E-fwletin Gorffennaf 7fed, 2014

Yng Nghyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eleni, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyflwynwyd penderfyniad yn “gresynu bod ysgolion ac awdurdodau chwaraeon yn trefnu gemau ar y Sul”.  Cafwyd tipyn o drafodaeth  ar y mater. Ni dderbyniwyd y cynnig fel y’i cyflwynwyd  ond derbyniwyd, yn unfrydol, benderfyniad yn gofyn am drafod agored rhwng eglwysi a’r awdurdodau priodol ar y mater hwn.

Yn ystod y drafodaeth daeth yn gwbl amlwg bod yna deimlad cryf yn cyniwair ymysg y cynadleddwyr mai anodd, ac yng ngolwg rhai annheg, yw gorfodi Cristnogion i benderfynu rhwng dau ddigwyddiad … boed hynny yn Ysgol Sul neu ymarfer rygbi, Oedfa Hwyrol neu gyngerdd, Astudiaeth Feiblaidd neu ymarfer côr. Y teimlad cyffredin oedd na ystyrir amserlenni addoli gan y gwahanol sefydliadau hyn. Fy nghwestiwn i yw pam ddylent? Pam dylid trin Cristnogion, a chrefydd yn wahanol? Pam mae hyn yn annheg!

Onid mater o wneud blaenoriaethau yw bywyd?  Bron a bod bob awr, o bob dydd, o bob mis o bob blwyddyn cawn ein hunain yn gorfod gwneud dewisiadau. Gwnawn ein dewisiadau yng nghyd-destun beth sydd yn cael ein blaenoriaeth  yn ein bywydau.  Heno, mae genny’ ddewis rhwng ymarfer côr neu Gwrdd Gweddi – pa un sydd fwyaf pwysig i mi, af i hwnnw.  Mae’n addo tywydd braf Dydd Sul ac mae hydoedd ers i mi fynd ar y traeth. Rhaid i mi ddewis rhwng yr Oedfa Foreol neu fynd i lan y môr; penderfynaf beth sydd yn cael y flaenoriaeth yn fy mywyd – torheulo neu fynychu addoliad. Mae gêm ryngwladol  Cymru a Lloegr ar y teledu ar Nos Sul – beth sydd o fwyaf bwys i mi? Gweld Cymru’n ennill neu agor y Gair? Mae genny’ bentwr o waith i’w wneud – beth ddylwn i hepgor? Noson o flaen y teledu, oedfa neu ymarfer parti dawns.

Wrth ddadlau na ddylid trefnu, ac na ddylai digwyddiadau gydredeg ag oedfaon, a galw ar awdurdodau chwaraeon, er enghraifft, i sicrhau nad ydym yn cael ein rhoi mewn sefyllfaoedd tebyg i’r un a gyfeirir ato uchod yn y frawddeg agoriadol, onid cuddio hyn o wirionedd a wnawn: fel Cristnogion, gweddol isel ar ein rhestr blaenoriaethau y daw agweddau ysbrydol ein bywyd. Anffodus os oes yna ‘clash’ gyda chyngerdd, ymarfer côr neu barti adrodd, rhaglen ar y teledu, angen mynd i’r traeth … ymddiheuriadau, methu bod gyda chi yn Salem heddiw. Gwelwn addoli yn rhan o glytwaith bywyd; ond weithiau ‘clwt’ go fach ydyw.

Apêl felly ar i ni fod yn onest! Tro nesaf bydd yna ymarfer ac oedfa yn galw beth am ddweud – wel, gan fod y côr, rygbi, parti dawns yn fwy pwysig i mi, yno byddaf. Pan fydd rhiant yn gorfod gwneud penderfyniad rhwng gêm rygbi neu Ysgol Sul beth am ddweud yn gwbl agored – gwell genny’ fod Heddwyn yn chwarae i Gymru na dysgu gwirioneddau bywyd, ni fydd yn yr Ysgol Sul heddiw. A phan fydd yr haul yn gwenu – beth am ddweud wrth y gweinidog  – heddiw bydd torheulo ac ymlacio yn gwneud mwy o les i mi nag ymdrochi yng ngeiriau Efengyl Crist. Onid dyna’r yna’r gwirionedd? Beth am ei ddweud yn gwbl onest? O leiaf bydd ein heglwysi yn gwybod, wedyn, ble maent wir yn sefyll ym mywyd eu haelodau!

Os nad  ydych wedi cofrestru ar gyfer y Gynhadledd Flynyddol eto, medrwch wneud hynny heddiw, drwy ateb y nodyn hwn a rhoi eich enw.

Lle: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin

Pryd:  Sadwrn, Gorffennaf  12fed.

Amser: 10.30a.m. –  4.30p.m.
Siaradwyr:  Cathrin Daniel, Catrin Haf Williams, Tecwyn Ifan

Cost: £20 a dylid talu ar y dydd.