E-fwletin Ionawr 27ain, 2014

Ar Ddydd Cofio’r Holocost mae’n anodd peidio teimlo nad diwrnod i drafod, dadlau, ymresymu, pregethu, diwinydda, nac anfon e-fwletin yw hwn, ond yn gyntaf, diwrnod i fod yn dawel. Efallai mai dyna wir ystyr gweddi – ac mae digon o dystiolaeth i hynny yn dod o’r Holocost. 

Ond mae yna rai sy’n fwy cymwys na ni i siarad, er mwyn i ni  ‘ddysgu tawelwch’. 

“Y Duw sy’n maddau, paid â maddau.” Y nofelydd Elie Wiesel – Nos  yw ei nofel enwocaf –  a gollodd ei deulu i gyd yn Auschwitz, ond fe ddaeth allan yn fyw. Geiriau a ddywedodd mewn cyfarfod  yn Auschwitz yn 1995 i gofio rhyddhau yr uffern honno ple roedd y llwch yn disgyn yn dawel. 

“Nid oes wirionedd y gallaf ei amddiffyn – a throi fy nghefn ar Auschwitz; ac nid oes Dduw y gallaf weddïo arno – a throi fy nghefn ar Auschwitz.” 

Y diwinydd o’r Almaen Johann-Baptist Metz a fu’n ymgodymu ar hyd ei oes , fel Wiesel ei hun , ac fel llawer o Gristnogion eraill,  â chred a hygrededd y Ffydd Gristnogol ar ôl yr Holocost.  

Efallai nad yw’r Cyngor Cristnogion ac Iddewon yn golygu ddim mwy i lawer o bobl  na, wel, dim ond ‘Cyngor’ arall – Cyngor trafod, cynadledda, datganiadau. Ond tu ôl iddo mae profiad gwareiddiad Cristnogol Ewrop yn dod i sylweddoli na all hi bellach fod yn ddigonol nac yn dyst diogel i Iesu o Nasareth, yr Iddew. Daeth machlud y Ffydd Fuddugoliaethus a rhoi lle i Was Dioddefus. 

Y dirglewch mawr yw fod Auschwitz-fy-Nuw-fy-Nuw–paham-ym–gadewaist wedi esgor ar dystiolaeth achubol o obaith yn dod o fedd, a bod Elie Wiesel yn cael ei adnabod bellach fel ‘ llysgennad i’r ddynoliaeth’ a merched ifanc fel Etty Hillesum, fu farw yn  29ain oed, yn dangos dyfnder o faddeuant a chariad oedd deilwng o’r Testament Newydd ar ei orau.