E-fwletin Hydref 27ain, 2014

Gallai Cymry sy’ wedi bod yn poeni ers blynyddoedd am y mewnlifiad Seisnig i’r fro Gymraeg wenu’n gam wrth weld y Saeson hwythau’n mynd i banig ynglyn â mewnfudwyr ac yn chwilio am ffordd i gadw estroniaid allan. A thestun cywilydd yw gweld pleidiau eraill yn magu agweddau Ukipaidd dim ond rhag ofn colli pleidleisiau.

Mae gen i gof mewn sgwrs â Saesnes oedd wedi byw yng nghefn gwlad Cymru ers blynyddoedd yn gofidio am y mewnlifiad a’r newid oedd wedi digwydd yn y 70au. “Still” meddai hi i gysuro’i hun “at least we havn’t got any Pakis.” (Mygais yr awydd sbeitlyd i ddweud “Only white ones”) Mae’r reddf i’w drwgdybio ‘nhw’ yn ddwfn yn y galon ddynol sy’n hoffi bod yn gysurus a diogel ymhlith y ‘Ni’ cyfarwydd.

Ond y mae gelyniaeth at bobl sydd yn wahanol mewn rhyw ffordd yn beth peryglus iawn. Adeg dechrau’r rhyfel byd fe godwyd (gan gyfreithiwr a blaenor yn y dref) dorf elyniaethus i erlid yr Athro Hermann Ethé a’i wraig am eu bod yn Almaenwyr. Athro ieithoedd oedd Hermann Ethé, a roddodd, dros y blynyddoedd, wasanaeth academaidd gwych i’r brifysgol. Yn y xenophobia gwrth-Almaenig a sgubodd Brydain, gan gynnwys y Gymru ymneilltuol, cyhuddwyd Ethé, ymhlith pethau eraill, o eistedd yn ffenest ei dŷ gyda’i wraig yn yfed stein o gwrw. Doedd ganddo ddim awydd ymgreinio gerbro rhagfarnau lleol. Buasai hynny’n ddoniol ond fod yr erlid wedi llwyddo, a’r hanes yn dal yn destun cywilydd yn Aberystwyth.

Felly gofal piau hi wrth amddiffyn ein hunain yn erbyn dieithriaid. Yr oedd yn orchymyn pendant ar bobl Dduw yn yr Hen Destament i ofalu am y ‘dieithryn’, am eu bod yn ddiamddiffyn, mewn perygl cyson o gael eu herlid. Yr oedd gofalu am y “gweddwon, plant amddifaid a’r dieithriaid” yn rhan o natur Duw ac yn rhan o alwedigaeth ei bobl. Ond mater o ofn a dicter i’r Ukipiaid fyddai myfyrwyr ifanc sydd yn gweithio mewn bwytai yn “dwyn” swyddi myfyrwyr ‘Prydeinig’. Ble mae’r rheini, ‘dwn i ddim! Pleser pur yw codi sgwrs â nhw, clywed eu stori, darganfod ambell un sy’n dysgu’r Gymraeg . Mae’n rhan o fwrlwm y byd cyfoes lle mae poblogaethau (fel erioed) yn llifo i wahanol gyfeiriadau. Y mae UKIP eisiau cadw pethau fel yr oedden nhw mewn rhyw oes a fu. Beth amdanom ni, Gymry?

Y gwir yw bod pobl Israel wedi ystyried eu hunain yn ddieithriaid eu hunain ac yn nghanrifoedd cynnar yr eglwys yr oedd y gair ‘sojourner’ yn gysyniad pwysig yn nealltwriaeth y Cristnogion o bwy oedden nhw. Buasai’r syniad o eglwysi cenhedlig yn arswyd yr adeg honno yn enwedig i’r sylwebydd hwnnw a ysgrifennodd at gyfaill o’r enw Diognetus i ddisgrifio sut rai oedd y ‘Cristnogion’ bondigrybwyll.

Trigant yn eu mamwlad, ond fel pererinion. Cyfranogant ym mhob peth fel dinasyddion; a dioddefant bopeth fel estroniaid. Mamwlad yw pob tir estron iddynt, a phob tir estron yn famwlad….. Mewn gair yr hyn yw’r enaid mewn corff, dyna yw Cristionogion yn y byd.

Dyna i chi asgwrn i gnoi arno…