E-fwletin Tachwedd 10, 2014

“Coch a Gwyn
Bob diwedd hydref, mae gorfodaeth goch
y gwleidyddion tyner a’r corfforaethau croch
yn pwyntio bys at lapedi moel:
‘Lle mae dy gefnogaeth? Lle mae dy goel?’
Blodau’r cynhaeaf piau’r awr
i gofio am fywyd wasgarwyd ar lawr
a hwnnw’n gynhaeaf mor naturiol ar gae
â’r cynhaeaf sy’n dilyn aredig a hau.

Ond blodau gwyn, blodau’r gwynt,
blodau’r drain o boptu’u hynt:
bechgyn Ebrill oedden nhw gynt.

Felly mi ddaliaf wrthyn nhw’n dynn:
blodau gwanwyn, blodau gwyn:
dim ond petalau yw’r hogiau hyn.”

Dyma un o gerddi Myrddin ap Dafydd o’i gyfrol ddiweddaraf ‘blodau gwanwyn, blodau gwyn’. Y pabi sydd dan sylw yma a’r ‘orfodaeth’ i wisgo’r un coch yr adeg yma o’r flwyddyn rhag diodde gwg y ‘pwyntio bys at lapedi moel’.

Yn y nodiadau cefndir a ddaw gyda’r cerddi yn y gyfrol cawn wybod mai’r ‘ysbrydoliaeth a gysylltodd y pabi coch â chofio am filwyr a gollwyd yn y Rhyfel Mawr yn wreiddiol yw cerdd Cyrnol John McCrae – ‘We Shall Not Sleep’ (a ailenwyd yn ddiweddarach yn ‘In Flanders Fields’). Cafodd ei chyfansoddi yn 1915 ac mae propaganda erchyll y rhyfel imperialaidd honno yn cael ei hadleisio yn y llinellau clo:
“Take up our quarrel with the foe:
To you from falling hands we throw
The torch; be yours to hold it high.
If ye break faith with us who die,
We shall not sleep, though poppies grow
In Flanders Field.”

Dal ati i ymladd y frwydr i’r eithaf – dyna neges y gerdd. Nid heddwch, nid rhoi’r gorau i ladd a dinistrio – ond ymdynghedu i ddal ati i ryfela a bod hynny’n arwydd o barch at y milwyr a gollwyd drwy ryfela.

Ond fel yr awgryma’r gerdd mae’n arferiad bellach gan rai i goffáu colledion rhyfel trwy wisgo’r pabi gwyn – arfer a dechreuwyd yn 1933 gydag Urdd y Merched. Er mai lleiafrif bychan sy’n arddel y pabi gwyn mae yna gosyrn cynyddol ynghylch y ffordd y caiff rhyfeloedd eu coffau. Mae’r cofio wedi tueddu i ogoneddu a dathlu rhyfela yn gyffredinol. (Beirniadwyd y Tywysog Charles yn ddiweddar am ei ran yn dadorchuddio maen coffa yn ninas Cartagena yn Colombia i anrhydeddu ciwed nad oedd yn ddim gwell na môr-ladron a anfonwyd gan Brydain ym 1741 i gipio rhai o borthladdoedd y Caribî a oedd ym meddiant Sbaenwyr ar y pryd).

Ond â hithau’n ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf eleni, mae rhai yn ceisio newid pwyslais ‘Sul y Cofio’. Gelwir ar eglwysi i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth am y pabi gwyn a’i arwyddocâd, ac i’w gwneud hi’n haws cael hyd iddo yr adeg yma; i gynnwys mwy o edifeirwch ac ymdeimlad o warth a gwrthuni rhyfel mewn seremonïau cofio; ac am ymrwymiad taerach i hyrwyddo dulliau heddwch a chymod mewn byd sy’n dal i weld rhyfel fel y ffordd i ddatrys problemau rhwng gwledydd.

Talcen caled fydd cael y maen i’r wal ond diolch am bwniad ambell gerdd fel hon i’n deffro ni o’n cwsg cydymffurfiol a’n herio ni i wneud mwy na siarad am heddwch.

Croeso i chi ymateb i’r neges hon ar y Bwrdd Clebran.