E-fwletin Ionawr 13eg, 2014

Cyrddau Gweddi Dechrau’r Flwyddyn

Pa mor gyffredin yw cyrddau gweddi dechrau’r flwyddyn bellach? Faint o weddïwyr ‘o’r frest’ sydd ar gael yn ein capeli? Faint o ‘brofiadau pen y mynydd’ a glywyd yng Nghymru ynghanol y stormydd a’r llifogydd diweddar? Faint o brofiadau gorfoleddus o’r fath sy’n   bosibl wrth ddilyn gweddïau ffurfiol unrhyw Lyfr Gwasanaeth? Ydym ni bellach yn credu mewn gwerth gweddi?

Mae hi hefyd yn gyfnod Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol. Yn bersonol, mae’n well gen i sôn am undod Cristnogol.  Eglwysi Canada Ffrengig a ddewisodd y thema eleni, sef cwestiwn pryfoclyd Paul   “A aeth Crist yn gyfran plaid”? [1 Cor 1:13]. Canada, sy’n wlad lle mae amrywiaeth ieithoedd a diwylliant; amrywiaeth o hinsawdd a dulliau o fynegi’r ffydd Gristnogol. Mae’r Canadiaid, tra’ n cydnabod fod eu cymunedau eglwysig yn parhau i oddef “rhaniadau tramgwyddus”, yn ymhyfrydu yn eu hanes cryf o gydweithio ac o gefnogi ei gilydd; o rannu gweinidogaethau ac hyd oed uno sawl eglwys.

On’d yw hi’n rhyfedd sut mae rhwygiadau wedi nodweddu hanes datblygiad yr eglwys o’r dechrau – Iddew a Chenedlddyn, Groegwr a Hebrëwr, Jerwsalem a Rhufain, Pabydd a Phrotestant, yr Eglwys Wladol ac Ymneilltuaeth, y llythrennolwr a’r radical …

Nid dadl am unffurfiaeth sydd yma ond am undod; y gallu, er ein gwahaniaethau, er y gwahanol bwyslais, er y gwahanol ddehongliadau, i siarad ag un llais. Gymaint cryfach fyddai ein tystiolaeth pe medrem ni siarad ag un llais ar faterion sy’n ymwneud â thlodi, â chyfiawnder cymdeithasol, â rhyfel a heddwch, â mewnfudo, ag alcohol a chyffuriau eraill, ag ordeinio gwragedd [onid Chlöe a dynodd sylw Paul at y gynnen oedd ymhlith dynion?], gofal am blant ac oedolion bregus … mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd.

Nid ar faterion ym mhen draw’r byd, chwaith, yn unig y mae gofyn am lais unedig yr eglwys. Yn nes adre, beth allai’r eglwys ei ofyn mewn prifddinas lle mae cynllun ar droed i adeiladau degau o filoedd yn fwy o dai ar y cyrrion? Pa ddarpariaeth at addysg Gymraeg ac addoli sydd yn rhan o’r chwyddiant hwnnw yn y boblogaeth? Sut gall eglwysi gryfhau braich y Comisiynydd Iaith i sicrhau hawl statudol i gofrestri priodasau ac angladdau yn Gymraeg?

Yn sail i’r cyfan, yr ystyriaethau ysbrydol a chynllun Duw i’r ddynoliaeth – Cymru, Canada, y cosmos.

“Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.” [Galatiaid 3:28]

Wrth i ni weddïo am undod Cristnogol, mae Duw yn ein hatgoffa na ellir gwahanu undod oddi wrth oblygiadau Cristnogol eraill. Mae undod a chenhadaeth yn cerdded law yn llaw. Sut arall y gall ‘yr etholedig rai’ genhadu’n effeithiol?                                                                                                                                                                                                                                                                Am ‘bobol etholedig Duw’: “Galwad i wasanaeth i eraill yw etholedigaeth. Nid unrhyw haeddiant yn Israel a barodd ei dewis.  Gwaredir hi, a daw yn gyfrwng gwaredigaeth i eraill, nid oherwydd unrhyw rinwedd a berthyn iddi hi, ond yn unig o achos cariad Duw. Mae Duw yn gwaredu lle nad oes haeddiant.”  ‘Trosom Ni’ (Isaac Thomas) t. 31

Gyda llaw, Os byddwch o fewn cyrraedd i Aberystwyth nos Iau nesaf, Ionawr 16eg am 7.30p.m. mae croeso i chi ddod i’r Morlan ar gyfer trafodaeth rhwng Y Parchedig Enid Morgan a’r Athro Densil Morgan, dan gadeiryddiaeth John Roberts ( Radio Cymru).  Mae’r drafodaeth yn rhan o noson lansio y Ddarlith Davies (“Ffiniau ac  arfodir ffydd” ) a draddodwyd gan Pryderi Llwyd Jones  ac a gyhoeddir gan Y Lolfa.