E-fwletin Tachwedd 3ydd, 2014

Pa Wahaniaeth?

Gyda thymor newydd y Cymdeithasau Diwylliannol a Dosbarthiadau Llenyddol wedi ailddechrau yn ystod yr hydref, mae’n siŵr bod yna lawer wedi bod yn trafod cynnwys Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Llanelli ddechrau Awst eleni.  Un o’r cyfansoddiadau a ysgogodd drafodaeth frwd mae’n debyg yw awdl fuddugol Ceri Wyn Jones ar y testun ‘Lloches’, a hynny nid yn unig oherwydd y Saesneg a’r rhegi a geir ynddi! Un agwedd ar yr awdl sydd wedi aros gyda mi, ac yn arbennig i bwrpas yr e-fwletin hwn, yw’r ddelwedd o Gastell Aberteifi fel ‘lloches’. Mae’r castell, cartref yr Arglwydd Rhys ‘slawer dydd, ar ganol cael ei adnewyddu ar hyn o bryd gyda nifer o noddwyr wedi eu tynnu ynghyd i ariannu’r prosiect. Holi a wna’r bardd ar ddiwedd y gerdd, beth yw’r ots os mai sefydliadau estron, neu rhai sydd ddim yn perthyn i stabal gwladgarol/cenedlaetholgar, sydd yn noddi’r gwaith ar y castell? Mae’r bardd yn cyfeirio’n benodol at Gronfa Adnewyddu Tywysog Cymru. I fwyafrif cenedlaetholwyr yr hanner can mlynedd diwethaf byddai nawdd gan unrhywbeth yn gysylltiedig â Thywysog Cymru tuag at gartref un o hen dywysogion Cymru yn taro’n chwithig iawn. Ond os yw’r gwaith yn cael ei wneud, a’r castell yn cael ei adfer i’w hen ogoniant, cwestiwn y bardd yw, ‘Pa wahaniaeth?’ Tra bydd y trafod ar gerdd Ceri Wyn yn parhau, hoffwn fenthyg y syniad a’i ystyried mewn cyd-destun crefyddol.

Ro’n i mewn cyfarfod yn ddiweddar yn trafod cenhadaeth yr eglwys, ac yr oedd hi’n amlwg bod trefnwyr y genhadaeth dan sylw yn credu bod yn rhaid derbyn mai Iesu Grist oedd yr ‘unig ffordd at Dduw’ ac mai ‘dod â phobl i ffydd’ oedd bwriad sylfaenol cenhadaeth. Mi fyddai’r dehongliad yna o genhadaeth yn cyfyngu ar werth a dilysrwydd cyfraniad unrhyw unigolyn neu fudiad nad oedd yn dal wrth yr amodau uchod. Byddai cefnogwyr y genhadaeth honno yn sicr yn herio’r cwestiwn ‘Pa wahaniaeth?’ yn y cyd-destun yma. Ond o ystyried mai gwaith yr eglwys yw hyrwyddo dyfodiad Teyrnas Dduw ar y ddaear onid oes yna werth a dilysrwydd i gyfraniad pobl o wahanol safbwyntiau o fewn y ffydd Gristnogol, yn ogystal â rhai o gredoau eraill a rhai heb ffydd?

‘Pa wahaniaeth’ pwy sydd yn rhan o’r ymdrech i hyrwyddo byd o heddwch a chyfiawnder, lle mae cyfle i bawb i ymgyrraedd tuag at eu posibliadau? Mae croeso i chi adael eich ateb chi i’r cwestiwn ‘Pa wahaniaeth?’ ar y Bwrdd Clebran.

Cofion

Cristnogaeth 21