Supper. Yn ei waith celf, mae’r nakedpastor yn cyhoeddi cartŵn rheolaidd sy’n herio’n syniadau am grefydd, gan hyrwyddo Cristnogaeth gynhwysol, ystyriol, radical a chymunedol. Mae rhai o’i gartwnau yn gallu bod yn risque, ond nid oes amheuaeth am ei gymhelliad clodwiw a’r risg a gymerodd i’w les ei hunan wrth adael y weinidogaeth gyflogedig. Mae’r Lasting Supper yn cynnig gwasanaeth cwbl wahanol. Yno, mae blog achlysurol, ond yn bwysicach na hynny mae’n fan diogel ar y we i unigolion sydd wedi eu heithrio neu sydd ar fin cael eu heithrio o’r eglwys allu ffeindio lloches ysbrydol a chefnogol a rhannu profiadau. Mae’n debyg ei fod wedi creu’r hyn yr hoffai ef ei hun fod wedi ei Cartwn 2gael pan adawodd y weinidogaeth gyflogedig chwe blynedd yn ôl. Mae nifer o bobl yn cael eu brifo’n wael iawn pan fyddan nhw’n cyrraedd ‘diwedd y lein’ gyda’u cartref eglwysig, ac mae’r lle hwn yn fodd i’w helpu i aros o fewn cymuned cred, a hynny drwy’r we.     Am wybodaeth bellach, ewch i: http://nakedpastor.com/ neu https://thelastingsupper.com/  

E-fwletin Mehefin 10fed, 2013

Roedd dau beth roeddwn am eu gweld yn llwyddo dydd Sadwrn – Ymgyrch OS a Chynhadledd Cristnogaeth 21.  Doedd dim disgwyl gweld miloedd yn Aberystwyth: am un peth, doedd dim enw mawr o bendraw’r byd wedi ei wahodd.  Er hynny, roedd yn ddiwrnod welodd ffyddloniaid Cristnogaeth 21 ar waith, yn rhannu, ysgogi a chyd-deimlo.  Roedd y cyfan yn werthfawr dros ben.
Cafwyd adroddiad am y defnydd a wneir o gyfryngau cyfathrebu Cristnogaeth 21; adroddiad llawen-drist, yn llawen am fod miloedd wedi gwneud cysylltiad ond yn drist am nad ydynt yn filoedd lawer.  Roedd hi’n achos llawenydd hefyd i glywed am y rhestr hir o gyfraniadau llenyddol cyfoethog yn ymwneud â bywyd crefyddol Cymru sydd wedi ymddangos rhwng 2006 a 2012.  Tybed, ydi hanner miliwn o bobl, dyweder ym Mryste, wedi cynhyrchu hanner cymaint â’r hyn rydyn ni fel Cymry Cymraeg yn ei gynhyrchu?  Clywsom  hefyd am gelloedd trafod yn Eifionydd ac Aberystwyth, ac am gynllun darllen ac addysgu o fewn dwy eglwys, a hynny, i roi hyder i bobl fydd yn arwain yr eglwysi i’r dyfodol.
Ond, des adre â dau lyfr.  Un yn trafod crefydd ac ysbrydolrwydd, sef, yr union destun a gyflwynwyd gan Gethin Abraham Williams.  Mae’n rhyfedd fod derbyniad ehangach erbyn hyn i’r gair ysbrydol na’r gair crefydd.  Y mae’r ddynoliaeth i gyd yn byw gydag arswyd, anferthedd a rhyfeddod, ac y mae’r dirgel bob amser yn atyniadol.  Wedi’r cwbl, onid ysbrydolrwydd yw gwraidd pob crefydd? Ac wedyn, onid crefydd yw un o broblemau mawr ein cyfnod am ei fod yn arwain pobl wrth ddirgelwch at sicrwydd (gyda dogmâu, credoau, rheolau, awdurdod, a.y.b.), ac at y llu o raniadau sy’n dilyn hynny.  Y mae ysbrydolrwydd yn byw trwy ddirgelwch ac yn ysgogi dysgu, cyflyru ac arbrofi.  Y llyfr yw “Spirituality or Religion” (Gethin Abraham Williams).  Roedd yr ail lyfr yn cael ei lansio yn y gynhadledd.  Dyma gyhoeddiad papur cyntaf Cristnogaeth 21.  Mae “Byw’r Cwestiynau” yn addasiad Cymraeg o “Living the Questions”.  Mae’n llyfr sy’n cyflwyno deuddeg astudiaeth ar gyfer unigolion neu grwpiau sy’n chwilio am arweiniad i Gristnogaeth fodern.  Prynwch gopi, chewch mo’ch siomi.  Y mae’r cynnwys yn amrywio o “Meddwl am Dduw”, “Adfer Perthynas”, “Tosturi’r Iesu” ac y mae nifer dda o gwestiynau i’w hystyried.
Mae Cristnogaeth 21 yn fforwm i roi llais i ystod eang o safbwyntiau diwinyddol Cristnogol ac yn credu bod y Gymry Gymraeg wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diweddar o ddiffyg trafodaeth eang ar natur Cristnogaeth yn ein dyddiau ni.
Terfynwyd y gynhadledd gydag anogaeth fywiog am i ni fod yn gynhwysol, gynnes, agored a chariadus – mewn geiriau eraill, i fyw’n Gristnogol.
Diolch yn fawr am y cyfraniadau gwerthfawr wnaed gan Vivian Jones, Dyfrig Rees, Pryderi Llwyd Jones, Enid Morgan, Gethin Abraham Williams, Emlyn Davies, Cynog Dafis, Aled Jones Williams, Eirian Rees, Evan Morgan ac R. Alun Evans.
(Os hoffech brynu copi o’r llyfryn Byw’r Cwestiynau, cysylltwch â ni. Os mai trwy e-bost y derbyniwyd y neges hon, pwyswch REPLY a rhoi eich enw a’ch cyfeiriad gan nodi sawl copi yr hoffech eu cael. Os ydych yn gweld y neges hon ar wefan Golwg 360 neu ar ein gwefan ni, anfonwch neges at gwefeistr@cristnogaeth21.org gan nodi sawl copi yr hoffech eu cael.  Pris y llyfr yw £5 + £1.50 am y cludiant.)

09/06/2013

E-fwletin Mehefin 3ydd, 2013

Ychydig fisoedd yn ôl, roedd fy ngwraig a minnau wrthi’n mwynhau paned o goffi ganol bore tra ar wyliau yn Ne Affrica, pan drodd y gŵr ar y bwrdd agosaf atom a gofyn pa iaith oeddem ni’n ei siarad. Pan ddeallodd ein bod yn dod o Gymru, ei gwestiwn cyntaf oedd, “Ydyn nhw wedi ffeindio’r ferch fach yna eto?” Bu’n rhaid i ni ei siomi trwy egluro na chafwyd byth hyd i gorff April Jones. Ei ymateb oedd dweud wrthym gymaint o argraff a wnaeth pobl Machynlleth arno yn eu gofal am y teulu bach, ac roedd gweld trigolion Bryn y Gog yn cerdded gyda’i gilydd i Eglwys Sant Pedr ar y bore Sul hwnnw wedi ei ysgwyd, meddai. Mae lle i gredu bod miloedd o bobl dros y byd i gyd wedi teimlo ’run fath.
Drannoeth y ddedfryd, a Bridger bellach dan glo am weddill ei oes, roeddwn yn siarad gyda mam ifanc oedd wedi gorfod ateb nifer o gwestiynau anodd gan ei mab chwech oed yn ystod y chwilio a’r achos a ddilynodd. Hithau’n cyfaddef ei bod wedi dweud celwydd golau ar sawl achlysur rhag creu rhagor o boen ac anesmwythyd i enaid bach diniwed oedd yn ceisio gwneud synnwyr o’r bwletinau newyddion dirdynnol. Rwy’n cael yr argraff fod sawl teulu yn yr un sefyllfa, a fedr dyn ddim dechrau dirnad sut roedd rhieni ardal Machynlleth yn dygymod â’r sefyllfa, na pha atebion roedden nhw’n eu rhoi i ffrindiau a chydnabod April. Bore ddoe ar Bwrw Golwg clywsom gyfweliad gonest ond grymus gyda Tom Evans, sydd bellach yn Brif Gaplan Heddlu Dyfed Powys, ac a dreuliodd lawer o amser ym Machynlleth yn cynnal a bugeilio’r heddlu. Bu’n sôn am y straen, y siom a’r amodau anodd oedd yn llethu aelodau’r heddlu ar brydiau. Pan ofynnwyd iddo pa effaith a gafodd hyn i gyd ar ei ffydd, roedd yn bendant fod y profiad wedi cryfhau ei ffydd. Cyfeiriodd at y ffaith bod yr heddlu hefyd erbyn heddiw’n cyflawni gweinidogaeth yn y gymuned.
Roedd tystiolaeth Tom Evans yn atgoffa rhywun o ymateb cyffelyb gan un o arweinwyr eglwysig Gogledd Iwerddon yn anterth y gwrthdaro. Pan ofynnwyd iddo a oedd y casineb a’r brwydro yn tanseilio’i ffydd, dywedodd yn bendant, “No, on the contrary, because such beautiful things have come out of the troubles.” Ynghanol  trychineb Machynlleth, ynghanol gweithredoedd ysgeler ac anfaddeuol Mark Bridger, ynghanol galar cymuned wedi’i dryllio, fe welsom ninnau bethau hardd. Fe gafodd  gweddill y byd gipolwg ar gymuned gariadus a chymwynasgar yn closio at rai oedd angen cysur, ac roedd gofal yr eglwys yn amlwg yn y consýrn a’r cymorth ymarferol.
Ddydd Sul nesaf byddwn yn dathlu Dydd Sant Columba, ac mae iddo arwyddocâd arbennig eleni gan mai 1450 o flynyddoedd yn ôl, yn y flwyddyn 563, y glaniodd Columba ar Ynys Iona. Mae hi hefyd yn 75 mlynedd ers sefydlu Cymuned Iona gan yr heddychwr a’r ymgyrchydd George Macleod. A beth sydd â wnelo hynny ag achos April Jones?
Fe sefydlwyd Cymuned Iona i roi cyfle i bobl fod yn dystion i Grist ynghanol realiti bywyd. O holl ddoethinebau George Macleod, y dyfyniad enwocaf yw hwnnw sy’n sôn am godi croes yr Iesu ynghanol erchyllterau bywyd: “Nid mewn eglwys gadeiriol rhwng dwy ganhwyllbren y cafodd yr Iesu ei groeshoelio, ond ar groes rhwng dau leidr ar domen sbwriel y dref. Dyna ble y bu farw, a dyna y bu farw drosto.”
Buom ninnau hefyd yn dystion i hynny ym Machynlleth.
(Os na fu i chi gofrestru ar gyfer y Gynhadledd Flynyddol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf…. codwch y ffôn nawr (07900 491257)  neu anfonwch e-bost ar frys at gwefeistr@cristnogaeth21.org, neu atebwch y neges hon yn unionsyth, a chewch groeso mawr! Yn ystod y Gynhadledd byddwn yn lansio cyhoeddiad newydd – addasiad Cymraeg o’r gyfrol Living The Questions – llyfryn gwerth ei gael ar gyfer unigolion neu grwpiau trafod. Rhagor o fanylion yr wythnos nesaf.)
03/06/2013

E-fwletin Mai 27ain, 2013

Ym Mhroffwydoliaeth Eseia, dywedir y bydd Effraim yn cymodi â Jwda. Bu’r ddau lwyth yn cecru, fel piod a brain ers canrifoedd, ond fe ddaw amser, meddai Eseia, pan fydd yn naill yn fodlon yng nghwmni’r llall.
Beth oedd y drafferth rhyngddynt felly? Penodwyd Effraim gan Dduw i amddiffyn y Gyfraith, i gynnal a chadw’r Gorchmynion. Dyna pam mae Amos broffwyd yn rhybuddio plant Israel o beryglon peidio â chadw’r Gorchmynion (5:6). Penodwyd Jwda i chwilio a thwrio am Dduw – nid amddiffyn mo Jwda, ond anturio; nid cynnal a chadw ond arbrofi a mentro. ‘Roedd Jwda’n anfodlon gwneud heddiw, beth a wnaethpwyd ddoe, dim ond oherwydd mae dyna a wnaethpwyd echdoe. Bu’r dyfal chwilio hwn am Dduw, weithiau’n peri i Jwda grwydro oddi ar lwybr traddodiad ac arfer. Gall fynd ar goll yn ei chwilio.
Ond, myn Eseia, fe ddaw amser pan fydd yn ddau yn gytûn. Bydd y ddau yn sefyll gyfysgwydd â’i gilydd, yn cerdded yn gytgam – dyddiau da, o fendith a hedd bydd y rheini.
Boed yn gam neu’n gywir, mi welaf yma ddarlun o’n cyflwr, a delwedd o’n gobaith. Heb fy mod i’n dymuno i neb wthio’r darlun, a thynnu’r ddelwedd yn rhy bell, mi gredaf fod llwythi Effraim a Jwda yn bodoli o hyd. Mae iddynt drwch o wahanol enwau, ond ymhlith y mwyaf cyfarwydd mae Efengylwyr a Rhyddfrydwyr; ceir Cristnogion Efengylaidd a Rhyddfrydol, eglwysi Rhyddfrydol ac eglwysi Efengylaidd. Er bod pob Cristion yn gorfod bod yn Efengylaidd, heb Efengyl nid oes Cristion! Mae pob Eglwys ‘Efengylaidd’ yn Rhyddfrydol i rywrai! Nid gwamalu mohonof, ond ceisio dangos mor gamarweiniol yw’r labeli hyll hyn, ac mor ffôl ydym i’w defnyddio mor hapus am ein brodyr a chwiorydd yn y ffydd. Mae’r labeli hyn yn gwneud anghyfiawnder a daliadau didwyll y naill a’r llall, ac yn methu cyfleu’r cyfoeth o amrywiaeth sydd rhwng y naill begwn a’r llall.
Efallai fy mod i’n ffŵl! Ond, mi gredaf fy mod yn gweld pegynnu peryglus, a charfanu gwenwynig yn digwydd yn y byd bach Cristnogol Gymreig: nyni gyda’n gilydd fan hyn, a hwythau gyda’i gilydd fan draw. Effraim a Jwda. Amlygir cariad Duw, meddai Eseia wrthym yma’ng Nghymru nid yn safbwyntiau’r naill neu’r llall, ond yn y tensiwn creadigol rhwng y naill a’r llall. O sicrhau heddwch a chymod rhyngddynt a’i gilydd, daw heddwch a chymod Cristnogol i’n gwlad. Heb fod Effraim a Jwda yn cymodi waeth i ni roi ein pregethau, ein blogiau, ein gwefannau – y cyfan oll – yn y to ddim.
(Mae gennym le i ddau neu dri arall yn y Gynhadledd yn Aberystwyth ar Fehefin yr 8fed.  Cysylltwch ar unwaith i gofrestru.)

26/05/2013