E-fwletin Gorffennaf 14

Fel y gwyddoch, Agweddau ar Gristnogaeth gyfoes’ oedd thema ein cynhadledd flynyddol a gynhaliwyd ddydd Sadwrn yng Nghaerfyrddin. Hynny a gafwyd – agweddau, nid agwedd. A dyna, wrth gwrs, rhywbeth sy’n ganolog i C21: derbyn a dathlu’r agweddau, yr amrywiaeth a’r dehongliadau. Rhwng y tair sgwrs a’r grwpiau trafod fe gafwyd ddigon o hynny. I rai mae’r pwyslais ar amrywiaeth dehongliadau yn tabŵ ac yn fygythiad i’r Ffydd Gristnogol. Ond i eraill ohonom bychan fyddai’r Duw a chyfyng fyddai’r Crist y gellid ei gadw o fewn unrhyw gyfundrefn, dogma na phrofiad. Mae’n hen stori, ond mae rhai’n parhau i’w dweud, rhag i ni aros yn llonydd yn ein ffydd. Yr ydym yn gobeithio y cawn grynodeb o sgyrsiau’r gynhadledd i’w rhoi ar y wefan. Yn y cyfamser dyma damaid i aros pryd gyda brawddeg neu ddwy o nodiadau un oedd yno. Annheg â sgyrsiau mor gyfoethog fyddai hyd yn oed mentro crynodeb mewn e-fwletin!

Daeth Catrin Haf Williams â’i sgwrs ddiddorol a phwysig am Chwilio am Iesu hanes ‘ i ben gyda’r sylw gwerthfawr – nid yn unig i astudiaeth y Testament Newydd (sef maes Catrin)  ond i dystiolaeth a chenhadaeth yr eglwys  – sef y sylw hwn : “Newidiodd y geiriau o ‘Chwilio am Iesu Hanes ‘ i ‘Yr ymchwil am Iesu’ “. Sylwch ar y newid. Mae’n ein hatgoffa o gwestiwn tebyg  : Pwy yw hwn? ( Marc 4.41) Mae’n gwestiwn nad oes osgoi arno. Soniodd Cathrin Daniel (Cymorth Cristnogol – a thestun ei sgwrs oedd Cristnogion fel dinasyddion byd-eang’ ) am ei phrofiad o fod am gyfnod yn Bwrwndi (trwy raglen gan y Crynwyr)  ar ôl  rhyfel cartref a adawodd lawer o  ddrwgdybiaeth a chasineb. Yr oedd yn wlad i’w hosgoi a rhai gweithwyr dyngarol yn cydnabod  nad oeddynt am fynd yno. Beth yw tystiolaeth y Cristion mewn sefyllfa o’r fath ? Soniodd am ‘bŵer trawsnewidiol cariad’; soniodd am ‘garu pobl yn eu henbydrwydd’. Pwy yw’r hwn a phwy yw’r rhai sy’n caru pobl felly? Rhwng dau olau’ oedd teitl sgwrs Tecwyn Ifan. Wrth gyfeirio at y symud o ‘wledydd cred’ (Christendom)  i’n byd ‘ôl-Gristnogol’ ni awgrymodd fod hynny yn symud o’r rheidrwydd o ‘gredu yn Iesu’ yr Eglwys a’i grym a’i awdurdod, i’r alwad i ‘ddilyn Iesu’ mewn oes pan mae’r eglwys ar y cyrion. Pwy, felly, yw hwn ? Mae’n gwestiwn oesol, nad oes ateb cyflawn iddo. Ond mae’n gwestiwn na ellir ei osgoi.

Newid swyddogion.

Ar ôl chwe blynedd fel swyddogion Cristnogaeth 21 mae Vivian Jones wedi ymddeol o’i swydd fel Cadeirydd a Phryderi Llwyd Jones fel Ysgrifennydd. Ar yr un pryd yr ydym yn falch o gyhoeddi fod Emlyn Davies yn parhau yn ei swydd fel golygydd y wefan (a llawer mwy na hynny) ac wrth ddiolch i Vivian a Pryderi diolchwyd a gwerthfawrogwyd gwaith mawr Emlyn. Yr oedd y Gynhadledd yn falch iawn o wahodd Vivian i fod yn Llywydd Anrhydeddus C21 yn werthfawrogiad am ei arweiniad. Dymunwn yn dda iawn i’r swyddogion newydd:

Cadeirydd : John Gwilym Jones

Is-Gadeirydd : Enid Morgan.

Ysgrifennydd : Dyfrig Rees.

Trysorydd : Allan Pickard a diolchwyd iddo am gytuno i ail dymor fel Trysorydd.