E-fwletin Tachwedd 11, 2013

Dysgu Lladd

Mae achos y milwr a gafwyd yn euog o ladd un o’r Taliban yn dangos unwaith yn rhagor mor drallodus o chwerthinllyd yw Cyfamod Genefa. Mae meddwl fod modd ymladd rhyfel yn ôl rheolau yn gyfystyr â meddwl mai gêm rhwng plant ydyw. Yn wir yr ymadrodd a fathwyd am yr ymgiprys gwaedlyd rhwng Prydain a Rwsia i reoli Afghanistan dros ganrif yn ôl oedd “Y Gêm Fawr”.

I wneud pethau’n waeth, yn achos yr un milwr druan yr wythnos dwetha, fe’i defnyddiwyd yn gyfle i glodfori “y lliaws anrhydeddus o filwyr sy’n cyflawni gwaith mor ogoneddus ar draws y byd”. O na bai modd i ryw hanesydd adrodd am y gyflafan warthus a gyflawnodd milwyr Prydain yn Afghanistan yn y 19eg ganrif, pan losgwyd pentrefi, pan laddwyd miloedd o ddynion a phlant ac y rhannwyd y gwragedd ymhlith y milwyr i’w treisio’n ddidrugaredd. Ac un o’r arweinwyr pennaf a gafodd ei anrhydeddu am weithredoedd felly yn Afghanistan oedd y Cadfridog Nott, y parheir i’w anrhydeddu yng Nghaerfyrddin! Dyna wrthun yw’r ymadroddion o enau gwleidyddion a sylwebyddion mai byddin Prydain yw’r orau yn y byd a bod heddlu Prydain yn batrwm i holl wledydd eraill y ddaear! Ofnaf y bydd yn rhaid dioddef rhyw gawl diflas fel yna hyd at syrffed drwy’r pedair blynedd nesaf. 

     Ond yr hyn sy’n loes dyfnach yw’r modd y mae’r Eglwys ar hyd y canrifoedd wedi derbyn rhyfel a thrais. Yn wir nid yn unig eu derbyn, ond eu bendithio. Y mae’n dangos gymaint y mae’r Eglwys wedi cefnu ar Iesu. Mae’n arwyddocaol fod holl arweinwyr cynnar yr Eglwys yn wrthwynebol i ryfel. Gwelent eu bod yn ddinasyddion mewn Teyrnas newydd, a’u brenin wedi eu gwahardd rhag defnyddio’r cledd. Mae tystiolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig yn dangos i Gristnogion gael eu dienyddio am wrthod ymladd yn y fyddin. Roedd hyn yn siom hyd yn oed i Ymerawdwr mor oleuedig â Marcus Aurelius. I’r Cristnogion cynnar roedd geiriau Iesu yn ddiamwys. Roeddent hwy, a oedd yn byw o fewn dwy neu dair cenhedlaeth i Iesu ei hun, yn gwybod yn iawn beth oedd hanfod ei ddysgeidiaeth.

     Yn ddiweddarach, efallai oherwydd i Gristnogaeth droi’n grefydd yr Ymerodraeth, fe aeth diwinyddion ati yn ddiwyd i greu athrawiaeth y “rhyfel cyfiawn”, gan ei gwneud yn esgus dros yr erchyllterau rhyfeddaf megis y Croesgadau. I mi does yna ddim modd i ddiwinydd nac athrawiaeth osgoi’r gwirionedd sylfaenol mai heddychwr di-drais yw Iesu. Dysgodd i ni ymwrthod â’r cledd a charu hyd yn oed ein gelynion. Calon Cristnogaeth yw’r cariad hwnnw. Os dywedaf fod y Bregeth ar y Mynydd yn rhy ddelfrydol, neu os dywedaf fod Iesu yn rhy radical i mi, yna a oes hawl gennyf fy ngalw fy hun yn Gristion?