E-fwletin Tachwedd 25ain, 2013

Adfent.

Mae’n dymor yr Adfent, tymor y disgwyl a’r paratoi.  Byddwn, mi fyddwn fel Cristnogion yn dathlu eto eleni ond beth mewn gwirionedd yw ein disgwyliadau ni? A beth sydd o’n blaenau ni?  Ymddengys mai sŵn  marwolaeth sydd ym mrig y morwydd – marwolaeth y cread,  marw iaith, marw cenedl, marwolaeth Cristnogaeth a marwolaeth yr unigolyn  yn arbennig i rai ohonom  sydd ar amser benthyg!

Beth sydd o flaen yr hen enwadau ymneilltuol, anghydffurfiol, yr enwadau ymylol ansefydliadol a fu mor ganolog ym mywyd y genedl?

Beth am yr Eglwys Babyddol, yr Eglwys Uniongred  a’r Eglwys Anglicanaidd hithau, eglwysi hanesyddol a sefydliadol eu natur? 

A beth am y Crynwyr , Byddin yr Iachawdwriaeth, a’r Undodwyr sydd yn lleiafrifoedd llafar a gweithgar yn y gymdeithas?  Bellach fodd bynnag yr ydym oll gyda’n gilydd yn lleiafrif yn y gymdeithas gyfoes ac yn dioddef oddi wrth fygythiadau y secwlariaeth ymosodol (yn hytrach na’r  secwlariaeth weithredol sydd am gynnwys crefydd yn hytrach na’i chau allan). Clywir hefyd am Gristnogaeth yn cilio o’r Dwyrain Canol yn wyneb erledigaeth, er bod rhai gwroniaid yn dal eu tir yng nghanol yr holl drais a thywallt gwaed. Eto, gwelir Cristnogaeth yn ei gwahanol ffurfiau  ar gynnydd yn Tseina ac yn yr Affrig.

Ar y darn hwn o’r ddaear a dynghedwyd ni i fod yn lleiafrif bellach? Er i ni nesáu at ein gilydd, y mae’r  amrywiaeth pwyslais yn ein plith yn mynd yn wytnach. Newid y gyfundrefn (yn enwadol neu yn ecwmenaidd) yw ateb rhai.  Cred yw’r ateb medd eraill (Diwinyddiaeth) ac union gredu yn arbennig (Dogmatiaeth),  Ffydd yn nhermau profiad ac ymddiriedaeth (Ysbrydoledd) yw’r ateb i rai sydd ar y dde ac ar y chwith diwinyddol.  Ond beth yw rhan yr eglwys yn hyn oll?  A ydyw yn amherthnasol bellach? 

Ai ecwmeniaeth yw`r ateb? Mewn Sasiwn yn ddiweddar, cafwyd cymeradwyaeth fyddarol i’r datganiad mai ar lawr gwlad y dylai ecwmeniaeth ddechrau. Wrth gwrs y mae’n rhaid iddo ddechrau yno, ond mi fydda i’n synhwyro ei fod yn ffordd o osgoi uno oddi uchod. Hyd y gwelaf, rhaid iddo weithio o’r gwaelod ac o’r grib. Ar y llaw arall y mae’r gymeradwyaeth y soniais amdani yn adlewyrchu rhwystredigaeth efo cynlluniau uno sydd yn gywrain, yn gymhleth ac yn glogyrnaidd. Ond yn rhy aml defnyddir hynny i guddio rhagfarn a mympwy diwinyddol.

Eto mae’r Babyddes a’r newyddiadureg, Cristina Odone, yn rhagweld Gwanwyn Cristnogaeth mewn termau mwy traddodiadol, yn nhermau’r Pab newydd gyda grym ei bersonoliaeth ostyngedig ac Archesgob newydd Caergaint gyda’i barodrwydd i feirniadu’r sefydliadau ariannol a gwleidyddol. Mae ei phwyslais yn ein hatgoffa, beth bynnag yw’r gyfundrefn, neu a fydd, beth bynnag yw natur ein cred a natur ein ffydd, y mae’r pwyslais ar y person ac ar y gymdeithas yn allweddol.  Y mae angen Iesu ac angen ein gilydd arnom.

 Nadolig Llawen i holl garedigion Cristnogaeth 21 a Blwyddyn Newydd Dda i’r gwerthoedd a’r egwyddorion y saif drostynt.