Beth yw’r Beibl? Y Drafodaeth

Ddechrau Medi, daeth grŵp Cristnogaeth 21 yn Aberystwyth at ei gilydd i drafod papur gan Enid Morgan. Rydym eisoes wedi cyhoeddi’r papur hwnnw ar y botwm “Erthyglau”  dan y teitl “Beth yw’r Beibl”.

Yma, rydym yn cyhoeddi crynodeb a wnaed gan Cynog Dafis o’r drafodaeth a ddilynodd.

Beth am ymateb i’r cyfan yn Y Fforwm?

1 Cyflwyniad gan Enid Morgan

Bu dylanwad diwylliannol y Beibl yn enfawr: arnon ni yn unigolion ac ar ein cymdeithas, drwy Ewrop gyfan. Dyma ‘stori ffurfiannol fawr’ Gwledydd Cred. Fe’i galwyd yn ‘Air Duw’ a’i weld fel datguddiad anffaeledig uniongyrchol oddi wrth Dduw. Fel y cyfryw daeth i feddu ar awdurdod unigryw.

Mewn oes newydd mae’n bwysig i ni ddeall beth yw natur y Beibl – nid llyfr gwyddoniaeth mohono, na llyfr hanes syml chwaith. Gwaetha’r modd mae rhai credinwyr yn mynnu ei weld yn y termau hynny, a thrwy’r oesoedd bu anghytundebau am wahanol ddehongliadau o’i gynnwys yn achlysur gwrthdaro a rhyfeloedd.

Rhaid i ni heddiw fod yn barod i ailddehongli’r Beibl, yn union fel yr oedd yn arfer gan yr Iddewon ailddehongli’n barhaus, yng ngoleuni eu profiad ac yn wir weithiau ailysgrifennu, eu hysgrythurau nhw, sef ein Hen Destament (HD) ni. Mae’r ffordd yma o weld a gwneud pethau yn groes i’r syniad o ganon, sef rhoi sêl bendith swyddogol ar set o ysgrifeniadau, eu gosod rhwng cloriau parhaol a thadogi arnyn-nhw awdurdod unigryw a therfynol.

Proses greadigol gan fodau dynol oedd cyfansoddi llyfrau’r Beibl, nid cofnodi yr hyn a ddatguddiwyd iddyn-nhw gan Fod goruwchnaturiol.

Oherwydd camddealltwriaeth o’r hyn yw’r Ysgrythurau, ac yn enwedig o weld enghreifftiau o Dduw fel petai’n cyfiawnhau ysgelerderau, ymateb llawer yw taflu’r cyfan naill ochr fel peth diwerth. Ond nid yr un peth yw portreadu drygioni (realiti diamheuol yn hanes y ddynoliaeth) a’i gyfiawnhau.

Wedyn yn achos gwyrthiau’r Iesu, mae camddeall eu natur yn peri i un garfan eu cymryd fel prawf o dduwdod yr Iesu a charfan arall yn eu diystyru fel celwydd noeth. Rhaid holi beth oedd natur y cofio ac amcan a chyd-destun ail adrodd y stori

Rhaid i ni fynd ati i ddehongli Beibl mewn ffordd newydd, megis y ‘ôl-fodernwyr’, sy’n chwilio am y themau sy’n gweu drwy’r gwahanol destunau.

2 Trafodaeth Agored

Gofynnwyd beth oedd arwyddocâd y gair ‘sanctaidd’ sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r Ysgrythur. [Cymh ‘Y Beibl Cysegr-lân]

Cynigwyd amrywiaeth o atebion:

  • ei fod oddi wrth Dduw
  • ei fod wedi’i fendithio/ awdurdodi /cefnogi gan Dduw
  • ei fod yn bur, yn dda, yn ddaionus (megis yn ‘Yr Ysgrythur Lân)

Roedd pawb (?) yn gwrthod y syniad bod y Beibl o darddiad dwyfol – geiriau bodau meidrol sy yn y Beibl.  Serch hynny yn eiriau gan bobl oedd mewn perthynas â Duw, er mor fregus ac amherffaith oedd eu hamgyffred o’r dwyfol

Gofynnwyd pa un a oedd unrhyw awdurdod yn honiadau’r Beibl yn rhagor na’r eiddo ee Einstein. Nodwyd ei fod yn gynnyrch nad unigolion yn unig sy’n siarad ond cymdeithasau a chymuned cyfain dros ganrifoedd lawer.  Yr ymateb gan rai oedd nad oedd dim, a bod darganfyddiadau Einstein ynghylch natur y bydysawd yn fynegiant aruchel o ymdrech y ddynioliaeth i ddarganfod y gwirionedd, lawn cyn bwysiced â dim sy yn y Beibl. Teimlai eraill nad yw’r gymhariaeth felly o wirioneddau mor wahanol yn fuddiol o gwbl.  Ein profiad o wirionedd Beiblaidd yn dod yn brofiad i ni sydd yn rhoi iddo awdurdod ( y geiriau’n troi’n Gair).

Roedd amryw yn ddrwgdybus beth bynnag o’r syniad o awdurdod y Beibl, gyda’i awgrymiadau o ofn, gwaharddiad a’r cyhuddiad o bechod. Roedd y syniad o fynnu pwer dros yr unigolyn yn annerbyniol i amryw. Ystyr Cristnogaeth, meddai un, oedd galluogi’r unigolyn i adeiladu’i ddealltwriaeth a’i gredo ei hunan, gan ddefnyddio’r dychymyg i amgyffred gwirioneddau’r Beibl.  Y Beibl yw’r ddogfen bwysicaf a fedd y ffydd.

Datganodd un ei bod yn gweld rhan fawr o’r Beibl, yn enwedig yr HD, yn gwbl amherthnasol, yn wir yn annerbyniol, i ni heddiw. Awgrymodd eraill bod yr Hen Destament yn allweddol er mwyn deall y Testament Newydd (TN).  Yn wir roedd neges Iesu i raddau helaeth yn tarddu’n uniongyrchol o’r eiddo rhai o’r proffwydi mawr. Mae awduron y TN yn cyfeirio’n barhaus at yr HD. Nododd un arall mai gwerth llyfrau megis Josua, y Barnwyr, Samuel etc, sy’n portreadu Duw awdurdodus, cosbol a dialgar, yw ein galluogi ni i weld datblygiad y syniad o Dduw o’r cyntefig i’r goleuedig, a’r darlun o Dduw cariadus, cyfiawn a thosturiol yn dod i’r fei yn syniadau’r proffwydi a dysgeidiaeth Iesu.

Roedd amryw yn pwysleisio’r ffordd y mae moesoldeb wedi datblygu dros amser: ee ein hagwedd at gaethwasiaeth, menywod a hoywon. Dadleuwyd gan rai bod modd olrhain llawer o’r datblygiadau yma i ddysgeidiaeth Iesu ac yn wir y traddodiad Iddewig a oedd yn ei hanfod yn pwysleisio rhyddid oddi wrth gaethwasiaeth. Ar y llaw arall roedd Cristnogaeth ar adegau, yn enwedig drwy ei bod yn cael ei chysylltu â grym gwladwriaethau, wedi gweithredu yn gwbl groes i ddysgeidiaeth Iesu. Un enghraifft o hyn oedd yr erledigaeth erchyll ar Iddewon gan Gristnogion.

Codwyd y cwestiwn; beth yw gwreiddyn cydwybod? Mae penderfynu beth sy’n foesol yn aml yn gymhleth ac yn anodd.

Gosodiadau Cadarnhaol: Beth yw’r Beibl?

(Cafodd y grŵp fwy o drafferth gyda’r adran yma na’r un blaenorol! Dyma rai awgrymiadau, gyda sylwadau mewn italics. Pwysleisiwyd nad un llyfr mo’r Beibl ond casgliad o lyfrau, a bod y canon sy gyda ni yn adlewyrchu barn y sawl a’i diffiniodd ar un adeg mewn hanes)

1 ‘Trysor sy’n cynnig cyngor doeth ar gyfer ein byw ni heddiw’

am rannau o’r Beibl yn unig y mae hyn yn wir

            mae’n bwysig ein bod ni’n gwrthod rhai syniadau, megis eiddo awdur y Barnwyr, fel rhai cwbl

annerbyniol

 2 ‘Ymdrech dynion drwy’r oesoedd i fynegi gwirionedd sydd y tu hwnt i eiriau’

gan gadw mewn cof gyfyngiadau iaith

 3 ‘Casgliad o ysgrifeniadau sy’n olrhain perthynas y genedl Iddewig, ac yna’r Cristnogion cynnar, â Duw’

4 ‘Llyfr sy’n darlunio datblygiad y syniad o Dduw: o’r cyntefig i’r goleuedig, o’r awdurdodus-ddialgar i’r cariadus-dosturiol.’

5 ‘Trafodaeth drwy wahanol gyfryngau (stori, barddoniaeth, proffwydoliaeth) ar nifer o themâu allweddol: Caethiwed a rhyddid; alltudiaeth a dychwelyd; pechod a maddeuant (Byw’r Cwestiynau); grym a dioddefaint; bod o blaid yr erlidiedig’

Atodiad: Parhau’r Drafodaeth

Dyma rai gosodiadau awgrymedig pellach gan Cynog, yn benodol ynghylch y TN. Tybed a fyddai eraill am ychwanegu at y rhestr?

6 ‘Ymdrech gwahanol awduron i ddehongli bywyd, marwolaeth ac ‘atgyfodiad’ Iesu Grist, yn bennaf yng ngoleuni syniadau’r HD’

7 ‘Casgliad o lyfrau sy’n datgan ffordd newydd o fyw yn seiliedig ar gariad, heddwch, cyfiawnder i’r difreintiedig, a maddeuant/tosturi/cydymdeimlad, sef Teyrnas Nefoedd’

8 ‘Ymdrechion i ddisgrifio effaith weddnewidiol bywyd a dysgeidiaeth Iesu’

9 ‘Datblygiad ar yr agweddau mwyaf blaengar yn y traddodiad Iddewig, gan bwysleisio bod ‘Teyrnas Nefoedd’ ar gael i holl blant dynion’