ABERTH
Mae aberthu yn elfen hanfodol o fywyd. Mae angen i bob un ohonom fod yn barod i aberthu rhai pethau os ydym am lwyddo gydag unrhyw dasg heriol mewn bywyd.
‘Roedd aberth yn elfen sylfaenol a chanolog mewn Iddewiaeth fel mewn crefyddau eraill yn y Dwyrain Canol tua mil o flynyddoedd Cyn Crist. Mae Lefiticus, (penodau 1-7, 14, 22 a 27), a Lefiaid, yn frith o ganllawiau a chynghorion manwl ynglŷn â’r ddefod o aberthu. (Gweler hefyd Numeri, penodau 18 a 19). Pencadlys yr arferiad yn Israel oedd y “ffwrn” (tophet, gw. Eseia 30:33) lle llosgid y plant yn nyffryn Hinnon (Gehenna) dan furiau Jerwsalem (Jer 7: 31).
‘Roedd yn ddychryn i fi fel plentyn, pan oeddwn yn mynychu’r ysgol Sul genhadol yn Nolgarrog, i glywed yr hanes am barodrwydd Abraham i aberthu ei fab Isaac.
“Rhoddodd Duw brawf ar Abraham. “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy’n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf i ti“ (Genesis 22).
Mae Efengyl Luc yn cyfeirio’n eglur at aberth gwaedlyd ddwywaith; y tro cyntaf, pan ddywed fod rhieni’r Iesu wedi mynd i Jerwsalem “ i roi offrwm yn unol â’r hyn sydd wedi ei ddweud yng Nghyfraith yr Arglwydd: ‘Pâr o durturod neu ddau gyw golomen. ’ ” Dyna oedd gorchymyn y Gyfraith Offeiriadol (P) yn ôl Lefiticus 12:8 er puredigaeth y fam, “Os na all fforddio oen, gall ddod a dwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn BOETHOFFRWM a’r llall yn aberth dros BECHOD; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosti, a bydd yn lân.”
Y mae’r ail enghraifft at aberth gwaedlyd yn cynnwys siars Iesu ei hun i’w ddau ddisgybl, Pedr ac Ioan, i baratoi ar gyfer “bwyta gwledd y Pasg”. “Daeth dydd Gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid lladd oen y Pasg”.(Luc 22: 7-13) Ar ôl eistedd wrth y bwrdd a’r apostolion gydag ef. Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn i mi ddioddef”. (Luc 22: 15)
Meddai’r Athro Dafydd Rhys Ap-Thomas o Brifysgol Bangor, “O’r ddwy enghraifft hyn , gellir casglu nad oedd rhieni Iesu, na Iesu ei hun, yn ymwrthod a’r arfer o aberthu; ond yn anffodus nid oes dim gair yn egluro beth oedd arwyddocâd y defodau a’r aberthau i’r rhai oedd yn cymryd rhan yn ynddynt.”
Cyflwynodd Ioan Fedyddiwr Iesu i’r gynulleidfa wrth yr Iorddonen, “Dyma oen Duw sy’n cymryd ymaith bechod y byd”. (Ioan 1:29) A oes arwyddocâd i’r ffaith mai Efengyl Ioan yn unig sy’n defnyddio’r term “Oen Duw”? Mae Efengyl Marc a’r efengylau eraill yn cofnodi cyflwyniad Ioan fel hyn: “Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â’r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.” (Marc 1: 8) Y brif neges oedd addewid o’r Ysbryd Glân.
Ymhellach dywed Marc, “ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch , yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau”. (Marc 1:4)
Yn ddiddadl nid yw maddeuant yn weithredol heb edifeirwch. ‘Roedd edifeirwch yn ganolog yng ngweinidogaeth Iesu o’r cychwyn, “ daeth Iesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud ‘ Y mae’r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.’” (Marc 1: 15)
Yn yr Hen Destament mae dros dri deg o enwau ar wahanol aberthau. Mae’r term ’asham yn golygu “aberth/offrwm dros gamwedd.” (Lefiticus 5:18) Ystyr y term koper yw Iawn – ‘rhywbeth a roir yn gyfwerth neu’n gyfnewid,’ naill ai mewn cyswllt cyfreithlon (Exodus 30:12) neu’n anghyfreithlon, sef llwgrwobrwyo (Amos 5:12).
Yn y Testament Newydd yr unig enghraifft o’r term ‘iawn’ oedd am y Groeg hilasterion (Rhuf. 3:25). Y mae cryn gymhlethdod wrth geisio un cyfieithiad i’r gair hilasterion yn ôl Yr Athro Dafydd Ap-Thomas. Dewis doeth y BCN yw ‘moddion puredigaeth’.
Mae’r adnod a’r term arbennig yma wedi chwarae rhan ddylanwadol iawn mewn diwinyddiaeth Cristnogol. Mae’n her enfawr a chyfrifol i ddehongli a iawn ddeall pwyslais rhannau o’r T.N. ar aberth a iawn.
Yn y cyd destun yma dylem ystyried y newid agwedd at aberth mewn sawl rhan yn yr H.D fel:
“Oherwydd ffyddlondeb a geisiaf, ac nid aberth, gwybodaeth o Dduw yn hytrach nag offrymau” (Hosea 6:6)
“Nid wyt yn hoffi aberth ac offrwm –
Rhoddaist i mi glustiau agored-
Ac nid wyt yn hoffi aberth ac offrwm
Rhoddaist imi glustiau agored-
Ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod” (Salm 40:6)
“Y mae gwneud cyfiawnder a barn yn fwy derbyniol gan yr Arglwydd nag aberth.” Diarhebion 21:3
Gwilym Wyn Roberts
Gweler: Efrydiau Beiblaidd Bangor 3. “Offrwm ac Aberth”, (Dafydd Rhys Ap-Thomas.) [1978]