Ychydig fisoedd yn ôl, roedd fy ngwraig a minnau wrthi’n mwynhau paned o goffi ganol bore tra ar wyliau yn Ne Affrica, pan drodd y gŵr ar y bwrdd agosaf atom a gofyn pa iaith oeddem ni’n ei siarad. Pan ddeallodd ein bod yn dod o Gymru, ei gwestiwn cyntaf oedd, “Ydyn nhw wedi ffeindio’r ferch fach yna eto?” Bu’n rhaid i ni ei siomi trwy egluro na chafwyd byth hyd i gorff April Jones. Ei ymateb oedd dweud wrthym gymaint o argraff a wnaeth pobl Machynlleth arno yn eu gofal am y teulu bach, ac roedd gweld trigolion Bryn y Gog yn cerdded gyda’i gilydd i Eglwys Sant Pedr ar y bore Sul hwnnw wedi ei ysgwyd, meddai. Mae lle i gredu bod miloedd o bobl dros y byd i gyd wedi teimlo ’run fath.
Drannoeth y ddedfryd, a Bridger bellach dan glo am weddill ei oes, roeddwn yn siarad gyda mam ifanc oedd wedi gorfod ateb nifer o gwestiynau anodd gan ei mab chwech oed yn ystod y chwilio a’r achos a ddilynodd. Hithau’n cyfaddef ei bod wedi dweud celwydd golau ar sawl achlysur rhag creu rhagor o boen ac anesmwythyd i enaid bach diniwed oedd yn ceisio gwneud synnwyr o’r bwletinau newyddion dirdynnol. Rwy’n cael yr argraff fod sawl teulu yn yr un sefyllfa, a fedr dyn ddim dechrau dirnad sut roedd rhieni ardal Machynlleth yn dygymod â’r sefyllfa, na pha atebion roedden nhw’n eu rhoi i ffrindiau a chydnabod April. Bore ddoe ar Bwrw Golwg clywsom gyfweliad gonest ond grymus gyda Tom Evans, sydd bellach yn Brif Gaplan Heddlu Dyfed Powys, ac a dreuliodd lawer o amser ym Machynlleth yn cynnal a bugeilio’r heddlu. Bu’n sôn am y straen, y siom a’r amodau anodd oedd yn llethu aelodau’r heddlu ar brydiau. Pan ofynnwyd iddo pa effaith a gafodd hyn i gyd ar ei ffydd, roedd yn bendant fod y profiad wedi cryfhau ei ffydd. Cyfeiriodd at y ffaith bod yr heddlu hefyd erbyn heddiw’n cyflawni gweinidogaeth yn y gymuned.
Roedd tystiolaeth Tom Evans yn atgoffa rhywun o ymateb cyffelyb gan un o arweinwyr eglwysig Gogledd Iwerddon yn anterth y gwrthdaro. Pan ofynnwyd iddo a oedd y casineb a’r brwydro yn tanseilio’i ffydd, dywedodd yn bendant, “No, on the contrary, because such beautiful things have come out of the troubles.” Ynghanol trychineb Machynlleth, ynghanol gweithredoedd ysgeler ac anfaddeuol Mark Bridger, ynghanol galar cymuned wedi’i dryllio, fe welsom ninnau bethau hardd. Fe gafodd gweddill y byd gipolwg ar gymuned gariadus a chymwynasgar yn closio at rai oedd angen cysur, ac roedd gofal yr eglwys yn amlwg yn y consýrn a’r cymorth ymarferol.
Ddydd Sul nesaf byddwn yn dathlu Dydd Sant Columba, ac mae iddo arwyddocâd arbennig eleni gan mai 1450 o flynyddoedd yn ôl, yn y flwyddyn 563, y glaniodd Columba ar Ynys Iona. Mae hi hefyd yn 75 mlynedd ers sefydlu Cymuned Iona gan yr heddychwr a’r ymgyrchydd George Macleod. A beth sydd â wnelo hynny ag achos April Jones?
Fe sefydlwyd Cymuned Iona i roi cyfle i bobl fod yn dystion i Grist ynghanol realiti bywyd. O holl ddoethinebau George Macleod, y dyfyniad enwocaf yw hwnnw sy’n sôn am godi croes yr Iesu ynghanol erchyllterau bywyd: “Nid mewn eglwys gadeiriol rhwng dwy ganhwyllbren y cafodd yr Iesu ei groeshoelio, ond ar groes rhwng dau leidr ar domen sbwriel y dref. Dyna ble y bu farw, a dyna y bu farw drosto.”
Buom ninnau hefyd yn dystion i hynny ym Machynlleth.
(Os na fu i chi gofrestru ar gyfer y Gynhadledd Flynyddol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf…. codwch y ffôn nawr (07900 491257) neu anfonwch e-bost ar frys at gwefeistr@cristnogaeth21.org, neu atebwch y neges hon yn unionsyth, a chewch groeso mawr! Yn ystod y Gynhadledd byddwn yn lansio cyhoeddiad newydd – addasiad Cymraeg o’r gyfrol Living The Questions – llyfryn gwerth ei gael ar gyfer unigolion neu grwpiau trafod. Rhagor o fanylion yr wythnos nesaf.)
03/06/2013