Archifau Categori: Erthyglau

Erthyglau

Rhwng Dau Olau – Tecwyn Ifan

Cynhadledd C21 2014

Rhwng Dau Olau

gan Tecwyn Ifan  

Mae yna ymdeimlad cyffredinol ymhlith llawer o bobl bellach – oddi mewn ac oddi allan i’r eglwys a chylchoedd Cristnogol, ein bod ni’n dod i ddiwedd cyfnod arbennig yn hanes y ffydd, cyfnod sy’n cael ei alw yn Saesneg yn ‘Christendom’, term sy’n cael ei gyfieithu fel ‘Oesoedd Cred’.

Parhaodd Oesoedd Cred o gyfnod Cystenin yn y bedwaredd ganrif hyd at ein dyddiau ni. Un o nodweddion amlycaf y cyfnod yw’r cyswllt a ddatblygodd ynddo rhwng yr Eglwys ag Ymherodraethau a Gwladwriaethau, (yn benodol yn y Gorllewin).

Er bod y berthynas rhwng eglwys ac ymherodraeth wedi clymu statws, grym a chyfoeth gyda rhyddid i addoli a’r hawl i Gristnogion gael eu hamddiffyn gan y wladwriaeth, roedd yna hefyd bris i’w dalu. Disgwylid i’r eglwys wneud ei rhan i gadw trefn a chael y bobl i gydymffurfio â gofynion y drefn, a hefyd i roi sêl ei bendith, ac – yn bwysicach – sêl bendith ei Duw, ar weithgareddau yr Ymherodraeth.

Rhoddwyd pwysau ar bobl i fabwysiadu’r ffydd Gristnogol; caed enghreifftiau o’r awdurdodau yn mynnu troedigaethau gorfodol, neu gael eich cosbi a’ch lladd, ac roedd yn rhaid bod yn Gristion os am fod yn filwr yn y fyddin Rufeinig.

Erbyn hynny mater o gred a dogma oedd ystyr bod yn Gristion, lle mai credu yn Iesu Grist nid dilyn Iesu Grist oedd yn ddisgwyliedig. Nid gweithio i sefydlu teyrnas Dduw ar y ddaear (fel y gwnaeth Iesu Grist) oedd y nod Cristnogol bellach, oedd cyrraedd y baradwys nefol, a’r ffordd i gyrraedd yno oedd trwy achubiaeth y groes – yr Iawn.

Symudodd ffocws y ffydd o’r byd yma i fyd arall, ac mae’r ddeuoliaeth yma i’w gweld ymhlith Cristnogion o hyd.

Wrth ddod i gyfnod ôl-grefyddol, cred rhai y dylid ymladd yn erbyn y bygythiad hwnnw i ddyfodol yr achos Cristnogol, a cheisio adennill y tir a gollwyd dros y blynyddoedd diwethaf. I eraill, mae’r cyfnod hwn yn gyfle i’r eglwys ail-ddarganfod rhai nodweddion gwerthfawr a phwysig a aeth i golli o’r achos Cristnogol cyn dyddiau Cystenin a dyfodiad ‘Oesoedd Cred’.

Gyda’r eglwys bellach yn colli ei statws a’i pharch gan drwch y boblogaeth fe gawn ein hunain fel Cristnogion fwyfwy ar gyrion cymdeithas. Dyw hynny ddim yn brofiad newydd – felly roedd hi yn y dechreuadau. Ymhlith pobl ddi-nod y cyflawnodd Iesu Grist y rhan fwyaf o’i weinidogaeth. Hwy oedd ei gonsyrn. Mae perygl bod yr eglwys yn ystod Oesoedd Cred wedi dyrchafu Iesu i fod mor bell oddi wrth bobl gyffredin fel ei bod hi’n anodd iddynt uniaethu ag ef.

Ond mae’r oes newydd yma yn gyfle i ni roi heibio syniadau dyrchafol a mawreddog am yr eglwys, a’i gweld hi eto fel cyfrwng i wasanaethu eraill, a hynny, nid gyda’r bwriad o ennill pobl yn ôl “i’r gorlan”.   Yn hytrach, os mai Duw yw ffynhonnell bywyd, yna cyfrifoldeb y rhai sy’n ei addoli yw hyrwyddo yr un cyfle i bawb i fyw y bywyd hwnnw i’w lawn botensial, yn ‘Nheyrnas Dduw’. Onid dyna geisiai Iesu ei wneud?

Dave Tomlinson sy’n dweud yn ei gyfrol ‘Re-enchanting Christianity’, “Nid rhwng credinwyr ac anghredinwyr y mae’r frwydr dros deyrnas Dduw; nid brwydr rhwng Cristnogaeth a chrefyddau eraill yw hi, nac ychwaith rhwng y crefyddol a’r anghrefyddol. Ond mae’r ymdrech dros deyrnas Dduw yn digwydd rhwng y rhai sy’n cadarnhau ac yn cyfrannu tuag at fywyd ar y ddaear yma, a’r rhai sydd ddim.”

A ninnau ‘Rhwng Dau Olau’, sef rhwng cyfnod llachar Oesoedd Cred ag oes rhyw yfory gwell yn hanes Achos Iesu Grist, ein braint ni yn y dyddiau hyn yw bod yn dystion i ‘oleuni’ pobl trwy eu gweithredoedd, trwy eu cefnogaeth a’u hymdrech, trwy eu haberth, eu trugaredd a’u cariad er lles bywyd i bawb.

Mae’n bosib bod cerdd Twm Morus ‘Darllen y Map yn Iawn’ yn cyfleu’r ystyr cystal â dim.

(Efallai na fase chi’n ei galw hi’n gerdd grefyddol, ond fe’i hysgrifennwyd hi, mae’n debyg, yn dilyn gwneud ymchwil i’r cyswllt rhwng enwau lleoedd yn Llydaw â saint. Ar fap o Lydaw dodwyd twll pin ymhob man oedd ag enw sant).

 

Darllen y Map yn Iawn

Cerwch i brynu map go fawr;
dorwch o ar led ar lawr.

Gwnewch dwll pin drwy bob un ‘Llan’,
nes bod ’na dyllau ym mhob man.

Cofiwch y mannau lle bu pwll
a chwarel a ffwrnais, a gwnewch dwll.

Y mannau lle’r aeth bendith sant
yn ffynnon loyw yn y pant,

lle bu Gwydion a Lleu a Brân,
lle bu tri yn cynnau tân,

y llyn a’r gloch o dano’n fud:
twll yn y mannau hyn i gyd,

a’r mannau y gwyddoch chi amdanynt
na chlywais i’r un si amdanynt.

Wedyn, o fewn lled stryd neu gae,
tarwch y pin drwy’r man lle mae

hen ffermydd a thai teras bach
eich tylwyth hyd y nawfed ach.

A phan fydd tyllau pin di-ri,
daliwch y map am yr haul â chi,

a hwnnw’n haul mawr canol p’nawn:
felly mae darllen y map yn iawn.

                               Twm Morus

KAREN ARMSTRONG

Karen Armstrong

Clywsoch yr enw mae’n siŵr. Fe’i crybwyllwyd unwaith neu ddwy o’r pulpud, ac amryw o weithiau yn y Cwrdd Eglwysig ar nos Iau. Nid yw’n cyfri’i hunan yn ddiwinydd; ni chafodd unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn diwinyddiaeth, ond fe’i cyfrifir hi yn un o’r sylwebyddion mwyaf blaenllaw yn y byd ar faterion crefyddol. Pan oedd hi yn ei harddegau fe deimlodd ryw angen ysbrydol, ac fe ymunodd ag urdd o leianod.

fea-armstrong21-Fields of Blood author Karen Armstrong shown in Toronto, Ontario, November 19, 2014.  (Aaron Harris/Toronto Star)

Karen Armstrong

Fe gyhoeddodd gyfrol yn cofnodi’i phrofiadau yn ystod y cyfnod hwn, Through the Narrow Gate. Fe aeth trwy’r graddau o hyfforddiant, ac yna fe’i hanfonwyd i leiandy yn Rhydychen, ac ymuno â choleg St. Anne’s yno i astudio Llenyddiaeth Saesneg a’i chymwyso i fod yn athrawes.

 

Ond ‘roedd yna anawsterau. Yn y lleiandy ‘roedd ufudd-dod llwyr a digwestiwn yn hanfodol. Ond yn y coleg disgwylid iddi ffurfio barn, ac amddiffyn y farn honno trwy ddadlau gyda’i thiwtor. ‘Roedd y tyndra yn annioddefol, a rhaid oedd gadael y lleiandy ar ôl saith mlynedd. Fe aeth ymlaen â’i chwrs yn y coleg, ac ennill gradd dda iawn.

Ar ôl gadael y coleg fe ymgymerodd â gwahanol swyddi; edrych ar ôl plentyn anabl, dysgu mewn ysgol fonedd, bod yn diwtor yng ngholeg Bedford, Llundain, ond ‘doedd hi ddim yn teimlo ei bod hi’n llwyddo mewn unrhyw waith. Yn y lleiandy ‘roedd hi wedi dechrau cael problemau iechyd; llewygu a gweld pethau o’i chwmpas yn ddieithr. Cawsai ei chosbi yn y lleiandy o dybio ei bod hi’n ceisio tynnu sylw ati hi ei hun. Yn ddiweddarach fe’i hanfonwyd at seiciatryddion, ond daeth dim gwellhad o’r cyfeiriad hwnnw. Un tro fe gafodd bwl, a’i rhuthro i’r ysbyty. Wedi egluro’r symptomau i feddyg yno fe ddywedodd ei bod hi’n dioddef o temporal lobe epilepsy, ac fe resynai nad oedd yr un meddyg cyn hynny wedi sylweddoli beth oedd arni, gan fod y symptomau mor amlwg. Gyda chymorth cyffuriau mae hi ers blynyddoedd bellach yn gallu byw bywyd normal.

Yn nechrau’r 1980’au fe baratodd raglen deledu ar Paul a’i chyflwyno. Erbyn hyn ‘roedd hi’n feirniadol iawn o grefydd gyfundrefnol, ac yr oedd y rhaglen, a defnyddio’i gair hi, yn iconoclastic, er ei bod hi’n edmygu Paul yn fawr. Yn ei barn hi ‘roedd hi wedi llwyddo i ddangos bod athrawiaeth Gristnogol wedi’i thanseilio gan ysgolheictod feiblaidd fodern. ‘Roedd hi’n methu deall bod rhai o’i gohebwyr yn dweud fod y rhaglen wedi bod yn gyfrwng iddyn’ nhw ail-ddechrau mynychu’r eglwys!

Yn 1985 fe ddechreuodd baratoi cyfres o raglenni ar y Crwsadau, ond ni ddaeth y bwriad i ben. Am resymau ariannol a chyfreithiol rhaid oedd gollwng y prosiect, a Karen unwaith eto ar y clwt. Wedi tair blynedd o ymchwilio i’r gwahaniaethau a’r elyniaeth rhwng Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam, mi feddyliodd beth am ymchwilio i’r hyn sy’n gyffredin rhyngddyn’ nhw. A dyma hi’n penderfynu ysgrifennu A History of God. ‘Roedd hi’n anodd iawn dod o hyd i gyhoeddwr – “Another book about God? It’ll never sell”! Ond fe gafwyd un, a dyma ddechrau’r ymchwil a’r ysgrifennu.

Yn 1989 cyhoeddodd Ayatollah Khomeini fatwah yn erbyn Salman Rushdie, a Moslemiaid cymhedrol Prydain yn condemnio’i weithred ar waetha’r ffaith fod nofel Rushdie wedi’u brifo nhw i’r byw. Ond fe deimlai hi fod llawer o bobl eraill a oedd yn condemnio’r fatwah yn mynd yn rhy bell o lawer wrth ymosod yn ffyrnig ar Islam gyfan, gan ei galw’n grefydd waedlyd a dweud bod y Koran yn pregethu dial, dychryn a bygwth. Felly fe adawodd A History of God am y tro, ac ysgrifennu bywgraffiad o Mohamed, gan geisio rhoi Islam yn ei gyd-destun cywir. Fe’i rhybuddiwyd hi na fyddai’r Moslemiaid yn fodlon bod gorllewinwraig yn ysgrifennu’r llyfr, ond fe gafodd dderbyniad gwresog ganddyn’ nhw, ac fe ddyfarnwyd gwobr arbennig iddi ganddyn’ nhw yn ddiweddarach.

Yna yn ôl at A History of God. Ac fe deimlodd fod y gwaith hwn yn ei newid hi.history-of-god “It changed my life so radically that, if I were a traditional believer, I might be tempted to call it an inspiration.” Ym mhennod olaf ail gyfrol ei hunangofiant, The Spiral Staircase, mae hi’n cofnodi’r profiad hwn. Yno mae hi’n dweud mai credu yn y bod o Dduw yw sylfaen crefydd i lawer iawn o bobl. Ond na. Er mawr syndod iddi fe ddarganfu fod rhai o brif ddiwinyddion a chyfrinwyr Iddewig, Cristnogol a Mwslim yn pwysleisio nad ffaith wrthrychol yw Duw, nid bod arall, nid realiti anweledig. Yn ôl rhai ohonynt mae’n well dweud nad yw Duw yn bod, am fod ein syniad ni am fodolaeth yn rhy gyfyng mewn perthynas â Duw. Llawer ohonynt yn dweud nad oedd Duw yn ddim byd, am nad ydym yn gynefin â’r math hwn o realiti. Mae’r realiti a alwn ni yn ‘Dduw’ yn drosgynnol; hynny yw, y mae tu hwnt i unrhyw uniongrededd dynol, ac eto fe ellir cael profiad ohono fel presenoldeb yn nyfnder ein bod.

quote-armstrong

Mae hi wedi crynhoi ei hargyhoeddiad yn y dyfyniad hwn o un o’i herthyglau (a dydw’ i ddim am ymddiheuro am ei ddyfynnu yn y Saesneg gwreiddiol): “All the great world faiths insist that the crucial test of any theology or spiritual practice is that it results in practical compassion. If your vision of God makes you kind, patient and selfless, it is good theology. If it makes you bigoted, self-righteous, contemptuous of other people’s faith or dismissive of others, it is bad theology. But I have come to believe that compassion is more than a test of faith. It is itself creative of a sense of God…..First we live compassionately and only then will we glimpse the Sacredness that gives meaning to our lives.”

‘Rwy’n cario’r dyfyniad hwn yn fy mhoced bob amser, oherwydd, i mi fel i Karen Armstrong, dyma hanfod crefydd. ‘Roedd ymchwilio ac ysgrifennu’r llyfr yn dwyn rhyddhad mawr iddi. ‘Doedd ryfedd ei bod hi wedi’i chael hi’n amhosibl i ‘gredu’ yn Nuw. ‘Doedd ryfedd fod ei hymdrechion i orfodi’i hunan i mewn i ‘ffydd’ ddim ond wedi arwain at seithugrwydd, amheuaeth a blinder. ‘Doedd ryfedd nad oedd wedi cael profiad o’r Duw hwn mewn gweddi. Byddai rhai o’r cyfrinwyr gorau wedi dweud wrthi y dylai greu ei darlun ei hunan o Dduw, yn hytrach na disgwyl wrth Dduw i ymateb iddi hi. Fe all y Duw personol weithio i bobl eraill, ond ‘doedd ‘ef’ ddim wedi gwneud dim byd iddi hi. ‘Roedd y cyfan o ddiwinyddiaeth y Gorllewin wedi’i nodweddu gan ddibyniaeth anaddas ar reswm yn unig ers y chwyldro gwyddonol yn yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol. ‘Roedd disgyblaethau mewnfodol fel mytholeg a chyfriniaeth wedi’u gollwng o’r neilltu. “This was the cause of many of the religious problems of our day, including my own.”

case-for-godMae hyn yn ein harwain at ei llyfr The Case for God. Mae’n debyg ei bod hi wedi’i symbylu i ysgrifennu hwn fel ateb i ysgrifeniadau anffyddwyr digymrodedd fel Richard Dawkins a’i debyg. Yn sicr mae hi’n eu beirniadu’n llym, ac yn dangos mor gyfyng yw eu dealltwriaeth o grefydd. Fedran’ nhw ddim meddwl ond mewn ffordd wyddonol, ac o edrych ar grefydd felly yn unig mae lle i gytuno â llawer o’u beirniadaeth. Ond nid mater o wyddoniaeth a rheswm yw crefydd, ac y mae Karen Armstrong wedi gwneud cymwynas fawr trwy ddangos beth yw crefydd mewn gwirionedd, a pha mor hanfodol yw gwir grefydd i fodau dynol.

Mi garwn i argymell i bawb ddarllen y llyfrau a nodais, ynghyd â llyfrau eraill o’i heiddo megis The Great Transformation (hanes dechreuadau crefyddau mawr y byd) a The Bible, a Biography, yn ogystal â nifer o gyfrolau llai. Mae ei harddull yn rhwydd ac yn bleser i’w ddarllen, ond yn bwysicach na hynny mae hi’n dangos ffordd amgen, yn enwedig i’r rhai hynny ohonom sy’n cael fod Cristnogaeth draddodiadol yn anodd, os nad yn amhosibl, i ni ei gredu.

(Traddodwyd yn Eglwys y Crwys, Caerdydd, Rhagfyr 2009, ac fe’i cyhoeddwyd yn Y Gadwyn, cylchgrawn yr eglwys, Mawrth 2010)  

tedBeth amser wedi imi baratoi’r uchod fe dynwyd fy sylw at y ffaith fod Karen Armstrong wedi derbyn gwobr gan gwmni o Galiffornia gyda’r bwriad o’i gwneud yn bosibl iddi wireddu breuddwyd. ‘Roedd y wobr yn ariannol werthfawr – $100,000, ond yn fwy na hyn ‘roedd hi’n bosibl iddi ddefnyddio peirianwaith gweinyddol y cwmni i’w helpu i gyrraedd ei huchelgais. Fe wyddai ar unwaith sut yr oedd hi am ddefnyddio’r wobr. ‘Roedd hi , fel ninnau, yn gweld y diffyg tosturi yn ein byd sy’n arwain at gasineb a thrais, a chrefydd, ysywaeth, yn cael ei ystyried fel rhan o’r broblem. Felly fe ofynnodd i’r cwmni ei helpu i greu, lansio a hyrwyddo Siarter Tosturi wedi’i lunio gan feddylwyr blaenllaw o wahanol grefyddau ac a fyddai’n adfer tosturi i galon bywyd crefyddol a moesol.

Byddai’r siarter yn gwrthwynebu lleisiau eithafiaeth, anoddefgarwch a chasineb. Byddai hefyd yn dangos fod crefyddau, ar waethaf eu gwahaniaethau, yn gytûn ar hyn, a’i bod yn bosibl i bobl grefyddol ymestyn ar draws y rhaniadau a gweithio gyda’i gilydd dros gyfiawnder a heddwch. Cyfrannodd miloedd o bobl dros y byd i siarter drafft ar wefan amlieithog mewn Hebraeg, Arabeg, Urdu, Sbaeneg a Saesneg. Cyflwynwyd eu sylwadau i Gyngor Cydwybod, grwp o unigolion arbennig o chwech o grefyddau: Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, Hindwaeth, Bwdhïaeth a Chonffiwsiaeth. Cyfarfu’r bobl hyn yn Y Swistir yn Chwefror 2009 i lunio’r fersiwn terfynol.

SIARTER TOSTURI

Y mae egwyddor tosturi wrth wraidd pob traddodiad crefyddol, moesol, ac ysbrydol, yn ein galw bob amser i drin pawb arall fel y dymunwn ni’n hunain gael ein trin. Y mae tosturi yn ein symbylu i weithio’n ddiflino i liniaru dioddefaint ein cyd-greaduriaid, i ddiorseddu’n hunain o ganol ein byd a rhoi arall yno, ac i barchu cysegredigrwydd cyflawn pob bod dynol, yn trin pawb, yn ddieithriad, gyda chyfiawnder, tegwch a pharch absoliwt. Y mae hefyd yn angenrheidiol mewn bywyd cyhoeddus a phreifat i ymatal yn gyson ac yn empathetig rhag peri poen. Y mae gweithredu neu siarad yn dreisgar o ran malais, siofiniaeth neu hunan-les, achosi tlodi rhywun, camddefnyddio neu wadu hawliau sylfaenol i unrhyw un, ac achosi casineb trwy ddifenwi eraill – hyd yn oed ein gelynion – yn gwadu ein dynoliaeth gyffredin. ‘Rydym yn addef ein bod ni wedi methu byw yn dosturiol a bod rhai hyd yn oed wedi ychwanegu at drallod dynol yn enw crefydd. ‘Rydym felly yn galw ar bob un • I adfer tosturi i ganol moesoldeb a chrefydd • I fynd yn ôl at yr hen egwyddor fod unrhyw ddehongliad o ysgrythur sy’n magu trais, casineb neu ddirmyg yn gwbl annerbyniol • I sicrhau fod pobl ieuainc yn cael gwybodaeth fanwl gywir a pharchus am draddodiadau, crefyddau a diwylliannau eraill • I annog gwerthfawrogiad positif o amrywiaeth ddiwylliannol a chrefyddol • I feithrin empathi deallus â dioddefaint pob bod dynol – hyd yn oed y rhai a ystyrir yn elynion. Y mae’n rhaid inni frysio i wneud tosturi yn rym clir, golau a deinamig yn ein byd rhanedig. Os ydym yn benderfynol o greu egwyddor sy’n codi uwchlaw hunanoldeb, fe all ein tosturi dorri trwy ffiniau gwleidyddol, dogmatig, ideolegol a chrefyddol. Y mae tosturi sy’n codi o’n cyd-ddibyniaeth ddofn yn angenrheidiol i gysylltiadau dynol ac i ddynoliaeth gyflawn. Tosturi yw’r ffordd i oleuedigaeth, ac y mae’n anhepgor wrth greu economi gyfiawn a chymuned fydeang heddychlon.

Erbyn hyn mae’r Siarter wedi ymledu drwy’r byd i gyd, gan esgor ar weithgarwch enfawr mewn amryw feysydd. Ewch i wefan y Siarter (www.charterforcompassion.org) i gael gwybod yn union beth sy’n mynd ymlaen. Arni hefyd fe gewch gyfle i weld a chlywed araith Karen Armstrong wrth iddi dderbyn y wobr, araith gwerth ei chlywed.

I gyd-fynd â lansio’r Siarter fe ysgrifennodd Karen Armstrong lyfr, Twelve Steps to a Compassionate Life. twelve-steps-book-cover-largeA dyna’n union yw cynnwys y llyfr, arweiniad mewn deuddeg cam tuag at fyw bywyd tosturiol. Mae rhai o’r camau hyn yn rai cyfansawdd, ac y mae’r awdur wedi rhoi pob un mewn cefndir hanesyddol a chyd-destun priodol. Mae’r safon yn uchel, bron na ddywedwn i yn amhosibl o uchel, yn enwedig pan ddywed yr awdur nad rhywbeth i gyrraedd ato unwaith ac am byth ydyw, ond yn hytrach rhywbeth i gadw ato bob amser drwy’n bywydau.

Ond onid yw hynny’n wir am ddysgeidiaeth foesol Iesu yn yr efengylau? Mae’r cwestiwn yn codi sut y dylem ni ymateb i’r delfrydol; ai ei roi o’r neilltu fel rhywbeth hollol anymarferol, ynteu edrych arno fel safon i anelu ato, ar waethaf y ffaith na fyddwn ni byth ond odid yn ei gyrraedd. Mae’r trydydd pwynt yn peri peth syndod efallai: tosturiwch wrthych chi’ch hunan. Unwaith y byddwch chi wedi teimlo gwir dosturi atoch eich hunan, mi fyddwch chi’n gallu ei estyn i eraill. Ar ddiwedd y bennod ar y chweched cam fe ddywed wrthym i ystyried ar ddiwedd y dydd a ydym wedi cyflawni’r tair gweithred y mae’r bennod honno yn gofyn amdanyn’ nhw. Os na fu inni lwyddo, yna fe ddylem dosturio wrthym ein hunain, gwenu’n ysmala am y methiant, ac addunedu i wneud yn well yfory.

Mor wahanol yw hyn at ddysgeidiaeth y Gristnogaeth draddodiadol fod methiant fel hyn yn bechod, a bod yn rhaid cael maddeuant amdano o’r tu allan. Mae’r Siarter Tosturi yn ymgais glodwiw i geisio cael gwared ar y casineb, yr hunanoldeb a’r trais sydd yn rhemp yn ein byd. A fydd e’n llwyddo? Mae lle i amau, gan gofio mor gryf yw greddfau hunanol pobl. Ond hyd yn oed o edrych arno fel delfryd, a llwyddo’n rhannol, fe fydd hyn yn help mawr i wneud ein byd yn lle gwell i fyw ynddo.

Delwyn Tibbott

(Traddodwyd yn Eglwys y Crwys, Caerdydd, Rhagfyr 2012, ac fe’i cyhoeddwyd yn Y Gadwyn, cylchgrawn yr eglwys, Rhagfyr 2012)

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA  i adael sylw.

 

Aberth

ABERTH

Mae aberthu yn elfen hanfodol o fywyd.  Mae angen i bob un ohonom fod yn barod i aberthu rhai pethau os ydym am lwyddo gydag unrhyw dasg heriol mewn bywyd.

‘Roedd aberth yn elfen sylfaenol a chanolog mewn Iddewiaeth fel mewn crefyddau eraill yn y Dwyrain Canol tua mil o flynyddoedd Cyn Crist.  Mae Lefiticus, (penodau 1-7, 14, 22 a 27), a Lefiaid, yn frith o ganllawiau a chynghorion manwl ynglŷn â’r ddefod o aberthu. (Gweler hefyd Numeri, penodau 18 a 19). Pencadlys yr arferiad yn Israel oedd y “ffwrn” (tophet, gw. Eseia 30:33) lle llosgid y plant yn nyffryn Hinnon (Gehenna) dan furiau Jerwsalem (Jer 7: 31).

‘Roedd yn ddychryn i fi fel plentyn, pan oeddwn yn mynychu’r ysgol Sul genhadol yn Nolgarrog, i glywed yr hanes am barodrwydd Abraham i aberthu ei fab Isaac.

“Rhoddodd Duw brawf ar Abraham. “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy’n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm  ar y mynydd a ddangosaf i ti“ (Genesis 22).

Mae Efengyl Luc yn cyfeirio’n eglur at aberth gwaedlyd ddwywaith; y tro cyntaf, pan ddywed fod rhieni’r Iesu wedi mynd i Jerwsalem “ i roi offrwm yn unol â’r hyn sydd wedi ei ddweud yng Nghyfraith yr Arglwydd: ‘Pâr o durturod neu ddau gyw  golomen. ’ ” Dyna oedd gorchymyn y Gyfraith Offeiriadol (P) yn ôl Lefiticus 12:8 er puredigaeth y fam, “Os na all fforddio oen, gall ddod a dwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn BOETHOFFRWM  a’r llall yn aberth dros BECHOD; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosti, a bydd yn lân.”

Y mae’r ail enghraifft at aberth gwaedlyd yn cynnwys siars Iesu ei hun i’w ddau ddisgybl, Pedr ac Ioan, i baratoi ar gyfer “bwyta gwledd y Pasg”. “Daeth dydd Gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid  lladd oen y Pasg”.(Luc 22: 7-13)  Ar ôl eistedd wrth y bwrdd a’r apostolion gydag ef. Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn i mi ddioddef”. (Luc 22: 15)

Meddai’r Athro Dafydd Rhys Ap-Thomas o Brifysgol Bangor, “O’r ddwy enghraifft hyn , gellir casglu nad oedd rhieni Iesu, na Iesu ei hun, yn ymwrthod a’r arfer o aberthu; ond yn anffodus nid oes dim gair yn egluro beth oedd arwyddocâd y defodau a’r aberthau i’r rhai oedd yn cymryd rhan yn ynddynt.”

Cyflwynodd Ioan Fedyddiwr  Iesu i’r gynulleidfa wrth yr Iorddonen, “Dyma oen Duw sy’n cymryd ymaith bechod y byd”. (Ioan 1:29)  A oes arwyddocâd i’r ffaith mai Efengyl Ioan yn unig sy’n defnyddio’r term “Oen Duw”? Mae Efengyl Marc a’r efengylau eraill yn cofnodi cyflwyniad Ioan  fel hyn: “Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â’r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.” (Marc 1: 8) Y brif neges oedd addewid o’r Ysbryd Glân.

Ymhellach dywed Marc, “ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch , yn cyhoeddi  bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau”. (Marc 1:4)

Yn ddiddadl nid yw maddeuant yn weithredol heb edifeirwch. ‘Roedd edifeirwch yn ganolog yng ngweinidogaeth Iesu o’r cychwyn, “ daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud ‘ Y mae’r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.’” (Marc 1: 15)

Yn yr Hen Destament mae dros dri deg o enwau ar wahanol aberthau. Mae’r term ’asham yn golygu “aberth/offrwm dros gamwedd.” (Lefiticus 5:18) Ystyr y term koper yw Iawn – ‘rhywbeth a roir yn gyfwerth neu’n gyfnewid,’ naill ai mewn cyswllt cyfreithlon (Exodus 30:12) neu’n anghyfreithlon, sef llwgrwobrwyo (Amos 5:12).

Yn y Testament Newydd yr unig enghraifft o’r term ‘iawn’ oedd am y Groeg hilasterion (Rhuf. 3:25). Y mae cryn gymhlethdod wrth geisio un cyfieithiad i’r gair hilasterion yn ôl Yr Athro Dafydd Ap-Thomas.  Dewis doeth y BCN yw ‘moddion puredigaeth’.

Mae’r adnod a’r term arbennig yma wedi chwarae rhan ddylanwadol iawn mewn diwinyddiaeth Cristnogol.  Mae’n her enfawr a chyfrifol i ddehongli a iawn ddeall pwyslais rhannau o’r T.N. ar aberth a iawn.

Yn y cyd destun yma dylem ystyried y newid agwedd at aberth mewn sawl rhan yn yr H.D fel:

“Oherwydd ffyddlondeb a geisiaf, ac nid aberth, gwybodaeth o Dduw yn hytrach nag offrymau” (Hosea 6:6)

“Nid wyt yn hoffi aberth ac offrwm –

Rhoddaist i mi glustiau agored-

Ac nid wyt yn hoffi aberth ac offrwm

Rhoddaist imi glustiau agored-

Ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod” (Salm 40:6)

“Y mae gwneud cyfiawnder a barn yn fwy derbyniol gan yr Arglwydd  nag aberth.” Diarhebion 21:3

Gwilym Wyn Roberts

Gweler: Efrydiau Beiblaidd Bangor 3. “Offrwm ac Aberth”, (Dafydd Rhys Ap-Thomas.)   [1978]

 

Gwyddoniaeth a Chrefydd

Traddodwyd y ddarlith “Gwyddoniaeth a Chrefydd” yn Aberystwyth yn ddiweddar, ac awgrymodd un a oedd yno y dylid ei chynnwys ar ein gwefan ni.  Rydym yn ddiolchgar i’r awdur,  John Gwilym Jones, am gytuno.

A. Hunanhyder y ddwy ochr

 

Rwy’n cofio nhad yn sôn am fachgen mewn ffarm gyfagos wedi ei gadw tan oedd e’n saith oed cyn cael mynd i’w ddiwrnod cynta yr ysgol. Pan ddaeth e adre ar ddiwedd y dydd dyma’i dad yn gofyn iddo, “Wel Daniel bach, beth ddysgaist ti yn yr ysgol heddi?” “Y cwbwl,” mynte fe. A doedd e ddim yn gweld unrhyw bwrpas mewn mynd yn ôl am ail ddiwrnod. Y mae yna rai gwyddonwyr felly, yn eu hunanhyder yn credu fod gan wyddoniaeth yr offer priodol i fedru gwybod y cwbwl am fyd a bywyd. Y cam nesaf wedyn yw honni nad oes bodolaeth na dimensiwn arall y tu hwnt i’r hyn y gellir ei synhwyro a’i brofi. Bydd rhai ohonyn nhw’n gwadu bodolaeth Duw, gan anghofio’r hen wireb (a briodolir i William Cowper):  “Dyw absenoldeb prawf ddim yn brawf absenoldeb”. Yr agwedd meddwl hon yw’r hyn a elwir bellach yn wyddonyddiaeth, rhyw ffwndamentaliaeth wyddonol.Y mae yna hefyd grefyddwyr hunan hyderus yn gwybod drwy ffydd fod yna fywyd uwch a dyfnach a llawnach na’r byd sy’n weladwy i wybodaeth dyn. Bydd llawer ohonynt yn barod i honni mai twyll yw pob crefydd arall ond eu crefydd hwy. Ac ar sail eu ffydd byddant yn honni nad na wêl y gwyddonydd fyth y gwirionedd am fywyd. A rhwng y ddau yna mae yna groesdynnu parhaol.  

 

Rhaid imi ymddiheuro ar y dechrau ein bod yn cyfyngu’n trafodaeth i grefydd a gwyddoniaeth. Fe ddown i wybod am fyd a bywyd mewn ffyrdd eraill, drwy’r celfyddydau cain a llenyddiaeth, ac fe ellid dadlau nad yw yw gwyddoniaeth a chrefydd ond dwy chwaer fach yn nheulu mawr gwybodaeth y ddynoliaeth.

 

Rwy’n eu galw’n ddwy chwaer fach oherwydd eu bod nhw ond ar eu tyfiant. Dros y canrifoedd y mae gweledigaethau crefyddol wedi datblygu. O’r syniadau cynnar am bantheon o dduwiau yn rheoli ffawd ac anffawd bywydau pobol, ymlaen at syniad am un ac unig Dduw, gallwn ganfod y meddwl diwinyddol yn graddol dyfu. O’r syniad am Dduw yn cael ei fodloni â phoethoffrwm, ymlaen at Dduw trugaredd a maddeuant: datblygiad eto fanna. Mae gwyddoniaeth hefyd yn tyfu o gyfnod i gyfnod, o fewn cyfyngderau gallu dynol a gallu robotiaid cyfrifiadurol. Felly fe ellir gweld crefydd a gwyddoniaeth yn datblygu ac aeddfedu ymhellach mewn oesau i ddod.

 

Ond y mae ar aelwyd gwybodaeth ferched hŷn sydd wedi bod yno erioed. Un ohonyn nhw yw athroniaeth, ac y mae honno wedi aeddfedu ers oesoedd. Nid yw’r ddynoliaeth yn ddigon hen i gofnodi dechreuadau cerfluniaeth ychwaith na’i thyfiant, mae hithau yn ddiamser. Felly hefyd arlunio a cherddoriaeth a barddoniaeth, oherwydd roedden nhw’n hen yn eu babandod. Pwy ymhlith arlunwyr heddiw sy’n rhagori ar Leonardo da Vinci. A oes gwell beirdd heddiw na Dafydd ap Gwilym? A oes yna yn y ganrif hon gyfansoddwr sy’n rhagori ar Beethoven? Yn eu hanfodion nid yw’r celfyddydau hyn wedi datblygu na chynyddu dros amser. Yr unig beth sydd wedi tyfu yn y rhain i gyd yw eu dulliau technolegol mewn mynegiant. Pa athronydd heddiw sy’n sefyll yn uwch na Socrates? Nododd A.N. Whitehead unwaith nad oedd holl athroniaeth Ewrop ond cyfres o droednodiadau ar waith Platon. Y mae’r doniau hyn yn oesol, yn ddiamser. Ond ar gyfer y ddarlith hon fe wnawn ni gyfyngu ein sylw i’r ddwy chwaer fach, crefydd a gwyddoniaeth.

 

B. Athroniaeth Groeg

 

Fel dwy chwaer fach y mae gwyddoniaeth a chrefydd yn tueddu i gweryla o dro i dro.  Gallwn glywed ambell sgrech yn oes aur athroniaeth Groeg, pan ddaeth y meddylwyr mawr i ddechrau edrych yn wrthrychol ar hanfodion crefydd. Roedd Xenophanes yn y bumed ganrif cyn Crist yn fardd a diwinydd ac athronydd. Fe’i gwelir yn beirniadu anthropomorffeg ei oes:

 

Mae’r Ethiopiaid yn dweud fod eu duwiau yn ddu gyda thrwyn fflat

Tra bydd pobol Thracia’n honni fod gan eu duwiau hwy lygaid glas a gwallt coch.

Eto petai gan wartheg a cheffylau ddwylo ac yn medru tynnu llun

A medru cerfio fel dynion, yna byddai ceffylau’n portreadu eu duwiau fel ceffylau

a duwiau’r gwartheg fel gwartheg; a byddent oll yn llunio

cyrff eu duwiau, bob rhywogaeth yn debyg i’w cyrff eu hunain.

 

Y mae hyn yn ein hatgoffa am luniau’r Iesu fel Ewropead gwyn ei groen a’i wallt yn olau. Gellid dweud fod Xenophanes fan hyn yn rhoi enghraifft gynnar i ni o’r meddwl dynol yn bwrw golwg feirniadol ar grefydd boblogaidd ei gyfoedion.

 

Un duw yn unig ymhlith duwiau, ac ei hun ymhlith pobol yw’r mwyaf.

Nac yn ei feddwl nac yn ei gorff yn debyg i feidrolion.

 

Y mae’r darn yna eto’n ymwrthod ag anthropomorffeg, gan ychwanegu’r canfyddiad treiddgar fod duw o ran ei hanfod yn wahanaol i berson.

 

Yna wedyn ar fater gwybodaeth, y mae’n awgrymu fod yna wahaniaeth enfawr rhwng gwirionedd a gwybodaeth. Credai Xenophanes fod yna wirionedd i’w wybod, yn annibynnol ar gredoau a chanfyddiadau dynoliaeth, gwirionedd sy’n wybyddus i dduw, ac yn wreiddiol i dduw yn unig. Mewn geiriau eraill realiti a gwirionedd yw’r hyn y mae’r duwiau yn ei wybod. Rhaid i feidrolion ymdrechu i gyrraedd ato. Dyma ddarn arall ganddo:

 

Ni wnaeth y duwiau ddatgelu, o’r dechrau,

bob peth i feidrolion; ond yng nghwrs amser,

Drwy chwilio fe allant ddod i wybod pethau yn well.

 

Gwelai Xenophanes felly bosibilrwydd cynnydd deallusol yn nhreigl amser. Gall meidrolion gyrraedd yn agos at y gwirionedd gwrthrychol, gall ddod i ymyl y gwir. Ac un darn eto ganddo:

 

Ond am y gwirionedd cadarn, ni all y meidrol ei gyrraedd…

A hyd yn oed petai, drwy hap, yn llefaru’r gwirionedd perffaith,

ni fyddai ef ei hunan yn gwybod iddo wneud;

Gan nad yw’r oll ond gwe gymhleth o ddyfalu.

 

Y mae hwn yn ddarn rhyfeddol yn mynegi damcaniaeth am wybodaeth wrthrychol y ddynoliaeth. Y mae’n wir anhygoel i fardd athronydd dros ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl fynegi syniadau a adleisir gan feddylwyr yr unfed ganrif ar hugain. Ond dyma’r enghraifft gynharaf o feddyliwr treiddgar yn beirniadu crefydd ei oes, a’r un pryd yn rhybuddio gwybodusion fod yna ffiniau i’w gwybodaeth.

 

Rhaid inni gyfeirio at Platon a Socrates ei athro. Yn ôl Socrates, nid yw pethau a digwyddiadau yn y byd materol ond cysgodion o’u ffurfiau delfrydol neu berffaith. I Socrates nid y byd materol yw’r byd real. Arfer naturiol dyn yw credu mai’r pethau y gall eu gweld a’u clywed yw’r sylweddau real. Gellid dehongli hyn yn rhybudd i’r meddwl gwyddonol a oedd ar ddod i lwydraethu ym myd gwybodaeth. Mae Socrates yn dirmygu’r rheini sy’n coleddu’r syniad fod yn rhaid iddyn nhw fedru gafael yn rhywbeth er mwyn profi ei fod yn real. Ac yn fan hyn down ar draws cymal diddorol iawn o’i eiddo: mae’n galw pobol felly yn “eu a-mousoi”, pobol sy’n “ddedwydd heb yr awenau.” Ystyr y gair “musoi” oedd y duwiesau a roddai ysbrydoliaeth mewn llenyddiaeth a gwyddoniaeth a’r celfyddydau. Yn Gymraeg, yr “awen”. Felly drachefn, dyma athronydd o’r hen fyd yn rhagweld yn union syniadau cyfoes am ddatblygiad gwybodaeth wyddonol sef fod camre cynnydd gwybodaeth yn dibynnu, nid yn unig ar broses rheswm ond, yn eu mannau allweddol a thyngedfennol, ar ddatguddiadau y tu hwnt i ddeall meidrol. Gyda’r awgrym fod yna rai yn ddigon hapus i rygnu ymlaen heb gyrraedd unman.

 

Gydag Aristotlys down at athroniaeth gwbl wahanol. Yn wir gellid honni mai ef oedd yr athronydd gwyddonol cyntaf. Treuliodd ran helaeth ei fywyd yn astudio gwrthrychau byd natur, gan ymchwilio i’r gwyddorau naturiol megis botaneg, swoleg, cemeg, phiseg a seryddiaeth. etc. Ef yn anad neb oedd sylfaenydd rhesymeg fel gwyddor ganolog yn natblygiad gwyddoniaeth ac athroniaeth. Nid yw’n annisgwyl felly, gan mai Aristotlys oedd y trymaf ei ddylanwad ar ddiwinyddion athronyddol yr eglwys yn y canrifoedd cynnar, eu bod hwythau hefyd wedi dadansoddi eu diwinyddiaeth yn ôl egwyddorion rhesymeg.

 

C. Cristnogaeth a gwyddoniaeth hyd at y Canol Oesoedd

 

Yn union fel y llyncwyd Cristnogaeth i mewn i’r Ymerodraeth Rufeinig o dan Cystennin, llyncwyd y meddwl Cristnogol gan athroniaeth. Daeth Cristnogion honedig wedyn yn frenhinoedd a llywodraethwyr y gwledydd, ac fe ddaeth diwinyddion Cristnogol i lywodraethu ym myd  athroniaeth. Felly yng nghanrifoedd cynnar Cristnogaeth ni welir tensiwn rhwng gwyddoniaeth a diwinyddiaeth Gristnogol. Roedd diwinyddiaeth yng ngafael athronwyr, neu fe allech ddweud fod athroniaeth – a hyd yn oed gwyddoniaeth yn ei babandod – yng ngafael diwinyddion. Yn Ewrop yr oedd gafael yr eglwys yn llwyr ar sefydliadau addysgol a meddyliau’r werin. Felly, bron yn ddieithriad, ysgolheigion Cristnogol a arweiniai gynnydd yng nghanghennau’r gwyddorau, ac ni fyddai’r meddwl canoloesol wedi ystyried fod y gwyddorau yn cystadlu â chrefydd. 

 

D . Crefyddau eraill a gwyddoniaeth

Beth am grefyddau eraill? Dros y canrifoedd ni chafodd crefyddau eraill y byd fawr o anhawster gyda chynnydd gwybodaeth a dylanwad gwyddoniaeth.

 

Fe fu Hindwaeth erioed yn oddefgar tuag at grefyddau ac arferion eraill, ac ar hyd ei hanes mabwysiadodd feddwl rhesymegol, gan gydnabod fod gwyddoniaeth yn dod â gwybodaeth ddilys am y bydysawd, er ei bod yn wybodaeth anghyflawn. Yn yr un ffordd mae Bwdaeth heddiw yn ystyried gwyddoniaeth fel addysg sy’n ychwanegu at ei chredoau. Byddant yn ystyried eu hysgrythur cysegredig fel arweiniad at reality na ellir ei ddiffinio ac sydd allan o gyrraedd gwybodaeth a synhwyrau.

 

Y mae Conffiwsiaeth yn nes at athroniaeth, ac felly mae mewn cytgord â’r meddwl gwyddonol. Ond fe darddodd Conffiwsiaeth o ganlyniad i gonsern am y ddynoliaeth a’r cyfanfyd, ac fe arweiniodd nid at ddamcaniaethau am wybodaeth, fel yng ngwyddoniaeth y Gorllewin ond at weithredu ar raddfa eang. Oherwydd ei bryder am dynged yr unigolyn a thynged cymdeithas y dechreuodd y meddwl Sineaidd athronyddu. Mae’n wir fod ei agwedd at wyddoniaeth wedi amrywio o gyfnod i gyfnod, ond gellid dweud fod Conffiwsiaeth a gwyddoniaeth yn edrych ar fywyd mewn ffyrdd gwahanol ond heb wrthdaro.

 

Gwyddoniaeth ac Islam

Yr ydym ar dir gwahanol wrth drafod Mwslemiaeth.Bu ysgolheigion Islam yn arloeswyr ym maes ymchwil gwyddonol. Astudio natur yw gwyddoniaeth o safbwynt Islam, a hynny’n deillio o’u syniad am “Undod” Duw. Ni welant natur fel rhywbeth ar wahân i Dduw, ond yn rhan hanfodol o’u golwg gyfan ar Dduw a dynoliaeth a’r byd a’r bydysawd.

Alhazen yn yr unfed ganrif ar ddeg oedd y prif arloeswr, a’i gyfraniadau’n debyg i rai Isaac Newton. Yn wir gellid dadlau fod gwyddoniaeth fel yr ydym ni yn ei deall yn yr ystyr modern wedi ei gwreiddio yn y meddwl a’r wybodaeth wyddonol a ddatblygodd yn y gwareiddiadau Islamaidd rhwng yr wythfed a’r unfed ganrif ar bymtheg. Dyma beth a elwir yn Oes Aur Islamaidd neu’r Chwyldro Gwyddonol Mwslemaidd. Un enghraifft oedd defnyddio oedd archwilio cyrff mewn meddygaeth Islamaidd yn y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg, o dan ddylanwad gwaith y diwinydd Islamaidd, Al-Ghazali, a gefnogai astudio anatomeg fel modd i ddysgu am greadigaeth Duw.

 

Rhai blynyddoedd ar ôl Al-Ghazali daeth ysgolhaig Islamaidd arall, Fakhr al-Din al-Razi, i astudio cosmoleg Islamaidd, gan wrthwynebu syniadau Aristototlys am y ddaear fel canolbwynt y bydysawd, ac archwiliodd hyd yn oed bosibilrwydd bodolaeth bydysawdau y tu hwnt i’r bydysawd y gwyddom amdano. Dadleuai i Dduw greu mwy na mil o filoedd o fydoedd y tu hwnt i’n byd ni. Yna yn y bymthegfed ganrif cynigiodd Ali Kusçu y syniad am y ddaear yn troelli.

 

Bydd haneswyr yn sôn am wyddoniaeth y gwareiddiad Mwslemaidd yn llewyrchus yn y canol oesoedd ond iddo ddechrau dirywio o’r bedwaredd  ganrif ar ddeg i’r unfed ar bymtheg. Bydd rhai yn rhoi’r bai am hyn ar gynnydd dylanwad clerigwyr a rewodd wyddoniaeth ac a dagodd ei thyfiant. Un esiampl o hyn oedd chwalu arsyllfa Taqi al-Din yn Istanbwl tua 1580.

 

Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymatebai ysgolheigion Mwslemaidd i wyddoniaeth fodern mewn modd eithaf tebyg i Gristnogion. Gwrthodai rhai ysgolheigion Mwslemaidd wyddoniaeth y dydd fel meddylfryd estron llygredig, gan farnu ei fod yn groes i ddysgeidiaeth Islamaidd. Gwelai rhai meddylwyr yn y byd Mwslemaidd mai gwyddoniaeth oed unig ffynhonnell i wir wybodaeth gan annog mabwysiadu gwyddoniaeth fodern yn ei chrynswth. Am y mwyafrif o wyddonwyr ffyddlon i’r ffydd Mwslemaidd, ceisient addasu Islam i ddarganfyddiadau gwyddonol.

 

 

E. Cristnogaeth wedi’r Dadeni Dysg

 

Am yr Eglwysi Cristnogol daeth cynnydd gwyddoniaeth yn fwy o broblem. Un o ganlyniadau’r Dadeni Dysg oedd gollwng y gwyddorau’n rhydd o reolaeth yr Eglwys. O fewn dim daeth y Diwygiad Protestannaidd i ddirymu awdurdod yr Eglwys Gatholig. Dyna ddechrau ar gyfnod tensiwn modern  rhwng Cristnogaeth a Gwyddoniaeth. Gyda rhyddhau Prifysgolion o afael yr Eglwys rhoddwyd tragwyddol heol i ddatblygiad y gwyddorau. Ond gydag amser gwelwyd mai cael gwared ar awdurdod caeth yr eglwys a wnaed, a mynd yn gaeth i awdurdod arall sef awdurdod y meddylfryd gwyddonol.Yn rhyfedd iawn fe wnaeth y Diwygiad Protestannaidd yr un cam gwag yn union. Ymhlith daliadau canolog Martin Luther cafwyd dogma “sola scriptura”, yr Ysgrythurau yn unig awdurdod.. Wedi tanseilio awdurdod caeth y Pab a’r Eglwys a’i dogmâu, rhaid oedd cael awdurdod arall yn eu lle, ac fe aeth y Protestaniaid, ym mhob mater perthynol i’r eglwys ac athrawiaeth, yn gaeth i’r ysgrythur.

 

 

F. Ffwndamentaliaeth

 

Dowch ymlaen i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd cynnydd mewn darganfyddiadau gwyddonol yn troi’n llifeiriant, ac yn cael eu derbyn yn ddigwestiwn fel gwirionedd pur, fe benderfynodd rhai carfanau o fewn i’r eglwys gystadlu â’r awdurdod “peryglus” hwn. Gwelwyd Athrofa Princeton yn yr unol Daleithiau yn ganolbwynt  llythrenoliaeth a ffwndamentaliaeth. Cynhyrchodd y Prifathro, Charles Hodge, un o’r ymatebion cyntaf i lyfr Charles Darwin , On the Origin of Species, 1859, gan alw Darwin yn atheist. Daeth Darwin yn ffigwr eiconig yn yr ornest rhwng crefydd a gwyddoniaeth. Daliai Hodge a’i ddilynwyr yn gyndyn: os oedd gwyddoniaeth yn mynnu llefaru gydag awdurdod am y greadigaeth, yr oedd Duw drwy ddatguddiad y Gair eisoes wedi llefaru yn y Beibl, a’r Beibl meddent yn wirionedd anffaeledig. Fe syrthiodd y Cristnogion hyn i’r trap a mynnu troi’r Beibl a’i ddehongliad yn ddogfen wyddonol. Mewn gwirionedd doedd Cristnogion yr oesau erioed wedi darllen yr ysgythur fel dogfen lythrennol hanesyddol yn unig. Gwelent drwy holl lyfrau’r Beibl alegorïau ac iddynt ystyron damhegol a mytholegol, a’r dehongliadau hynny yn dyfnhau a chyfoethogi eu harwyddocâd ac yn cyfleu gwirioneddau dwfn.

 

Fe benderfynodd y llythrenolwyr ymladd gwyddonyddiaeth ar ei thir hi, a cholli’r dydd yn enbyd. Fe dwyllwyd pobol grefyddol gan lwyddiant iaith gwyddoniaeth, a dymunent i ddiwinyddiaeth swnio’n wyddonol. Iddynt hwy doedd hi ddim yn ddigon i honni fod y Beibl yn cynnwys gwirioneddau dwfn. Rhaid oedd iddo fod yn llythrennol wir.

 

Cymerodd ffwndamentaliaeth ei henw oddi wrth gyfres o bamffledi yn dwyn y teitl,‘The Fundamentals of the Faith’ a gyhoeddwyd gan grp o Americaniaid ceidwadol efengylaidd rhwng 1910 a 1915, a osodai allan yr hyn a honnai eu hawduron oedd “y prif themâu Cristnogol.’

 

Cynhyrchodd tyfiant ffwndamentaliaeth a llythrenoliaeth raniad newydd ymhlith Cristnogion. Ar y naill ochr y ffwndamentalwyr a fynnai ddarllen y Beibl yn llythrennol. Ar y llaw arall, y moderniaid rhyddfrydol a ddilynai feirniadaeth Feiblaidd gyfoes yn arwain at ailddehongli eu ffydd. Ond gan fod y Cristnogion ceidwadol yn fwy pendant yn eu credoau a’u hathrawiaethau, a’u ffwndamentaliaeth a’u cred yn y creu dwyfol wedi ei ddiffinio’n fanwl, derbynnir gan lawer mai’r gwersyll ceidwadol sy’n cynrychioli Cristnogaeth. A pha bryd bynnag y bydd atheistiaid yn penderfynu ymosod ar Gristnogaeth y Gristnogaeth ffwndamentalaidd hon yw eu targed hawdd.

 

Bydd Crefyddwyr ffwndamentalaidd, boed hwy yn Gristnogion neu Fwslemiaid neu Iddewon, yn hawlio fod rhyw ffynhonnell syniadau, fel rheol rhyw ysgrythur cysegredig, yn anffaeledig a chyflawn, a mynnant orfodi’r syniadau yna fel gwirioneddau absoliwt i’w dilyn gan bawb. Er fod yr athrawiaeth yn sylfaenol grefyddol, y maent yn mynnu fod yn rhaid iddi “newid y byd cyfan” ac y dylai cymdeithas yn gyffredinol ufuddhau i’w hysgrythurau hwy. Y mae wedyn yn datblygu yn ideoleg weidyddol sy’n bwriadu gorfodi traddodiadau ar bobol eraill, gan droi at drais, os bydd rhaid, i gyrraedd ei nod.  

 

Gallwn gyfeirio at un enghraifft fach ddiniwed. Ym 1983 cwynodd grwp o deuluoedd Cristnogol yn Tennessee yn erbyn eu hawdurdod addysg, gan herio rhaglen ddarllen mewn ysgol gynradd a gyfeiriai at amryw o grefyddau mawr yn y byd. Dadleuai rhieni Cristnogol fod hyn yn bychanu eu golwg nhw ar grefydd. Roedd dangos cymysgedd o safbwyntiau crefyddol i’w plant yn ymyrryd â’u hawl hwy fel teuluoedd i ymarfer eu ffydd hwy eu hunain.

 

Un o nodweddion ffwndamentaliaeth, yn wahanol i gredoau crefyddau yn gyffredinol, yw egwyddor annioddefgarwch. Y mae ffwndamentaliaeth yn gwrthwynebu democratiaeth, oherwydd y mae democratiaeth yn rhagdybio rhyw syniad fod pawb yn gyfartal, a hawl i ryw fath ar hunanreolaeth a goddefgarwch.

 

Mewn cyswllt â Christnogaeth y defnyddid y gair ffwndamentaliaeth tan argyfwng y gwystlon yn Iran ym 1979. Wedyn lledwyd y defnydd i gyfeirio at fudiadau eithafol yn Islam yn gysylltiedig â chwyldro Ayatollah Khomeini. Ers hynny defnyddir y term mewn llawer cyd-destun, a’r rhan fwyaf yn gysylltiedig ag eithafiaeth crefyddol. Beth oedd wedi digwydd oedd fod Islam wedi gweld brwdaniaeth a sêl cenhadol Cristnogaeth geidwadol y Gorllewin, a dynwared ei hawydd i ddylanwadu’n wleidyddol. Mewn geiriau eraill y mae America wedi allforio ffwndamentaliaeth i Islam, a byddwn ninnau yn y Gorllewin yn medi yr hyn yr ydym ni wedi ei hau.

 

G. Ffwndamentaliaeth Wyddonol

 

Ar y llaw arall y mae llawer o wyddonwyr wedi eu hudo i ffwndamentaliaeth o’u heiddo ei hunain a elwir bellach yn wyddonyddiaeth: y gred mai gwyddoniaeth yn unig yw’r llwybr at wybodaeth y gellir ei gwirio am y bydysawd. Mae llawer o awduron gwyddonol yn ymddangos yn drahaus wrth ddiystyru crefydd, gan fynegi ffydd ddigyfaddawd yn y dulliau gwyddonol.

 

Y mae ffwndamentaliaeth wyddonol yn dangos yr un diffyg goddefgarwch â ffwndamentaliaeth grefyddol. Petai gennych chithau blentyn mewn ysgol uwchradd, a’r athro bioleg yn dysgu dechreuadau’r bydysawd yn ôl hanes y creu yn Llyfr Genesis, sut fyddech chi’n ymateb? Byddai rhai ohonom yn dwyn achos yn erbyn yr athro. Byddem yn dadlau yn y llys fod buddiannau ein plant yn ddiogelach o gael eu dysgu yn ôl egwyddorion derbyniol gwybodaeth wyddonol. Byddai’r athro ar y llaw arall yn dadlau fod bywyd tragwyddol yn fwy pwysig i’n plant ni na thystysgrif addysg. Sail dadl yr athrawes fyddai ei ffydd yng ngair datguddiedig Duw yn y Beibl. A phetai cyfreithiwr yr athrawes yn gofyn i ni ddatgelu sail ein ffydd ni yng ngwirionedd

class=WordSection2>

ffeithiau gwyddonol, ein hunig ateb ni fyddai ein ffydd mewn gwyddoniaeth.

 

Y mae ffwndamentaliaeth wyddonol hefyd yr un mor unbenaethol â ffwndamentaliaeth grefyddol. Y mae gwyddoniaeth yn dibynnu ar fath arbennig ar brofiad, sef data y gellir ei archwilio’n gyhoeddus a’i ddadansoddi gan theorïau gwyddonol. Dywedir mai nod angen gwyddoniaeth yw gwrthrychedd a chyffredinolrwydd. Eto y mae hanes gwyddoniaeth yn dangos fod theorïau a dderbyniwyd yn gyffredin unwaith yn cael eu rhoi o’r neilltu neu eu haddasu, felly heb gytundeb cyffredinol dros gyfnod amser. Yn waeth na hynny, y mae athronwyr gwyddonol wedi dangos fod y data a gesglir yn cario gyda nhw bwysau rhyw theori. Y mae fframwaith syniadau’r gwyddonydd yn dylanwadu wrth ddewis ffenomena i’w hastudio a’r ffordd y bydd yn dewis y gwahaniaethau arwyddocaol. Dadleuodd Thomas Kuhn fod modelau’r gwyddonydd, sef clystyrau o ragdybiaethau, yn effeithio’n drwm ar ddata gwyddonol. Tuedd y gwyddonydd yw gweithio o fewn patrymau derbyniol y dydd. Mae’n rhyw fath ar “reswm democrataidd”. I ffwndamentaliaeth wyddonol dyna yw ei ffydd.

 

H. Peryglon ffwndamentaliaeth wyddonol.

 

Beth am beryglon ffwndamentaliaeth wyddonol? Lleisiodd Edmund Burke ganrifoedd yn ôl ei ofnau am rai tueddiadau ymhlith gwyddonwyr. Y mae athronwyr natur, meddai, yng ngafael yr awydd i chwarae gyda newyddbeth… heb falio dim am wrthrychau dynol eu harbrofion. Mae’n ymhelaethu wedyn: ffanaticiaid yw’r athronwyr hyn: maent yn cael eu gyrru ymlaen yn orffwyll tuag at bob prawf, fel y byddent yn barod i aberthu’r hil ddynol er mwyn y lleiaf o’u harbrofion. Y mae’r pryder hwn am drahauster gwyddoniaeth yn fyw o hyd, a chyda pheth cyfiawnhad. Y mae gwyddoniaeth ar ei gorau yn cael ei symbylu gan yr Anwybod, ond y mae gwyddoniaeth fel y’i gwelir gan y cyhoedd fel trysordy o ffeithiau cadarn, ac i’w mawrygu gyda pharchedig ofn.

 

Gyda thyfiant cyfalafiaeth edrychwyd ar natur fel adnoddau ar gyfer defnydd dynoliaeth ac elw preifat. Gyda thyfiant technoleg fe gynyddodd gallu dynol i reoli natur yn ddramatig. Tybiwyd nad oedd diwedd i’n gallu ni i’w thrafod hi i’n pwrpas ni ein hunain. A gwaeth fyth, y mae gwyddonyddiaeth fel petai’n credu fod gwyddoniaeth yn ddigon abl i lunio ei moesoldeb ei hun i reoli ei gweithgareddau.

 

Yn nhyfiant gwyddoniaeth fodern sy’n cael ei gyrru gan dechnoleg y mae yna gystadlu dibaid, ymhlith busnesau diwydiannol a masnachol, rhwng gwladwriaethau a hyd yn oed rhwng gwareiddiadau. Bydd gwleidyddion a chymdeithasegwyr yn aml yn canmol cystadleuaeth am ei bod yn rhoi awch i obeithion ac ymdrechion y ddynoliaeth. Ond y mae ei heffaith ddinistriol ar wyddoniaeth yn gorbwyso unrhyw fantais.Un enghraifft amlwg yw’r ymryson rhwng cwmnïau meddygol yn gwarchod hawliau cyfreithiol ar eu cynnyrch gan ddiystyru’n llwyr mor hanfodol yw hi i ledu gwybodaeth, yn arbennig ym maes iechyd.

 

Gwyddoniaeth yn ddelfrydol yw un o ffrwythau gorau meddwl y ddynoliaeth, ac fe all fod yn un o’r bendithion gorau ar gyfer bywyd y blaned hon. Ond yr hyn sy’n ei pheryglu yw fod yn rhaid ei hariannu hi mor helaeth, ac felly’n gorfod cael ei rheoli gan dechnoleg a masnach. Ei symbyliad yw buddiannau cwmnïau o’r amheus i’r mwyaf dinistriol. Y mae wedi creu dinistr i gymunedau a chenhedloedd, gan mai un o’r rhaglenni ymchwil a ariannir fwyaf yw arfau a dulliau difodiant, sy’n arwain gwareiddiadau yn anochel, nid i heddwch, ond i ryfel.

 

I. Peryglon ffwndamentaliaeth grefyddol

 

Beth am beryglon ffwndamentaliaeth grefyddol? Nid oes raid imi restru’r rheini. Yr ydym yn gynyddol gyfarwydd â nhw. Y maen nhw’n cynnwys mân anghyfiawnderau cymdeithasol, pan ddyfynnir adnodau o ryw ysgrythur santaidd i gyfiawnhau gwahaniaethu, hiliaeth a rhagfarn, hyd yn oed o fewn i eglwysi Cristnogol. Y mae’r argyhoeddiadau hyn a elwir yn grefyddol yn magu drwgdybiaeth ar ddwy ochr, ofnau, casineb a dial. Y maen nhw’n datblygu yn drais, ymosodiadau, creulondeb rhwng llwythau a gwledydd, o’r gyflafan erchyll gan Gristnogion y Croesgadau, yn lladd Mwslemiaid ac Iddewon, hyd at heddiw.

 

J. Y gwrthdaro sylfaenol

 

Fe ddylem sylweddoli erbyn hyn nad y gwrthdaro sylfaenol yng ngwybodaeth ac ymdrechion y ddynoliaeth yw’r frwydr rhwng gwyddoniaeth a chrefydd, ond yn hytrach rhwng unrhyw fath o ffwndamentaliaeth a thynged y ddynoliaeth, a allai fomio ei hun i ebargofiant. Felly a oes yna unrhyw ffordd i argyhoeddi’r ddwy ffwndamentaliaeth eithafol yma y gallent ddysgu gan ei gilydd.

 

(1) Crefydd o dan chwyddwydr gwyddoniaeth

 

O asudio hanes crefyddau yn ôl y dulliau gwyddonol fe ddangosir yn eglur fod yna dueddiadau cyfatebol mewn gwahanol grefyddau i ddatblygu’r un elfennau annymunol. Mynnant gau eraill allan ar sail datguddiadau, y rheini yn aml i’w cael mewn ysgrythurau sy’n magu rhyw gysegredigrwydd digyffwrdd, gan arwain at weithredoedd eithafol. Gall ysgolheictod gwyddonol archwilio a chymharu crefyddau gan ddadlennu’r un tueddiadau gwyrdroëdig a gwrthnysig sy’n gyffredin i wahanol grefyddau. Fe allai hefyd, a hyn fyddai’n fuddiol iawn, fe allai ddadlennu gwythiennau cyffredin trugaredd a maddeuant a chariad sy’n rhedeg drwy bob un ohonynt. 

 

(2) Crefydd yn archwilio gwyddoniaeth 

 

(a) Fe all crefydd gynorthwyo gwyddoniaeth. Fe allai dirnadaeth a hunan-adnabyddiaeth ysbrydol ddadlennu gymaint ar gyfeiliorn y mae hunanhyder gwyddonyddiaeth. Fe ŵyr crefydd mor ffaeledig yw’r meddwl dynol. Felly os honna gwyddoniaeth mai ei nod yw datgelu’r gwirionedd, dylai gostyngeiddrwydd priodol ei hatgoffa mai’r ffordd at wirionedd yw amheuaeth. Nid derbyn gwybodaeth gymeradwy y dydd, ond amau a chwestiynu pa elfennau yn yr wybodaeth honno sy’n wir. Dylai pob gwir wyddonydd amau ei argyhoeddiadau ei hun, ei gymhellion a’i ragfarnau a’i wendidau. Yn wir, yn ôl un gwyddonydd, dylai ei wneud ei hun yn elyn i bopeth y mae’n ei ddarllen. Y mae dod o hyd i’r gwir yn anodd, a’r ffordd tua’r gwirionedd yn arw.

 

(b) Y mae angen “doethineb foesegol” a goruchwyliaeth foesol mewn gwyddoniaeth. Yng ngeiriau Elfed,

Yng nghynnydd pob gwybodaeth

   gwna ni’n fwy doeth i fyw…

Fe allai cydwybod ysbrydol reoli a ffrwyno’r tueddiadau mwyaf gresynus  mewn datblygiadau gwyddonol.

 

(3) Gallem hefyd archwilio’r tebygrwydd

 

(a) Y mae yna hefyd berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd yn y modd y defnyddiant fodelau, damhegion a chydweddiad. Er enghraifft byddwn ni leygwyr gwyddonol, yn gyfarwydd â model pêl snwcer i ddalunio nwy, model yr atom neu’r moleciwl, neu hyd yn oed hen fodel plwm pwdin i ddarlunio’r niwcliws. Mae modelau gwyddonol yn fwy na chynhorthwy seicolegol, gan y gellir eu defnyddio i brofi sut y gellir addasu ambell ddamcaniaeth. Defnyddir modelau hefyd mewn crefydd, yn arbennig fel damhegon a mythau. A bydd y rhain yn ddefnyddiol i fynegi gwirioneddau am Dduw a’i berthynas â’r cread.

 

(b) Bydd dau fodel cyfochrog weithiau’n ddefnyddiol, megis modelau’r don a’r gronyn mewn ffiseg quantum, er na ellir eu cyfuno yn un model. Bydd modelau cyfochrog yn ddefnyddiol hefyd mewn crefydd i fynegi syniadau. Er enghraifft modelau personol ac amhersonol am Dduw: Duw fel tad, ond Duw yn ysbryd. Mewn gwyddoniaeth a chrefydd nid yw’r modelau yn disgrifio realiti yn llythrennol, ond y maent yn ymdrechion i ddychmygu yr hyn na ellir mo’i weld yn uniongyrchol.

 

K. Dwy Iaith

 

Eto er gwaetha’r holl awgrymiadau hyn fe’n dygir ni lawr i’r ddaear gan feddyliwr mawr, neb llai na Ludwig Wittgenstein. Y mae gwyddoniaeth a chrefydd, meddai, yn siarad ieithoedd gwahanol. Maen nhw’n dangos dau lun gwahanol. Er gwaethaf pob ymdrech ni allant ddeall ei gilydd mewn gwirionedd. Yn sicir wnan nhw ddim dysgu gan ei gilydd. A oes yna dir cyffredin? A oes modd eu dwyn ynghyd? Wel oes.

 

Y mae gweledigaeth athronyddol un gwyddonydd wedi awgrymu ffordd. Y mae crefydd drwy athrawiaeth, a gwyddoniaeth drwy wybodaeth, ill dwy yn chwilio am y gwir. Ond dangosodd Michael Polanyi ein bod yn  anwybyddu lle’r ymroddiad personol mewn ymchwil wyddonol. Mae Polaynyi’n dadlau fod holl honiadau gwybodaeth yn dibynnu ar ddyfarniadau personol. Y mae’n gwadu y gall system wyddonol gynhyrchu gwirionedd yn beiriannol. Ac meddai, y mae pob gwybod yn dibynnu ar ymroddiad. Rhaid inni gydnabod ein bod yn credu mwy nag y gallwn ei brofi, ac yn gwybod mwy nag y gallwn ei fynegi. Roeddem wedi meddwl fod yn rhaid inni wybod cyn medru credu. Mae’r gwyddonydd yn meddwl ei fod yn chwilio am wybodaeth a phrawf pendant cyn y gall gredu. I’r gwrthwyneb: rhaid iddo yn gyntaf gredu yn ei system wyddonol cyn iddo fedru gwybod dilysrwydd ei ddata na llunio ei ddamcaniaeth. Mewn crefydd fe feddyliwn weithiau fod yn rhaid yn gyntaf ddysgu’r ffeithiau sylfaenol i blant cyn iddynt broffesu eu cred. I’r gwrthwyneb, mewn crefydd mae credu yn Nuw yn blaenori ac yn sylfaenol. Wedyn y daw’r crediniwr i wybod am Dduw.

 

Pwysleisiodd Polanyi bwysigrwydd sythwelediad neu reddf mewn darganfyddiad gwyddonol, fel dyn dall yn defnyddio’i ffon. Fe ymbalfalwn ein ffordd drwy wybodaeth sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, gwybodaeth na ellir mo’i ddosbarthu’n glir. Ac yn ddisymwth down i sylweddoli, cyrraedd datguddiad. Y mae hyn yn clymu’n berffaith gyda’r syniad a fynegwyd gan Thomas Kuhn, fod gwyddoniaeth yn cynnwys cyfnodau maith o ddadansoddi problemau, ond yna yn sydyn daw cyfnodau byr y newid patrwm, y “paradigm shift” . Yr hyn mae’n ei olygu wrth hynny yw chwyldro mewen gwybodaeth sy’n newid y darlun yn llwyr. Eiliadau mewn gwyddoniaeth fel y newid patrwm gan Copernicus neu Einstein. Y mae’r rhain yn digwydd yn sydyn fel petaent y tu allan i’r patrwm arferol. Eiliadau prin ysbrydoledig fel petaent wedi ei tanio gan ysbrydoliaeth, gan yr awen.

 

Felly y tir cyffredin hanfodol rhwng gwyddoniaeth a chrefydd yw fod y ddwy ohonyn nhw yn dibynnu ar y newid patrwm, eiliadau ysbrydoliaeth, moment yr awen. Pan na ddaw y rheini, ’dyw ein hymchwil am y gwir yn ddim ond llafur diflas, neu hewl heb fynd i unman, neu waeth. Ond pan ddon nhw, byddant yn dod â goleuni a rhyddid. A mynd yn ôl at Socrates, y mae’r rhai ohonom sy’n bodloni byw heb yr awen yn ddigon dedwydd yn ein byd bach ni ein hunain, ond yn y tywyllwch fyddwn ni. Eithr y mae’r rheini sy’n derbyn eu harwain gan yr awen yn medru goleuo’u byd.

 

Ond sut mae ’r awen yn dod? Yn gwbwl ddigymell meddai Islwyn:

 

“Pan y mynn y daw, fel yr enfys a’r glaw…”

 

Nage, yn ôl Michael Polanyi: “Nid yw’r un sy’n gwybood yn sefyll ar wahân i’r cyfanfyd, ond mae’n chwarae ei ran o’i fewn. Gyrrir galluoedd ein deall gan ymroddiad angerddol sy’n cymell darganfyddiad ac yn ei wneud yn ddilys.” Yn achos crefydd yr ydym yn gyfarwydd â darllen am ganfyddiadau ysbrydoledig proffwydi a dysgeidiaeth chwyldroadol Iesu, i ni y mwyaf o bob newid patrwm. Beth achosodd y newid syfrdanol a gyflwynodd Iesu? Yr ateb yw ei ymgysegriad llwyr mewn cariad tuag at eraill. Yn Iesu fe ddaeth gweithredoedd ei gariad o flaen ei ddysgeidiaeth. Daw’r gweithredu o flaen y theori. Yn wir y mae’n rhagflaenu’r ysbrydoliaeth. I’r Rabiniaid Iddewig yr oedd dysgeidiaeth, yr hyn a alwen nhw yn “miqra”, o ran ei hanfod yn rhaglen weithgarwch. Yn ôl Thomas Merton, “Cariad yw ein tynged ni. Ni ddown o hyd i ystyr bywyd ohonom ni ein hunain: fe ddown o hyd iddo gyda rhywun arall.” Ac i Iesu nid syniad haniaethol oedd gwirionedd : ymgysegriad i weithredu yw gwirionedd. Yn Efengyl Ioan (3.21): “y mae’r hwn sy’n gwneud y gwirionedd yn dod at y goleuni…” Nid gwybod y gwirionedd; nid credu’r gwirionedd; ond gwneud y gwirionedd. Ac y mae bod yn rhan o’r gweithredu yn symbylu’r ysbrydoliaeth.

 

Beth felly am grefydd a gwyddoniaeth? Pa ymgysegriad a allai eu hysbrydoli hwy? Buaswn i’n dweud, am wyddoniaeth, nid cael ei denu gan gynhaliaeth ariannol ac ymchwil yn ôl arweiniad y sefydliadau goludog, ond ymgysegriad i harddwch a daioni gwybodaeth. Dyna i mi ddylai fod yn egwyddor sylfaenol addysg prifysgol, a byddai rhaglen ymchwil felly yn fendith i wareiddiad. Ac am grefydd, nid, rwy’n taer obeithio,  ymgysegriad i ddiwygiad difudd arall i ailadrodd hen ddogmâu hesb a nynd yn ôl at addoli ysgrythur, ond ymgysegriad i harddwch a daioni cariad at eraill ac at y cyfanfyd.

 

Petaech yn edrych ar dŷ arbennig yn Sir Fôn ar “Google street view” fe welech, yn cysgodi dros yr iet, goeden lawn o ddail gwyrdd gloyw. Mewn gwirionedd fe fyddech yn gweld coeden â iorwg wedi tyfu drwyddi a’i thagu. Dyna fel yr oedd hi pan aeth fan camera Google heibio ddwy flynedd yn ôl. Fis Medi diwetha aeth y perchennog ati i rwygo’r iorwg parasit oddi arni, frig a gwraidd, gan adael sgerbwd denau o ddraenen wen ar ôl. Y gwanwyn hwn mae’r ddraenen wen wedi blodeuo’n fendigedig, gan lewyrchu’n well nag erioed. Dyna fyddai fy ngobaith innau am grefydd a gwyddoniaeth fel ei gilydd. Bu gwyddoniaeth yng ngafael dynn technoleg a masnach, a hyd yn oed ddisgwyliadau erchyll rhyfela, gan ei mygu rhag gwasanaethu’r byd mewn daioni. Mae crefydd wedi gadael iddi hi ei hun gael ei chaethiwo gan ddefodaeth a llythrenoliaeth a chlymau deddfol, gan ei gwneud yn ddiffrwyth rhag medru gwasanaethu’r byd mewn trugaredd a thosturi. Dewch i ni gael dechrau rhwygo’r iorwg.

 

 John Gwilym Jones

‘PWY YW IESU?’ – Enid R Morgan

Papur i grŵp Cristnogaeth 21  Morlan Aberystwyth Tachwedd 13 2013

‘Ryn ni’n agosáu at gwestiwn allweddol. Dyma un o glwstwr o gwestiynau am Iesu o Nasareth, y Rabbi a’r proffwyd a ddeffrodd gobeithion ei gyd-Iddewon ac a groeshoeliwyd yn Jeriwsalem pan oedd Pontius Pilat yn rhaglaw yno. Nid yn unig “Pwy oedd e?” ond

  • o ble ddaeth e, – beth oedd ei deulu ?
  • beth oedd ei berthynas â Duw?
  • beth oedd ei neges e ?
  • o ble daeth ei awdurdod e?
  • beth oedd ei fwriad e ?
  • beth oedd ystyr a phwrpas ei farwolaeth e?
  • oedd ei farwolaeth yn gwneud gwahaniaeth i bobl y tu hwnt i’w oes a’i gyfnod ei hun ?
  • Pwy yw e?

Mae llawer a ddywedir am Iesu o Nasareth gan Gristnogion brwd, a’r hyn a ddywedir yn fformiwlâu y Credoau cynnar yn swnio’n nid yn gymaint yn annealladwy ond yn ddiystyr i’r meddwl cyfoes. Mae’r iaith a ddefnyddir yn dramgwydd; pa fath o ystyr sydd yn yr ymadrodd “Mab Duw”? Mae ‘na straeon am bethau ‘gwyrthiol’ yn cael eu crybwyll fel  petae’r rheini’n warant o wirionedd yr honiadau am ddwyfoldeb yr Iesu hwn. Priodolir i Iesu eiriau ac ymadroddion sydd bron yn sicr yn eiriau gan yr efengylydd, a’r geiriau hynny yn adlewyrchu nid mympwy na barn unigolyn yn unig,  ond argyhoeddiadau y daeth cymuned eglwysig arbennig i’w credu gyda chryn ddwyster a chrebwyll diwinyddol. Dyma eu dealltwriaeth hwy am  Iesu- un y gallai arddel y gair YHWH, YDWYF, MYFI YW heb  i hynny fod yn gabledd.

Mae un ffordd o ddarllen y geiriau hyn sy’n awgrymu, os nad ydyn nhw’n wir bod yn rhaid bod Iesu’n wallgo neu’n gelwyddgi. Ond ystyriwch beth ddywedodd Iesu pan ddaeth negeseuwyr oddi wrth Ioan Fedyddiwr druan yng ngharchar. Ai ef oedd yr hwn oedd i ddod? A ‘dyw Iesu ddim yn rhoi ateb syth ( Anaml y mae’n rhoi ateb syth am fod y cwestiynau yn aml mor dwp!)  Mae’n gofyn i Ioan ystyried beth y mae’r tystion wedi gweld Iesu yn ei wneud, sef  iachau’r cleifion, a phregethu’r newyddion da i’r tlodion.  Ar ben hynny wrth ddechrau trwy gydnabod Iesu fel person hynod ac arbennig iawn, mae e’n  cael ei glymu wrth glwstwr o storïau yr adroddir fel petae nhw’n ddigwyddiadau hanesyddol. Yn aml mynnir bod derbyn y pethau ‘anghredadwy’ yn  fath o brawf ar ymateb yr unigolyn i Iesu ei hun. Dyma ddetholiad o rai enghreifftiau ohonyn nhw.

  • y geni gwyrthiol,
  • bod yn ‘Fab Duw,’(Mab Duw oedd teitl yr Archoffeiriad ar ddydd y Cymod)
  • cerdded ar y môr
  • atgyfodi oddi wrth y meirw,- beth yw ystyr y gair atgyfodi
  • addewid o ddyfod drachefn ‘mewn gogoniant’

Mae hyn i gyd yn ddychryn i’r  crebwyll, ac yn fodd i gau clustiau.  Os yw ystyr y pethau hyn i gyd yn fater o ffeithiau hanesyddol moel, fe fyddan nhw’n dramgwydd ac yn rhwystr o’r dechrau rhag gwrando o gwbl ar y neges.  Nid yw cydnabod gymaint â hynny’n  golygu gwadu bod cyfoeth ac ystyr yn yr honiadau hyn a pham y cyhoeddir hwy hyd heddiw; fy marn i yw nad yn y fan hon mae dechrau. Onid oes yn rhaid adnabod person cyn dechrau gwneud honiadau mawr amdano? Y mae’r dull yma o siarad am Iesu yn dechrau oddi uchod,  a’n harfer ni fel bodau meidrol ydi dod i ‘nabod pobl yn raddol.

Gan osod o’r neilltu am y tro y pethau a ddywedir am Iesu gadewch i ni fentro dechrau o safbwynt dynol. Wedi’r cyfan dyna ydi amcan  ei ddyfod!  Peth dynol yw iaith, a phethau dynol y gallwn eu trafod gyda geiriau sy’n siŵr o gael eu cam-ddehongli, eu camddeall, eu hystumio. Ni fyddai’r disgyblion, y gwrywod na’r gwragedd, yn ei chael yn haws na ni i feddwl am fabi heb dad daearol, nac i fedru dygymod â beth oedd “atgyfodi”.

Y mae’r broses o ddyfalu am Iesu yn mynd nôl i’w gyfnod gyda’i ddisgyblion.  Iesu ei hun sy’n holi “Pwy mae pobl yn dweud ydw i?” a “Pwy meddwch chi yr wyf fi?”  Pedr sy’n ateb yn fentrus “Ti yw’r Meseia, mab y Duw byw”.  Onid dyma oedd y genedl gyfan yn disgwyl amdano?. ’Roedden nhw wedi cael llond bol o ddioddef a bod dan fawd un  gormeswr ar ôl y llall. Ei gobaith oedd cael un fyddai’n gwaredu Israel. Ond y mae ymateb Iesu’n hynod o amwys; y mae’n cydnabod “nad cig a gwaed” ddatguddiodd hyn i Pedr, ond y mae’n gorchymyn hefyd “Paid â dweud hynny wrth neb”. Mae Iesu’n gwahardd y gair drosodd a thro yn Efengyl Marc. Pam?

Beth oedd y gair Meseia yn ei feddwl i Iddew fel Pedr ?  Beth oedd ei ystyr i Iesu? Beth oedd yr ystyr i genhedlaeth ddiweddarach o Iddewon?  Oedd Iesu’n  meddwl am ei hun “wedi ei eneinio” gan Dduw ?  (Ai dyna ystyr stori ei fedydd?) Oedd y gair Meseia’n cyfateb i hynny? Ai gair am arweinydd gwleidyddol neu filwrol oedd e?  ‘Doedd yr Iddewon ddim yn gwahaniaethu rhwng y crefyddol/ gwleidyddol/ cenedlaethol fel y gwnawn ni. Ond os oedd disgwyl i’r Meseia arwain, ac i ymladd, lladd a llwyddo – dyna dri pheth na fyddai Iesu o Nasareth yn eu gwneud!  Dywed Iesu  na ddaw dim o ymladd, bod y rhai sy’n lladd â chleddyf yn mynd i gael eu lladd gan gleddyf. Mae trais yn cynhyrchu trais. Ni all Satan fwrw allan Satan.  Ac felly y mae’n gwadu’r dehongliad hwnnw o beth yw gwaith y Meseia.  Fel y mae Iesu yn ail ddehongli beth yw barn a beth yw pechod y mae’n ail-ddehongli beth yw Meseia – neu o leiaf y mae’n rhoi’r pwyslais i gyd ar Feseia fyddai’n dwyn i fodolaeth deyrnas o heddwch a chyfiawnder a llawnder. Y mae’n tanseilio hen ystyr y gair a’i ddisgwyliadau a thrwy ei ddehongliad ei hun yn cynnig un wedi ei eneinio i ddioddef. A daw hynny i’r amlwg ar y groes.

Mae ‘na ddwy ffordd wedi bod o’r dechrau o ddod at y cwestiwn Pwy yw Iesu? Yn yr eglwys yn Antioch ‘roedden nhw’n mynnu dechrau gyda Iesu y dyn o gig a gwaed.  Yn eglwys Alexandria yr oedden nhw’n ymhyfrydu o’r dechrau mewn cyhoeddi dwyfoldeb Iesu. Yr oedd y ddwy ochr yn cydnabod bod ynddo elfennau dwyfol a dynol ac yn cwympo mas ynglŷn â’r  ddwy natur. Sut y gallai’r ddau fod mewn un person, heb i’r dwyfol draflyncu’r dynol neu i’r dynol sarhau’r dwyfol?  Yr oedd Credo Chalcedon yn ymdrech i gadw cydbwysedd rhwng y ddau safbwynt.   

(Mae ‘na gyfrolau lu am y stwff yma!) A thâl hi ddim inni fod yn wawdlyd – ‘does gennym ni ddim hawl barnu bwriadau pobl oedd yn amddiffyn, gorau fedren nhw eu dealltwriaeth o’r un  y galwent, ymhlith pethau eraill yn Waredwr. Ac i gymhlethu pethau cofiwch fod yr Iddewon yn meddwl am Moses fel gwaredwr! Gellir bod yn waredwr heb fod yn ddwyfol wedi’r cyfan.

Dyma restr o’r amryw ffyrdd y dehonglwyd person Iesu drwy’r canrifoedd. Mae e ychydig yn wahanol i’r rhestr sydd yn Byw’r Cwestiynau. Daw o lyfr Jaroslav Pelikan  Jesus Through the Centuries.

  • Y Rabbi – athro a phroffwyd. Geza Vermes yn ei weld  fel Rabbi Carismatig
  • Gwas Duw
  • Trobwynt Hanes – apocalyps, proffwydoliaeth a moeseg
  • Goleuni i oleuo’r cenhedloedd
  • Brenin y Brenhinoedd (I’w gyferbynnu â Cesar fel yn straeon y geni yn Luc)
  • Gair Duw
  • Mab y Dyn – yr un sydd yn datguddio potential y natur ddynol a beth yw grym drygioni.
  • Mab Duw
  • Sophia, Doethineb, Gwir Ddelw ei ddisgleirdeb Ef
  • Y |Crist Croeshoeliedig – fel gallu Duw a doethineb Duw
  •  Cariad at Grist fel mater o wrthod y byd ( canol oesoedd)
  • Priodfab yr enaid,
  • Ail ddarganfod Crist fel dyn dioddefus.
  • Crist – dyn wedi ei adnewyddu yn ail-fyw temtasiwn Adda ac Efa
  • Drych i’r gwir a’r hardd.
  • Tywysog Tangnefedd
  • Athro synnwyr cyffredin – yr Iesu hanesyddol
  • Iesu fel bardd
  • Y Gwaredwr

NEGES IESU

       Dyna restr o ddehongliadau sy’n troi’r pwyslais o neges Iesu am y Deyrnas, i wneud Iesu ei hun yn gynnwys y neges. Y mae Iesu’n dod gan gyhoeddi bod Teyrnas Dduw /Nefoedd wedi dod yn agos. Beth yw natur y Deyrnas honno, yr ydyn yn gweddïo am iddi hi ddyfod? Man lle y mae ewyllys Duw yn wir cael ei gyflawni. Ac mae lliaws o’r damhegion yno i oleuo’n crebwyll am natur y deyrnas honno. e.e.:

  • Dyn yn cloddio am drysor a’i holl galon yn y gwaith
  • Coeden yn tyfu i roi lle i holl adar yr awyr
  • Toes yn codi, yn araf ond yn llawn addewid
  • Cae lle nad oes brys i chwynnu efrau.

Ar ben hynny y mae Iesu’n gwrthod gwaith cyffredin Rabbi o fod yn farnwr rhwng pobl. Mae’n rhybuddio yn erbyn eiddigedd ; yn dweud wrth y cwr cyfoethog i roi ei gyfoeth bant.

PURDEB DEFODOL

Yn y meddwl Iddewig yr oedd sancteiddrwydd ynghlwm wrth fath arbennig o burdeb defodol oedd yn gynnyrch ufuddhau i’r ddeddf . Y mae Iesu’n chwalu’r cysylltiad ac yn mynnu cysylltu â phobl sy’n dioddef o’r gwahanglwyf, â gwragedd yn diodde’ misglwyf, ac â chyrff meirw. Y mae’n dewis casglwr trethi’n yn un o’i ddisgyblion. Y mae’n mynd i bartïon y cyfoethog; y mae’n amddiffyn haelioni teimladwy’r gwragedd, yn herio parchusrwydd y ddeddf. Y mae’n glanhau’r Deml, yn dweud petai’r cwbl yn cael ei ddymchwel y gallai ef ei ailadeiladu mewn tridiau ( a dyna i chi osodiad symbolaidd!)  Mewn gair y mae’n tanseilio amryw o ddisgwyliadau a rheolau y diwylliant crefyddol y magwyd ef ynddi.  Ond y mae ar yr un pryd yn gweld yn y traddodiad hwnnw elfennau sy’n allweddol i’w ddehongliad ef o natur a bwriad Duw.  Dyma graidd y stori ar y ffordd i Emaus “yn dehongli iddynt yr Ysgrythurau”

Y Sadwceaid oedd y bobl geidwadol grefyddol yng nghyfnod Iesu. Eu safon hwy o beth oedd i’w gredu a sut i fyw oedd Pum Llyfr Moses. Os nad oedd rhywbeth yno yn “Y Ddeddf”, allech chi ddim ei warantu.  Fel rhan o’u dadl gyda’r Phariseaid daeth y Sadwceaid at Iesu gyda phroblem hynod o gymhleth – problem ffug i danseilio’i awdurdod ydoedd. Oedd yna’r fath beth â bywyd ar ôl marwolaeth? Ar ôl rhyfel y Macabeaid daeth yr Iddewon, gyda mam y brodyr a laddwyd  i gredu bod yn rhaid bod rhywbeth ar ôl marwolaeth, neu pa ystyr ellid ei briodoli i farwolaeth y saith brawd ifanc a dewr a wrthododd ymladd ar y Sabath? Dyma’r ieuenctid mwyaf dethol a duwiol a ffyddlon y gallai Iddewiaeth eu cynhyrchu. Rhaid eu bod yn fyw, yn rhywle! Yr oedd deddf y Lefiaid yn dweud pe bai dyn yn marw heb  blant y  dylai ei weddw briodi â’i frawd. Gwraig i bwy fyddai’r ddynes oedd wedi bod yn briod â’r  saith yn eu tro? Mae’r stori yn cael ei hadrodd yn Mathew, Luc a Marc, -ac felly yn sicr yn stori bwysig iawn.  Ac mae Iesu’n cynhyrfu at glogyrn-eiddiwch deallusol y Sadwceaid ac yn dweud  Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na’r Ysgrythurau na gallu Duw.”(Math 22.29)  Dim diffyg hyder deallusol, diwinyddol a chymdeithasol yn y tipyn Rabbi hwn, nag oes! 

 

Mae’r stori am y Samariad Trugarog yn cario neges yr un mor enbyd – sut ? Am fod y stori ddeifiol honno’n awgrymu bod dyletswyddau crefyddol yr offeiriad a’r Lefiaid yn eu rhwystro rhag ymddwyn yn ddynol  a chyda thosturi. A dyna i chi feirniadaeth sy’n tanseilio natur ddefodol ac aberthol y Deml yn ei dydd. Nid dweud celwydd yr oedden nhw wrth ei gyhuddo’n ddiweddarach o ddymuno dymchwel y Deml. Mae ’na rywbeth gwrthgrefyddol iawn am Iesu – ac yn wir yr oedd Karl Barth yn dadlau mai amcan y groes oedd dwyn crefydd i ben.

A dyma bwyntiau eraill sy’n codi o’r cyflwyniad o Iesu sy’ gennym yn yr Efengylau. Dyma Iesu –

  • sy’n gyfrwng bywyd i’w bobl ( yn darparu bara o’r nefoedd fel Moses)
  • y gellir ei ddeall yng nghyswllt Eseia a Moses. (Y gweddnewidiad)
  • sy’n ysglyfaeth i’r pwerus,  “ Wele’r gŵr,” medd Peilat
  • Yr Iesu sy’ ar ochr y tlawd a’r diymgeledd. Dameg Dives a Lasarus.
  • Ystyr y Groes – yn y traddodiad Iddewig y mae’r neb a grogir ar bren  dan gabl.
  • Y Groes ar yr un pryd yn gyflafan, esiampl , ac yn aberth sy’n dwyn trefn aberthol i ben.

Pwy yw Iesu?  Y mae’n Iddew sy’n  parchu traddodiad y genedl . OND y mae’n dangos bod arweinyddion ei gyfnod yn syrthio’n brin wrth ddehongli’r ddeddf a’r ysgrythur.

Y mae’n tyfu allan o draddodiad crefyddol trwyadl aberthol ( nid am fod yr Iddewon yn dynwared y cenhedloedd eraill fel y dywedir yn  Byw’r Cwestiynau ond am fod pob crefydd yn ei hanfod yn cychwyn mewn aberth.  Y mae enwaedu ar fechgyn yn symbol sy’n tarddu o’r frwydr i roi terfyn ar aberthu’r plentyn cyntaf anedig. Y mae Iesu wedi deall hynny, ac y mae’r ffordd y mae ef yn tanseilio’r reddf aberthol yn hanfodol i unrhyw ddehongliad ohono. Rhaid cymeryd y gair aberth o ddifrif am ei fod mor hawdd ei wyrdroi. Gwendid mawr y Rhyddfrydwyr fu diystyru ac wfftio’r syniad o aberth fel rhywbeth annheilwng.

Yn Efengyl Mathew y mae Iesu yn ail Foses, yn ail waredwr, yn ail ddehonglwr y gyfraith; mae’n  pregethu fel Moses oddi ar y mynydd .Mae’n dysgu i’w  ddisgyblion i ddehongli’r ysgrythurau mewn ffordd radical ar gyfer y byd i gyd ( yn oleuni i oleuo’r cenhedloedd) gan droi Iddewiaeth  o fod yn ffydd i un genedl i fod yn Waredwr y ddynoliaeth gyfan.  I’r Iddewon y mae’n parhau’n Rabbi carismatig sy’n cyhoeddi bod teyrnas Dduw yn dod. Nid ef yw’r Meseia addawedig. Dyma ddehongliad y Rabiniaid hynny a dychwelodd i Jeriwsalem ar ôl i’r ddinas a’r deml gael ei dinistrio yn 70 yn nhref Jamnia.

Iesu fel ail berson y Drindod.

Nid yw’r fformiwla am y Drindod yn cael ei diffinio am sawl canrif. Ond y mae’r eirfa , y ddealltwriaeth, a’r fformiwla litwrgaidd yn amlwg yn dod o gyfnod cynnar iawn ac yn dod allan o iaith addoliad a bendithio yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. Y mae credo Athanasius yn enbydrwydd nid yn unig am ei fod yn bygwth uffern i bawb nad yw’n cyd-synio â’r fformiwla, ond  am ei fod yn beth sy’n ceisio bod yn bendant iawn am bethau sydd yn eu hanfod y tu hwnt i’w deall. (Y mae cwyn cyson Rhyddfrydwyr yn erbyn credoau yn gallu’n gadael fel yr awgrymodd Emrys ap Iwan  yn Breuddwyd Pabydd “Heb athrawiaeth i’w chredu na deddf foesol i ufuddhau iddi”.)

Dyma i chi math o amddiffyniad– a hynny yn rhannol ar sail tystiolaeth o’r Hen Destament bod profiad yr Iddewon o bresenoldeb YHWH yn dra amrywiol. Y mae’r eirfa’n amrywiol, sonnir am ei bresenoldeb, ei gysgod, ei ogoniant, ei ddisgleirdeb , ei Air, ei Ddoethineb, ac yn y blaen.

Yr oedd profiad y cwmni apostolaidd yn mynnu bod presenoldeb Iesu yn ddatguddiad o YHWH, mewn ffordd mwy uniongyrchol na Moses ei hun. Sut felly y gellid yn gryno ddisgrifio ei bresenoldeb a’i berthynas â YHWH ond fel Mab- yr oedd y gair Mab Duw yn cael ei ddefnyddio am yr archoffeiriad ar ddydd y Cymod. Rhaid pwysleisio mai iaith metaffor ydi hyn ac nid oedd â wnelo hyn ddim oll â chenhedlu biolegol ym mhlith plant dynion! Nid o ran geneteg, nac obstetreg nac etifeddeg na dim o’r fath. Y mae bod yn Fab i Dad yn ffordd o ddweud fod Iesu yn gwbl debyg, yn un â,  yn eicon, yn ddelw o Dduw. Yr un peth ydyn nhw.

 

Yr Ysbryd Glân

Y mae disodli presenoldeb Iesu gan bresenoldeb Ysbryd Duw sy’ hefyd yn ysbryd Iesu yn ein symud ymlaen i ymwybyddiaeth gwahanol, newydd, wedi ei wreiddio yn nigwyddiadau bywyd Iesu o Nasareth.  A dyna i chi dri pherson, tri wyneb, tair swydd, tri phresenoldeb. Dyna i chi fetaffor, tebygrwydd o’r llawnder a’r amrywiaeth yn ogystal â’r Undod hanfodol sydd o raid yn perthyn i Dduw.  Y mae’r Drindod fell, a dim ond awgrym weddol ysgafn yw hwn,  yn fath o ddyfais i ddiogelu Duw rhag diflannu lawr y llwybr i amldduwiaeth. Mae’n ffordd o lynu wrth y profiad o amrywiaeth Duw heb gasglu delwau amryliw lluosog ar y ffordd. Ac wrth gwr, ar ein cyfer ni mae hyn i gyd, nid ffordd o gyfyngu ar hanfod na bodolaeth Duw.

Mae’r Efengylau eu hunain yn ymaflyd â’r cwestiwn wrth ddewis ble mae’r stori’n dechrau. Mae Marc yn cychwyn gyda’i weinidogaeth gyhoeddus, Mathew a Luc gyda’i enedigaeth,  un gyda’r pwyslais ar achau Mair a’r llall a’i bwyslais ar achau Joseff.  Ac y mae Ioan yn mynd a bodolaeth Iesu nôl i fwriadau Duw ei hun yng nghychwyn y greadigaeth fel dechrau llyfr Genesis “Yn y dechreuad yr oedd y Gair….”  ‘Rwy’n hapus iawn fy hun i barhau i ddefnyddio’r fformiwla gyfoethog  ac i fendithio yn fy nghalon yn ogystal ag ar dafod, yn enw Duw, Dad, Fab ac Ysbryd Glan.

                                                                                                                     Enid R. Morgan

CRYNODEB O’R YMATEB I BAPUR CYNOG DAFIS AR “BETH YW DUW”?

Beth yw Duw?

Crynodeb o’r drafodaeth a ddilynodd BAPUR  CYNOG DAFIS

Rhoddodd Cynog amlinelliad meistrolgar o’r delweddau a’r cysyniadau am ‘Dduw’  a goleddwyd gan y ddynoliaeth. Cymeradwyodd gyfrol Karen Armstrong  A History of God. Y mae amrywiaeth safbwyntiau yn yr Hen Destament ei hun – mae cryn wahaniaeth rhwng Duw milwrol y llwyth yn llyfr y Barnwyr, a’r neges am Dduw ‘i oleuo’r cenhedloedd ‘ yn Eseia.

Dyfynnodd sylwad gan Karen Armstrong “Rhaid i bob cenhedlaeth greu ei hamgyffrediad dychmyglawn ei hunan o Dduw”.

  • Bu’r Groegiaid yn estyn at syniad o Dduw pellennig sydd yn ‘bod’ ond nad yw’n  arddel perthynas o unrhyw fath â ni.
  • Y syniad o Dduw  fel ‘Bod’’ ( hynod o debyg i’r ddynoliaeth) sy’n ymyrryd yn y byd.

Cyfeiriodd at oes yr Acsis  (8fed Ganrif cyn Crist), pryd y bu newid cyfeiriad yn nirnadaeth y ddynoliaeth  yn Israel, Yr India a Groeg.

Meddwl a Dychymyg

  • Aeth Thomos o Acwin  ati i egluro Duw trwy reswm  a chyflwyno 5 prawf o’i  fodolaeth.

Gyda’r Dadeni a’r Diwygiad cafwyd twf newydd mewn gwyddoniaeth a gwybodaeth am y byd ; yr oedd gan Newton gre hyderus mewn Duw nad oedd yn ymyrryd. Duw oedd wedi cychwyn y creu ond yn cadw draw gan adael i Ddeddfau Natur weithio. Awgrymodd bod y dehongliad o’r Beibl sy’n mynnu bod y Beibl yn wyddonol gywir ac yn dibynnu ar ‘ffeithiau’ yn gynnyrch yr aroleuo, lawn cymaint ag ydyw gwyddoniaeth.

  • Traddodiad arall yw’r estyn allan at Dduw mewn dychymyg. Mewn sythwelediad  y cyfrinydd, mewn profiad goddrychol yn arwain at grefydd y galon,  a’r ymwybyddiaeth o’r ‘trosgynnol.’

Darparodd ar ein cyfer nifer o ddyfyniadau o Wordsworth, Pantycelyn, Jung, ac Adler, Waldo a bu llawer o ddychwelyd at wahanol ymadroddion yn Waldo sy’n awgrymu Duw fel ffynnon ddihysbydd greadigol bywyd.

Darlun o’n dyheu am Dduw

 

Gwasanaethu,

Cynorthwyo                            Profi’r

Gofalu                                     dwyfol

Creu

Gwerthfawrogi                                                                                  Undod

Rhyfeddu,

Synhwyro                                                                                            Cydymdeimlad

Myfyrio

Chwarae                                  trosgynnol

Campau                                                                                               Daioni

Dawnsio

Canu

Cymdeithasu                           Dirgelwch                                           Perffeithrwydd

Cymodi

cydweithio

 

 Y DRAFODAETH

Yr oedd y drafodaeth a ddilynodd yn un ddwys a myfyrgar. Dyma rai o’r pwyntiau a wnaed ( nid disgrifiad o drafodaeth.)

DUW-

Grym daionus a chariadus, creadigol a bywiol.  Grym dyrchafol a chreadigol Yn effeithio ar ein perthynas ag eraill. Y mae’r ddynoliaeth yn estyn allan i gyrraedd at rywbeth mwy positif, daionus a pharhaol  Llawer o ddyfynnu Waldo: ‘Nid oes yng ngwreiddyn Bod un wywedigaeth’

“Ehedeg ein Hiraeth’. A oes (Un)a’u deil (ieithoedd y ddynoliaeth) mewn cof a chadw ?

Ann Griffiths – Gwrthrych i’w addoli ( a thestun cân a beri byth

Ysbryd    ‘Y Drefn’   Cariad yn personoli rhinweddau a doniau’r ddynoliaeth yn ffocws o bopeth

da. wedi ei bersonoli. Dyfynnwyd Simone Weil  “pob pechod yn ymgais i lanw gwacter.”

Holwyd

Beth yw addoli (Y Groeg yn golygu agoshau i gusanu)

– Pwy ddaeth gynta, – dyn ynte ‘Duw’.

A fyddai’n beth da i ymatal rhag defnyddio’r enw Duw

Nodwyd

  • Ein syniadau ‘am Dduw’ yn methu dygymod â’r ffaith ein bod yn greaduriaid amser – (ac angau)
  • Rhyw gytundeb bod y gair Duw ei hun yn dramgwydd am nad oes cytundeb ar ei ystyr a dryswch  yn dilyn.

Awgrymwyd enwau eraill ar y Dirgelwch –

  • Yr Arall-Arall.  (cwbl wahanol i’r  duwiau – na soniwyd amdanynt o gwbl!)
  • Yr Wmff (bywiol) sydd yn y cread.

 

Beth yw Duw?

Beth yw Duw?

gan Cynog Dafis

(Papur a gyflwynwyd i Grŵp Cristnogaeth 21 yn Aberystwyth)

Pe baech chi’n gofyn i’r ‘dyn yn y stryd’ beth yw ystyr ‘Duw’ rwy’n tybio, os caech chi ateb o gwbl, mai rhywbeth tebyg i’r canlynol fyddai fe:

‘Bod goruwchnaturiol hollalluog a chariadus a greodd ac sy’n goruchwylio’r byd(ysawd)’

 Meddai John Calfin: ‘Nid oes dim yn digwydd ond drwy orchymyn neu ganiatâd Duw.

Mae’n ddiffiniad sy wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein hymwybyddiaeth. Dyma’n sicr Dduw’r ffwndamentalwyr, a dyma wrthych ymosodiadau atheisitiaid milwriaethus megis Richard Dawkins, AC Grayling a Christoper Hitchins, y mae ganddyn nhw ganlynwyr brwd yn y byd Cymraeg.

O ddarllen Byw’r Cwestiynau a gorchestwaith Karen Armstrong, A History of God, fodd bynnag, mi gawn ni fod y pwnc beth wmbredd yn fwy cymhleth.

Meddai Byw’r Cwestiynau:  ‘Cynigia’r Beibl amrywiaeth o syniadau a delweddau am Dduw’ a ‘Mae cymeriad y Duw y rhown ein ffydd ynddo’n llunio’n cymeriad ni yn unigolion ac fel pobl Dduw’.

O ddarllen The History of God (Karen Armstrong), fel y gwnes i wrth baratoi hyn o lith mi welwn y gwahanol fersiynau o ‘Dduw’ a luniwyd drwy’r oesoedd. Meddai’r awdur, ‘Rhaid i bob cenhedlaeth greu ei hamgyffrediad dychmyglawn ei hunan o Dduw’

Gan ddibynnu’n drwm ar ddadansoddiad Karen Armstrong (KA) rwyf-i am drafod yn fyr rai o’r fersiynau yna cyn dod at ystyron posibl Duw yn y 21fed ganrif a’r cwestiwn sy yn nheitl pennod olaf Karen Armstrong, ‘Oes gan Dduw ddyfodol?’

Dyma ddau fersiwn i gychwyn:

Fersiwn 1: y Duw Pellennig

I’r athronydd Groegaidd Aristoteles, Duw oedd yr Ysgogydd Disygog. Nid Crëwr y byd oedd hwn er y gellid dyfalu i bob peth darddu (’emanetio’) ohono. Doedd ganddo ddim diddordeb yn hynt a helynt dynol-ryw: tragwyddol syllu arno’i hunan oedd ei ddiléit.

I Platon, doedd pethau’n byd ni yn ddim ond cysgodion y byd tragwyddol lle roedd popeth yn berffaith ac yn ddigyfnewid. Y realiti uchaf oedd y Da – fersiwn o Dduw, gellid dadlau.

Serch bod y math yma o Dduw yn bellennig ac yn gyfangwbl y tu hwnt i’n dirnadaeth ni, roedd modd i ddyn ymgyrraedd at y dwyfol drwy ymdrechu i ddeall ac i fyw yn dda, a thrwy arfer defodau crefyddol a allai godi dyn i lefel uwch o ymwybyddiaeth a phrofiad.

Bu dylanwad Aristotles a Phlaton yn enfawr drwy’r canrifoedd ac mae’r syniad o Dduw sy’n gyfangwbl y tu hwnt i’n dirnadaeth yn gyffredin mewn gwahanol draddodiadau, gan gynnwys rhai Cristnogol. Byddai rhai meddylwyr yn awgrymu nad oedd diben yn y byd i ni ddyfalu am natur y Duwdod, heb son am ei fwriadau, ac mai rheitiach peth yw i ni ymroi i fyw’n dda, mewn cytgord â’n cyd-ddyn, a/neu feithrin y bywyd mewnol. Yn nyfnder ein bodolaeth ni ein hunain y gellid dod o hyd i gyfoeth ysbrydol. Datblygodd y Cyfrinwyr ym mhob traddodiad ymarferion corfforol a meddyliol i’r union bwrpas hwn.

Fersiwn 2: Y Duw sy’n Ymwneud â’r Byd

Dyma yw Duw Israel, El neu Iawe, sy’n sylfaenol i’n canfyddiadau ni. Mae’n dduw personol sy’n meddu ar nodweddion dynol ac mae’n barhaus yn ymyrryd mewn hanes

Yn llyfrau Josua, Barnwyr a Samuel, Duw rhyfel yw e – dyna ystyr y term ‘Arglwydd y Lluoedd’. Mae’n eiddigus, yn gwobrwyo ufudd-dod ac ymddarostwng ac yn cosbi anufudd-dod, weithiau’n ddidostur, megis yn hanes arswydus y brenin Saul. Mae’n rhoi buddugoliaeth filwrol a thiriogaeth i’w genedl etholedig, cyhyd â’u bod yn deyrngar iddo, ac yn eu hannog i ddifa’u gelynion yn ddidrugaredd. Does fawr o foesoldeb yn perthyn iddo ac unig wrthrych ei gariad yw plant Israel, ei ddewis bobl

Mae Duw’r proffwydi mawr, er yn dal yn Arglwydd y Lluoedd, yn wahanol iawn. I’r genedl a gafodd ei choncro a’i chaethgludo, doedd yr addewid o fuddugoliaeth filwrol ddim yn tycio. Rhwng y seithfed a’r nawfed ganrif CC, dyma broffwydi megis Jeremeia, y ddau Eseia, Amos a Hosea yn creu darlun o Dduw y mae cyfiawnder cymdeithasol yn ganolog i’w gonsyrn. Mae’n collfarnu gormes ble bynnag y bo, yn tosturio ac yn fawr ei ofal dros y difreintiedig, yn mawrygu heddwch, yn rhagweld dydd pan fydd y cenhedloedd yn byw yn gytûn ac yn diffinio buddugoliaeth yn nhermau dioddef. Mae’r Duw hwn yn dduw i’r ddynoliaeth gyfan.

Mae KA (yn ei llyfr nodedig The Great Awakening) yn gosod y proffwydi yng nghyd-destun Oes yr Acsis (The Axial Age) a welodd ddatblygu moeseg newydd y mae’r egwyddor y dylen ni drin pobl eraill fel y caren ni’n hunain gael ein trin yn ganolog iddi. Yn y Dwyrain roedd Gawtama’r Bwda, a Chonfucius ymhlith y ffigyrau allweddol.

Gwerthoedd y proffwydi mawr a welwn ni yn nysgeidiaeth a bywyd Iesu, fel y manylir ar y rheini yn yr efengylau a’r epistolau. Nhw yw hanfod Cristnogaeth.

Yma wrth gwrs rydyn ni’n dal gyda’r Duw sy’n ymyrryd yn y byd. Yn wir, mae’r Duw hwn yn dod i’r byd, yn ymgnawdoli, syniad sy’n ganolog, er nad yn unigryw, i Gristnogaeth. Honnodd rhai o feddylwyr Islam fod Dyn Perffaith a oedd yn amlygu nodweddion y dwyfol i’w gael ym mhob cenhedlaeth. Fe welen nhw Muhammad mewn termau felly, er na fuasai hwnnw yn honni’r fath beth. (Yn ôl yr athronydd Moslemaidd Luria, roedd Duw yn anghyflawn heb ddynion – roedd arno fe angen eu gweithredoedd da a’u gweddïau). Ganrifoedd wedi ei farw, dyrchafodd ei ddilynwyr Gautama i’r un math o statws.

Rheswm v Dychymyg

1 Duw Rheswm

Drwy’r canrifoedd, ac yn enwedig dan ddylanwad athroniaeth gwlad Groeg, bu dadlau ynghylch dichonoldeb darganfod, a phrofi bodolaeth Duw, drwy reswm. Cynigiodd Thomas o Acwin bum prawf i fodolaeth Duw.

Cyrhaeddodd y dynesiad yma’i anterth gyda’r Chwyldro Gwyddonol a’r Goleuo o’r 16ed ganrif ymlaen.  Mynnodd Isaac Newton fod ei theori e’n profi bodolaeth Duw, yr Ysgogydd Cyntaf nad oedd modd esbonio bodolaeth y bydysawd hebddo ond nad oedd yn ymyrryd dim yn ei Greadigaeth wedi iddi ddod i fod. Roedd Pantycelyn yn gyfarwydd â syniadau gwyddonol Newton ac yn Golwg ar Deyrnas Crist roedd Pantycelyn yn dilyn yr elfen gyntaf ac yn bendant iawn yn gwrthod yr ail.

Barn KA yw i Gristnogaeth y cyfnod deimlo dan bwysau i i’w chyfiawnhau ei hun yn nhermau rheswm a ffeithiau gwrthrychol.

 

Erbyn y 19fed ganrif roedd syniadau Newton am yr Ysgogydd Cyntaf yn dechrau ymaddatod, ond fe ddaliodd y meddylfryd hwnnw ei dir, yn rhyfedd ddigon yn y mudiad Ffwndamentalaidd, sydd ar y naill law yn ymwrthod â llawer o ddarganfyddiadau gwyddoniaeth ac yn mynnu ar yr un pryd drafod diwinyddiaeth yn nhermau prawf a thystiolaeth wrthrychol. Mae’r ymwrthod ag Esblygiad a’r gefnogaeth i Ddyluniad Deallus er mwyn esbonio natur a lle dyn ynddi yn enghraifft berffaith o hynny.

 

Yn yr 19fed ganrif fe ddaeth atheistiaeth yn gredadwy am y tro cyntaf. Cyn hynny, beth bynnag y gwahanol fersiynau o Dduw, roedd ffaith ei fodolaeth i’w gweld yn ddiamheuol. Roedd atheistiaid yr oes newydd ar y llaw arall yn dadlau (i) nad oedd angen y cysyniad o Dduw i esbonio’r bydysawd a (ii) nad oedd modd cysoni Duw daionus â natur y bydysawd hwnnw. I lawer o Iddewon achosodd pogroms Dwyrain Ewrop ac yna’r Holocost ei hun argyfwng cred sylfaenol ac ymwrthod â’r syniad o Dduw.

 

2. Duw’r Dychymyg

Yn y traddodiad yma, iaith dychymyg, myth, symbol, trosiad a sythwelediad sy’n briodol wrth son am Dduw. I KA profiad goddrychol, nid cyfres o ddaliadau am wirioneddau gwrthrychol, yw crefydd. Iddi hi, adeiladwaith symbolaidd yw Duw, rhan o ymdrech dyn i wneud synnwyr o’r byd a rhoi ystyr i fywyd. Nid esbonio yw pwrpas crefydd ond dysgu dygymod ag anawsterau a’u goresgyn, i lawenhau mewn gorthrymder, i gyfoethogi bywyd a’i gael yn helaethach.

 

Dyrchafwyd yr olwg yma ar Dduw yn rhan o’r adwaith yn erbyn Rhesymiadaeth er enghraifft yn y Diwygiad Methodistaidd ac hefyd yng ngwaith beirdd Rhamantaidd Lloegr megis Wordsworth a Coleridge. Iddyn nhw roedd y dychymyg yn gallu canfod presenoldeb Duw ym mhob peth. Uwchlaw Abaty Tindyrn canfu Wordsworth

 

‘A presence that disturbs me with the joy

 Of elevated thoughts; a sense sublime

Of something far more deeply interfused

Whose dwelling is the light of setting suns,

And the round ocean and the living air’

 

Gwahanol ac eto tebyg yw profiad Pantycelyn

 

‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell

Amdanat bob yr awr

Tyrd, fy anwylyd, mae’n hwyrhau

A’m haul bron mynd i lawr’

 

Gwelodd yr 20fed ganrif, yn sgîl y syniad bod y Duw goruwchnaturiol ‘wedi marw’, ymdrechion i’w ailddiffinio mewn termau newydd.

 

I rai, adeiladwaith symbolaidd i gynrychioli’r gwerthoedd aruchelaf oedd E. Roedd Alfred Adler yn derbyn ‘mai tafluniad yw Duw ond yn credu iddo fod o gymorth i ddynoliaeth, symbol disglair o ragoriaeth’. Felly hefyd Hermann Cohen: ‘syniad wedi’i ffurfio gan feddwl dyn, symbol o’r delfryd moesegol’. I Bloch, ‘y delfryd dynol na ddaeth o fod eto’ oedd Duw. (dyfyniadau gan KA)

 

 Datblygodd eraill y syniad o Dduw, nid fel rhywbeth ‘allan fanna’ ond fel gwreiddyn Bod. Dyna weledigaeth Jung, Paul Tillich, John Robinson, Esgob Woolwich, yn Honest to God, JR Jones yn Ac Onide ac wrth gwrs Waldo Williams:

 

‘Nid oes yng ngwreiddyn Bod un wywedigaeth,

Yno mae’r rhuddin yn parhau.

Yno mae’r dewrder sy’n dynerwch,

Bywyd pob bywyd brau.’

 

Yn gysylltiedig â hynny ail-ddarganfuwyd y weledigaeth oesol o Dduw yn bresennol yn undod pob peth, yn enwedig undod y ddynoliaeth. Waldo Williams eto:

 

‘Mae rhwydwaith dirgel Duw

Yn cydio pob dyn byw:

Cymod a chyflawn we

Myfi, Tydi, Efe.

 

Mae’n gwerthoedd ynddo’n gudd,

Ei dyndra ydyw’n ffydd:

Mae’r hyn fo’n gaeth yn rhydd….

 

Cymod a chyflawn we

Myfi, Tydi, Efe,

A’n cyfyd uwch y cnawd…’

 

 

Mae KA yn cyfeirio at syniad Lonergan sy’n apelio’n arbennig ataf i. Mae’r dwyfol i’w ganfod, meddai fe, yn ymdrech dyn i wthio ffiniau deall sy’n golygu ei fod yn codi uwchlaw, neu’n ei ‘drosgynnu’, ei hunan.  Ond i fod yn berthnasol i ragor nag elît deallusol, mae angen cymhwyso syniad Lonergan i feysydd eraill yng ngweithgarwch dyn. Pa le bynnag y gwelir dyn yn ymgyrraedd y tu hwnt i’w gyfyngiadau naturiol, wrth ofalu, wrth chwarae, wrth greu, wrth werthfawrogi, wrth fyfyrio, wrth weithio – mae’r rhestr yn un hirfaith – gellid dweud bod dyn yn ymgyrraedd at y dwyfol. Hanfod crefydd meddai KA yw’r ymdeimlad o barchedigaeth sy’n ymgodi ynon ni pan syllwn ni ar ddirgelwch bywyd.

Y cwestiwn, i gloi, yw p’un a yw’r gair ‘Duw’ yn addas ar gyfer y diffiniadau arbrofol hyn. Neu a ddylen ni am y tro roi seibiant i’r gair?

Beth yw’r Beibl? Y Drafodaeth

Ddechrau Medi, daeth grŵp Cristnogaeth 21 yn Aberystwyth at ei gilydd i drafod papur gan Enid Morgan. Rydym eisoes wedi cyhoeddi’r papur hwnnw ar y botwm “Erthyglau”  dan y teitl “Beth yw’r Beibl”.

Yma, rydym yn cyhoeddi crynodeb a wnaed gan Cynog Dafis o’r drafodaeth a ddilynodd.

Beth am ymateb i’r cyfan yn Y Fforwm?

1 Cyflwyniad gan Enid Morgan

Bu dylanwad diwylliannol y Beibl yn enfawr: arnon ni yn unigolion ac ar ein cymdeithas, drwy Ewrop gyfan. Dyma ‘stori ffurfiannol fawr’ Gwledydd Cred. Fe’i galwyd yn ‘Air Duw’ a’i weld fel datguddiad anffaeledig uniongyrchol oddi wrth Dduw. Fel y cyfryw daeth i feddu ar awdurdod unigryw.

Mewn oes newydd mae’n bwysig i ni ddeall beth yw natur y Beibl – nid llyfr gwyddoniaeth mohono, na llyfr hanes syml chwaith. Gwaetha’r modd mae rhai credinwyr yn mynnu ei weld yn y termau hynny, a thrwy’r oesoedd bu anghytundebau am wahanol ddehongliadau o’i gynnwys yn achlysur gwrthdaro a rhyfeloedd.

Rhaid i ni heddiw fod yn barod i ailddehongli’r Beibl, yn union fel yr oedd yn arfer gan yr Iddewon ailddehongli’n barhaus, yng ngoleuni eu profiad ac yn wir weithiau ailysgrifennu, eu hysgrythurau nhw, sef ein Hen Destament (HD) ni. Mae’r ffordd yma o weld a gwneud pethau yn groes i’r syniad o ganon, sef rhoi sêl bendith swyddogol ar set o ysgrifeniadau, eu gosod rhwng cloriau parhaol a thadogi arnyn-nhw awdurdod unigryw a therfynol.

Proses greadigol gan fodau dynol oedd cyfansoddi llyfrau’r Beibl, nid cofnodi yr hyn a ddatguddiwyd iddyn-nhw gan Fod goruwchnaturiol.

Oherwydd camddealltwriaeth o’r hyn yw’r Ysgrythurau, ac yn enwedig o weld enghreifftiau o Dduw fel petai’n cyfiawnhau ysgelerderau, ymateb llawer yw taflu’r cyfan naill ochr fel peth diwerth. Ond nid yr un peth yw portreadu drygioni (realiti diamheuol yn hanes y ddynoliaeth) a’i gyfiawnhau.

Wedyn yn achos gwyrthiau’r Iesu, mae camddeall eu natur yn peri i un garfan eu cymryd fel prawf o dduwdod yr Iesu a charfan arall yn eu diystyru fel celwydd noeth. Rhaid holi beth oedd natur y cofio ac amcan a chyd-destun ail adrodd y stori

Rhaid i ni fynd ati i ddehongli Beibl mewn ffordd newydd, megis y ‘ôl-fodernwyr’, sy’n chwilio am y themau sy’n gweu drwy’r gwahanol destunau.

2 Trafodaeth Agored

Gofynnwyd beth oedd arwyddocâd y gair ‘sanctaidd’ sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r Ysgrythur. [Cymh ‘Y Beibl Cysegr-lân]

Cynigwyd amrywiaeth o atebion:

  • ei fod oddi wrth Dduw
  • ei fod wedi’i fendithio/ awdurdodi /cefnogi gan Dduw
  • ei fod yn bur, yn dda, yn ddaionus (megis yn ‘Yr Ysgrythur Lân)

Roedd pawb (?) yn gwrthod y syniad bod y Beibl o darddiad dwyfol – geiriau bodau meidrol sy yn y Beibl.  Serch hynny yn eiriau gan bobl oedd mewn perthynas â Duw, er mor fregus ac amherffaith oedd eu hamgyffred o’r dwyfol

Gofynnwyd pa un a oedd unrhyw awdurdod yn honiadau’r Beibl yn rhagor na’r eiddo ee Einstein. Nodwyd ei fod yn gynnyrch nad unigolion yn unig sy’n siarad ond cymdeithasau a chymuned cyfain dros ganrifoedd lawer.  Yr ymateb gan rai oedd nad oedd dim, a bod darganfyddiadau Einstein ynghylch natur y bydysawd yn fynegiant aruchel o ymdrech y ddynioliaeth i ddarganfod y gwirionedd, lawn cyn bwysiced â dim sy yn y Beibl. Teimlai eraill nad yw’r gymhariaeth felly o wirioneddau mor wahanol yn fuddiol o gwbl.  Ein profiad o wirionedd Beiblaidd yn dod yn brofiad i ni sydd yn rhoi iddo awdurdod ( y geiriau’n troi’n Gair).

Roedd amryw yn ddrwgdybus beth bynnag o’r syniad o awdurdod y Beibl, gyda’i awgrymiadau o ofn, gwaharddiad a’r cyhuddiad o bechod. Roedd y syniad o fynnu pwer dros yr unigolyn yn annerbyniol i amryw. Ystyr Cristnogaeth, meddai un, oedd galluogi’r unigolyn i adeiladu’i ddealltwriaeth a’i gredo ei hunan, gan ddefnyddio’r dychymyg i amgyffred gwirioneddau’r Beibl.  Y Beibl yw’r ddogfen bwysicaf a fedd y ffydd.

Datganodd un ei bod yn gweld rhan fawr o’r Beibl, yn enwedig yr HD, yn gwbl amherthnasol, yn wir yn annerbyniol, i ni heddiw. Awgrymodd eraill bod yr Hen Destament yn allweddol er mwyn deall y Testament Newydd (TN).  Yn wir roedd neges Iesu i raddau helaeth yn tarddu’n uniongyrchol o’r eiddo rhai o’r proffwydi mawr. Mae awduron y TN yn cyfeirio’n barhaus at yr HD. Nododd un arall mai gwerth llyfrau megis Josua, y Barnwyr, Samuel etc, sy’n portreadu Duw awdurdodus, cosbol a dialgar, yw ein galluogi ni i weld datblygiad y syniad o Dduw o’r cyntefig i’r goleuedig, a’r darlun o Dduw cariadus, cyfiawn a thosturiol yn dod i’r fei yn syniadau’r proffwydi a dysgeidiaeth Iesu.

Roedd amryw yn pwysleisio’r ffordd y mae moesoldeb wedi datblygu dros amser: ee ein hagwedd at gaethwasiaeth, menywod a hoywon. Dadleuwyd gan rai bod modd olrhain llawer o’r datblygiadau yma i ddysgeidiaeth Iesu ac yn wir y traddodiad Iddewig a oedd yn ei hanfod yn pwysleisio rhyddid oddi wrth gaethwasiaeth. Ar y llaw arall roedd Cristnogaeth ar adegau, yn enwedig drwy ei bod yn cael ei chysylltu â grym gwladwriaethau, wedi gweithredu yn gwbl groes i ddysgeidiaeth Iesu. Un enghraifft o hyn oedd yr erledigaeth erchyll ar Iddewon gan Gristnogion.

Codwyd y cwestiwn; beth yw gwreiddyn cydwybod? Mae penderfynu beth sy’n foesol yn aml yn gymhleth ac yn anodd.

Gosodiadau Cadarnhaol: Beth yw’r Beibl?

(Cafodd y grŵp fwy o drafferth gyda’r adran yma na’r un blaenorol! Dyma rai awgrymiadau, gyda sylwadau mewn italics. Pwysleisiwyd nad un llyfr mo’r Beibl ond casgliad o lyfrau, a bod y canon sy gyda ni yn adlewyrchu barn y sawl a’i diffiniodd ar un adeg mewn hanes)

1 ‘Trysor sy’n cynnig cyngor doeth ar gyfer ein byw ni heddiw’

am rannau o’r Beibl yn unig y mae hyn yn wir

            mae’n bwysig ein bod ni’n gwrthod rhai syniadau, megis eiddo awdur y Barnwyr, fel rhai cwbl

annerbyniol

 2 ‘Ymdrech dynion drwy’r oesoedd i fynegi gwirionedd sydd y tu hwnt i eiriau’

gan gadw mewn cof gyfyngiadau iaith

 3 ‘Casgliad o ysgrifeniadau sy’n olrhain perthynas y genedl Iddewig, ac yna’r Cristnogion cynnar, â Duw’

4 ‘Llyfr sy’n darlunio datblygiad y syniad o Dduw: o’r cyntefig i’r goleuedig, o’r awdurdodus-ddialgar i’r cariadus-dosturiol.’

5 ‘Trafodaeth drwy wahanol gyfryngau (stori, barddoniaeth, proffwydoliaeth) ar nifer o themâu allweddol: Caethiwed a rhyddid; alltudiaeth a dychwelyd; pechod a maddeuant (Byw’r Cwestiynau); grym a dioddefaint; bod o blaid yr erlidiedig’

Atodiad: Parhau’r Drafodaeth

Dyma rai gosodiadau awgrymedig pellach gan Cynog, yn benodol ynghylch y TN. Tybed a fyddai eraill am ychwanegu at y rhestr?

6 ‘Ymdrech gwahanol awduron i ddehongli bywyd, marwolaeth ac ‘atgyfodiad’ Iesu Grist, yn bennaf yng ngoleuni syniadau’r HD’

7 ‘Casgliad o lyfrau sy’n datgan ffordd newydd o fyw yn seiliedig ar gariad, heddwch, cyfiawnder i’r difreintiedig, a maddeuant/tosturi/cydymdeimlad, sef Teyrnas Nefoedd’

8 ‘Ymdrechion i ddisgrifio effaith weddnewidiol bywyd a dysgeidiaeth Iesu’

9 ‘Datblygiad ar yr agweddau mwyaf blaengar yn y traddodiad Iddewig, gan bwysleisio bod ‘Teyrnas Nefoedd’ ar gael i holl blant dynion’

BETH YW’R BEIBL? – Enid R. Morgan

Ddechrau Medi, daeth grŵp Cristnogaeth 21 yn Aberystwyth at ei gilydd i drafod papur gan Enid Morgan. Yma, rydym yn cyhoeddi’r cyflwyniad hwnnw, ond yn dilyn fe welwch erthygl arall sydd yn grynodeb a wnaed gan Cynog Dafis o’r drafodaeth a gafwyd. Beth am ymateb i’r cyfan yn Y Fforwm?

Yr wythnos diwethaf  yr oedd Steve Jones y Biolegydd yn annerch yma yn Aberystwyth ar  ‘Y Beibl fel Gwyddoniaeth’ sydd i mi yn swnio mor anfuddiol ag ystyried y llyfr Rhifau Teliffon fel Barddoniaeth. Ar y llaw arall, wrth gwrs, y mae ’na Gristnogion sy’n darllen y Beibl fel awdurdod ar ddaeareg,  bioleg, obstetreg  a chosmoleg  yn  ogystal â moeseg. Ond ni ellir delio ag un math o gamddeall trwy gamddeall tebyg. Wedi’r cyfan rydyn ni wedi arfer meddwl am y Beibl fel Hanes, fel llyfr sy’n dweud storïau am beth ddigwyddodd, a’i fod yn cofnodi digwyddiadau gan ail-adrodd sgyrsiau fel petaent wedi eu recordio. Felly os nad yw’r  Beibl na gwyddoniaeth na hanes , beth yw e?

Ga’i ddweud lle’r ydw i’n sefyll  trwy ddyfynnu gwaith dyn yr ydw i’n edmygu ei waith yn fawr, sef James Alison. Dywed ef mai : “ gwaith y diwinydd Catholig yw, heb rhyw ymddiheuro mawr,  gwneud dau beth – cynnal gwirionedd yr hyn a gredir er mwyn y credinwyr, a chynnig y posibilrwydd o rywbeth tebyg i gallineb i’r rhai heb unrhyw ymlyniad i strwythur cred ffurfiol ….”

‘Rydyn ni felly am ddod at y Beibl mewn ffordd sy’n ddigon parchus o’i bwysigrwydd i gredinwyr, ond heb hawlio statws dwyfol iddo. Rhaid iddo siarad drosto’i hun. Felly rhaid disgrifio natur y cynnwys mor gywir ag y medrwn mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i gredinwyr ac anghredinwyr.

YSGRYTHUR LÂN – Y CYSYNIAD

Y disgrifiad ar ddalen glawr ein hen Feiblau oedd Yr Ysgrythur Cyssegr Lân – Holy Scripture: cyfeirid ato ato gynt fel Gair Duw, datguddiad a mynegiant Duw i bobl Israel yn yr Hen Destament, ac yna i fath o ‘Israel Newydd’ yn y Testament Newydd. Mae hwnna wrth gwrs yn fwy o ddisgrifiad o statws y Beibl nag o’i gynnwys.

Y Beibl fu’n stori fawr ffurfiannol cenhedloedd Ewrop, a llawer o fannau eraill (fel e.e. Ethiopia, yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft, a Rwsia, ) y mae  ar y lefel sylfaenol symlaf yn eithriadol o bwysig fel dogfen ddiwylliannol. Mater arall yw ceisio diffinio beth yw natur awdurdod y Beibl fel datguddiad crefyddol. Mae ‘na stori am faer mewn tref yn Sbaen oedd yn gomiwnydd ond a yrrodd ei blant i ysgol gatholig, oherwydd, meddai,  heb wybod y straeon fyddai’r plant ddim yn deall na barddoniaeth na chelfyddyd eu cenedl.

Y mae cyfieithu’r Beibl o’r ieithoedd gwreiddiol i iaith lafar yn newid statws yr iaith,  fel mae Gwenallt yn dweud,  yn ei gwneud yn  ‘un o dafodieithoedd y Drindod. Mae’n rhoi urddas a lliw newydd i iaith. Gyddom am bwysigrwydd y Beibl i’r Gymraeg a’r Saesneg. Yn achos yr Hen Slafoneg cyfieithu’r Beibl a roddodd wyddor i’r iaith. Y mae’r Beibl yn aml yn gam ymlaen i llythrennedd mewn cymdeithas.

Ar lefel ddyfnach y mae stori cenedl Israel yn dod yn stori pob cenedl,  a’r daith trwy’r anialwch yn ddrych o anhawsterau grwpiau  ethnig o bob math. ‘Does yna felly ddim dadl am bwysigrwydd diwylliannol y Beibl yn ein hanes. Beth sy’n bwnc dadlau newydd yw nid ei statws ond ei gynnwys ac ystyr  hwnnw fel ffynhonnell rhyw fath o wirionedd all fod yn berthnasol a gwneud synnwyr i feddylfryd newydd  yr unfed ganrif ar hugain.

Mae lle i ofni bod cenhedlaeth o ysgolheigion Gymraeg ifanc yn codi sy’ ddim yn gyfarwydd â straeon Abrham na Noa, na Moses na Job nac erioed wedi gwrando ar na Salm na phroffwydoliaeth. Nid eu bai hwy yw hynny. Ond y mae’n arwydd o newid gêr diwylliannol  ebrwydd sy’ wedi digwydd gyda’r colli ffordd ysbrydol a theithio lle nad oes prif-ffordd nac awdurdod,  a barn un person cystal â barn unrhywun arall. ( Mae mynegi’r peth felly yn fy nodi i bron fel un o oes Fictoria.)

Ond y mae’r Beibl wedi llunio ein dychymyg a’n deall ni. Os yw cam-ddeall yr Ysgrythur wedi ei lurgunio a’i ddysgeidiaeth wedi ei wyrdroi, yna mae angen darganfod pam a sut. Oherwydd y mae dealltwriaeth newydd o’r Beibl, y ddau Destament wedi bod yn allweddol i’r ail lunio diwinyddol a ddigwyddodd i’r ffydd mewn gwahanol gyfnodau o’n hanes. Y mae amgyffred Illtyd a Dewi o’r ffydd, yn wahanol iawn i amgyffred Gerallt Gymro, i‘r person rhyfeddol a ysgrifennodd bedair cainc y Mabinogi, i’r Esgobion Richard Davies a William Morgan, i Forgan Llwyd, i John Roberts y merthyr Catholig, i William Morris a Lewis Morris ( nid amlwg am eu duwioldeb) i Daniel Rowlands ac eraill.  I wahanol genedlaethau y mae’r Beibl yn llefaru gyda gwahanol acenion ac y mae eu hamgyffred o hanfod y ffydd yn newid .

Bu i’r Eglwys gadw dehongli’r Beibl yn gyfrifoldeb clerigol am ganrifoedd,  gan ofni ( a hynny’n berffaith ddilys) y byddai gadael i’r annysgedig  ddarllen y Beibl yn arwain at anghytuno ac ymrafael. Ac felly y bu!   Dilynwyd y Diwygiad Protestanaidd a’r Gwrthddiwygiad Rhufeinig at ganrifoedd o ymladd rhwng tywysogion yn arddel gwahanol fersiynau o’r ffydd. Y mae cam ddarllen y Beibl, ( a bu llawer o hynny)  a symud y sylfeini diwinyddol  yn creu dirgryniadau gwleidyddol a seicolegol.

Felly nid peth bychan dibwys yw medru gwahaniaethu rhwng  agwedd  rhywun o oes Hywel Dda, i agwedd oes y diwygiad, oes y  ddeunawfed ganrif a’n hagweddau ni heddi. Y mae’n byd ni heddiw mor wahanol , ein hamgylchiadau, ein technoleg, ein cyfathrebu  mor chwyldroadol fel bod ein hagwedd tuag at yr ysgrifeniadau hyn yn dal yn allweddol. Gall brawddegau sy’n gwneud synnwyr perffaith i mi swnio’n gwbl ddiystyr i eraill. Ac wrth ail ddehongli ystyr y Beibl yr ydyn ni’n parhau un o arferion mwyaf nodweddiadol yr Iddewon . Bu’r Iddewon yn ail ysgrifennu eu llyfrau deddf a hanes yn ôl eu profiadau mewn gwahanol ganrifoedd.

Y mae yn llawysgrifau  Lindisfarne, a llawer o lawysgrifau eraill ddarluniau o’r Efengylwyr, -darlun er enghraifft o Fatthew yn ysgrifennu ar femrwn eiriau dwyfol y mae ef yn eu clywed.

Y mae’r geiriau yn eiriau Duw ei hun yn ogystal â bod yn “Air Duw”! Y mae’n  rhoi awdurdod enbyd i beth sydd ar y memrwn – a hynny mewn ffordd nad yw’n cyfateb mewn unrhyw ffordd ddealladwy am sut y mae pobl yn ymddwyn, yn dysgu, yn cyfathrebu â’i gilydd.

Y mae’n dealltwriaeth ni o sut y daeth y Beibl i fodolaeth  yn ein gorfodi  i ystyried  bod y testun wedi dod atom trwy glustiau, meddyliau, rhagfarnau, diwylliannu tra gwahanol i’w gilydd.  Un o effeithiau darllen sgroliau’r Môr Marw a rhai eraill yw canfod mor gymhleth  ac enbyd oedd y gweryl rhwng Iddewiaeth a’r ffydd newydd- y naill yn dehongli Iesu gyda meddyliau a luniwyd gan yr ysgrythurau Hebreig, a’r lleill wedi eu dychryn gan ddiwinyddiaeth newydd  a pheryglus iawn .

Y mae stori dehongliadau o’r Beibl  yn ddiddorol ynddi ei hun. Mae anhawsterau’n gynnar, ond gyda datblygiad  gwyddoniaeth o’r Aroleuo ymlaen y mae’r bwlch rhwng ffaith wyddonol a gwirionedd Beiblaidd yn ehangu. Gyda datblygiad beirniadaeth hanesyddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg  y mae’r ffyddloniaid  yn dueddol o ymffurfio’n amddiffynnol i awdurdod y gair a rhyw anffaeledigrwydd sy’n ysgyrnygu at ffeithiau gwyddonol. Y mae hefyd yn rhoi llwyth amherthnasol ar gefn straeon nas bwriadwyd erioed i fod yn ‘ffeithiau’.

Ateb y gwyddonol eu tuedd  sy’n gredinwyr yw byw mewn dau fyd, math o feddwl hollt. Yn wyneb hynny y mae eraill yn lluchio’r cwbl ymaith fel hen lyfr nad oes a wnelo ddim â’n canrif ‘oleuedig’. Gyda’r sylfeini yn crynu felly ymateb y ceidwadol yw dychwelyd at y diogel a gwadu fel petai bod unrhyw broblem yn bod. Y mae’r Beibl yn Air Duw  yn llythrennol; wiw i neb herio na holi; yr ystyr syml arwynebol a ddeil, a balchder dynol yw awgrymu unrhywbeth arall. Ond y mae hynny’n codi pob math o anhawsterau. Ac y mae’r ceidwadol yn gywir wrth ystyried os ydych chi’n dechrau herio un darn, yna mae modd herio’r cwbl! Mae hynny’n wir ac y mae hynny i lawer yn ddychryn.

I mi y peth hanfodol ydi deall beth sy’n gwneud yr ysgrythurau Iddewig a Christnogol  yn wahanol i ysgrythurau sanctaidd yr Hindw a’r Moslem a’r Groegwr a’r Sikh.  Hynny yw eu cynnwys.  Beth yw Myth? Beth yw Hanes? Beth yw stori symbolaidd?  A oes lle i hawlio bod eu neges yn hanfodol  wahanol, yn cynnig dehongliad o’r ddynoliaeth sy’n  unigryw, a ydi’r weledigaeth yn ddatguddiad o natur y ddynoliaeth yn ogystal âg o natur y Dwyfol

Cymerwn er enghraifft  stori Iesu’n cerdded ar wyneb y môr. Gall un math o feddwl crefyddol dderbyn y stori’n syml fel stori i brofi mai Duw ydoedd ac y gallai wneud beth a fynnai . (I ba amcan  wyddom ni ddim). Y mae’r feirniadaeth hanesyddol modern sy’n dweud fod y peth yn amhosibl a bod yr hanes yn un twyllodrus a hyd yn oed diystyr.  Ond rydyn ni ( er efallai na wyddech chi ddim am hyn) yn Ôl-fodernwyr sy’n gallu holi, beth yw ystyr y stori hon, i ba bwrpas y dehonglwyd rhyw ddigwyddiad yng ngoleuni rhyw ddyfyniad arall o’r Hen Destament.  Mae’r Ôl-fodernwyr, y rhai ceidwadol a rhyddfrydol eu cefndir yn dechrau mynd ati o’r newydd y tu hwnt i ffeithiau hanesyddol i ddarganfod gwirioneddau  newydd yn y testun ac i  glywed llais sy’n gyfarwydd ac anghyfarwydd yn siarad â ni.

Y mae’r Ôl-fodernwyr yn chwilio’n hytrach am themâu sydd o bwys i’r ddynoliaeth, yn edrych ar y Beibl fel cynnyrch/tystiolaeth pobl ar daith mewn perthynas â’r trosgynnol, a’u dealltwriaeth hwy o beth oedd yn digwydd. Yr oedd y ddealltwriaeth honno,  weithiau’n gamddealltwriaeth go enbyd, yr oedd y ddynoliaeth fach hon yn methu cadw at y ddelfryd ac yn bodloni ar rywbeth llai. Beth sy’n fy nghalonogi i yw bod yna ysgolheigion  a dehonglwyr erbyn hyn yn ein helpu i  gloddio ystyron llachar yn llawn syndod a her. (Brueggeman, Tom Wright, Walsh & Keesmat,  James Alison , Rene Girard ac eraill.)

‘Rwy wedi sylwi’n ddiweddar  sut, yn yr Efengylau, y mae Iesu’n gwrthod ateb cwestiynnau twp. Mae e naill ai’n ateb cwestiwn arall, neu’n holi cwestiwn nôl,  ac weithiau’n dweud y drefn.   “ Nid ydych yn deall yr ysgrythur nac yn deall meddwl Duw” meddai wrth y rhai oedd yn credu eu bod yn arbenigwyr ar y pwnc.

Dyna felly lle ‘rwyf i’n sefyll – ond amcan y grŵp yma ydi medru rhoi lle diogel i fynegi amheuon, i  holi’n gilydd, i herio hyd yn oed, ond i wneud hynny’n  barchus – a gwrando ar ein gilydd  gan wybod mai peth anodd ydi hyn i gyd.  Dyma James Alison eto. Diwinydda ydi :

Llafur trwm llusgo’n deallusrwydd ystyfnig trwy bigau a drain ein hunan dwyll er mwyn dod â phob meddwl, pob cerpyn o falchder deallusol yn garcharor gerbron Crist,(2 Cor. 10:5) gan aredig rhyw ystyr allan o bridd sych a diffrwth.( Living in the End Times t.15)

Erthygl Aled Jones Williams

Dyma i chi gerdd i fyfyrio arni hi:

‘The Birds of the Air’

I’m vague about their names-

laziness, yes, but also a wish

to keep them free. Isn’t it enough

to foul their brooks and fields

and flay the high trees with our floodlights

without this last assault of language?

I limit myself

to the one thing I know

that they were light

(the word splits on a prism,

revealing them luminous, weightless

and all tones between).

 

I learnt this as a child

in the little yard behind the chapel

where I would be sent with the leftover bread.

When I stepped out from the cool, screened interior

 

they were waiting in the sunshine.

They glittered in the branches

while I crumbled the host and scattered it

among the weeds and broken paving.

 

 

Jean Sprackland yw’r bardd. A daw’r gerdd o’i chasgliad diweddaraf ‘Sleeping Keys’.

Cyfyd ei theitl o’r adnod yn Mathew: ‘ A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediad y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.’

Mae’n gerdd grefyddol. Un o’i themâu pwysicaf yw natur iaith crefydd. ‘Rwy’n annelwig am eu henwau’ dywedir wrthym. Hwyrach mai diogi am beidio gwybod yr enwau yw hyn? Ond, na! ’Rwyf am eu cadw yn rhydd, meddai’r bardd. Oherwydd caethiwo a lleihau y mae unrhyw enw. Y mae hyn yn ein hatgoffa am ddymuniad Moses i gael enw gan y Trosgynnol. A chael yn hytrach y tawtoleg ‘’YDWYF YR HWN YDWYF’’. Yr annelwig os bu unrhyw beth erioed! A chawn ryfeddod y toriad yn y llinell (line break)-‘Onid yw’n ddigon/Isn’t it enough’. Yr annelwig sy’n ddigon, wrth gwrs heb straffîg a lleihad enwi.

Wedyn y chwarae ar ystyr y gair ‘foul’-‘aderyn’ a ‘maeddu’. Geill iaith faeddu’r hyn y mae’n taer geisio ei ddisgrifio. Teimlwn ddicter y bardd yn sŵn y gair ‘flay’ cyn cyrraedd sioc y gair ‘floodlights’-y goleuni cras, egr sy’n cael ei daflu’n hyll ar y creaduriaid delicet  hyn. Dyma ‘gyrch iaith’- yr ‘assault of language’.

Onid yw hyn yn ddisgrifiad cysáct o’r hyn sy’n digwydd yn y byd crefyddol heddiw? Mynnu diffinio, mynnu tomen o eiriau a’r geiriau hynny yn tywyllu yn hytrach nag egluro. Yn y bôn camddefnydd o iaith yw hanfod ‘ffwndamentaliaeth’. Mae iaith crefydd yn debycach i ddull barddoniaeth o drin iaith: awgrymu nid dweud, delweddu nid disgrifio, geiriau sy’n ffenestri nid waliau, ar hytraws nid ‘yn fy wyneb’. Math ar farddoni yw’r crefyddau i gyd.

‘I limit myself’ , meddai’r bardd mewn tor-linell effeithiol arall, cyn mynd rhagddi i ddweud: ‘to the one thing I know/ that they are light’.

Onid oes rhyw amharodrwydd syfrdanol yn y byd crefyddol cyfoes i ‘limit myself’?  Teimlaf ar brydiau mai gwybod y cyfan y mae rhai ac na chlywsant erioed am ‘o ran y gwyddom’ Paul. Ni faliwn fawr am hyn oni bai ei fod yn chwalu bywydau pobl eraill: crintachrwydd llawn sicrwydd  rhai eglwysi tuag at hoywon a pharodrwydd rhai crefyddau i chwythu pobl yn smiddarîns oherwydd mai hynny yw ‘ewyllys duw’ neu fod y peth-a’r-peth ‘yn ‘Y Beibl’- mae’r ddeubeth hyn, a phethau gwrthun eraill, ar yr un continuum, gyda llaw. ‘Un peth a wn’, meddai’r bardd. Ie, ‘un peth’! Nid degau o bethau, cannoedd ohonynt. Mae’r hyn a wyddom yn grefyddol yn ychydig iawn. Trwy gil y drws a thrwy gornel fy llygaid, drwy’r caddug ac o hirbell y gwelaf. A pham, tybed, iddi italeiddio’r gair light? Oherwydd mai gair ydyw nid goleuni ei hun. Geiriau am dduw sydd gennym, nid Duw. Mi gawn gerdded pont y geiriau ond peidiwn fyth a meddwl fod y bont honno’n medru cyrraedd yr ochr arall. Mae’n stopio gan adael gagendor ac affwys. Mae iaith crefydd yn ei hanfod yn dyllau i gyd. Fe feddyliech fod iaith crefydd rhai yn focs o haearn!

Wedyn cawn gan y bardd linellau mewn cromfachau. Pam? Swildod iaith, tybed?. Ofni dweud efallai ac felly gosod y ‘dweud’ hwnnw mewn parenthesis? Mae’r gair light yn chwalu i ddatguddio -ac o! revealing, sylwer-yr adar luminous, weightless/ and all tones between. Bron iawn nad ydynt yno. Bron iawn fod y geiriau luminous a weightless yn eu diffodd. Fedrwn ni ddim cweit weld y naill beth na’r llall na’u teimlo. Gwyddom eu hystyron ond rhywsut nid ydynt yn peri gweld. Ac am all tones between,  rydych yn gorfod crafu pen i wybod beth yn union yw’r  tones hyn. Mae’r annelwig – y vague cychwynnol yn ôl. Ond annelwig tebyg i rywun yn ceisio disgrifio bod mewn cariad ydyw: fe ŵyr ond mae trio disgrifio’n strach. O! na fyddem yn grefyddol yn cofleidio’r annelwig a’r gwybod sy’n methu’n lan a dweud beth yn hollol a ŵyr. Mae Duw yn drech na geiriau. Mae sicrwydd crefyddol yn cuddio ansicrwydd mawr bob tro. Tynnwch fricsan o wal y ffwndamentalydd ac fe gwymp y wal.

A’r diwedd? I learnt this as a child . Ond nid tu mewn i’r capel sylwch ond oddi allan yn yr iard gefn lle roedd yr adar yn aros – waiting. Fan honno mae hi’n briwsioni’r bara sbâr and scattered it/ among the weeds and broken paving. Ymhlith y chwyn a’r pafin toredig y mae’r datguddiad yn digwydd nid yn y disgwyliadwy crefyddol saff a gloyw. Mm! Efallai er mwyn darganfod Duw eto fod yn rhaid i ni roi heibio popeth a wyddom – Beibl, capel, eglwys, gweinidogaeth, dogma, Cristionogaeth ei hun. Eu briwsioni a’u gwasgaru i ganol y chwyn a’r pethau toredig. Sy’n gwneud i mi feddwl am linellau gan fardd arall – W.B. Yeats y tro yma: Now that my ladder’s gone/ I must lie down where all the ladders start,/ In the foul rag-and-bone shop of the heart. Hynny’n ddychryn pur i nifer ohonom dwi’n siŵr. Ond yn y fan yna mae hi dwi’n meddwl  oherwydd bellach mae’r ysgolion cyfarwydd gynt i gyd wedi mynd. ( A dyna dric arall ffwndamentaliaeth efengylaidd: cogio bach fod yr ysgolion yn dal yna, yna’n gyfan.) Ac onid hyn yn y bôn yw gwir ystyr Ffydd? Ymollwng ac anwybod ac ymddiried.