KAREN ARMSTRONG

Karen Armstrong

Clywsoch yr enw mae’n siŵr. Fe’i crybwyllwyd unwaith neu ddwy o’r pulpud, ac amryw o weithiau yn y Cwrdd Eglwysig ar nos Iau. Nid yw’n cyfri’i hunan yn ddiwinydd; ni chafodd unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn diwinyddiaeth, ond fe’i cyfrifir hi yn un o’r sylwebyddion mwyaf blaenllaw yn y byd ar faterion crefyddol. Pan oedd hi yn ei harddegau fe deimlodd ryw angen ysbrydol, ac fe ymunodd ag urdd o leianod.

fea-armstrong21-Fields of Blood author Karen Armstrong shown in Toronto, Ontario, November 19, 2014.  (Aaron Harris/Toronto Star)

Karen Armstrong

Fe gyhoeddodd gyfrol yn cofnodi’i phrofiadau yn ystod y cyfnod hwn, Through the Narrow Gate. Fe aeth trwy’r graddau o hyfforddiant, ac yna fe’i hanfonwyd i leiandy yn Rhydychen, ac ymuno â choleg St. Anne’s yno i astudio Llenyddiaeth Saesneg a’i chymwyso i fod yn athrawes.

 

Ond ‘roedd yna anawsterau. Yn y lleiandy ‘roedd ufudd-dod llwyr a digwestiwn yn hanfodol. Ond yn y coleg disgwylid iddi ffurfio barn, ac amddiffyn y farn honno trwy ddadlau gyda’i thiwtor. ‘Roedd y tyndra yn annioddefol, a rhaid oedd gadael y lleiandy ar ôl saith mlynedd. Fe aeth ymlaen â’i chwrs yn y coleg, ac ennill gradd dda iawn.

Ar ôl gadael y coleg fe ymgymerodd â gwahanol swyddi; edrych ar ôl plentyn anabl, dysgu mewn ysgol fonedd, bod yn diwtor yng ngholeg Bedford, Llundain, ond ‘doedd hi ddim yn teimlo ei bod hi’n llwyddo mewn unrhyw waith. Yn y lleiandy ‘roedd hi wedi dechrau cael problemau iechyd; llewygu a gweld pethau o’i chwmpas yn ddieithr. Cawsai ei chosbi yn y lleiandy o dybio ei bod hi’n ceisio tynnu sylw ati hi ei hun. Yn ddiweddarach fe’i hanfonwyd at seiciatryddion, ond daeth dim gwellhad o’r cyfeiriad hwnnw. Un tro fe gafodd bwl, a’i rhuthro i’r ysbyty. Wedi egluro’r symptomau i feddyg yno fe ddywedodd ei bod hi’n dioddef o temporal lobe epilepsy, ac fe resynai nad oedd yr un meddyg cyn hynny wedi sylweddoli beth oedd arni, gan fod y symptomau mor amlwg. Gyda chymorth cyffuriau mae hi ers blynyddoedd bellach yn gallu byw bywyd normal.

Yn nechrau’r 1980’au fe baratodd raglen deledu ar Paul a’i chyflwyno. Erbyn hyn ‘roedd hi’n feirniadol iawn o grefydd gyfundrefnol, ac yr oedd y rhaglen, a defnyddio’i gair hi, yn iconoclastic, er ei bod hi’n edmygu Paul yn fawr. Yn ei barn hi ‘roedd hi wedi llwyddo i ddangos bod athrawiaeth Gristnogol wedi’i thanseilio gan ysgolheictod feiblaidd fodern. ‘Roedd hi’n methu deall bod rhai o’i gohebwyr yn dweud fod y rhaglen wedi bod yn gyfrwng iddyn’ nhw ail-ddechrau mynychu’r eglwys!

Yn 1985 fe ddechreuodd baratoi cyfres o raglenni ar y Crwsadau, ond ni ddaeth y bwriad i ben. Am resymau ariannol a chyfreithiol rhaid oedd gollwng y prosiect, a Karen unwaith eto ar y clwt. Wedi tair blynedd o ymchwilio i’r gwahaniaethau a’r elyniaeth rhwng Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam, mi feddyliodd beth am ymchwilio i’r hyn sy’n gyffredin rhyngddyn’ nhw. A dyma hi’n penderfynu ysgrifennu A History of God. ‘Roedd hi’n anodd iawn dod o hyd i gyhoeddwr – “Another book about God? It’ll never sell”! Ond fe gafwyd un, a dyma ddechrau’r ymchwil a’r ysgrifennu.

Yn 1989 cyhoeddodd Ayatollah Khomeini fatwah yn erbyn Salman Rushdie, a Moslemiaid cymhedrol Prydain yn condemnio’i weithred ar waetha’r ffaith fod nofel Rushdie wedi’u brifo nhw i’r byw. Ond fe deimlai hi fod llawer o bobl eraill a oedd yn condemnio’r fatwah yn mynd yn rhy bell o lawer wrth ymosod yn ffyrnig ar Islam gyfan, gan ei galw’n grefydd waedlyd a dweud bod y Koran yn pregethu dial, dychryn a bygwth. Felly fe adawodd A History of God am y tro, ac ysgrifennu bywgraffiad o Mohamed, gan geisio rhoi Islam yn ei gyd-destun cywir. Fe’i rhybuddiwyd hi na fyddai’r Moslemiaid yn fodlon bod gorllewinwraig yn ysgrifennu’r llyfr, ond fe gafodd dderbyniad gwresog ganddyn’ nhw, ac fe ddyfarnwyd gwobr arbennig iddi ganddyn’ nhw yn ddiweddarach.

Yna yn ôl at A History of God. Ac fe deimlodd fod y gwaith hwn yn ei newid hi.history-of-god “It changed my life so radically that, if I were a traditional believer, I might be tempted to call it an inspiration.” Ym mhennod olaf ail gyfrol ei hunangofiant, The Spiral Staircase, mae hi’n cofnodi’r profiad hwn. Yno mae hi’n dweud mai credu yn y bod o Dduw yw sylfaen crefydd i lawer iawn o bobl. Ond na. Er mawr syndod iddi fe ddarganfu fod rhai o brif ddiwinyddion a chyfrinwyr Iddewig, Cristnogol a Mwslim yn pwysleisio nad ffaith wrthrychol yw Duw, nid bod arall, nid realiti anweledig. Yn ôl rhai ohonynt mae’n well dweud nad yw Duw yn bod, am fod ein syniad ni am fodolaeth yn rhy gyfyng mewn perthynas â Duw. Llawer ohonynt yn dweud nad oedd Duw yn ddim byd, am nad ydym yn gynefin â’r math hwn o realiti. Mae’r realiti a alwn ni yn ‘Dduw’ yn drosgynnol; hynny yw, y mae tu hwnt i unrhyw uniongrededd dynol, ac eto fe ellir cael profiad ohono fel presenoldeb yn nyfnder ein bod.

quote-armstrong

Mae hi wedi crynhoi ei hargyhoeddiad yn y dyfyniad hwn o un o’i herthyglau (a dydw’ i ddim am ymddiheuro am ei ddyfynnu yn y Saesneg gwreiddiol): “All the great world faiths insist that the crucial test of any theology or spiritual practice is that it results in practical compassion. If your vision of God makes you kind, patient and selfless, it is good theology. If it makes you bigoted, self-righteous, contemptuous of other people’s faith or dismissive of others, it is bad theology. But I have come to believe that compassion is more than a test of faith. It is itself creative of a sense of God…..First we live compassionately and only then will we glimpse the Sacredness that gives meaning to our lives.”

‘Rwy’n cario’r dyfyniad hwn yn fy mhoced bob amser, oherwydd, i mi fel i Karen Armstrong, dyma hanfod crefydd. ‘Roedd ymchwilio ac ysgrifennu’r llyfr yn dwyn rhyddhad mawr iddi. ‘Doedd ryfedd ei bod hi wedi’i chael hi’n amhosibl i ‘gredu’ yn Nuw. ‘Doedd ryfedd fod ei hymdrechion i orfodi’i hunan i mewn i ‘ffydd’ ddim ond wedi arwain at seithugrwydd, amheuaeth a blinder. ‘Doedd ryfedd nad oedd wedi cael profiad o’r Duw hwn mewn gweddi. Byddai rhai o’r cyfrinwyr gorau wedi dweud wrthi y dylai greu ei darlun ei hunan o Dduw, yn hytrach na disgwyl wrth Dduw i ymateb iddi hi. Fe all y Duw personol weithio i bobl eraill, ond ‘doedd ‘ef’ ddim wedi gwneud dim byd iddi hi. ‘Roedd y cyfan o ddiwinyddiaeth y Gorllewin wedi’i nodweddu gan ddibyniaeth anaddas ar reswm yn unig ers y chwyldro gwyddonol yn yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ganrif ddilynol. ‘Roedd disgyblaethau mewnfodol fel mytholeg a chyfriniaeth wedi’u gollwng o’r neilltu. “This was the cause of many of the religious problems of our day, including my own.”

case-for-godMae hyn yn ein harwain at ei llyfr The Case for God. Mae’n debyg ei bod hi wedi’i symbylu i ysgrifennu hwn fel ateb i ysgrifeniadau anffyddwyr digymrodedd fel Richard Dawkins a’i debyg. Yn sicr mae hi’n eu beirniadu’n llym, ac yn dangos mor gyfyng yw eu dealltwriaeth o grefydd. Fedran’ nhw ddim meddwl ond mewn ffordd wyddonol, ac o edrych ar grefydd felly yn unig mae lle i gytuno â llawer o’u beirniadaeth. Ond nid mater o wyddoniaeth a rheswm yw crefydd, ac y mae Karen Armstrong wedi gwneud cymwynas fawr trwy ddangos beth yw crefydd mewn gwirionedd, a pha mor hanfodol yw gwir grefydd i fodau dynol.

Mi garwn i argymell i bawb ddarllen y llyfrau a nodais, ynghyd â llyfrau eraill o’i heiddo megis The Great Transformation (hanes dechreuadau crefyddau mawr y byd) a The Bible, a Biography, yn ogystal â nifer o gyfrolau llai. Mae ei harddull yn rhwydd ac yn bleser i’w ddarllen, ond yn bwysicach na hynny mae hi’n dangos ffordd amgen, yn enwedig i’r rhai hynny ohonom sy’n cael fod Cristnogaeth draddodiadol yn anodd, os nad yn amhosibl, i ni ei gredu.

(Traddodwyd yn Eglwys y Crwys, Caerdydd, Rhagfyr 2009, ac fe’i cyhoeddwyd yn Y Gadwyn, cylchgrawn yr eglwys, Mawrth 2010)  

tedBeth amser wedi imi baratoi’r uchod fe dynwyd fy sylw at y ffaith fod Karen Armstrong wedi derbyn gwobr gan gwmni o Galiffornia gyda’r bwriad o’i gwneud yn bosibl iddi wireddu breuddwyd. ‘Roedd y wobr yn ariannol werthfawr – $100,000, ond yn fwy na hyn ‘roedd hi’n bosibl iddi ddefnyddio peirianwaith gweinyddol y cwmni i’w helpu i gyrraedd ei huchelgais. Fe wyddai ar unwaith sut yr oedd hi am ddefnyddio’r wobr. ‘Roedd hi , fel ninnau, yn gweld y diffyg tosturi yn ein byd sy’n arwain at gasineb a thrais, a chrefydd, ysywaeth, yn cael ei ystyried fel rhan o’r broblem. Felly fe ofynnodd i’r cwmni ei helpu i greu, lansio a hyrwyddo Siarter Tosturi wedi’i lunio gan feddylwyr blaenllaw o wahanol grefyddau ac a fyddai’n adfer tosturi i galon bywyd crefyddol a moesol.

Byddai’r siarter yn gwrthwynebu lleisiau eithafiaeth, anoddefgarwch a chasineb. Byddai hefyd yn dangos fod crefyddau, ar waethaf eu gwahaniaethau, yn gytûn ar hyn, a’i bod yn bosibl i bobl grefyddol ymestyn ar draws y rhaniadau a gweithio gyda’i gilydd dros gyfiawnder a heddwch. Cyfrannodd miloedd o bobl dros y byd i siarter drafft ar wefan amlieithog mewn Hebraeg, Arabeg, Urdu, Sbaeneg a Saesneg. Cyflwynwyd eu sylwadau i Gyngor Cydwybod, grwp o unigolion arbennig o chwech o grefyddau: Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, Hindwaeth, Bwdhïaeth a Chonffiwsiaeth. Cyfarfu’r bobl hyn yn Y Swistir yn Chwefror 2009 i lunio’r fersiwn terfynol.

SIARTER TOSTURI

Y mae egwyddor tosturi wrth wraidd pob traddodiad crefyddol, moesol, ac ysbrydol, yn ein galw bob amser i drin pawb arall fel y dymunwn ni’n hunain gael ein trin. Y mae tosturi yn ein symbylu i weithio’n ddiflino i liniaru dioddefaint ein cyd-greaduriaid, i ddiorseddu’n hunain o ganol ein byd a rhoi arall yno, ac i barchu cysegredigrwydd cyflawn pob bod dynol, yn trin pawb, yn ddieithriad, gyda chyfiawnder, tegwch a pharch absoliwt. Y mae hefyd yn angenrheidiol mewn bywyd cyhoeddus a phreifat i ymatal yn gyson ac yn empathetig rhag peri poen. Y mae gweithredu neu siarad yn dreisgar o ran malais, siofiniaeth neu hunan-les, achosi tlodi rhywun, camddefnyddio neu wadu hawliau sylfaenol i unrhyw un, ac achosi casineb trwy ddifenwi eraill – hyd yn oed ein gelynion – yn gwadu ein dynoliaeth gyffredin. ‘Rydym yn addef ein bod ni wedi methu byw yn dosturiol a bod rhai hyd yn oed wedi ychwanegu at drallod dynol yn enw crefydd. ‘Rydym felly yn galw ar bob un • I adfer tosturi i ganol moesoldeb a chrefydd • I fynd yn ôl at yr hen egwyddor fod unrhyw ddehongliad o ysgrythur sy’n magu trais, casineb neu ddirmyg yn gwbl annerbyniol • I sicrhau fod pobl ieuainc yn cael gwybodaeth fanwl gywir a pharchus am draddodiadau, crefyddau a diwylliannau eraill • I annog gwerthfawrogiad positif o amrywiaeth ddiwylliannol a chrefyddol • I feithrin empathi deallus â dioddefaint pob bod dynol – hyd yn oed y rhai a ystyrir yn elynion. Y mae’n rhaid inni frysio i wneud tosturi yn rym clir, golau a deinamig yn ein byd rhanedig. Os ydym yn benderfynol o greu egwyddor sy’n codi uwchlaw hunanoldeb, fe all ein tosturi dorri trwy ffiniau gwleidyddol, dogmatig, ideolegol a chrefyddol. Y mae tosturi sy’n codi o’n cyd-ddibyniaeth ddofn yn angenrheidiol i gysylltiadau dynol ac i ddynoliaeth gyflawn. Tosturi yw’r ffordd i oleuedigaeth, ac y mae’n anhepgor wrth greu economi gyfiawn a chymuned fydeang heddychlon.

Erbyn hyn mae’r Siarter wedi ymledu drwy’r byd i gyd, gan esgor ar weithgarwch enfawr mewn amryw feysydd. Ewch i wefan y Siarter (www.charterforcompassion.org) i gael gwybod yn union beth sy’n mynd ymlaen. Arni hefyd fe gewch gyfle i weld a chlywed araith Karen Armstrong wrth iddi dderbyn y wobr, araith gwerth ei chlywed.

I gyd-fynd â lansio’r Siarter fe ysgrifennodd Karen Armstrong lyfr, Twelve Steps to a Compassionate Life. twelve-steps-book-cover-largeA dyna’n union yw cynnwys y llyfr, arweiniad mewn deuddeg cam tuag at fyw bywyd tosturiol. Mae rhai o’r camau hyn yn rai cyfansawdd, ac y mae’r awdur wedi rhoi pob un mewn cefndir hanesyddol a chyd-destun priodol. Mae’r safon yn uchel, bron na ddywedwn i yn amhosibl o uchel, yn enwedig pan ddywed yr awdur nad rhywbeth i gyrraedd ato unwaith ac am byth ydyw, ond yn hytrach rhywbeth i gadw ato bob amser drwy’n bywydau.

Ond onid yw hynny’n wir am ddysgeidiaeth foesol Iesu yn yr efengylau? Mae’r cwestiwn yn codi sut y dylem ni ymateb i’r delfrydol; ai ei roi o’r neilltu fel rhywbeth hollol anymarferol, ynteu edrych arno fel safon i anelu ato, ar waethaf y ffaith na fyddwn ni byth ond odid yn ei gyrraedd. Mae’r trydydd pwynt yn peri peth syndod efallai: tosturiwch wrthych chi’ch hunan. Unwaith y byddwch chi wedi teimlo gwir dosturi atoch eich hunan, mi fyddwch chi’n gallu ei estyn i eraill. Ar ddiwedd y bennod ar y chweched cam fe ddywed wrthym i ystyried ar ddiwedd y dydd a ydym wedi cyflawni’r tair gweithred y mae’r bennod honno yn gofyn amdanyn’ nhw. Os na fu inni lwyddo, yna fe ddylem dosturio wrthym ein hunain, gwenu’n ysmala am y methiant, ac addunedu i wneud yn well yfory.

Mor wahanol yw hyn at ddysgeidiaeth y Gristnogaeth draddodiadol fod methiant fel hyn yn bechod, a bod yn rhaid cael maddeuant amdano o’r tu allan. Mae’r Siarter Tosturi yn ymgais glodwiw i geisio cael gwared ar y casineb, yr hunanoldeb a’r trais sydd yn rhemp yn ein byd. A fydd e’n llwyddo? Mae lle i amau, gan gofio mor gryf yw greddfau hunanol pobl. Ond hyd yn oed o edrych arno fel delfryd, a llwyddo’n rhannol, fe fydd hyn yn help mawr i wneud ein byd yn lle gwell i fyw ynddo.

Delwyn Tibbott

(Traddodwyd yn Eglwys y Crwys, Caerdydd, Rhagfyr 2012, ac fe’i cyhoeddwyd yn Y Gadwyn, cylchgrawn yr eglwys, Rhagfyr 2012)

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA  i adael sylw.