Beth yw Duw?
Crynodeb o’r drafodaeth a ddilynodd BAPUR CYNOG DAFIS
Rhoddodd Cynog amlinelliad meistrolgar o’r delweddau a’r cysyniadau am ‘Dduw’ a goleddwyd gan y ddynoliaeth. Cymeradwyodd gyfrol Karen Armstrong A History of God. Y mae amrywiaeth safbwyntiau yn yr Hen Destament ei hun – mae cryn wahaniaeth rhwng Duw milwrol y llwyth yn llyfr y Barnwyr, a’r neges am Dduw ‘i oleuo’r cenhedloedd ‘ yn Eseia.
Dyfynnodd sylwad gan Karen Armstrong “Rhaid i bob cenhedlaeth greu ei hamgyffrediad dychmyglawn ei hunan o Dduw”.
- Bu’r Groegiaid yn estyn at syniad o Dduw pellennig sydd yn ‘bod’ ond nad yw’n arddel perthynas o unrhyw fath â ni.
- Y syniad o Dduw fel ‘Bod’’ ( hynod o debyg i’r ddynoliaeth) sy’n ymyrryd yn y byd.
Cyfeiriodd at oes yr Acsis (8fed Ganrif cyn Crist), pryd y bu newid cyfeiriad yn nirnadaeth y ddynoliaeth yn Israel, Yr India a Groeg.
Meddwl a Dychymyg
- Aeth Thomos o Acwin ati i egluro Duw trwy reswm a chyflwyno 5 prawf o’i fodolaeth.
Gyda’r Dadeni a’r Diwygiad cafwyd twf newydd mewn gwyddoniaeth a gwybodaeth am y byd ; yr oedd gan Newton gre hyderus mewn Duw nad oedd yn ymyrryd. Duw oedd wedi cychwyn y creu ond yn cadw draw gan adael i Ddeddfau Natur weithio. Awgrymodd bod y dehongliad o’r Beibl sy’n mynnu bod y Beibl yn wyddonol gywir ac yn dibynnu ar ‘ffeithiau’ yn gynnyrch yr aroleuo, lawn cymaint ag ydyw gwyddoniaeth.
- Traddodiad arall yw’r estyn allan at Dduw mewn dychymyg. Mewn sythwelediad y cyfrinydd, mewn profiad goddrychol yn arwain at grefydd y galon, a’r ymwybyddiaeth o’r ‘trosgynnol.’
Darparodd ar ein cyfer nifer o ddyfyniadau o Wordsworth, Pantycelyn, Jung, ac Adler, Waldo a bu llawer o ddychwelyd at wahanol ymadroddion yn Waldo sy’n awgrymu Duw fel ffynnon ddihysbydd greadigol bywyd.
Darlun o’n dyheu am Dduw
Gwasanaethu,
Cynorthwyo Profi’r
Gofalu dwyfol
Creu
Gwerthfawrogi – Undod
Rhyfeddu,
Synhwyro Cydymdeimlad
Myfyrio
Chwarae trosgynnol
Campau Daioni
Dawnsio
Canu
Cymdeithasu Dirgelwch Perffeithrwydd
Cymodi
cydweithio
Y DRAFODAETH
Yr oedd y drafodaeth a ddilynodd yn un ddwys a myfyrgar. Dyma rai o’r pwyntiau a wnaed ( nid disgrifiad o drafodaeth.)
DUW-
Grym daionus a chariadus, creadigol a bywiol. Grym dyrchafol a chreadigol Yn effeithio ar ein perthynas ag eraill. Y mae’r ddynoliaeth yn estyn allan i gyrraedd at rywbeth mwy positif, daionus a pharhaol Llawer o ddyfynnu Waldo: ‘Nid oes yng ngwreiddyn Bod un wywedigaeth’
“Ehedeg ein Hiraeth’. A oes (Un)a’u deil (ieithoedd y ddynoliaeth) mewn cof a chadw ?
Ann Griffiths – Gwrthrych i’w addoli ( a thestun cân a beri byth
Ysbryd ‘Y Drefn’ Cariad yn personoli rhinweddau a doniau’r ddynoliaeth yn ffocws o bopeth
da. wedi ei bersonoli. Dyfynnwyd Simone Weil “pob pechod yn ymgais i lanw gwacter.”
Holwyd
Beth yw addoli (Y Groeg yn golygu agoshau i gusanu)
– Pwy ddaeth gynta, – dyn ynte ‘Duw’.
A fyddai’n beth da i ymatal rhag defnyddio’r enw Duw
Nodwyd
- Ein syniadau ‘am Dduw’ yn methu dygymod â’r ffaith ein bod yn greaduriaid amser – (ac angau)
- Rhyw gytundeb bod y gair Duw ei hun yn dramgwydd am nad oes cytundeb ar ei ystyr a dryswch yn dilyn.
Awgrymwyd enwau eraill ar y Dirgelwch –
- Yr Arall-Arall. (cwbl wahanol i’r duwiau – na soniwyd amdanynt o gwbl!)
- Yr Wmff (bywiol) sydd yn y cread.