E-fwletin Tachwedd 17eg, 2014

Oes ystyr i eiriau caneuon bellach?
Mae eistedd yn Stadiwm y Mileniwm am yr hanner awr yna cyn gȇm ryngwladol yn brofiad digon difyr ar y cyfan, yn bennaf efallai oherwydd y cyffro sydd ynghlwm wrth ddisgwyl pethau mawr i ddod. Yn anffodus, yn amlach na pheidio, dyw’r disgwylgarwch ddim yn cael ei wireddu’n llawn, ond mater arall yw hynny, ac mi fyddwn yn dal i edrych ymlaen yn llawn gobaith y tro nesa, a’r tro nesa wedyn.
Ond pendroni ynghylch geiriau’r caneuon oedd yn cael eu canu gan y cȏr cyn y gȇm oeddwn i. Cymysgedd digon rhyfedd o ganeuon a dweud y gwir, ac ambell i emyn yn rhan o’r gymysgfa. Mae “Cwm Rhondda” bellach wedi newid o fod yn gȃn grefyddol i fod yn anthem rygbi, a’r geiriau wedi cael eu herwgipio gan gamp y bȇl hirgron, a threfniant o’r alaw yn cael ei chwarae dros yr uchelseinyddion i godi’r hwyl yn yr eiliadau yn union cyn y gic gyntaf. Ac y mae’r geiriau “Bread of Heaven, feed me till I want no more” rywsut wedi eu hystumio i olygu “dowch o’na hogia, sgoriwch gais neu ddwy arall i’n digoni”. (Ac o ddarllen yr hysbysfyrddau yn y stadiwm, gwelaf fod Hybu Cig Cymru hwythau wedi neidio ar y wagen: “Welsh Beef – Bred in Heaven”) Mae “Calon Lȃn” hefyd ar y fwydlen, ond doedd dim llawer o waith troi honno yn gȃn seciwlar (“Nid wy’n gofyn bywyd moethus” ? Choelia’i fawr!).
Mae awdur geiriau “Yma o Hyd” yn rhyw led-obeithio fod honno wedi ei chynnwys ar y rhaglen am fod yna rithyn o genedlaetholdeb yn perthyn iddi o hyd, ond go brin y dylai golli cwsg dros y mater. Ond y gȃn y mae angen gofyn o ddifri a ddylai hi gael ei chydnabod fel hyn yn ein prif arena cenedlaethol yw “Delilah”. Y cysylltiad Cymreig wrth gwrs yw iddi gael ei recordio gan Tom Jones, a dyna’r unig Gymreictod a berthyn iddi. Ond ydech chi erioed wedi ystyried y geiriau? Stori ddigon syml – gweld Delilah ym mreichiau dyn arall, a chnocio ar ei drws yn y bore a’i thrywanu i farwolaeth. Wel, chwarae teg i’r creadur, roedd hi’n sefyll yn y drws yn chwerthin am ei ben! (“Forgive me Delilah I just couldn’t take any more”). Ddylai hon, mewn difri, gael ei chanu o flaen pob gȇm ryngwladol, rhwng dau emyn?
Ond ydi geiriau caneuon – neu hyd yn oed emynau – yn cyfri unrhywbeth bellach? A dyma ddod a ni’n daclus at ddadl ddiddorol iawn yn yr “Observer” heddiw parthed y priodoldeb o ail-recordio cȃn “Band-Aid” i godi arian i leddfu bygythiad Ebola. Mae Ian Birrell, sefydlydd “Africa Express” yn dadlau bod arian “Band-Aid” yn gallu gwneud mwy o ddrwg na lles, ac yn parhau’r cysyniad o Affrica fel cyfandir o bobol ddiymadferth sy’n dibynnu ar gardod y gwledydd cyfoethog. Pa wirionedd bynnag sydd yn hynny, mae dwy ochr y ddadl yn gytun bod geiriau’r gȃn wreiddiol “Do they know its Christmas?” yn hynod o nawddoglyd tuag at y “nhw” anwybodus. Gallaf yn sicr gadarnhau, o’r ychydig wythnosau a dreuliais i yn Ethiopia, bod trigolion y wlad honno yn llawer mwy ymwybodol o arwyddocad y Nadolig na’r mwyafrid llethol o drigolion Prydain. Ynghanol eu tlodi mawr, mae eu ffydd yn aruthrol, ac yn ffynhonell llawenydd na fedrwn ni yn ein digonedd ei amgyffred yn hawdd.