E-fwletin Rhagfyr 16, 2013

Cyfarchion Nadolig gan Gadeirydd Cristnogaeth 21.

Ddiwedd Tachwedd bu farw Hywel Davies, o Betws, Rhydaman, y cyntaf o   ffyddloniaid Cristnogaeth 21 i farw hyd y gwn i.  Ni welais i Hywel nes cwrdd ag ef yng nghyfarfodydd Cristnogaeth 21.  Nid yw fy nghyswllt i ag ef yn mynd yn ôl ymhell felly, ac ni fuom gymaint â hynny yng nghwmni’n gilydd.  Eto, yn ei gynhebrwng, teimlwn fel pe bawn i wedi colli perthynas cig a gwaed.  Gellid esbonio hynny mewn termau naturiol, oherwydd yr oedd yn berson hawddgar, gwybodus, egwyddorol.  Ond ein cyswllt drwy C21 oedd craidd ein perthynas, a theimlais yn ddiolchgar fod y cyswllt hwnnw wedi creu neu ddatguddio rhyw berthynas mor ystyrlon rhyngom, math ar berthynas na all eglwysi lleol ar hyn o bryd ei chynnal.

Yr un fath yn yr encil yn Nhrefeca dro’n ôl.  Sawl gwaith edrychais o gwmpas yno a gofyn – beth sydd wedi casglu cwmni mor amrywiol at ei gilydd, cwmni hyd y gwelwn i yr oedd pawb yno wedi cyfrannu, a gwrando ar gyfraniad eraill, a phob un wedi mwynhau’n ddwfn iawn, iawn.  Efallai y byddai gan bob un a oedd yno ateb gwahanol, ond i mi, nifer o eneidiau awchus i ddeall mwy am y traddodiad crefyddol yr oeddent yn byw eu bywyd drwyddo oedd yno, nifer o bersonau wedi ymgasglu i ddysgu a deall oddi wrth eraill mwy nag a wyddent eisoes.  (Efallai y dylem drefnu mwy o encilion yma a thraw.)

Mewn byd â chymaint ynddo sy’n arwynebol a garw ac anghyfiawn a hyd yn oed yn dreisgar, rhaid peidio dibrisio gwerth hanfodol cymdeithas ymchwilgar, oddefgar, cymdeithas war fel C21.  Adeg yw’r Nadolig i lawenhau a diolch am

faban a ddaeth i mewn i’n byd a rhoi egni mawr creadigol a dyrchafol ar waith drwy’r oesoedd a thros dir a môr.  Mae diolchgarwch bob amser yn cael ei gyfoethogi drwy fod yn benodol, a rhan o’m diolchgarwch i y Nadolig hwn fydd diolchgarwch am gymdeithas Cristnogaeth 21 yn y Gymru sydd ohoni.  Mae’r edafedd sy’n cysylltu’r baban Iesu â’r gymdeithas honno’n un hir ac yn un denau, ond ‘rwy’n ffyddiog ei bod hi’n un euraid.

Oddi wrth swyddogion a gweithwyr C21 felly, Nadolig Llawen a gobeithiol i gyfranwyr a ffyddloniaid C21, a diolch i chi un ac oll am eich cwmni ar y daith.

Vivian Jones, Cadeirydd

Fe fydd yr e-fwletin nesaf ddechrau Ionawr.

Os ydych yn defnyddio’r gyfrol Byw’r Cwestiynau ar gyfer grwpiau trafod yn eich eglwys chi, a rowch chi wybod i ni os gwelwch yn dda? Anfonwch air at gwefeistr@cristnogaeth21.org

Diolch yn fawr.