‘PWY YW IESU?’ – Enid R Morgan

Papur i grŵp Cristnogaeth 21  Morlan Aberystwyth Tachwedd 13 2013

‘Ryn ni’n agosáu at gwestiwn allweddol. Dyma un o glwstwr o gwestiynau am Iesu o Nasareth, y Rabbi a’r proffwyd a ddeffrodd gobeithion ei gyd-Iddewon ac a groeshoeliwyd yn Jeriwsalem pan oedd Pontius Pilat yn rhaglaw yno. Nid yn unig “Pwy oedd e?” ond

  • o ble ddaeth e, – beth oedd ei deulu ?
  • beth oedd ei berthynas â Duw?
  • beth oedd ei neges e ?
  • o ble daeth ei awdurdod e?
  • beth oedd ei fwriad e ?
  • beth oedd ystyr a phwrpas ei farwolaeth e?
  • oedd ei farwolaeth yn gwneud gwahaniaeth i bobl y tu hwnt i’w oes a’i gyfnod ei hun ?
  • Pwy yw e?

Mae llawer a ddywedir am Iesu o Nasareth gan Gristnogion brwd, a’r hyn a ddywedir yn fformiwlâu y Credoau cynnar yn swnio’n nid yn gymaint yn annealladwy ond yn ddiystyr i’r meddwl cyfoes. Mae’r iaith a ddefnyddir yn dramgwydd; pa fath o ystyr sydd yn yr ymadrodd “Mab Duw”? Mae ‘na straeon am bethau ‘gwyrthiol’ yn cael eu crybwyll fel  petae’r rheini’n warant o wirionedd yr honiadau am ddwyfoldeb yr Iesu hwn. Priodolir i Iesu eiriau ac ymadroddion sydd bron yn sicr yn eiriau gan yr efengylydd, a’r geiriau hynny yn adlewyrchu nid mympwy na barn unigolyn yn unig,  ond argyhoeddiadau y daeth cymuned eglwysig arbennig i’w credu gyda chryn ddwyster a chrebwyll diwinyddol. Dyma eu dealltwriaeth hwy am  Iesu- un y gallai arddel y gair YHWH, YDWYF, MYFI YW heb  i hynny fod yn gabledd.

Mae un ffordd o ddarllen y geiriau hyn sy’n awgrymu, os nad ydyn nhw’n wir bod yn rhaid bod Iesu’n wallgo neu’n gelwyddgi. Ond ystyriwch beth ddywedodd Iesu pan ddaeth negeseuwyr oddi wrth Ioan Fedyddiwr druan yng ngharchar. Ai ef oedd yr hwn oedd i ddod? A ‘dyw Iesu ddim yn rhoi ateb syth ( Anaml y mae’n rhoi ateb syth am fod y cwestiynau yn aml mor dwp!)  Mae’n gofyn i Ioan ystyried beth y mae’r tystion wedi gweld Iesu yn ei wneud, sef  iachau’r cleifion, a phregethu’r newyddion da i’r tlodion.  Ar ben hynny wrth ddechrau trwy gydnabod Iesu fel person hynod ac arbennig iawn, mae e’n  cael ei glymu wrth glwstwr o storïau yr adroddir fel petae nhw’n ddigwyddiadau hanesyddol. Yn aml mynnir bod derbyn y pethau ‘anghredadwy’ yn  fath o brawf ar ymateb yr unigolyn i Iesu ei hun. Dyma ddetholiad o rai enghreifftiau ohonyn nhw.

  • y geni gwyrthiol,
  • bod yn ‘Fab Duw,’(Mab Duw oedd teitl yr Archoffeiriad ar ddydd y Cymod)
  • cerdded ar y môr
  • atgyfodi oddi wrth y meirw,- beth yw ystyr y gair atgyfodi
  • addewid o ddyfod drachefn ‘mewn gogoniant’

Mae hyn i gyd yn ddychryn i’r  crebwyll, ac yn fodd i gau clustiau.  Os yw ystyr y pethau hyn i gyd yn fater o ffeithiau hanesyddol moel, fe fyddan nhw’n dramgwydd ac yn rhwystr o’r dechrau rhag gwrando o gwbl ar y neges.  Nid yw cydnabod gymaint â hynny’n  golygu gwadu bod cyfoeth ac ystyr yn yr honiadau hyn a pham y cyhoeddir hwy hyd heddiw; fy marn i yw nad yn y fan hon mae dechrau. Onid oes yn rhaid adnabod person cyn dechrau gwneud honiadau mawr amdano? Y mae’r dull yma o siarad am Iesu yn dechrau oddi uchod,  a’n harfer ni fel bodau meidrol ydi dod i ‘nabod pobl yn raddol.

Gan osod o’r neilltu am y tro y pethau a ddywedir am Iesu gadewch i ni fentro dechrau o safbwynt dynol. Wedi’r cyfan dyna ydi amcan  ei ddyfod!  Peth dynol yw iaith, a phethau dynol y gallwn eu trafod gyda geiriau sy’n siŵr o gael eu cam-ddehongli, eu camddeall, eu hystumio. Ni fyddai’r disgyblion, y gwrywod na’r gwragedd, yn ei chael yn haws na ni i feddwl am fabi heb dad daearol, nac i fedru dygymod â beth oedd “atgyfodi”.

Y mae’r broses o ddyfalu am Iesu yn mynd nôl i’w gyfnod gyda’i ddisgyblion.  Iesu ei hun sy’n holi “Pwy mae pobl yn dweud ydw i?” a “Pwy meddwch chi yr wyf fi?”  Pedr sy’n ateb yn fentrus “Ti yw’r Meseia, mab y Duw byw”.  Onid dyma oedd y genedl gyfan yn disgwyl amdano?. ’Roedden nhw wedi cael llond bol o ddioddef a bod dan fawd un  gormeswr ar ôl y llall. Ei gobaith oedd cael un fyddai’n gwaredu Israel. Ond y mae ymateb Iesu’n hynod o amwys; y mae’n cydnabod “nad cig a gwaed” ddatguddiodd hyn i Pedr, ond y mae’n gorchymyn hefyd “Paid â dweud hynny wrth neb”. Mae Iesu’n gwahardd y gair drosodd a thro yn Efengyl Marc. Pam?

Beth oedd y gair Meseia yn ei feddwl i Iddew fel Pedr ?  Beth oedd ei ystyr i Iesu? Beth oedd yr ystyr i genhedlaeth ddiweddarach o Iddewon?  Oedd Iesu’n  meddwl am ei hun “wedi ei eneinio” gan Dduw ?  (Ai dyna ystyr stori ei fedydd?) Oedd y gair Meseia’n cyfateb i hynny? Ai gair am arweinydd gwleidyddol neu filwrol oedd e?  ‘Doedd yr Iddewon ddim yn gwahaniaethu rhwng y crefyddol/ gwleidyddol/ cenedlaethol fel y gwnawn ni. Ond os oedd disgwyl i’r Meseia arwain, ac i ymladd, lladd a llwyddo – dyna dri pheth na fyddai Iesu o Nasareth yn eu gwneud!  Dywed Iesu  na ddaw dim o ymladd, bod y rhai sy’n lladd â chleddyf yn mynd i gael eu lladd gan gleddyf. Mae trais yn cynhyrchu trais. Ni all Satan fwrw allan Satan.  Ac felly y mae’n gwadu’r dehongliad hwnnw o beth yw gwaith y Meseia.  Fel y mae Iesu yn ail ddehongli beth yw barn a beth yw pechod y mae’n ail-ddehongli beth yw Meseia – neu o leiaf y mae’n rhoi’r pwyslais i gyd ar Feseia fyddai’n dwyn i fodolaeth deyrnas o heddwch a chyfiawnder a llawnder. Y mae’n tanseilio hen ystyr y gair a’i ddisgwyliadau a thrwy ei ddehongliad ei hun yn cynnig un wedi ei eneinio i ddioddef. A daw hynny i’r amlwg ar y groes.

Mae ‘na ddwy ffordd wedi bod o’r dechrau o ddod at y cwestiwn Pwy yw Iesu? Yn yr eglwys yn Antioch ‘roedden nhw’n mynnu dechrau gyda Iesu y dyn o gig a gwaed.  Yn eglwys Alexandria yr oedden nhw’n ymhyfrydu o’r dechrau mewn cyhoeddi dwyfoldeb Iesu. Yr oedd y ddwy ochr yn cydnabod bod ynddo elfennau dwyfol a dynol ac yn cwympo mas ynglŷn â’r  ddwy natur. Sut y gallai’r ddau fod mewn un person, heb i’r dwyfol draflyncu’r dynol neu i’r dynol sarhau’r dwyfol?  Yr oedd Credo Chalcedon yn ymdrech i gadw cydbwysedd rhwng y ddau safbwynt.   

(Mae ‘na gyfrolau lu am y stwff yma!) A thâl hi ddim inni fod yn wawdlyd – ‘does gennym ni ddim hawl barnu bwriadau pobl oedd yn amddiffyn, gorau fedren nhw eu dealltwriaeth o’r un  y galwent, ymhlith pethau eraill yn Waredwr. Ac i gymhlethu pethau cofiwch fod yr Iddewon yn meddwl am Moses fel gwaredwr! Gellir bod yn waredwr heb fod yn ddwyfol wedi’r cyfan.

Dyma restr o’r amryw ffyrdd y dehonglwyd person Iesu drwy’r canrifoedd. Mae e ychydig yn wahanol i’r rhestr sydd yn Byw’r Cwestiynau. Daw o lyfr Jaroslav Pelikan  Jesus Through the Centuries.

  • Y Rabbi – athro a phroffwyd. Geza Vermes yn ei weld  fel Rabbi Carismatig
  • Gwas Duw
  • Trobwynt Hanes – apocalyps, proffwydoliaeth a moeseg
  • Goleuni i oleuo’r cenhedloedd
  • Brenin y Brenhinoedd (I’w gyferbynnu â Cesar fel yn straeon y geni yn Luc)
  • Gair Duw
  • Mab y Dyn – yr un sydd yn datguddio potential y natur ddynol a beth yw grym drygioni.
  • Mab Duw
  • Sophia, Doethineb, Gwir Ddelw ei ddisgleirdeb Ef
  • Y |Crist Croeshoeliedig – fel gallu Duw a doethineb Duw
  •  Cariad at Grist fel mater o wrthod y byd ( canol oesoedd)
  • Priodfab yr enaid,
  • Ail ddarganfod Crist fel dyn dioddefus.
  • Crist – dyn wedi ei adnewyddu yn ail-fyw temtasiwn Adda ac Efa
  • Drych i’r gwir a’r hardd.
  • Tywysog Tangnefedd
  • Athro synnwyr cyffredin – yr Iesu hanesyddol
  • Iesu fel bardd
  • Y Gwaredwr

NEGES IESU

       Dyna restr o ddehongliadau sy’n troi’r pwyslais o neges Iesu am y Deyrnas, i wneud Iesu ei hun yn gynnwys y neges. Y mae Iesu’n dod gan gyhoeddi bod Teyrnas Dduw /Nefoedd wedi dod yn agos. Beth yw natur y Deyrnas honno, yr ydyn yn gweddïo am iddi hi ddyfod? Man lle y mae ewyllys Duw yn wir cael ei gyflawni. Ac mae lliaws o’r damhegion yno i oleuo’n crebwyll am natur y deyrnas honno. e.e.:

  • Dyn yn cloddio am drysor a’i holl galon yn y gwaith
  • Coeden yn tyfu i roi lle i holl adar yr awyr
  • Toes yn codi, yn araf ond yn llawn addewid
  • Cae lle nad oes brys i chwynnu efrau.

Ar ben hynny y mae Iesu’n gwrthod gwaith cyffredin Rabbi o fod yn farnwr rhwng pobl. Mae’n rhybuddio yn erbyn eiddigedd ; yn dweud wrth y cwr cyfoethog i roi ei gyfoeth bant.

PURDEB DEFODOL

Yn y meddwl Iddewig yr oedd sancteiddrwydd ynghlwm wrth fath arbennig o burdeb defodol oedd yn gynnyrch ufuddhau i’r ddeddf . Y mae Iesu’n chwalu’r cysylltiad ac yn mynnu cysylltu â phobl sy’n dioddef o’r gwahanglwyf, â gwragedd yn diodde’ misglwyf, ac â chyrff meirw. Y mae’n dewis casglwr trethi’n yn un o’i ddisgyblion. Y mae’n mynd i bartïon y cyfoethog; y mae’n amddiffyn haelioni teimladwy’r gwragedd, yn herio parchusrwydd y ddeddf. Y mae’n glanhau’r Deml, yn dweud petai’r cwbl yn cael ei ddymchwel y gallai ef ei ailadeiladu mewn tridiau ( a dyna i chi osodiad symbolaidd!)  Mewn gair y mae’n tanseilio amryw o ddisgwyliadau a rheolau y diwylliant crefyddol y magwyd ef ynddi.  Ond y mae ar yr un pryd yn gweld yn y traddodiad hwnnw elfennau sy’n allweddol i’w ddehongliad ef o natur a bwriad Duw.  Dyma graidd y stori ar y ffordd i Emaus “yn dehongli iddynt yr Ysgrythurau”

Y Sadwceaid oedd y bobl geidwadol grefyddol yng nghyfnod Iesu. Eu safon hwy o beth oedd i’w gredu a sut i fyw oedd Pum Llyfr Moses. Os nad oedd rhywbeth yno yn “Y Ddeddf”, allech chi ddim ei warantu.  Fel rhan o’u dadl gyda’r Phariseaid daeth y Sadwceaid at Iesu gyda phroblem hynod o gymhleth – problem ffug i danseilio’i awdurdod ydoedd. Oedd yna’r fath beth â bywyd ar ôl marwolaeth? Ar ôl rhyfel y Macabeaid daeth yr Iddewon, gyda mam y brodyr a laddwyd  i gredu bod yn rhaid bod rhywbeth ar ôl marwolaeth, neu pa ystyr ellid ei briodoli i farwolaeth y saith brawd ifanc a dewr a wrthododd ymladd ar y Sabath? Dyma’r ieuenctid mwyaf dethol a duwiol a ffyddlon y gallai Iddewiaeth eu cynhyrchu. Rhaid eu bod yn fyw, yn rhywle! Yr oedd deddf y Lefiaid yn dweud pe bai dyn yn marw heb  blant y  dylai ei weddw briodi â’i frawd. Gwraig i bwy fyddai’r ddynes oedd wedi bod yn briod â’r  saith yn eu tro? Mae’r stori yn cael ei hadrodd yn Mathew, Luc a Marc, -ac felly yn sicr yn stori bwysig iawn.  Ac mae Iesu’n cynhyrfu at glogyrn-eiddiwch deallusol y Sadwceaid ac yn dweud  Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na’r Ysgrythurau na gallu Duw.”(Math 22.29)  Dim diffyg hyder deallusol, diwinyddol a chymdeithasol yn y tipyn Rabbi hwn, nag oes! 

 

Mae’r stori am y Samariad Trugarog yn cario neges yr un mor enbyd – sut ? Am fod y stori ddeifiol honno’n awgrymu bod dyletswyddau crefyddol yr offeiriad a’r Lefiaid yn eu rhwystro rhag ymddwyn yn ddynol  a chyda thosturi. A dyna i chi feirniadaeth sy’n tanseilio natur ddefodol ac aberthol y Deml yn ei dydd. Nid dweud celwydd yr oedden nhw wrth ei gyhuddo’n ddiweddarach o ddymuno dymchwel y Deml. Mae ’na rywbeth gwrthgrefyddol iawn am Iesu – ac yn wir yr oedd Karl Barth yn dadlau mai amcan y groes oedd dwyn crefydd i ben.

A dyma bwyntiau eraill sy’n codi o’r cyflwyniad o Iesu sy’ gennym yn yr Efengylau. Dyma Iesu –

  • sy’n gyfrwng bywyd i’w bobl ( yn darparu bara o’r nefoedd fel Moses)
  • y gellir ei ddeall yng nghyswllt Eseia a Moses. (Y gweddnewidiad)
  • sy’n ysglyfaeth i’r pwerus,  “ Wele’r gŵr,” medd Peilat
  • Yr Iesu sy’ ar ochr y tlawd a’r diymgeledd. Dameg Dives a Lasarus.
  • Ystyr y Groes – yn y traddodiad Iddewig y mae’r neb a grogir ar bren  dan gabl.
  • Y Groes ar yr un pryd yn gyflafan, esiampl , ac yn aberth sy’n dwyn trefn aberthol i ben.

Pwy yw Iesu?  Y mae’n Iddew sy’n  parchu traddodiad y genedl . OND y mae’n dangos bod arweinyddion ei gyfnod yn syrthio’n brin wrth ddehongli’r ddeddf a’r ysgrythur.

Y mae’n tyfu allan o draddodiad crefyddol trwyadl aberthol ( nid am fod yr Iddewon yn dynwared y cenhedloedd eraill fel y dywedir yn  Byw’r Cwestiynau ond am fod pob crefydd yn ei hanfod yn cychwyn mewn aberth.  Y mae enwaedu ar fechgyn yn symbol sy’n tarddu o’r frwydr i roi terfyn ar aberthu’r plentyn cyntaf anedig. Y mae Iesu wedi deall hynny, ac y mae’r ffordd y mae ef yn tanseilio’r reddf aberthol yn hanfodol i unrhyw ddehongliad ohono. Rhaid cymeryd y gair aberth o ddifrif am ei fod mor hawdd ei wyrdroi. Gwendid mawr y Rhyddfrydwyr fu diystyru ac wfftio’r syniad o aberth fel rhywbeth annheilwng.

Yn Efengyl Mathew y mae Iesu yn ail Foses, yn ail waredwr, yn ail ddehonglwr y gyfraith; mae’n  pregethu fel Moses oddi ar y mynydd .Mae’n dysgu i’w  ddisgyblion i ddehongli’r ysgrythurau mewn ffordd radical ar gyfer y byd i gyd ( yn oleuni i oleuo’r cenhedloedd) gan droi Iddewiaeth  o fod yn ffydd i un genedl i fod yn Waredwr y ddynoliaeth gyfan.  I’r Iddewon y mae’n parhau’n Rabbi carismatig sy’n cyhoeddi bod teyrnas Dduw yn dod. Nid ef yw’r Meseia addawedig. Dyma ddehongliad y Rabiniaid hynny a dychwelodd i Jeriwsalem ar ôl i’r ddinas a’r deml gael ei dinistrio yn 70 yn nhref Jamnia.

Iesu fel ail berson y Drindod.

Nid yw’r fformiwla am y Drindod yn cael ei diffinio am sawl canrif. Ond y mae’r eirfa , y ddealltwriaeth, a’r fformiwla litwrgaidd yn amlwg yn dod o gyfnod cynnar iawn ac yn dod allan o iaith addoliad a bendithio yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. Y mae credo Athanasius yn enbydrwydd nid yn unig am ei fod yn bygwth uffern i bawb nad yw’n cyd-synio â’r fformiwla, ond  am ei fod yn beth sy’n ceisio bod yn bendant iawn am bethau sydd yn eu hanfod y tu hwnt i’w deall. (Y mae cwyn cyson Rhyddfrydwyr yn erbyn credoau yn gallu’n gadael fel yr awgrymodd Emrys ap Iwan  yn Breuddwyd Pabydd “Heb athrawiaeth i’w chredu na deddf foesol i ufuddhau iddi”.)

Dyma i chi math o amddiffyniad– a hynny yn rhannol ar sail tystiolaeth o’r Hen Destament bod profiad yr Iddewon o bresenoldeb YHWH yn dra amrywiol. Y mae’r eirfa’n amrywiol, sonnir am ei bresenoldeb, ei gysgod, ei ogoniant, ei ddisgleirdeb , ei Air, ei Ddoethineb, ac yn y blaen.

Yr oedd profiad y cwmni apostolaidd yn mynnu bod presenoldeb Iesu yn ddatguddiad o YHWH, mewn ffordd mwy uniongyrchol na Moses ei hun. Sut felly y gellid yn gryno ddisgrifio ei bresenoldeb a’i berthynas â YHWH ond fel Mab- yr oedd y gair Mab Duw yn cael ei ddefnyddio am yr archoffeiriad ar ddydd y Cymod. Rhaid pwysleisio mai iaith metaffor ydi hyn ac nid oedd â wnelo hyn ddim oll â chenhedlu biolegol ym mhlith plant dynion! Nid o ran geneteg, nac obstetreg nac etifeddeg na dim o’r fath. Y mae bod yn Fab i Dad yn ffordd o ddweud fod Iesu yn gwbl debyg, yn un â,  yn eicon, yn ddelw o Dduw. Yr un peth ydyn nhw.

 

Yr Ysbryd Glân

Y mae disodli presenoldeb Iesu gan bresenoldeb Ysbryd Duw sy’ hefyd yn ysbryd Iesu yn ein symud ymlaen i ymwybyddiaeth gwahanol, newydd, wedi ei wreiddio yn nigwyddiadau bywyd Iesu o Nasareth.  A dyna i chi dri pherson, tri wyneb, tair swydd, tri phresenoldeb. Dyna i chi fetaffor, tebygrwydd o’r llawnder a’r amrywiaeth yn ogystal â’r Undod hanfodol sydd o raid yn perthyn i Dduw.  Y mae’r Drindod fell, a dim ond awgrym weddol ysgafn yw hwn,  yn fath o ddyfais i ddiogelu Duw rhag diflannu lawr y llwybr i amldduwiaeth. Mae’n ffordd o lynu wrth y profiad o amrywiaeth Duw heb gasglu delwau amryliw lluosog ar y ffordd. Ac wrth gwr, ar ein cyfer ni mae hyn i gyd, nid ffordd o gyfyngu ar hanfod na bodolaeth Duw.

Mae’r Efengylau eu hunain yn ymaflyd â’r cwestiwn wrth ddewis ble mae’r stori’n dechrau. Mae Marc yn cychwyn gyda’i weinidogaeth gyhoeddus, Mathew a Luc gyda’i enedigaeth,  un gyda’r pwyslais ar achau Mair a’r llall a’i bwyslais ar achau Joseff.  Ac y mae Ioan yn mynd a bodolaeth Iesu nôl i fwriadau Duw ei hun yng nghychwyn y greadigaeth fel dechrau llyfr Genesis “Yn y dechreuad yr oedd y Gair….”  ‘Rwy’n hapus iawn fy hun i barhau i ddefnyddio’r fformiwla gyfoethog  ac i fendithio yn fy nghalon yn ogystal ag ar dafod, yn enw Duw, Dad, Fab ac Ysbryd Glan.

                                                                                                                     Enid R. Morgan