E-fwletin Hydref 13eg, 2014

Mae tipyn o waith yn cael ei wneud yn ein hysgolion ar hyn o bryd i geisio datblygu’n plant i fod yn ddysgwyr gwydn. Yn Saesneg, y cysyniad yw “resilient learners”. Mae tipyn o dystiolaeth sy’n awgrymu fod llwyddiant academaidd (ac efallai llwyddiant ehangach mewn bywyd) yn dibynnu ar wytnwch unigolyn gymaint ag y mae’n dibynnu ar ddeallusrwydd. Mae un heb y llall yn gymharol ddi-werth, os am lwyddo.
Rwy’n aml yn teimlo ein bod ni wedi troi’n Cristnogaeth i fod yn un sy’n dibynnu ar “ddeallusrwydd”. Ble mae hyn yn gadael ni yn nhermau gwytnwch? Sut mae lefelau eich dyfalbarhad/resilience/gwytnwch chi ar hyn o bryd? Ydych chi’n gwegian? Mae cymaint o bethau yn ein byd sy’n tanseilio’n gwytnwch.
Twf ISIS yn Syria a thwf ffwndamentaliaeth a chulni Cristnogol yn y gorllewin.

Twf UKIP a’u popiwlistiaeth amheus a’r diffyg arweiniad egwyddorol a roddir gan ein gwleidyddion.

Colli capeli a cholli iaith.

Ebola yn Affrica a’r gofal tila a ddarperir i ddioddefwyr dementia a’u teuluoedd yma.

Cyflwr plant y stryd yn America Ladin a theuluoedd yn dibynnu ar Fanc Bwyd yn ein pentrefi a’n trefi.

Mae cymaint o bethau i wneud i ni wegian. Tra’n bod ni’n gallu insiwleiddio’n hunain oddi wrth rai o’r rhain dros dro, y gwir yw eu bod nhw i gyd yn dod yn llawer rhy agos i’n bywydau beunyddiol ac mae’r wasgfa ar ein psyche yn fyw iawn.

Yng nghanol hyn i gyd, rwy’n tybio fod nifer ohonom yn chwilio am unigolion a grwpiau a all rhoi i ni yr ysfa i ddyfalbarhau ac i ddangos gwytnwch a gwên. Un peth mawr rwy wedi ei werthfawrogi dros y blynyddoedd diwethaf yw cyfraniad rhai o hen bobl ein byd i ansawdd y ddeialog gyhoeddus ar faterion o bwys. Anodd credu fod Desmond Tutu wedi mynd yn uwch ei gloch wrth iddo heneiddio (er na fu erioed yn un amharod ei farn!). Erbyn hyn mae e’n taranu yn gyson yn erbyn hiliaeth, homoffobia, camdrin merched a phatriarchaeth afiach, gormes Tibet a llygredd Jacob Zuma, yn ychwanegol at ei gynllun byd-eang i hyrwyddo sgiliau’r ddynioliaeth mewn maddeuant. Hir oes iddo.

Un arall yn ei hen oed sydd wedi ffeindio ei draed fel lladmerydd cyhoeddus ar faterion o bwys yw’r Cyn Arlywydd Jimmy Carter. Erbyn hyn, mae e’n benben a ffwndamentalwyr ei enwad ei hunan, ac yn ôl bob tebyg yn mwynhau’r ffeit.

Gyda’r boblogaeth yn heneiddio ar draws y byd gorllewinol, mae’n braf gwybod fod dynion oedd yn 83 oed wythnos diwethaf (Tutu) ac un oedd yn 90 oed yn yr un wythnos (Jimmy Carter) yn gosod esiampl dda i ni gyd.

Ond efallai mai testun llawenydd mwya’r wythnos oedd gweld eu hesgidiau yn cael eu llenwi gan genhedlaeth newydd . Rwy’n cyfeirio yn benodol at Malala (17 oed) yn ennill y Wobr Nobel am Heddwch ar y cyd gyda Kailash Satyarthi (60 oed). Haleliwia! Merch foslemaidd ifanc sy’n lledu gobaith a llawenydd wrth iddi gerdded, ac Hindw sydd wedi rhyddhau degau o filoedd o blant o ormes cyflogwyr caethiwus. Diolch amdanyn nhw.

Tra bo cannwyll Tutu a Carter yn dal i losgi’n llachar, braf gweld canhwyllau eraill, o gyfandir Asia yn arwain y ffordd i ni gyd. Her yr wythnos i mi yw sut y gallwn ni yng Nghymru obeithio am genhedlaeth newydd wnaiff ddangos y fath wytnwch yn wyneb di-faterwch. Efallai mai’r ffordd orau i ysbrydoli’r ifanc yw i ni, bob un ohonom, wneud ymdrech ddyddiol i lewyrchu’n llachar fel cannwyll yn y tywyllwch. Trwy hyn, gallwn gryfhau ein gilydd, yn y sicrwydd fod cannwyll yn colli dim wrth danio cannwyll arall.