Annwyl Selogion Cristnogaeth 21,Go brin bod unrhyw neges E-Fwletin erioed wedi cael yr un sylw ag y cafodd ein neges yr wythnos diwethaf, ac fel y gwyddom i gyd erbyn hyn, yr awdur oedd Dafydd Iwan. Cafodd ei neges sylw ar Golwg 360 a bu’n siarad ar Radio Cymru ar fwy nag un achlysur.
Dewis Dafydd ei hun oedd datgelu mai ef oedd yr awdur. Ein polisi yn Cristnogaeth 21 yw cadw enw’r awdur yn gyfrinachol oni bai y bo’r awdur ei hun yn fodlon datgelu’r enw.
Felly…. dyma neges awdur yr wythnos hon:
Roeddwn yn cynnal oedfa mewn capel yn y Fro Gymraeg yn ddiweddar; bore braf, pentre dymunol yr olwg a chapel hardd mewn cyflwr da ar y cyfan. Roeddwn yno am y tro cyntaf, ac am y tro olaf ysywaeth, gan fod y capel yn cau ddiwedd y flwyddyn hon. A’r rheswm? “Methu fforddio ei gadw ar agor”. A dyna ni, gweithgaredd Cristnogol ffurfiol pentre arall yn dod i ben, a’r gynulleidfa fach yn rhannu mae’n debyg rhwng dau gapel mewn pentrefi cyfagos, neu’n rhoi’r gorau i fynychu oedfa yn gyfangwbl. Canolfan gweithgarwch cymdeithasol Cymraeg ers cenedlaethau arall yn cau, heb brotest gyhoeddus o fath yn y byd, ac heb sylw mae’n debyg yn y cyfryngau lleol. Diwedd cyfnod, diwedd ffordd o fyw, a dyna hi.
Ai fel hyn y bydd hi bellach yng nghefn gwlad Cymru? Gweld traddodiad Cristnogol a diwylliannol Cymraeg yn cyflym ddadfeilio a darfod, heb brotest na gwrthwynebiad, a gwaeth fyth, heb unrhyw gynllun amgen yn ei le? O ystyried dylanwad pell-gyrhaeddol y traddodiad hwn ar fywydau cynifer ohonom, mae’n syfrdanol meddwl y gall y cyfan ddarfod mor ddi-ffrwt a di-galon o fewn llai na chenhedlaeth arall.
Wrth gwrs, dyw’r darlun ddim mor ddu ȃ hynny ym mhobman, ond y mae yna her fawr yn wynebu ein cymunedau gwledig. Yn ein canolfannau mwy poblog, mae digon o Gymry Cymraeg i ymgynnull i roi gwedd newydd ar bethau, i ail-wampio’r festri, i ddod a syniadau newydd am wersi’r Ysgol Sul a ffurf oedfaon. At ei gilydd, mae’n bosib dweud mai stori o adfywio yw hi yn rhai o’n prif drefi a dinasoedd. Ond yng nghefn gwlad, mae’n bryd inni feddwl o ddifri am grynhoi ein hadnoddau ac ad-drefnu ein lleoedd o addoliad.
Fel un oedd yn gryf o blaid uno’r enwadau, rwy’n derbyn bellach fod ein ceidwadaeth gynhenid fel Cymry wedi rhoi’r ergyd farwol (am y tro beth bynnag) i’r freuddwyd honno. Felly nid mater o ddileu’r enwadau yw hi bellach ond cael aelodau’r gwahanol enwadau i gydnabod realiti’r sefyllfa, a dod at ein gilydd mewn un lle. Cawn gadw at ein traddodiad enwadol os mynnwn, ond o leia gallwn ymdrechu i gytuno ar un man addoli – ac os nad oes un o’r capeli presennol yn addas, yna rhaid addasu adeilad arall i’r pwrpas. A rhaid i’r cyfundrefnau enwadol helpu – mae ganddyn nhw ddigon o arian, a digon o fodd i roi cynlluniau dychmygus ar waith, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Bydd rhaid sathru ar ambell i gorn, a bydd rhaid bod yn barod i dorri ambell i gornel. Ond o’i gymharu ȃ’r dasg anferth a wynebai ein cyndeidiau wrth adeiladu’r rhwydwaith rhyfeddol o gapeli ar hyd a lled ein gwlad, tasg gymharol syml yw hi. Dim ond ewyllys sydd ei angen. A dogn go dda o ffydd, gobaith a chariad.
Pob bendith,
Cristnogaeth 21