E-fwletin Rhagfyr 9fed, 2013

Bu farw Nelson Mandela  Nos Iau, 5 Rhagfyr 2013. Dros y tridiau diwethaf, llifodd teyrngedau yn datgan diolch a gwerthfawrogiad am fywyd a gwaith y gŵr arbennig hwn. Bydd nifer ohonom yn cofio am y frwydr yn erbyn cyfundrefn ddieflig apartheid; cofio sawl gwylnos yn pledio am ryddhau Nelson Mandela o’r carchar; cofio cefnogi sancsiynau masnach yn erbyn De Affrica;  a chofio’r rhan flaenllaw bu i fudiadau megis Cymorth Cristnogol ei chwarae yn y frwydr dros degwch. Llwyddodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ddweud llawer mewn ychydig pan ddywedodd yn ei deyrnged fore Gwener: “Byddai gan bobl ddu De Affrica, oedd wedi dioddef creulondeb y system apartheid, achos i ddial ar eu gorthrymwyr. Diolch i esiampl anhygoel Mandela llwyddwyd i osgoi rhyfel cartref gwaedlyd.”  Heddiw, sylweddola’r byd ei ddyled i Nelson Mandela; nid oes llawer mwy i’w ddweud. Enillodd Madiba, yn gwbl haeddiannol, ei le yn llyfr hanes ein planed.

Ar ysgwyddau Huw Edwards y syrthiodd y dasg o gyhoeddi’r newyddion am farwolaeth Nelson Mandela; gwnaeth yntau hynny mewn modd urddasol a phroffesiynol, na ellid ei gwell, er iddo fod yn amlwg dan deimlad mawr. Y noson ddilynol, ‘roedd y cyflwynydd newyddion yn darlithio ym Mhrifysgol Abertawe ar bwnc sydd yn agos iawn i’w galon, sef etifeddiaeth capeli Cymru. Fe’m gwefreiddiwyd wrth ddarllen ei lyfr ar Gapeli Llanelli beth amser yn ôl, gwn am ei ymdrech ddiflino i achub Capel Jewin yn Llundain ac er nad oeddwn yn y ddarlith, mae’n amlwg o’r ffrwd drydar Nos Wener iddi fod yn ddarlith ysgolheigaidd, hanesyddol a heriol.

Fore Sadwrn, “BBC presenter Huw Edwards’s call to champion Welsh chapels” oedd y pennawd ar wefan newyddion y BBC. Rhaid i mi gyfaddef i mi ochneidio! Onid dyma’r peth diwethaf sydd ei angen ar Gymru ac arnom fel Cymry? Onid capelyddiaeth a chanolbwyntio ar ein hetifeddiaeth bensaernïol  sydd, o leiaf yn rhannol, gyfrifol am ddifrifoldeb ein sefyllfa ysbrydol yng Nghymru ar ddiwedd 2013? “Noson wych yn narlith @huwbbc Dwi isio neud mwy i safio ein capeli! #ChampioningtheChapels” meddai un trydar. Drydarwyr, haneswyr, penseiri a chyfeillion hoff – mae’r ateb yn hawdd! Ewch i oedfa ar y Sul? Beth am ail ddechrau mynychu Ysgol Sul? Beth am ymgasglu yn lleol i weddïo?  Beth am gydio yn yr awenau? Beth am ganu emyn, a darllen a thrafod Gair Duw? Beth am ail-ystyried blaenoriaethau bywyd? Beth am gydnabod Iesu yn Arglwydd bywyd? O na fyddem yn sylweddoli pe byddem ond yn darganfod yr Efengyl yng Nghymru byddai “safio ein capeli” yn waith hawdd iawn, iawn.

Achub ein capeli? Byddwn i yn gwbl, gwbl hapus i weld dymchwel a dileu pob capel yng Nghymru – pob un ohonynt – pe byddai hynny’n fodd i sicrhau bod Efengyl Crist yn cael lle canolog ym mywyd ein cenedl.