E-fwletiyn Tachwedd 18,2013

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Tachwedd 18ed

Gair o brofiad

Bûm yn ystyried sylw Cynog ar wefan Cristnogaeth 21 parthed cael term/teitl/enw arall ar Dduw, sylw y mae gen i gydymdeimlad ag o. Defnyddir ei enw mor rhwydd, mor afradlon ac mor ddi-ystyr yn rhy aml. Efallai mai trywydd arall y gellid ei ystyried ydy ymatal rhag ynganu`r enw o gwbl!  Rwyn cofio Wil Vaughan Jones,  y Waunfawr (ffrind i`r dramodydd John Gwilym Jones) wrth gyfleu amled y dywedid rhyw ymadrodd neu`i gilydd, yn defnyddio`r gymhariaeth  “Cyn amled ag y clywid enw Duw ar y Sul”. Rwyn siwr fod ei dafod yn ei foch ar  y pryd! Mor hawdd ydy swnio`n dduwiol! Yng nghyfrol odidog Angharad Price “Ffarwel i Freiberg” sy`n portreadu dyddiau cynnar y bardd T H. Parry-Williams dyfynnir ei gwpled cignoeth am y pregethwr ac yntau`r bardd yn wrthwynebydd cydwybodol o dan gwmwl du y Rhyfel Mawr:

Mewn pulpud pren ryw ddwylath o`r llawr

Chwaraeai fel plentyn â`r Duwdod mawr”

Yn naturiol os yr ydym am gymryd y dasg o ddifri rhaid holi fel Cynog “Beth yw Duw” neu fel Denzil John ar Bwrw Golwg, “Pwy yw Duw?” Mae diffiniadau clasurol uniongred y crefyddau – Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam – yn cynnig ateb i  gwestiwn Denzil  ac y mae y crefyddau dwyreiniol Hindŵaeth a Bwdaeth  yn cynnig ateb i gwestiwn Cynog.  Wedi dweud hynny, onid ydy`r naill gwestiwn fel y llall yn dweud gymaint amdanom ni sy`n gofyn y cwestiwn ag am ein Duw honedig? Ac ar ben hynny onid ydy profiad yn taro dau dant yn y delyn ddynol – y personol a`r amhersonol?

Yr unig beth a wn  i yn fy mhrofiad fy hun yw fy mod ar adegau yn cael fy hun fel Cynog yn gofyn y cwestiynau athronyddol, ond heb feddu`r ddisgyblaeth athronyddol i ddelio efo`r cwestiynau hynny. A dyna ddagrau pethau. Ynghanol berw`r Rhyfel Mawr  cyfansoddodd Parry-Williams y bardd a`r meddyliwr dwfn delyneg , “Dagrau”.a ddyfynnir yn y gyfrol uchod. Dagrau gŵr ifanc ydynt, ond nid dagrau am bechod nac am edifeirwch. Meddai`r bardd:

Duw a wyr beth oedd fy nagrau

Ef ei hun oedd biau`r lli;

Wylwn am fod rhaid i`r Duwdod,

Wrth fy nagrau i.

Yn ôl dehongliad Angharad Price, dyma`r dagrau sy`n diffinio`r ddynoliaeth, dagrau sy`n ddyfnach ac yn lletach na chred mewn Pechod neu Gwymp, dagrau anobaith. Ond tybed na allant fod yn ddagrau anwybod. Ychwanega Angharad fod y  bardd ar ei dyneraf yn y gerdd hon wrth drafod yn heriol ei thema fawr. Yn y gerdd a ddyfynwyd yn gynharach mae`n mynegi ei anobaith o fedru gwneud rhych na rheswm o fywyd a gwêl nad oes ond un llwybr Cristnogol yn aros iddo:

Yr eithaf nod a gyrhaeddaf i

 Fydd Crist yr Iddew a Chalfari.

A dyna stori sy`n gyffredin i lawer bellach.

Yn yr Ysgrythurau ac ar lawr gwlad crynhoir y cwestiwn mawr yn ei ffurf bersonol fel yng nghân Edward H. Mr. Duw mae`n nhw`n dweud dy fod ti`n fyw. Mr. Duw wyt ti gyda mi o hyd?  Cefais fy hun droeon yn gofyn yr un cwestiwn, ond heb fedru ei ateb. Tybed a oeddwn yn gofyn y cwestiwn iawn! Roedd R. S. Thomas y bardd yntau  yn cael trafferth i gael hyd iddo. Mae Cynog fodd bynnag yn awgrymu nad hwn yw`r cwestiwn bellach gan nad yw Duw yno.

Ar y llaw arall, gallaf mi gredaf , er nad wyf yn fardd fy hun, uniaethu â phrofiad bardd fel Gwyn Thomas yn ei gyfrol ddiweddaraf, cyfrol odidog arall, Profiadau Inter-Galactig. Yn ei gerdd Fesul Un mae`n cydnabod:

“..ar adegau

 Yn nyfnderau ein bodoli

Fe ddaw at rai ohonom ni,

Gipiadau bychain, bychain

Megis o oleuni pellennig;

A sibrydion, sibrydion

Sydd y tu draw i eiriau,

Y tu hwnt i ystyron ein byd.

Dyma nhw y dirgelion hynny

A wnâi  i galonnau rhai ohonom ni ddyrchafu

Fel pe baem ni yn gwybod pethau cuddiedig;

Fel pe baem ni yn deall

Rhyw gariad sydd megis cerddoriaeth nefol…

 Y mae`r gerdd yn cloi  gyda`r datganiad sy`n atsain o`r Oesoedd Canol  fod

..babis bach, a oedd bob un,…

o`i chlywed hi, yn gwenu trwy ei hu

Ar adegau gallaf uniaethu â dagrau T.H.P-W ac ar adegau gallaf uniaethu â`r wên y sonia Gwyn amdani. Yn y tyndra hwn y gwelaf fy nhynged

Beth amdanoch chi?