E-fwletin Hydref 6ed, 2014

Rai blynyddoedd yn ôl cefais y fraint o gydweithio am rai dyddiau gyda grŵp o unigolion brodorol Sami – Laps neu Lapiaid. O’r holl bethau rannon nhw, erys geiriau un ohonyn nhw yn fy nghlustiau. “Fel Cymry, rydych yn ffodus iawn i fod yn byw drws nesaf i Loegr a’r Saesneg. Mae gennych ffenest i’r byd mewn iaith sydd yn hawdd i chi ei chodi”. Sawl gwaith, bu i mi feddwl am hyn, yn enwedig o wybod mai profiad y Sami (ar ôl iddyn nhw ddysgu eu mamiaith) yw dysgu Swedeg, Ffineg, Rwseg a Norwyeg.
Rwy’n tybio fod y mwyafrif ohonom yn cael cynhesrwydd cymuned eglwysig (a diwylliannol?) trwy gyfrwng y Gymraeg. Beth felly sy’n rhan o’ch profiad ysbrydol a deallusol diweddar a ddaeth i chi trwy iaith heblaw am y Gymraeg?
Byddai’n braf petai mwy ohonom yn defnyddio Fforwm C21 i rannu profiadau am lyfr, gynhadledd neu ffilm sydd wedi dylanwadu arnom, a hynny er mwyn ysgogi aelodau eraill cymuned C21 i elwa o’r cyfoeth.
Er mwyn dechrau’r broses, dyma 3 chyfraniad:
Llyfr – Cefais fwynhad o ddarllen llyfr newydd Brian McLaren. Ei thema fawr yw “Taith yw bywyd, a menter yw ffydd ……Life is a journey and faith is an adventure, and we make the road by walking” Cyhoeddwyd ei lyfr o dan y teitl “We make the road by walking” lle mae’n datgan nad rhywbeth statig wedi ei gostrelu mewn man a lle nac mewn llyfr yw’r ffydd Gristnogol. Yn hytrach mae’n rhywbeth byw ac mae’n newid a datblygu o oes i oes, o brofiad i brofiad. Afraid dweud fod McLaren yn cael amser caled gan nifer a fu yn rhan o’i fywyd ffurfiannol yng ngwersyll efengylaidd America. Mae’r syniad o ffydd sy’n datblygu yn broblem os credwch ei fod wedi ei gostrelu yn ddigyfnewid mewn llyfr. Bydd Brian Mclaren yn ôl yn Ewrop yn ystod mis Tachwedd yn siarad yn Llundain, Leeds a Bryste. Mae’n werth mynd i’w weld.
Cynhadledd: Prin dros fis yn ôl, cefais y fraint flynyddol o fynychu Gŵyl Greenbelt. Siaradwr mwyaf deinamig y penwythnos i mi oedd colofnydd ifanc, radical y Guardian, Owen Jones. Fel areithiwr mae ganddo ddawn anghyffredin ac fel colofnydd mae ganddo gyllell finiog. Areithiodd a dadleuodd dros y penwythnos gydag arddeliad am weledigaeth radical i’n cymdeithas. Gyda chymaint ar y chwith yn lladd ar Gristnogaeth, braf oedd ei weld yn datgan wedi’r ŵyl “Greenbelt is an inspiring and fascinating celebration of social justice, breaking down barriers between those of faith and no faith. It’s not only good fun – it lifts the hearts of all of us who believe in a better world.” Mae tocynnau Greenbelt 2015 ar werth nawr ar ddisgownt go handi!
Gwefan/Sefydliad: Yn gynyddol, rwy’n ffeindio cartre’ gyda chriw PCN Britain (Progressive Christianity Network ). Mae ganddyn nhw lawer yn gyffredin gydag eneidiau Cristnogaeth 21 – ond mewn iaith arall. Ar eu gwefan fe welwch gyfoeth o destunau trafod o bedwar ban byd. O gymorth i lunio litwrgi gynhwysol i ymrafael â materion diwinyddol a chymdeithasol, mae’r drafodaeth yn un fyw. Thema byw ar hyn o bryd yw “Sut y dylem ddysgu Cristnogaeth i blant”. Un awgrym welwch ar y wefan yw y dylem drin “Cristnogaeth” fel berf nid fel enw. Mae croeso i chi ymuno gyda’r rhwydwaith fel unigolyn neu fel eglwysi/grwpiau trafod. Mae stwff da iawn gyda nhw i’n cyfoethogi.
Edrychaf ymlaen at weld cyfraniadau gan eraill yn fuan ar Fforwm Cristnogaeth 21 yn ein cyfeirio at ysbrydoliaeth o bedwar ban byd ac o Gymru. Beth amdani?

Dolenni handi:
http://www.brianmclaren.net/
http://www.theguardian.com/profile/owen-jones
www.greenbelt.org.uk
http://www.pcnbritain.org.uk/