E-fwletin Ionawr 6, 2014

Croeso i fwletin cyntaf Cristnogaeth21 2014. 

A hithau’n droad blwyddyn, mae’n debyg y byddwn ni gyd, i ryw raddau, wedi treulio ychydig amser dros y dyddiau diwethaf yn edrych yn Ôl ar 2013 a’i phwyso a’i mesur.  Efallai y byddwn wedi bod yn ddigon dewr i edrych ymlaen at 2014 a cheisio darogan sut flwyddyn  bydd hi i ni.  Eleni, rwy wedi hepgor yr addunedau bondigrybwyll.  Y llynedd, fe wnes i adduned i ail-ddechrau ymarfer corff o ddifri, wedi chwarter canrif o esgeulustod difrifol.  Cymerodd hi tan fis Medi i mi fentro i’r gym, ond rwy wedi llwyddo i fod yn eitha ffyddlon i’r sefydliad ers hynny. 

Os buodd wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, rwy’n teimlo fod yr un peth yn wir erbyn hyn am ddyfodol ein heglwysi.  Ry’n ni o fewn trwch blewyn i ddweud ta-ta wrth yr etifeddiaeth gyfoethog fu’n sail i’n gwleidyddiaeth, ein cenedligrwydd a’n diwylliant. Wrth gwrs, nid yng Nghymru yn unig y mae hynny’n wir, ac rwy’n synhwyro ymhlith ffrindiau Catholig eu bod nhw’n teimlo’r un brys i ddatrys eu anawsterau nhw fel Eglwys sydd wedi profi degawd difrifol o gythryblus.  Ffodus iawn felly iddyn nhw eu bod nhw wedi newid eu Pab yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.    

Rhyfeddod o beth yw dylanwad cyflym iawn y Pab newydd.  O blith y byw mae tipyn o gonsensws mai ef oedd Dyn y Flwyddyn yn 2013 (gan gynnwys cylchgrawn TIME).  Pwy fyddai wedi disgwyl proffil mor fawr i’r Pab Ffransis AKA Jorge Mario Bergoglio, 77 oed?  Wedi blynyddoedd trafferthus iawn i’r Eglwys Gatholig, hoffwn awgrymu mai i’r fan honno y dylwn fod yn edrych am ysbrydoliaeth ar hyn o bryd.   Mae’r eglwys bob amser wedi llwyddo i greu unigolion sy’n sefyll uwchben enwadaeth neu draddodiad ac sydd wedi apelio’n fawr i’r teulu Cristnogol ehangach, e.e. Hans Kung a Richard Rohr.  Yr hyn sy’n gwneud y Pab yn eithriadol yw ei fod wedi cyrraedd y top a’i fod yn ysgwyd y sefydliad a’i dyrchafodd. 

Mae ei onestrwydd a’i safiadau yn erbyn ffwndamentaliaeth a thros gyfiawnder, tegwch, goddefgarwch a chydraddoldeb yn ysgubol a phellgyrhaeddol.  Yn nifer fawr o’i ddatganiadau cyhoeddus, rwy’n gweld DNA Iesu Grist yn eu canol. Fodd bynnag ar ddechrau 2014, mae e’n dechrau cael gwrthwynebiad cynyddol i’w safbwyntiau, a rheiny yn dod o fewn yr eglwys.   

Mewn ymateb i her Nadolig y Pab i Gristnogion cefnog roi yn fwy hael, mae Kenneth Langone, Pabydd cefnog (gwerth dros $2biliwn) sy’n ddyn busnes blaenllaw yn America, wedi ei herio gan awgrymu y bydd cyfoethogion Catholig America yn llai hael at y tlawd os gwnaiff y Pab barhau gyda’i fyrdwn dros y tlawd!  Mae e hefyd yn awgrymu y bydd cyfoethogion pabyddol yn cyfyngu ar eu rhoddion i’r eglwys os bydd iddo barhau ar y trywydd hwn.  Mae unigolion ar deledu Fox yn America wedi bod yn honni mai Marcsydd yw’r Pab newydd, sy’n benderfynol o danseilio cyfalafiaeth y Gorllewin.  Erbyn hyn, mae sawl sylwebydd yn America – Protestanaidd a Chatholig- yn galw ar y Pab i ddal ei dafod ar faterion fel hyn “am nad yw’n Americanwr nac yn economegydd”. 

Mae’r dystiolaeth Feiblaidd yn awgrymu fod galwadau’r Pab yn eistedd yn gyffyrddus iawn gyda geiriau Iesu Grist.  Felly os oes gwrthwynebiad o fewn yr eglwys Gristnogol ehangach i’r Pab, a fyddai’n deg disgwyl y byddai gwrthwynebiad tebyg i Iesu Grist ei hun?   Rwy’n tybio y byddai Ef yn wynebu’r un cyhuddiadau –  am nad yw’n Americanwr nac yn economegydd, nac yn wyddonydd, nac yn ŵr prifysgol.  Rwy jyst yn gobeithio na fydden ni yn ei wrthod am nad yw’n Gymro……… wir, dyw E ddim.