E-fwletin Chwefror 3ydd, 2014

Fis Tachwedd diwethaf, o dan nawdd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, bu’r diwinydd Jürgen Moltmann yn annerch cyfarfodydd ym Manceinion a Reading. Thema’r cynadleddau hyn oedd “Cenhadaeth y Meddwl” (Mission of the Mind), ac ar y daflen gyhoeddusrwydd nodwyd y sylwadau hyn:

“Yn amlach na pheidio diffinir cenhadaeth mewn termau daearyddol: cenhadaeth  dramor, neu ymgais i gyrraedd rhywrai na chlywsant erioed yr Efengyl. Eithr y mae’r ffin newydd y mae’n rhaid i’r eglwys ei chroesi heddiw yn gorwedd yn y  meddwl. Dyma’r frwydr syniadaol. Dyma genhadaeth y meddwl.”

Ar un llaw, y mae Moltmann yn herio anffyddwyr, gan ddadlau nad yw seciwlariaeth atheistaidd yn cynnig i ddynion fywyd llawn a phwrpasol; ar y llaw arall y mae’n herio’r eglwys i wrthsefyll y ffwndamentaliaeth honno sy’n ei hamlygu ei hun mewn llawer rhan o’r byd (yn enwedig yn yr Unol Daleithiau), ac sy’n ymdebygu i’r hyn a geir mewn rhai carfannau y tu mewn i Islam ac Iddewiaeth. Yn ôl Moltmann, un o’r rhesymau sydd i gyfrif am y ffwndamentaliaeth niwediol hon yw gwrth-ddeallusrwydd, sef amharodrwydd i ddefnyddio rheswm i ddehongli ffydd mewn termau rhesymegol a synhwyrol. Wedi’r cyfan, er bod ffydd, ar adegau, yn symud y tu hwnt i reswm, nid yw byth yn groes iddo. Er y dirgelion a berthyn iddi, nid yw ffydd, yn ei hanfod, yn rhywbeth abswrd ac afresymol.

Cyfeiria Gwili yn un o’i emynau at gynnydd y Cristion “mewn gwybodaeth ac mewn gras”. Ni ellir gorbwysleisio’r angen i dyfu mewn gras, ac i feithrin y rhinweddau Crist-debyg. Ond y mae cynyddu mewn gwybodaeth yr un mor hanfodol i’r Cristion.

O feddwl am y datblygiadau cyffrous a ddigwyddodd yn ystod y degawdau diwethaf hyn mewn Diwinyddiaeth ac ym maes Beirniadaeth Feiblaidd, mae’n drist meddwl gyn lleied o’u dylanwad sydd wedi treiddio drwodd i’n heglwysi. Bellach, nid anllythrennedd yw’r bwgan, ond anwybodaeth.

‘Rydym newydd ddathlu’r Nadolig. O holl storïau’r Beibl prin fod yr un yn fwy cyfarwydd na stori’r geni, ond fe’i cyflwynwyd y tro hwn eto (i oedolion yn ogystal ag i blant) fel tase’r holl elfennau symbolaidd a geir ynddi i’w credu’n llythrennol ac yn anfeirniadol. Y mae byd o wahaniaeth rhwng Drama’r Geni draddodiadol (a’r stabal a’r seren a’r sêr-ddewiniaid, a’r angylion a’r dianc i’r Aifft) a, dyweder,  cyfrol Geza Vermes, The Nativity; ac yn fwy fyth gyfrol Raymond Brown, The Birth of the Messiah.

A yw hyn yn golygu ein bod yn disgwyl i bob aelod eglwysig fod â gradd mewn Diwinyddiaeth neu Astudiaethau Crefydd? Dim o gwbl! Duw a’n gwaredo! Pwy ydym ninnau i amau gwerth y broffes syml, ddidwyll sy’n tarddu o galon gywir? Ond rhywsut, y mae’n rhaid darganfod ffyrdd i alluogi’n pobl i gael gafael mwy credadwy a llai ffuantus ar eu ffydd. O’r holl heriau sy’n wynebu’r eglwys heddiw prin fod yr un yn bwysicach na’r her addysgol. Ys dywed Moltmann, y mae gwrth-ddeallusrwydd yn arwydd o ffydd farw. Os mai Duw a roes inni’r gallu i feddwl ac i resymu, dylem ei ddefnyddio i’r diben o feddu ar well dealltwriaeth o’n cred. Gyda Moltmann, credwn ninnau mai trwy hyn y llwyddir i oresgyn peryglon ffwndamentaliaeth.

 

Fe fydd cyfres o 5 sesiwn wythnosol ar ‘Byw’r cwestiynau’ yn dechrau am 7.30 yng Nghapel y Porth, Porthmadog nos Iau nesaf,  am 7.30 ac yn parhau tan Fawrth 6ed. Cylch Cristnogaeth 21 lleol sydd wedi trefnu ac fe fydd y sesiynau yn cael eu harwain gan Aled Jones Williams