Profiad rhyfedd o felys oedd ymuno â chriw o gyffelyb anian yng nghynhadledd Cristnogaeth 21. Yr oedd yn ddiwrnod hamddenol o ran awyrgylch, a chynhesrwydd amlwg yr oll oedd yno yn rhoi ymdeimlad o berthyn, er fy mod yno am y tro cyntaf. Diolch i bawb.
Yr hyn sy’n hynod, o bosib, yw fy mod yn berchen golygiadau am y beibl, a chredo hanesyddol yr eglwys, y byddai yn hawdd eu disgrifio fel rhai efengylaidd os nad ffwndamentalaidd. Ond ni fu hynny yn rhwystr i mi fynychu, na chwaith benderfynu gwneud y gynhadledd yn rhan annatod o’m dyddiadur blynyddol. Bydd rhai yn gweld hynny yn od, ond i mi, y mae yn gwbl gydnaws â’r traddodiad anghydffurfiol cyfoethog yr wyf yn perthyn iddo.
Yn ogystal â’m diddordeb yng ngwaith a chymdeithas C21, bûm hefyd yn aelod llawn o’r Gymdeithas Seciwlar ers peth amser, ac ni thybiaf fod hynny chwaith yn anghydnaws â’m hordeiniad i weinidogaeth eglwys! Ystyriwch, mai hanfod seciwlaredd yw’r argyhoeddiad am ryddid cydwybod, a hawl sylfaenol pobl i fyw yn grefyddol, neu ynteu i fyw heb grefydd. Ei hawl hefyd i ryddid, yn y math o grefydd y dewisant ei arfer. Onid yw hynny yn greiddiol i anghydffurfiaeth…os nad i warineb!
Sonnir am Roger Williams, sylfaenydd Rhode Island yn yr Amerig, yn disgrifio unrhyw fath o grefydd orfodol fel trais ysbrydol, ‘spiritual rape’ chwedl yntau, a does dim os, mai dyna yw unrhyw gynllun neu ymdrech i orfodi pobl i addoli yn groes i’w hewyllys, boed hynny mewn neuadd sir neu neuadd ysgol. Pryder pellach hefyd, yw’r hawl dilyffethair a roir i garfannau crefyddol i ddefnyddio ein hysgolion fel maes cenhadol, gan ddwyn i gwestiwn allu a pharodrwydd llywodraethwyr ac awdurdodau addysg i ddelio â’r mater mewn ffordd sydd yn deilwng o ymddiriedaeth rhieni ynddynt. Fe guddir yn gyson tu cefn i ‘hunaniaeth ddiwylliannol a hanesyddol’, tra bod grwpiau eithriadol gyfyng eu golygiadau, yn targedu ysgolion, ac yn celu eu gwir fwriadau.
Yr ydym oll yn credu mewn cenhadaeth a rhannu argyhoeddiadau, ond rhaid i hynny bob amser ddigwydd mewn ffordd agored a gonest, gan ymgorffori’r egwyddorion hynny y ceisiwn eu lledaenu.
Diolch mai dyna ran o waith C21, ac o fedru osgoi gormod o fogel syllu am ystyr ymadroddion, a diddordeb anghymesur mewn syniadau ffansïol, gall C21 barhau i roi lle i drafodaeth agored, a does os na fydd yn cyflawni gorchwyl allweddol y daw eraill gobeithio, i weld ei gwerth.