E-fwletin Mehefin 10fed, 2013

Roedd dau beth roeddwn am eu gweld yn llwyddo dydd Sadwrn – Ymgyrch OS a Chynhadledd Cristnogaeth 21.  Doedd dim disgwyl gweld miloedd yn Aberystwyth: am un peth, doedd dim enw mawr o bendraw’r byd wedi ei wahodd.  Er hynny, roedd yn ddiwrnod welodd ffyddloniaid Cristnogaeth 21 ar waith, yn rhannu, ysgogi a chyd-deimlo.  Roedd y cyfan yn werthfawr dros ben.
Cafwyd adroddiad am y defnydd a wneir o gyfryngau cyfathrebu Cristnogaeth 21; adroddiad llawen-drist, yn llawen am fod miloedd wedi gwneud cysylltiad ond yn drist am nad ydynt yn filoedd lawer.  Roedd hi’n achos llawenydd hefyd i glywed am y rhestr hir o gyfraniadau llenyddol cyfoethog yn ymwneud â bywyd crefyddol Cymru sydd wedi ymddangos rhwng 2006 a 2012.  Tybed, ydi hanner miliwn o bobl, dyweder ym Mryste, wedi cynhyrchu hanner cymaint â’r hyn rydyn ni fel Cymry Cymraeg yn ei gynhyrchu?  Clywsom  hefyd am gelloedd trafod yn Eifionydd ac Aberystwyth, ac am gynllun darllen ac addysgu o fewn dwy eglwys, a hynny, i roi hyder i bobl fydd yn arwain yr eglwysi i’r dyfodol.
Ond, des adre â dau lyfr.  Un yn trafod crefydd ac ysbrydolrwydd, sef, yr union destun a gyflwynwyd gan Gethin Abraham Williams.  Mae’n rhyfedd fod derbyniad ehangach erbyn hyn i’r gair ysbrydol na’r gair crefydd.  Y mae’r ddynoliaeth i gyd yn byw gydag arswyd, anferthedd a rhyfeddod, ac y mae’r dirgel bob amser yn atyniadol.  Wedi’r cwbl, onid ysbrydolrwydd yw gwraidd pob crefydd? Ac wedyn, onid crefydd yw un o broblemau mawr ein cyfnod am ei fod yn arwain pobl wrth ddirgelwch at sicrwydd (gyda dogmâu, credoau, rheolau, awdurdod, a.y.b.), ac at y llu o raniadau sy’n dilyn hynny.  Y mae ysbrydolrwydd yn byw trwy ddirgelwch ac yn ysgogi dysgu, cyflyru ac arbrofi.  Y llyfr yw “Spirituality or Religion” (Gethin Abraham Williams).  Roedd yr ail lyfr yn cael ei lansio yn y gynhadledd.  Dyma gyhoeddiad papur cyntaf Cristnogaeth 21.  Mae “Byw’r Cwestiynau” yn addasiad Cymraeg o “Living the Questions”.  Mae’n llyfr sy’n cyflwyno deuddeg astudiaeth ar gyfer unigolion neu grwpiau sy’n chwilio am arweiniad i Gristnogaeth fodern.  Prynwch gopi, chewch mo’ch siomi.  Y mae’r cynnwys yn amrywio o “Meddwl am Dduw”, “Adfer Perthynas”, “Tosturi’r Iesu” ac y mae nifer dda o gwestiynau i’w hystyried.
Mae Cristnogaeth 21 yn fforwm i roi llais i ystod eang o safbwyntiau diwinyddol Cristnogol ac yn credu bod y Gymry Gymraeg wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diweddar o ddiffyg trafodaeth eang ar natur Cristnogaeth yn ein dyddiau ni.
Terfynwyd y gynhadledd gydag anogaeth fywiog am i ni fod yn gynhwysol, gynnes, agored a chariadus – mewn geiriau eraill, i fyw’n Gristnogol.
Diolch yn fawr am y cyfraniadau gwerthfawr wnaed gan Vivian Jones, Dyfrig Rees, Pryderi Llwyd Jones, Enid Morgan, Gethin Abraham Williams, Emlyn Davies, Cynog Dafis, Aled Jones Williams, Eirian Rees, Evan Morgan ac R. Alun Evans.
(Os hoffech brynu copi o’r llyfryn Byw’r Cwestiynau, cysylltwch â ni. Os mai trwy e-bost y derbyniwyd y neges hon, pwyswch REPLY a rhoi eich enw a’ch cyfeiriad gan nodi sawl copi yr hoffech eu cael. Os ydych yn gweld y neges hon ar wefan Golwg 360 neu ar ein gwefan ni, anfonwch neges at gwefeistr@cristnogaeth21.org gan nodi sawl copi yr hoffech eu cael.  Pris y llyfr yw £5 + £1.50 am y cludiant.)

09/06/2013