E-fwletin Ionawr 20

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Ionawr 20ed.

 Croesi Ffiniau yn Morlan

Tybed sawl un o’r dyrfa niferus a ddaeth ynghyd yng Nghanolfan Morlan Aberystwyth (Ion 16) i lansio Ffinau ac Arfordir Ffydd Pryderi Llwyd Jones a oedd yn edrych ymlaen at dipyn o fygylu rhwng Densil ac Enid Morgan? Nid bygylu a gafwyd (o dan gadeiryddiaeth fedrus John Roberts) ond dau grediniwr cynnes, hyddysg a diymhongar yn cyd-ymgodymu’n angerddol â rhai o themâu cyfrol Pryderi. Engagement fyddai’r disgrifiad yn Ffrangeg.

Ar gwestiwn ffin a diffinio pwysleisiodd Enid na ddylid fyth eu defnyddio yn fodd o gau allan, y dylai’r croeso i gymdeithas yr eglwys fod yn ddiamod. Cytunodd Densil ond fe welai fe’r angen serch hynny i ddiffio’r hyn y croesewid pobl i ymuno ag e. I Enid gwybod ei bod yn wrthrych cariad Duw oedd hanfod y peth. Cynigiodd Densil yr adnod enwog ‘Canys felly y carodd Duw y byd…’ yn ddifiniad. Atebion nid annhebyg, ond y cwestiwn i Enid oedd sut i wneud yr adnod yna, a’r Ysgrythurau’n gyffredinol, yn ystyrlon i anghrediniwr cyfoes.

A dyna ni at gwestiwn Awdurdod yr Ysgrythurau. Gair Duw meddai Densil yn yr ystyr mai yma yn anad unman yr adroddir y stori am Dduw yn caru’r byd ac yn danfon Iesu Grist. Pwysleisiodd Enid mai cynnyrch yr eglwys fore mewn cyfnod hanesyddol arbennig yw’r canon ac mai fel ‘testun mewn gwewyr esgor’ yr oedd angen ei weld, i’w ddehongli o berspectif ein hoes ni. Dim byd newydd yn hynny meddai Densil: drwy’r oesedd fe ddaethpwyd o hyd i ystyron newydd yn yr Ysgrythyrau ac mae’r broses yn parhau.

Roedd y drafodaeth beth wmbreth yn fwy amrywiol a chyfoethog nag y mae’r crynodeb amrwd uchod yn awgrymu. Bydd cyfrol Pryderi, a oedd ar werth ar ddiwedd y cyfarfod, nid ar y dechrau, yn cynnig sbardun pellach i’r meddwl a’r enaid.

Cafwyd Ôl-Nodyn craff gan John Tudno Williams. Gobeithio meddai y byddai efengylwyr heddiw yn ymateb yn gadarnhaol i alwad rhai o’u mysg i groesawu yn hytrach nag ymwrthod â’r Feirniadaeth Feiblaidd sy wedi gweddnewid ein dealltwriaeth o’r Ysgrythurau dros y ganrif-a-hanner ddiwethaf. Efengyliaeth ryddfrydig myn brain-i! Dyna beth fyddai croesi ffin arwyddocäol.

Mae’r llyfryn ‘Fffiniau ac arfordir ffydd’ ( Y Lolfa. £3.95 ) ar werth yn eich siop lyfrau leol.

( Adroddiad Cynog Dafis )