“…there are two aspects that will be absolutely central if the church is to regain spiritual credibility among today’s people … community and mystery.” John Drane, The McDonaldization of the Church.
A chofio i’r awdur uchod dreulio cryn amser y degawdau olaf ‘ma yn ymchwilio i fywyd yr eglwys, ei gwaith a’i chenhadaeth, prin yw’r lle i amau cywirdeb ei osodiad. Amlwg yw iddo ddod ar draws eglwysi lle nad oedd nodweddion cymuned yn amlwg nag ymdeimlad ynddynt o fod wyneb yn wyneb â realiti dwfn, dirgel a chudd.
A bwrw na welodd lawer o enghreifftiau o’r math eglwys y gobeithia amdani gellir dod i’r casgliad mai’r hyn a welodd oedd grwpiau o bobl, rhyw adar o’r unlliw, diddig yng nghwmni ei gilydd, yn gymharol unffurf yn ddiwinyddol, diwylliannol a chymdeithasol, yn gwybod yn bendant lle safant ar faterion yn ymwneud â gofynion bywyd a marwolaeth.
Diddorol nodi i’r eglwysi hyn gael eu hystyried yn amherthnasol a’u hanghofio gan genhedlaeth sydd â chryn ddiddordeb, a rhywbeth mwy na diddordeb hefyd, yn yr ysbrydol . Pobl sy’n ymwybodol o’u hangen am fara a mwy na bara hefyd, sy’n ymwybodol o sibrydion rhyw islais dwfn na allant, yn amlach na pheidio, a rhoddi enw na theitl iddo. Pobl sy’n ymwybodol o gymwynasau ’r meddyg sy’n digwydd bod yn Fwslim a’r cymydog caredig sy’n digwydd bod yn hoyw.
Breuddwydio am eglwys fydd am gynnwys y cyfryw rai wna Drane, gwir gymuned ffydd, lle bydd hawl i holi cwestiynau a chymorth i gerdded llwybr tuag at atebion. Yn yr eglwys honno bydd yr Ysgrythurau nid yn destunau i’w darllen yn unig ond yn sail gweithgarwch i’w ymarfer.
Mae lle i gredu y byddai Drane wedi bod yn ddedwydd yng nghynhadledd Cristnogaeth 21 yn ddiweddar a gweld yno gwmni agored o gyfeillion mor amrywiol i’w gilydd yn barod i drafod a rhannu eu dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol, heb i hynny niweidio enaid na chymylu ffydd.
I’ch atgoffa – fe lansiwyd llyfryn cyntaf Cristnogaeth 21 yn ystod y Gynhadledd eleni. Addasiad Cymraeg o’r gyfrol Americanaidd ‘Living the Questions’ yw ‘Byw’r Cwestiynau’. Mae’n addas ar gyfer astudiaethau personol, ond yn ddelfrydol i grwpiau trafod. I archebu copi, ewch i’r dudalen gartref a phwyso ar y botwm ‘Prynu’r Llyfr’.