E-fwletin Medi 8fed, 2014

 

Annwyl Selogion Cristnogaeth 21.

A hithau’n ddechrau’r hydref, daeth yn amser i ddosbarthu’r E-fwletin unwaith eto. Diolch i chi am gofrestru i’w dderbyn, a gobeithio y cewch chi fendith o’i dderbyn.

Dyma’r neges am y tymor newydd:

“Canmolwn yn awr…”

Rhyw ddwy genhedlaeth yn ôl ni fyddai pregethwr gwerth ei halen yn mentro ar bregeth heb fod ynddi yn rhywle ryw ddyfyniad bachog o eiddo Gwenallt. Un a glywais droeon oedd,

“Y duwiau sy’n cerdded ein tiroedd
Yw ffortun a ffawd a hap.”

Efallai na fyddai’r dyfyniad yna mor berthnasol heddiw. Y duwiau bellach yw’r enwogiaid sy’n britho’n papurau newyddion a sgriniau ein setiau teledu a’n ffonau glew. Rhyw bobol a elwir yn Saesneg yn celebrities. Cymeriadau nad ydynt yn enwog am ddim byd ond bod yn enwog. Mae llawer ohonynt, hyd y gwelaf i, yn gyffredin iawn eu gallu, hyd yn oed yn eu priod feysydd.

Un o’r amlycaf oedd David Beckham, na welodd lawer o flodau i’w ddyddiau hyd yn oed fel peldroediwr. Ond fe gadarnhawyd ei le aruchel fel enwogyn yr oes drwy briodi enwoges o gantores. Ac ni fu honno ychwaith medden nhw yn arbennig o ddisglair ei dawn ym myd cerdd. Enwogyn arall yn yr un byd â Beckham yw Wayne Rooney. Chwaraewr canolig ei ddawn yw yntau hefyd o’i gymharu â chewri gwefreiddiol byd y bêl. Gwelodd Alex Ferguson hynny dymor neu ddau yn ôl, oherwydd bu Rooney yn cadw’r fainc yn dwym dros rannau helaeth o lawer gêm. Ond mae ei safle fel enwogyn ymhlith cefnogwyr Lloegr wedi gorfodi ei reolwyr i’w ddyrchafu’n gapten ar ddau dîm!

Mae eilunaddoli enwogiaid wedi esgor ar ddigwyddiadau llawer mwy difrifol na dirywiad ambell dîm pêl droed. Ni ddylem ryfeddu i Jimmy Saville gael llonydd i ymddwyn fel y mynnai. Ni allai neb fentro herio enwogyn. A dyna lle dylem ddysgu’r wers: adnabod a pharchu, nid yr enwogiaid, ond y gwir enwogion. “Canmolwn yn awr y gw^yr enwog” meddai’r Apocrypha. Ac mae gennym doreth o enwogion haeddiannol y gallem eu canmol, enwogion drwy’n byd ni a hyd yn oed yn ein hoes ni. Does dim rhaid imi eu henwi. Gwroniaid a lewyrchodd fel goleuadau yn eu cyfnod, gan ddod â gwir gynnydd i ddatblygiad daioni.

Tra buom ni a’n plant ni, mewn gwersi hanes, yn cael ein trwytho yn hunanoldeb a thrais brenhinoedd a gwladweinwyr a chadfridogion, oni ellid sefydlu gwyddor ychwanegol a gwahanol fel pwnc ysgol a choleg. Gellid rhoi iddi’r teitl: Datblygiad Dynoliaeth. Ac o’i mewn fe allai ein plant ni etifeddu eiamplau y goreuon o blith pobol. Yna, ochr yn ochr â’r gwir enwogion hyn, fe allem ddatblygu gallu’r plant i adnabod disgleirdeb cymeriad ymhlith y werin. Oherwydd dyna un o nodweddion gras yr Arglwydd Iesu, ei fod yn medru canfod mewn person cyffredin ryw ddawn i’w chanmol: mewn canwriad, mewn casglwr trethi, neu mewn gweddw dlawd.

Os gwyddoch am unrhyw un a fyddai’n hoffi derbyn ein E-fwletin wythnosol, anfonwch air atom.