E-fwletin Rhagfyr 2il, 2013

Sut wyt ti’n medru bod yn wyddonydd ac yn Gristion?”  – cwestiwn mae nifer cynyddol ohonom sy’n wyddonwyr ac sy’n arddel y ffydd Gristnogol, ac yn wir sawl ffydd arall, yn ei wynebu’n gynyddol. Yn ddiddorol iawn nid, gan amlaf, gan wyddonwyr eraill di-ffydd ond yn hytrach gan gredinwyr neu’r rheini sydd efallai yn chwilio am resymau i beidio gorfod penderfynu a ydynt yn credu neu peidio! Stori’r Creu sydd, gan amlaf, yn achosi’r broblem – “sut fedrith honno fod yn wir” yw’r gri ar un llaw ac “nid o fwnci y daeth dyn” a glywir ar y llaw arall. Fel gwyddonydd sy’n arddel Iesu yn Arglwydd ’rwy’n deall sail y ddau haeriad!Byddai’n anodd iawn i mi gredu’n llythrennol yn yr hyn a geir ym Mhennod 1 o Lyfr Genesis. Hynny am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae’r dystiolaeth wyddonol fod esblygiad yn broses sy’n digwydd mor gryf ac amlwg fel ei bod yn anodd iawn dadlau mai anwir yw ac nad yw wedi bod yn weithredol dros y milenia. Wedyn, ai hanes Genesis Pennod 1 neu Pennod 2 sy’n gywir? Maent yn wahanol iawn! Hefyd, mae Stori’r Creu fel y’i ceir yn Llyfr Genesis a’r hyn a geir yn yr Enuma Elish, hanes creu’r byd o draddodiad amldduwiaeth Babilon, yn hynod debyg – nid yn unig o ran cynnwys ond o ran yr union eiriau a ddefnyddir. Gellid gofyn a fu Moses yn euog o lên-ladrad! Ar ben hyn i gyd, mae’r cysyniad o ddyn yn esblygu o fwnci yn dangos methiant llwyr i ddeall yr hyn a ysgrifennodd Charles Darwin; fedra i ddim llai na gofyn faint o Gristnogion sy’n pedlera’r fath osodiadau sydd erioed wedi darllen Origin of the Species a The Descent of Man. Yr hyn wnaeth Darwin ei gynnig oedd bod dyn a’r epaod wedi disgyn o’r un hynafiaid – sy’n rhywbeth cwbl wahanol! Ydy hi’n bosibl credu’r hyn y bu i Darwin ac Alfred Russel Wallace, a llu o arloeswyr gwyddonol eraill ei gynnig ynghyd â bod yn Gristion – ydy wrth gwrs! Ni wnaeth Darwin erioed geisio egluro pam yr ydym yma; ddim mwy nag yw Genesis yn ceisio egluro sut, yr union fecanwaith, y daethom i fod.

Pam sôn am hyn? Wel am i mi ymlawenhau wrth ddarllen trydar dwy eglwys (Annibynnol fel mae’n digwydd) o Gaerdydd yn ystod yr wythnos. Eglwys Ebeneser yn cyfeirio at sesiwn drafodaeth am wyddoniaeth a ffydd (byddai wedi bod yn dda bod yno!), ac Eglwys Minny Street yn trydar cyfres o negeseuon yn sôn am anghenraid rhoi sylw i ddatblygiadau a damcaniaethau gwyddonol yn ein ffydd. Nid yw bod â’n pen yn y tywod, fel yr estrys bondigrybwyll o werth i neb!  “Dylai ein ffydd gynnwys ffrwyth ymchwil gwyddonol gan sylweddoli a datgan nad ymchwil gwyddonol ynddo’i hun yw’r ateb terfynol i bob peth.” meddai un o negeseuon @MinnyStreet. Gan gofio mai trwy esblygiad mae rhywogaethau wedi goroesi ar draws y miloedd o flynyddoedd, ac mai difodiant sydd wedi wynebu’r rhai hynny nad sydd wedi newid, Amen ac Amen, meddaf innau!