E-fwletin Gorffennaf 21, 2014

Tybed a wyddoch chi ymhle mae’r goeden ywen hynaf yng Nghymru? Fe ymddangosodd erthygl ddifyr iawn yn y Telegraph  rai dyddiau’n ôl yn canolbwyntio ar ryfeddod y coed yw ledled gwledydd Prydain. Ysgogwyd yr erthygl gan y ffaith bod yr arbenigwyr erbyn hyn yn tybio y gallai ambell i ywen fod yn hŷn na’r hyn a gredid. Er eu bod yn derbyn bod pennu dyddiad cywir yn waith anodd ofnadwy am sawl rheswm, mae lle i gredu bod yr ywen yn eglwys Defynnog ger Pontsenni gyda’r hynaf ym Mhrydain i gyd, ac y gallai fod cyn hyned â  phum mil o flynyddoedd oed. Os felly, roedd hon yn goeden fach ifanc yn dechrau tyfu yn ystod yr Oes Efydd, ac erbyn geni’r Iesu roedd hi eisoes yn dair mil o flynyddoedd oed. Mae meddwl am hynny yn ddigon i yrru iasau i lawr asgwrn cefn dyn. ’Does ryfedd bod yr ywen yn cael ei hystyried yn goeden mor arbennig. Mae hi’n goeden fythol wyrdd, yn adnewyddu ei hun yn gyson drwy fod tyfiant newydd yn cymryd drosodd gan yr hen geubren pydredig, ac maen nhw’n dweud bod yr aeron coch yn wenwynig.

Roedd hi’n bwysig i’r paganiaid, ac mae hi’n cael parch mewn mynwentydd o hyd, gyda nifer o eglwysi wedi eu codi yng nghysgod sawl ywen nodedig. Arferai pob plentyn ysgol wybod am Ywen Llanddeiniolen a anfarwolwyd gan W. J. Gruffydd, a deil yr ywen sy’n gwaedu yn Nanhyfer i fod yn atyniad poblogaidd, fel Ywen y Pulpud yn Nantglyn. Yn eu ffordd, mae pob un yn ein hatgoffa o freuder bywyd dyn.

Ond o ddarllen yr erthygl yn y Telegraph, yr hyn a ddaliodd fy sylw fwyaf oedd y pennawd: “The ancient, sacred, regenerative, death-defying yew.” Onid dyna’r union eiriau i ddisgrifio neges fawr Iesu Grist?  I efengyl sydd wedi gwrthsefyll prawf amser, sy’n dod o fynwes llawn gras a daioni Duw, sy’n adnewyddu ei hun yn gyson, ac sydd wedi herio marwolaeth a dryllio pyrth y bedd yn atgyfodiad Iesu Grist, pa eiriau gwell fedrwn ni eu defnyddio?  “Hynafol, sanctaidd, adfywiol, trech na marwolaeth.”

Dyma’r e-fwletin olaf am y tro dros yr haf. Byddwn yn dechrau anfon eto ynghanol mis Medi, a hoffem ddymuno pob bendith i bawb yn y cyfamser.

(Gweler erthygl newydd gan Gwilym Wyn Roberts ar y botwm Erthyglau ar y wefan www.cristnogaeth21.org a chofiwch y bydd crynodeb o’r cyflwyniadau a gafwyd yn y Gynhadledd Flynyddol yn ymddangos ar y botwm Cynhadledd 2014)