Papur i gynhadledd flynyddol Cristnogaeth 21 yn y Morlan Aberystwyth Mehefin 2013 gan Enid R Morgan
1. CYFLWYNIAD
Yn 2007 cyhoeddodd Robert Pope gyfrol gyfoethog ac amrywiol dan y teitl Lloffion ym Maes Crefydd . Y mae’r teitl hynod o hen ffasiwn hwn yn cuddio amrywiaeth ardderchog o bynciau anodd sy’n cael triniaeth ofalus, gwrtais, ddysgedig. Y mae Robert Pope, oedd yn Uwch ddarlithydd yn yr adran astudiaethau crefyddol ym Mangor wedi bod yn cyfrannu erthyglau amrywiol eu cynnwys ers deng mlynedd ar hugain a mwy a hynny i bron pob cylchgrawn Cymraeg y gwyddoch amdano a rhai na chlywsoch amdanynt erioed. Mae Robert Pope wedi cyfrannu i’r cwbl. Er enghraifft yng nghyfrol 2007 mae ganddo ddwy erthygl dda ar achos a gwraidd ffwndamentaliaeth yn Islam, Iddewiaeth a Christnogaeth. Dywed yn y rhagair:
‘Ni ellir ond dod i’r casgliad mai ychydig sydd ar gael yn y Gymraeg i’r sawl sydd â diddordeb mewn pynciau diwinyddol a’u dialog â materion cyfoes, a hynny mewn cyfnod a welodd lu o gyhoeddiadau cyffelyb yn Saesneg.’
Ar wahân i gyfrol Vivian Jones Menter Ffydd nid wyf wedi llwyddo i ddod o hyd i gyfrol arall sy’n gweddu i’r disgrifiad hwnnw. Ond bu yn y Traethodydd erthyglau unigol ac ambell rifyn cyfan wedi ei neilltuo i bwnc arbennig, megis yn Hydref 2006 rifyn ar Ddinas Jeriwsalem o safbwynt tair crefydd ‘Y Llyfr’. Cafwyd hefyd erthyglau gan nifer o wahanol unigolion
John Heywood Thomas ar Moesoldeb a Marwolaeth
Iolo Lewis ar Dafydd Wyn Parry Crefydd a Gwyddor – Myfyrdodau 2006
Richard H T Edwards Eglwys y Dyfodol Cyfuno Ffydd a Rheswm
Owain Llŷr Evans Darwin a’r Meddwl Crefyddol –
Catrin Williams Newid Hinsawdd a’r Weledigaeth Apocalyptaidd.
Ceir erthyglau byrrach a phytiau byrion wedi eu cyhoeddi yn ‘Cristion’ hefyd. Ond nid wyf eto’n argyhoeddedig fod dwy dudalen yn’ Cristion’ nac e-fwletin Cristnogaeth21 yn haeddu’r gair traddodiadol pwysfawr ‘cyhoeddi’! Dechreuwn felly gyda’r pennawd.
2. Beiblaidd ac Esboniadol
Gwasg Bryntirion, tŷ cyhoeddi Mudiad Efengylaidd Cymru wedi cyhoeddi casgliad o ddefnydd o safbwynt efengylaidd ceidwadol.
Cyfres Bara’r Bywyd gan Gwyn Davies- y diweddaraf ar Lyfr y Diarhebion
Gwneud Marc ( astudiaethau ar gyfer dosbarthiadau Beiblaidd) gan Emyr James
Croes fy Arglwydd Gwynn Williams,
Diwinydda Ddoe a Heddiw, Eryl Davies, Gwyn Davies, Noel Gibbard ac Iwan Rhys Jones
Y Ffordd Gadarn R Geraint Gruffydd 2008
(Iw gyhoeddin haf 2013)) Gair ar Ysbryd .Ysgrifau ar Biwritaniaeth R Geraint Gruffydd(
Yn wrth gyferbyniad i gynnyrch Gwasg Bryntirion cawn y drydedd gyfrol yng nghyfres Elfed ap Nefydd – ‘Dehonglir Gwyrthiau’ ( y ddau arall yw ‘Dehongli’r Damhegion’ a ‘Dehongli’r Bregeth’) Dyma ffrwd gyson o ganol y traddodiad rhyddfrydol Cristnogol, wedi ei gyhoeddi gan Cyhoeddiadau‘r Gair, ac mae’r adrannau yn cynnig esboniad ar gynnwys holl wyrthiau Iesu yn yr efengylau.
Rhain yn beth fyddwn yn ei alw yn ‘lyfrau gwaith’ yr enwadau.
Llyfr Datguddiad wedi ei olygu gan Robin Gwyndaf – cyfrol hardd a drud
3 Litwrgi – Llyfrau gwaith teulu’r ffydd
Math arall o lyfr gwaith yw llyfrau at addoli a defosiwn. Yr oedd fy nhad-cu, Defi Morris, Ysbyty House, y Bynea, yn frawd i Silas Morris Prifathro Coleg y Bedyddwyr Bangor yn nechrau’r ugeinfed ganrif – dyma fi yn y cwmni hwn yn brolio fy nghymwysterau ymneilltuol! Yr oedd ef yn perthyn i genhedlaeth a welodd ddwyn i ben y frwydr i ddatgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru . ( Yr oedd Emrys ap Iwan, gyda llaw yn galw’r enbydrwydd hwnnw yn ‘frwydr rhwng pechaduriaid a rhagrithwyr’) Yn ôl chwedl fy mam yr oedd fy nhad-cu yn edrych lawer ei drwyn ar yr offeiriad lleol am fod hwnnw naill ai’n methu neu’n gwrthod gweddïo ‘o’r frest’ a heb ei Lyfr Gweddi. Estynnid coegni fy nhad-cu at y llyfr yn ogystal â’r offeiriad!
Ond ar y Llyfr Gweddi Gyffredin y maged y Methodistiaid; yma mae gwreiddiau mynegiant Pantycelyn ac Ann Griffiths. Bu colli’r ymdrwytho addolgar yng ngeirfa a mynegiant y llyfr gweddi yn golled enbyd i Ymneilltuaeth ac yn fodd i ehangu’r bwlch rhwng yr enwadau a’r Hen Fam, fel yr haeddai ar un adeg gael ei galw. A chan fod Anglicaniaeth yn credu’n ddwfn yn yr egwyddor mai’r hyn sy’n cael ei weddïo yw’r hyn sy’n cael ei gredu (Lex orandi lex credendi) mae’r hyn a ddywedir yn y ddeialog rhwng offeiriad a chynulleidfa yn allweddol i’n hamgyffrediad o’r Duw yr ydym yn troi ato wrth addoli. Ac erbyn hyn, llawenydd yw dweud bod gennym Lyfr Gweddi Gyffredin newydd, eang, gyfoethog ac ystwyth. Cyhoeddiad dwyieithog yw, ond mae’r cyfrolau newydd yn rhai y gall Cymry Cymraeg droi atynt gyda rhyddhad a balchder. ’Dyw’r rhai a luniodd y Gymraeg ddim yn cael eu henwi yn y llyfrau ond diolch am ddycnwch Euros Bowen, Beynon Davies, Enid Pierce Roberts, Gwynn ap Gwilym, Hugh Pierce Jones, Norman Hughes, Evan Orwig Evans ac eraill y cefais y fraint o’u hadnabod a dysgu ganddynt.
Cychwynnwyd ar y gwaith yn fuan ar ôl yr ail ryfel byd pan aeth nifer o daleithiau cenedlaethol ati i foderneiddio iaith, ac i gymhwyso diwinyddiaeth y Llyfr Gweddi i’w hangen tra’n dal i arddel eu perthynas a theulu Caergaint. Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf y mae’r gwaith hwnnw fwy neu lai wedi ei orffen – am y tro beth bynnag. Mae’r llyfrau gweddi newydd dwyieithog wedi eu cyhoeddi mewn casgliad graenus a hardd, yn weddus ddigon gan Wasg Caergaint. Fe garwn feddwl y byddai hynny o ddiddordeb i bob Cristion o Gymro ac nid dim ond i Anglicaniaid. Yn y pum mlynedd diwethaf cyhoeddwyd ffurfwasanaethau newydd ar gyfer yr Eucharist, Priodas, Angladdau, a’r ddiweddaraf yn y ddyletswydd ddyddiol Gweddi Ddyddiol ddwy flynedd yn ôl. Petawn yn annerch criw o Anglicaniaid ni phetruswn ddim i ddweud bod hwn yn ddigwyddiad o bwys i deulu’r ffydd, o bwys litwrgaidd, ac felly o bwys diwinyddol.
Dyna ti, Defi Morus, dy wyres na chafodd gyfle i dy adnabod, yn dy geryddu dros ysgwydd canrif gyfan!
Yn cyd-daro’n braf â’r cyhoeddiadau hyn y mae Salmau Cân Newydd Gwynn ap Gwilym yn adnodd o draddodiad Edmwnd Prys sy’n gwneud Llyfr y Salmau yn ganadwy eto heb orfod defnyddio siant Anglicanaidd. Mae yna ddwy gyfrol arall yn perthyn i’r un maes sef Cân y Ffydd, cyfrol y diweddar Kathryn Jenkins am emynyddiaeth. Ac ail argraffiad o Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth Morgans.
O draddodiad gwahanol, sy’n cael ei ddynodi gan y teitlau hoffus o hen ffasiwn; casgliadau o weddïau – gweddïau llyfr wrth gwrs!
Naddion Gweithdy’r Saer D. Hugh Matthews
Adlais Aled Lewis Evans
Mil a Mwy o Berlau Olaf Davies
Tymhorau Gras John Lewis Jones ( gwasanaethau ac oedfaon ar gyfer blwyddyn gyfan)
Gweddïau Heddwch a Chyfiawnder gol. Guto Prys ap Gwynfor
Mae Yn Dyrfa Weddus gan Rhiannon Ifans yn gasgliad o garolau Plygain sy’ eisoes yn cael ei defnyddio’n helaeth. Mae bywiogrwydd ac atgyfodiad y gwasanaethau Plygain yn phenomenon ddiwylliannol hynod. Yn eu cyd-destun nid yw’r ddiwinyddiaeth Galfinaidd sy’n nodweddu’r carolau mwy diweddar fel petaen tarfu o gwbl ar y cantorion na’r gynulleidfa gan fod cymaint cyfoeth mynegiant ynddynt. Byddai’n braf gweld geiriau newydd yn ceisio rhoi mynegiant i ryfeddod tymor yr Ymgnawdoliad heb roi penillion di-rif i athrawiaeth Iawn Ddirprwyol y buasai’n fwy priodol, o’u credu, i’w canu ar ddydd Gwener y Groglith.
4. HANES
Cyfrol fwyaf trawiadol y cyfnod yw’r drydedd cyfrol yn Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru Y Twf a’r Cadarnhau 1814- 2019 gan John Gwynfor Jones a Marian Beech Hughes a gyhoeddir yn briodol gan y wasg enwadol Gwasg Pantycelyn.
Dwy gyfrol fechan D Ben Rees Hanes Capel Westminster Road Ellesmere Port yn y ganrif 1907 -2007 ( cyfrol ddwyieithog) a Chofiant ir Gwron o Genefa, sef cofiant i John Calfin.
Cawn gan Eirwyn George Cynnal y Fflam golwg ar weithgareddau Annibynwyr Cymraeg Sir Benfro a chyfrol Tim Rushton Capeli wedi ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa.
Yn gofiannol cawn :
Porth yr Aur, Cofio J Elwyn Davies
Rhifyn arbennig o’r Cylchgrawn Catholig 2010 Casgliad o erthyglau amrywiol o deyrnged i John Fitzgerald O Carm 1927-2007
5. ACADEMAIDD
Nid oes dim ar hyn o bryd sy’n cyfateb i’r ffrwd o gyhoeddi academaidd a fu yn y saith a’r wythdegau gan Wasg Prifysgol Cymru. Darparwyd yn hael ddefnyddiau i israddedigion oedd yn astudio diwinyddiaeth yn Gymraeg. Nid oes golwg ar unrhyw angen ymarferol i adnewyddu’r ffrwd honno gan nad yw ‘r Coleg Cymraeg newydd ar hyn o bryd yn cynnwys diwinyddiaeth ymhlith y pynciau a ddysgir ynddi. Y mae’r Coleg Cymraeg wedi llwyddo i gynnal athroniaeth trwy gyfrwng y Cymraeg, ac y mae hynny yn beth i ymhyfrydu ynddo.
Dechreuwn gyda’r disgleiriaf a mwyaf heriol wrth gydnabod colli Dewi Z Phillips .
Casgliad o’i erthyglau Cymraeg yw Ffiniau Dewi Z Philllips 2008
Cyfrol Goffa i Dewi Z Phillips Crêd, Llên a Diwylliant gol E. Gwynn Matthews 2012
Noder mai Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion sydd wedi magu gallu i ymdopi ag anghytundebau dwys. Y mae dau draethawd Walford Gealy yn y gyfrol goffa i Dewi Z yn batrymau o gwrteisi grasol . Beth sy’n cyffwrdd â’r galon yn ogystal â herio’r crebwyll yw ffordd ddigyfaddawd Walford o herio Dewi Z. I Walford Gealey ( ac i’r Mudiad Efengylaidd wrth gwrs) y mae athrawiaeth Iawn Aberthol Dirprwyol yn gwbl hanfodol i ffydd y Cristion. Nid oes unrhyw eglurhad arall yn dderbyniol. Ond nid oes chwerwedd yn y drafodaeth. Gallwn i gyd ddysgu o’r mwynder argyhoeddiadol hwnnw.
Hanes Athroniaeth y Gorllewin gan John Daniel a Walford Gealey 2009 Gwasg Prifysgol Cymru ( dyna nodi colled arall)
Mae dau unigolyn wedi bod yn ddygn a rhyfeddol gynhyrchiol .
Dafydd Densil Morgan
· Edward Matthews, Ewenni, Gwasg Pantycelyn 2012
(Ychwanegiad at y gyfrol am Pennar Davies)
· Lewis Edwards, Gwasg Prifysgol Cymru 2009
· Dyddiadur America, Carreg Gwalch 2009
· The Span of the Cross, 2il argraffiad, University of Wales Press, 2011
· The SPCK Introduction to Karl Barth, SPCK 2010
· Barth’s Reception in Britain, T & T Clark International 2010
· Wales and the Word, University of Wales Press 2008
John Gwynfor Jones
Crefydd a Chymdeithas Astudiaethau ar Hanes y Ffydd Brotestannaidd yng Nghyrmu 1559 -1750 Gwasg Prifysgol Cymru 2007
Yng Ngolau Ffydd 2009
Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru 2011 Y Tŵf a’r Cadarnhau.
Eryn White The Welsh Bible 2007
Noel Davies :
Y mae darlithiau cyhoeddus yn fodd i ysgogi a meithrin cyhoeddi amrywiol. Bu gwahoddiad i gyflwyno darlith Pantycelyn yn fodd i Noel Davies cyhoeddi cyfrol fechan yn hytrach na dim ond llyfryn Moeseg Gristnogol Gyfoes .Gwnaeth Noel waith sylweddol dros y blynyddoedd yn y maes eciwmenaidd lle y bu modd agor drysau i edrych ar amrywiaeth mawr o bynciau .
Cyhoeddwyd darlithiau blynyddol Y Morlan hefyd am yn ail yn Gymraeg a Saesneg. ??
Dwy ddarlith arall – sef Darlith Goffa Lewis Valentine ar Rhyfel a Heddwch gan Robin Gwyndaf
A darlith gan D Ben Rees ar John Elias a’i Gyd Fethodistiaid Calfinaidd.
SAESNEG
The Dragon and the Crescent Graham Davies (Seren)
The Honest Heretique John I Morgans Lolfa.
The Span of the Cross. D Densil Morgan 2il argraffiad, University of Wales Press, 2011
The SPCK Introduction to Karl Barth, D Densil Morgan SPCK 2010
Barth’s Reception in Britain, D Densil Morgan T & T Clark International 2010
Wales and the Word Historical Perspectives on Welsh Identity and Religion Densil Morgan Gwasg Prifysgo Cymru 2008
Honouring the Past and Shaping the Future: Religious and Biblical Studies in Wales ( Essays in Honour of Gareth Lloyd Jones ) ed. Robert Pope Gracewing Ltw 2003 ISBN085244 401 X2006
Mewn adolygiad yn y Traethodydd sylwodd John Tudno Williams bod y gyfrol goffa i Gareth Lloyd Jones yn Saesneg a holodd a fyddai hynny’n ychwanegu at ei werthiant . ond erbyn i’r gyfrol The Bible in church, academy and culture gol. Alan Sell Cyfrol Deyrnged i John Tudno ymddangos y mae’r Saesneg wedi mynd yn gyfrwng honno hefyd.
Cyfieithiadau
Cyhoeddodd Cyhoeddiadau’r Gair swmp o ddeunydd wedi ei gyfieithu o’r Saesneg.
Cwrs Alpha Pam Iesu? Cwestiynau Bywyd/Beth yw Bywyd?/ Beth yw Bywyd?
Efengyl 100
Darganfod Cristnogaeth , Astudio gan Rico Tice
Gwyddoniadur y Beibl Mike Beaumont (The New Lion Book of the Bible)
Gweddiau Nick Fawcett
Her y Wê
‘Rydyn ni wedi dysgu bod angen llawn gymaint o waith golygu ac ysgogi ar y we ag a fu ym maes cylchgronau. ‘Does dim modd gosod Gwefan ar ei phen ei hun yn gwneud dim – ystyriwch fel y mae Facebook a Thrydar yn procio pobl bob dydd.
Beibl.net
‘Rwy’n tynnu sylw at bosibiliadau newydd hefyd.
Roots- dyma adnoddau i wasanaethau, a phregethau wedi eu cysylltu â’r Llithiadur diwygiedig, a chylchgrawn yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc. Gellir cael hwn yn Gymraeg ar y Wê. Fe’u darperir gan Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon dan y teitl Roots.
Mae bwrlwm o bethau mewn blog a thrydar ar y We a bydd yn ddiddorol gweld a ddaw rhywbeth o werth parhaol o hwnnw i gyd. Rhywle ar y We y mae dyfodol i gyhoeddiadau lleiafrifol ( o ran iaith a diddordeb) . Ond heddiw ‘ryn ni’n byw rhwng dau fyd a sawl diwylliant.
Yn y pendraw cynnyrch pobl o ddysg a disgyblaeth ac argyhoeddiad yw diwylliant diwinyddol. Ac fe ddatblygwn ein llais a’n safbwynt wrth drafod gyda’n gilydd.
Nid honnaf mod i wedi rhestri popeth – ond mae’n rhyfeddod fod cymaint â hyn.-
Gyrrwch air i lanw’r bylchau os gwelwch yn dda.
CYLCHGRONAU A PHAPUR
Y Llan wedi ei llyncu gan y we ac wedi diflannu
Y Goleuad, Seren Cymru a’r Tyst yn dal ar bapur
Cristion
Traethodydd
Cylchgrawn Efengylaidd
Diwinyddiaeth (Yr olaf yn 2011)
Y Gwyliedydd – ( dywedir ei fod yn dal ar dir y byw)
Y TRAETHODYDD
Nid cyfres o adolygiadau yw amcan y papur hwn, ond mae’r rhaid i mi wneud mwy na dim ond crybwyll enw’r Traethodydd. Ym maes cylchgronau y mae cyfraniad arbennig Y Traethodydd yn rhywbeth i’w werthfawrogi a’i ganmol. Os ewch chi trwy’r Traethodydd am y 5 mlynedd diwethaf a’r blynyddoedd cyn hynny y mae’n rhyfeddol faint o erthyglau pwysig diddorol a gwerthfawr sydd ynddo Mae ambell i sgarmes fach rhwng Stephen Nantlais a Gareth Wyn Jones a Walford Gealey yn dipyn o her deallusol i’r rheini heb hyfforddiant mewn athroniaeth. Ond mae lle i ddiolch o waelod calon i Brinley Roberts y golygydd am ei grebwyll, ei ehangder a’i ffordd o gasglu erthyglau ar thema gyffredin ynghyd i un rhifyn o dro i dro. Ac mae’r adolygu cyson ( er i ambell un fod yn reit hwyr) yn gosod ar papur sylwadaeth gyson ar nifer helaeth o gyhoeddiadau.
Ga’i nodi detholiad o erthyglau y dylai pawb ohonom sydd yma fod wedi eu darllen (Yr ydw innau fel chwithau’n euog!).
2006
Robert Pope ar Bentecostiaeth
Geraint Gruffydd ar John Davies o Fallwyd hanes, hanes crefydd a diwylliant.
Bobi Jones ar gofiant Densil Morgan i Pennar Davies.
Raymond Williams ar gyfieithiad i’r Seasneg o Ffydd ac Argyfwng Cenedl Faith and the C¬risis of a Nation.
Hydref Rhifyn cyfan i Dinas Plant Abraham – Set o erthyglau
Iddewiaeth Dan Cohn Sherbok
Islam gan Dawoud Eel Alami
Fwndamentaliaeth: Ei Gwreiddiau a’i hachosion Robert Pope
Crefydd Filwriaethus : Dyletswydd y Duwiol, Gareth Lloyd Jones
Crefydd ar ol 9/11 gan Denzil Morgan
2007
Dwy erthygl gan Walford Gealey ar waith Dewi Z Phillips ac ar hanes athroniaeth yng Nghymru
Iwan Rhys Jones ar Diwinydda yn y Beibl Cymraeg Newydd
Ebrill 2007 Paul Badham yn ymaeb Cristnogl i’r erthyglau am Islam c Iddewiaeth.
Erthyg Stephen Nantlais ar Borges
Adolygiad Dafydd Glyn ar gofiant Robin Chapman i Saunders Lewis.
Erthygl John Heywood Thomas ar Moesoldeb a Marwolaeth
Adolygiad bachog ac enbyd Gareth Miles ar ddramau Aled Jones Williams
2008
Denzil Morgan ar Llewelyn Ioan Evans
Mary Burdett Jones yn adolygu cyfrol Cynog Dafis Mab y Pregethwr
Iolo Lewis ar Dafydd Wyn Parry Crefydd a Gwyddor – Myfyrdodau 2006
Richard H T Edwards Eglwys y Dyfodol Cyfuno Ffydd a Rheswm
Owain Llyr Evans Darwin a’r Meddwl Crefyddol –
Adolygiad Meurig Llwyd ar gyfrol Cynwil Williams am Rowan Williams. Hydrref 2008
Robert Pope ar Emynau newid cymdeithas sy’ wedi cael eu llunio i blesio ysbryd yr oes.
2009
Bobi Jones am Dewi Z a ieithyddiaeth ac effaith andwyol Wittgenstein ar DZP
Noel Gibbard Caradog Jones a Forgotten Missionary Gwasg y Bwthyn
Catrin Williams Newid Hinsawdd a’r Weledigaeth Apocalyptaidd.
2010
Rhifyn cyfan ar Y Duw Hollalluog
Meirion Lloyd Davies Ydi Duw yn Hollalluog ?
Gareth Wyn Jones Y Dyrchafol heb y Dyrchafael
Iolo Lewis ar gyfrol Vivian Jones Menter Ffydd. ( gwell ar seicoleg a chymdeithas na diwinyddiaeth)
Diwinydda yn y Gymru Gymraeg Brotestannaidd heddiw 2010 (darlith i gynhadledd Cristnogaeth21 Vivian Jones
2011
Walford Gealy yn gymodwr rhwng Stephen Nantlais a Gareth Wyn Jones Ymateb y ddau yn rhifyn Hydref.
SYLWADAU TERFYNOL
Ag ystyried sut mae hi ar deulu’r ffydd yng Nghymru y mae’r cyfanswm o feddwl, astudio a c ysgrifennu yn rhyfeddod. Ond y mae rhan fwyaf ohono ar gyfer ‘ein pobl ni’ ‘ pobl fel ni’, neu bobl y gellid eu perswadio i fod yn debycach i ni. Y mae cyhoeddi’r Cwrs Alpha yn Gymraeg yn arwydd bod yn y garfan efengylaidd weithgarwch, egni ac argyhoeddiad i fwrw ‘mlaen â gwaith efengylu traddodiadol ei gynnwys, er ei fod yn gyfoes ei ddull o gyflwyno.
Mae’r bwlch yr ydyn ni yn Cristnogaeth21 yn ymwybodol ohono yn fater o apologetics. Egluro, a chysylltu a’r meddwl seciwlar . Nid ymddiehuro, ond dod at y cwestiynnau sy’n wynebu heddiw o safbwynt fydd sy’n dehongli’n ddealladwy. Y mae’r ieithwedd draddodiadol yn codi alergedd ar y bobl yr ydych yn ceisio gyfathrebu â hwy. Yno mae’r angen fel yn niffiniad Robert Pope i gyfathrebu a’r rhai sy’ wedi ymddieithrio.
Tom Wright, Esgob Durham yn ei lyfr diweddaraf yn deud am yr efengylau
“mae’r neges gyfan yn cymaint mwy na chyfanswm y rhannau bach yr ydyn ni i gyd ar ryw lefel yn gyfarwydd a hwy. ‘Rydyn ni i gyd wedi cam-ddarllen yr efengylau. ‘Rydyn ni wedi eu gosod mewn fframwaith o syniadau a chredoau a gasglwyd gennym o fannau eraill.” the whole message which is so much greater than the sum of the small parts with which we are on one level so familiar…. We’ve all mis-read the gospels We have fitted them into the framework of ideas and beliefs that we have acquired from other sources.”
Mae’r frawddeg honno ynghyd â gosodiad Robert Pope yn gosod rhaglen waith eitha eglur i ni sy’ wedi dod yma yn ymboeni am Gristnogaeth yn yr unfed garif ar hugain.
DYFYNIADAU
Spong: Why Christianity must change or die
‘Bodolaeth Iesu, dynoliaeth gyflawn Iesu a ddatguddiodd yn derfynol ystyr Duw. Bodolaeth pob un ohonom ni, ein dynoliaeth gyflawn a fydd yn ein cysylltu ni yn y diwedd ag ystyr Duw. Y mae bod yn ddisgybl i Iesu yn gofyn am imi gael fy ngrymuso ganddo i efelychu ( ynof fi) bresenoldeb Duw yn Iesu drwy fyw yn gyflawn, drwy garu’n wastrafflyd a thrwy gael y gwroldeb i fod y cyfan y’m crewyd i fod gan Dduw. I mi Iesu yw’r un a wnaeth yn hysbys i bawb ohonom beth yw ystyr bywyd. Felly fe’i galwaf yn Arglwydd, fe’i galwaf ‘Crist’. Dyma lle yr wyf fi’n cyfarfod Duw….’
“The gospels were all about God becoming king, but the creeds are focused on Jesus being God.” N T Wright
Saunders Lewis yn ysgrifennu.yn 1957 “wedi ffarwelio â’r wraig am bythefnos ac yn gorfod cadw tŷ a phob dim fy hunan fel na allaf gael amser i sgwennu fel y dymunen wneud”