Deugain o flynyddoedd yn ôl pan oedden ni newydd symud i Geredigion i fyw, fe fuon ni’n cadw, ymhlith casgliad o greaduriaid eraill, bâr o wyddau. Roedd ganddon ni ymhen ychydig fisoedd hanner dwsin o gywion gwyddau oedd yn dipyn o sbri. Ond gwae ni – a gwae fwy iddyn nhw. Fe ddechreuodd bob unohonyn nhw wanychu a buon nhw farw bob un. Roedd yr achlysur yn ddigon o ddychryn i beri i ni yrru un corpws bach pluog i’r labordy yn Aberystwyth.
A’r ateb oedd plwm. Yr oedd cymydog o ffermwr heb ystyried y canlyniadau wedi cymeryd llwch a cherrig oddiar un o’r tomenni sbwriel sy’n frith ar hyd a lled Gogledd Ceredigion, ac wedi ei wasgaru ar hyd nifer o lwybrau ar ei dir. Bu’r hen wydde druain yn pori’r llwch a hwnnw wedi eu lladd. Dyna i chi un enghraifft fach o sut y bu i weithiau mwyn, er iddyn nhw gynnal bywydau teuluoedd y fro, hefyd drwy ddifaterwch, wenwyno sawl cenhedlaeth o blant, ac nid dim ond cywion gwydde. Mae ‘na wenwyn cemegol, ac mae na wenwyn diwylliannol hefyd yn ein difa ni ac yn codi’r dincod ar ddannedd y plant.
Sut felly mae dod i ben, gwella pethau ? Mae na lawer o sôn am y bwyd sbwriel, junk, sy’n cael ei roi i blant ac yn achosi tewdra peryglus am ei fod yn llawn saim, siwgr a halen. Ryn ni’n creu sbwriel, bwyta sbwriel, meddwl sbwriel. Gwnawn ein gorau i fod yn aelwyd gydwybodol yn trin gwastraff. Ac fe fyddai’n arswydo i weld faint o bapur sy’n mynd trwy’r tŷ. Mae esgyrn cywion a physgod yn mynd i’r bag bwyd, a phlicion tatw nôl i wneud compost yn yr ardd, ond y mae lefel gwastraff yn dal yn boendod wrth ddatod sawl haen o blastic a phapur o gwmpas y siopa.
Ond clywais newyddion da bod y Cyngor Sir wedi bod wrthi’n dawel yn buddsoddi, ac yn cynllunio i arbed trydan. Mae hyn yn golygu prynu lampiau newydd, llosgi gwastraff yn lle glo, nwy ac olew, yn golygu gwario ar inswleiddio a phob dyfais posibl i arbed egni. Roedd hi’n stori eithriadol o obeithiol. Ac mae’n gweithio.
Felly dyma wên o bleser o glywed ei bod hi’n bosibl i lywodraeth wneud gwahaniaeth. Yn Sweden mae 99% o sbwriel yn cael ei ailgylchu a dim ond 1% sy’n mynd i domenydd sbwriel. Nid bod pethau’n berffaith – mae na lawer gormod yn syml yn cael ei losgi. Ond o leiaf ma na ymdrech effeithiol wedi cael ei gwneud gan ecolegwyr? Faint ohononi sy’n ei gweld yn hanfodol i fywyd glân, cymesur i ofalu am y pethau hyn? Ydi’r efengyl yn golygu bod yn rhaid gofalu am yr amgylchedd? Ydi byw’r efengyl a dilyn Crist braidd yn debyg i dreio trefnu tŷ glân? Mae’n byw ni’n troi gymaint ar brynu, prynu yn yr archfarchnad, prynu ar y we, prynu yn y farchnad ffermwyr, prynu- prynu- prynu. Fe atgoffodd rhywun fi y diwrnod o’r blaen mai cyngor yr Arlywydd Bush i’w bobl ar ôl cyflafan enbyd 9/11 oedd “Ewch i siopa.”
Felly er mai gwahaniaeth cymharol fychan fydd aelwydydd unigol yn ei wneud, a bywydau wedi eu canoli ar geisio canlyn Iesu, eto i gyd mae’r cwbl yn rhan o economi teyrnas nefoedd.