E-fwletin Tachwedd 4,2013

                       Hanfod yr Efengyl

Er gwaethaf ei henw nid neges newydd sydd gan Gristnogaeth 21. Mae hi mor hen, a newydd, â’r Deg Gorchymyn neu’r Bregeth ar y Mynydd neu Weddi’r Arglwydd. Yr hyn sydd wedi fy nharo i yn gynyddol yn ystod y blynyddoedd hyn yw fod y neges hon wedi ei thraddodi drwy gyfnod ein magwraeth ni. Clywsom gysondeb y neges gan lu o weinidogion a lleygwyr anghydffurfiol Cymru ar hyd y ganrif ddiwethaf.  A daeth hyn yn ôl yn fyw i mi adeg angladd James Nicholas rai dyddiau yn ôl. Pan draddododd ef ei Anerchiad fel Llywydd Undeb y Bedyddwyr fe’n hatgoffodd ni am y cwlwm o wroniaid a fagwyd yn ardal Pentregalar yn Sir Benfro, “bro cenhadon y Deyrnas”: Thomas Rees, T E Nicholas, E Llwyd Williams, D J Davies Capel Als, ac ar gyrion yr ardal honno, Waldo Williams ei hun. Yr un argyhoeddiad a glymai y rhain wrth ei gilydd oedd eu hiraeth am ddyfodiad Teyrnas Dduw. Gresynai James Nicholas am y modd y mae rhai canghennau o’r Eglwys yn rhoi mwy o bwyslais ar barhad hen draddodiadau a chredoau nag ar hanfod yr efengyl. Perygl hyn, meddai, yw i’r traddodiad fynd mor gysegredig â’r Gair ei hun, fel nad oes modd mynegi’r ddiwinyddiaeth draddodiadol mewn ieithwedd newydd, a chymhwyso’r gwirionedd i angen y dydd. Y mae gwir angen gweld craidd neges Efengyl y Deyrnas mewn termau cyfoes a’i chyflwyno i ddiwallu anghenion cymdeithas heddiw.

   Bu hi’n ffasiynol i ni dybio mai Karl Barth oedd piau’r gair olaf, gan wawdio yr holl ddatblygiadau diwinyddol o Schleiermacher ymlaen. Pan ddeuai ambell lais i’n galw ni yn ôl at ddysgeidiaeth Iesu, pregethwyr argyhoeddiadol megis O R Davies y Garnant, caent eu labelu’n ddilornus fel pedlerwyr yr “hen efengyl gymdeithasol”. Erbyn hyn fe allwn droi yn ôl at gerddi Niclas y Glais a sylweddoli mor berthnasol yw ei neges i’n byd ni heddiw. Pan welwn ni arweinwyr y Gorllewin “Cristnogol wareiddiedig” yn creu dinistr anwar ac erchyll yn y Dwyrain canol, fe ddown i ddechrau deall pwyslais Niclas ar y “weriniaeth”.

   Buasai’n dda gen i petai modd inni alw’r hen broffwydi yn ôl eto i’n pulpudau, a ninnau’n cael gwrando arnynt gyda gwerthfawrogiad newydd. Cael gwared ar y lleisiau beirniadol a lefai am “uniongrededd y ffydd” a chlywed y cewri tawel fel D J Davies yn troi gwirioneddau oesol Iesu yn falm i enaid ac yn oleuni telynegol ar ein cyfrifoldeb i gymydog a chymuned.