Ddechrau Medi, daeth grŵp Cristnogaeth 21 yn Aberystwyth at ei gilydd i drafod papur gan Enid Morgan. Yma, rydym yn cyhoeddi’r cyflwyniad hwnnw, ond yn dilyn fe welwch erthygl arall sydd yn grynodeb a wnaed gan Cynog Dafis o’r drafodaeth a gafwyd. Beth am ymateb i’r cyfan yn Y Fforwm?
Yr wythnos diwethaf yr oedd Steve Jones y Biolegydd yn annerch yma yn Aberystwyth ar ‘Y Beibl fel Gwyddoniaeth’ sydd i mi yn swnio mor anfuddiol ag ystyried y llyfr Rhifau Teliffon fel Barddoniaeth. Ar y llaw arall, wrth gwrs, y mae ’na Gristnogion sy’n darllen y Beibl fel awdurdod ar ddaeareg, bioleg, obstetreg a chosmoleg yn ogystal â moeseg. Ond ni ellir delio ag un math o gamddeall trwy gamddeall tebyg. Wedi’r cyfan rydyn ni wedi arfer meddwl am y Beibl fel Hanes, fel llyfr sy’n dweud storïau am beth ddigwyddodd, a’i fod yn cofnodi digwyddiadau gan ail-adrodd sgyrsiau fel petaent wedi eu recordio. Felly os nad yw’r Beibl na gwyddoniaeth na hanes , beth yw e?
Ga’i ddweud lle’r ydw i’n sefyll trwy ddyfynnu gwaith dyn yr ydw i’n edmygu ei waith yn fawr, sef James Alison. Dywed ef mai : “ gwaith y diwinydd Catholig yw, heb rhyw ymddiheuro mawr, gwneud dau beth – cynnal gwirionedd yr hyn a gredir er mwyn y credinwyr, a chynnig y posibilrwydd o rywbeth tebyg i gallineb i’r rhai heb unrhyw ymlyniad i strwythur cred ffurfiol ….”
‘Rydyn ni felly am ddod at y Beibl mewn ffordd sy’n ddigon parchus o’i bwysigrwydd i gredinwyr, ond heb hawlio statws dwyfol iddo. Rhaid iddo siarad drosto’i hun. Felly rhaid disgrifio natur y cynnwys mor gywir ag y medrwn mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i gredinwyr ac anghredinwyr.
YSGRYTHUR LÂN – Y CYSYNIAD
Y disgrifiad ar ddalen glawr ein hen Feiblau oedd Yr Ysgrythur Cyssegr Lân – Holy Scripture: cyfeirid ato ato gynt fel Gair Duw, datguddiad a mynegiant Duw i bobl Israel yn yr Hen Destament, ac yna i fath o ‘Israel Newydd’ yn y Testament Newydd. Mae hwnna wrth gwrs yn fwy o ddisgrifiad o statws y Beibl nag o’i gynnwys.
Y Beibl fu’n stori fawr ffurfiannol cenhedloedd Ewrop, a llawer o fannau eraill (fel e.e. Ethiopia, yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft, a Rwsia, ) y mae ar y lefel sylfaenol symlaf yn eithriadol o bwysig fel dogfen ddiwylliannol. Mater arall yw ceisio diffinio beth yw natur awdurdod y Beibl fel datguddiad crefyddol. Mae ‘na stori am faer mewn tref yn Sbaen oedd yn gomiwnydd ond a yrrodd ei blant i ysgol gatholig, oherwydd, meddai, heb wybod y straeon fyddai’r plant ddim yn deall na barddoniaeth na chelfyddyd eu cenedl.
Y mae cyfieithu’r Beibl o’r ieithoedd gwreiddiol i iaith lafar yn newid statws yr iaith, fel mae Gwenallt yn dweud, yn ei gwneud yn ‘un o dafodieithoedd y Drindod. Mae’n rhoi urddas a lliw newydd i iaith. Gyddom am bwysigrwydd y Beibl i’r Gymraeg a’r Saesneg. Yn achos yr Hen Slafoneg cyfieithu’r Beibl a roddodd wyddor i’r iaith. Y mae’r Beibl yn aml yn gam ymlaen i llythrennedd mewn cymdeithas.
Ar lefel ddyfnach y mae stori cenedl Israel yn dod yn stori pob cenedl, a’r daith trwy’r anialwch yn ddrych o anhawsterau grwpiau ethnig o bob math. ‘Does yna felly ddim dadl am bwysigrwydd diwylliannol y Beibl yn ein hanes. Beth sy’n bwnc dadlau newydd yw nid ei statws ond ei gynnwys ac ystyr hwnnw fel ffynhonnell rhyw fath o wirionedd all fod yn berthnasol a gwneud synnwyr i feddylfryd newydd yr unfed ganrif ar hugain.
Mae lle i ofni bod cenhedlaeth o ysgolheigion Gymraeg ifanc yn codi sy’ ddim yn gyfarwydd â straeon Abrham na Noa, na Moses na Job nac erioed wedi gwrando ar na Salm na phroffwydoliaeth. Nid eu bai hwy yw hynny. Ond y mae’n arwydd o newid gêr diwylliannol ebrwydd sy’ wedi digwydd gyda’r colli ffordd ysbrydol a theithio lle nad oes prif-ffordd nac awdurdod, a barn un person cystal â barn unrhywun arall. ( Mae mynegi’r peth felly yn fy nodi i bron fel un o oes Fictoria.)
Ond y mae’r Beibl wedi llunio ein dychymyg a’n deall ni. Os yw cam-ddeall yr Ysgrythur wedi ei lurgunio a’i ddysgeidiaeth wedi ei wyrdroi, yna mae angen darganfod pam a sut. Oherwydd y mae dealltwriaeth newydd o’r Beibl, y ddau Destament wedi bod yn allweddol i’r ail lunio diwinyddol a ddigwyddodd i’r ffydd mewn gwahanol gyfnodau o’n hanes. Y mae amgyffred Illtyd a Dewi o’r ffydd, yn wahanol iawn i amgyffred Gerallt Gymro, i‘r person rhyfeddol a ysgrifennodd bedair cainc y Mabinogi, i’r Esgobion Richard Davies a William Morgan, i Forgan Llwyd, i John Roberts y merthyr Catholig, i William Morris a Lewis Morris ( nid amlwg am eu duwioldeb) i Daniel Rowlands ac eraill. I wahanol genedlaethau y mae’r Beibl yn llefaru gyda gwahanol acenion ac y mae eu hamgyffred o hanfod y ffydd yn newid .
Bu i’r Eglwys gadw dehongli’r Beibl yn gyfrifoldeb clerigol am ganrifoedd, gan ofni ( a hynny’n berffaith ddilys) y byddai gadael i’r annysgedig ddarllen y Beibl yn arwain at anghytuno ac ymrafael. Ac felly y bu! Dilynwyd y Diwygiad Protestanaidd a’r Gwrthddiwygiad Rhufeinig at ganrifoedd o ymladd rhwng tywysogion yn arddel gwahanol fersiynau o’r ffydd. Y mae cam ddarllen y Beibl, ( a bu llawer o hynny) a symud y sylfeini diwinyddol yn creu dirgryniadau gwleidyddol a seicolegol.
Felly nid peth bychan dibwys yw medru gwahaniaethu rhwng agwedd rhywun o oes Hywel Dda, i agwedd oes y diwygiad, oes y ddeunawfed ganrif a’n hagweddau ni heddi. Y mae’n byd ni heddiw mor wahanol , ein hamgylchiadau, ein technoleg, ein cyfathrebu mor chwyldroadol fel bod ein hagwedd tuag at yr ysgrifeniadau hyn yn dal yn allweddol. Gall brawddegau sy’n gwneud synnwyr perffaith i mi swnio’n gwbl ddiystyr i eraill. Ac wrth ail ddehongli ystyr y Beibl yr ydyn ni’n parhau un o arferion mwyaf nodweddiadol yr Iddewon . Bu’r Iddewon yn ail ysgrifennu eu llyfrau deddf a hanes yn ôl eu profiadau mewn gwahanol ganrifoedd.
Y mae yn llawysgrifau Lindisfarne, a llawer o lawysgrifau eraill ddarluniau o’r Efengylwyr, -darlun er enghraifft o Fatthew yn ysgrifennu ar femrwn eiriau dwyfol y mae ef yn eu clywed.
Y mae’r geiriau yn eiriau Duw ei hun yn ogystal â bod yn “Air Duw”! Y mae’n rhoi awdurdod enbyd i beth sydd ar y memrwn – a hynny mewn ffordd nad yw’n cyfateb mewn unrhyw ffordd ddealladwy am sut y mae pobl yn ymddwyn, yn dysgu, yn cyfathrebu â’i gilydd.
Y mae’n dealltwriaeth ni o sut y daeth y Beibl i fodolaeth yn ein gorfodi i ystyried bod y testun wedi dod atom trwy glustiau, meddyliau, rhagfarnau, diwylliannu tra gwahanol i’w gilydd. Un o effeithiau darllen sgroliau’r Môr Marw a rhai eraill yw canfod mor gymhleth ac enbyd oedd y gweryl rhwng Iddewiaeth a’r ffydd newydd- y naill yn dehongli Iesu gyda meddyliau a luniwyd gan yr ysgrythurau Hebreig, a’r lleill wedi eu dychryn gan ddiwinyddiaeth newydd a pheryglus iawn .
Y mae stori dehongliadau o’r Beibl yn ddiddorol ynddi ei hun. Mae anhawsterau’n gynnar, ond gyda datblygiad gwyddoniaeth o’r Aroleuo ymlaen y mae’r bwlch rhwng ffaith wyddonol a gwirionedd Beiblaidd yn ehangu. Gyda datblygiad beirniadaeth hanesyddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae’r ffyddloniaid yn dueddol o ymffurfio’n amddiffynnol i awdurdod y gair a rhyw anffaeledigrwydd sy’n ysgyrnygu at ffeithiau gwyddonol. Y mae hefyd yn rhoi llwyth amherthnasol ar gefn straeon nas bwriadwyd erioed i fod yn ‘ffeithiau’.
Ateb y gwyddonol eu tuedd sy’n gredinwyr yw byw mewn dau fyd, math o feddwl hollt. Yn wyneb hynny y mae eraill yn lluchio’r cwbl ymaith fel hen lyfr nad oes a wnelo ddim â’n canrif ‘oleuedig’. Gyda’r sylfeini yn crynu felly ymateb y ceidwadol yw dychwelyd at y diogel a gwadu fel petai bod unrhyw broblem yn bod. Y mae’r Beibl yn Air Duw yn llythrennol; wiw i neb herio na holi; yr ystyr syml arwynebol a ddeil, a balchder dynol yw awgrymu unrhywbeth arall. Ond y mae hynny’n codi pob math o anhawsterau. Ac y mae’r ceidwadol yn gywir wrth ystyried os ydych chi’n dechrau herio un darn, yna mae modd herio’r cwbl! Mae hynny’n wir ac y mae hynny i lawer yn ddychryn.
I mi y peth hanfodol ydi deall beth sy’n gwneud yr ysgrythurau Iddewig a Christnogol yn wahanol i ysgrythurau sanctaidd yr Hindw a’r Moslem a’r Groegwr a’r Sikh. Hynny yw eu cynnwys. Beth yw Myth? Beth yw Hanes? Beth yw stori symbolaidd? A oes lle i hawlio bod eu neges yn hanfodol wahanol, yn cynnig dehongliad o’r ddynoliaeth sy’n unigryw, a ydi’r weledigaeth yn ddatguddiad o natur y ddynoliaeth yn ogystal âg o natur y Dwyfol
Cymerwn er enghraifft stori Iesu’n cerdded ar wyneb y môr. Gall un math o feddwl crefyddol dderbyn y stori’n syml fel stori i brofi mai Duw ydoedd ac y gallai wneud beth a fynnai . (I ba amcan wyddom ni ddim). Y mae’r feirniadaeth hanesyddol modern sy’n dweud fod y peth yn amhosibl a bod yr hanes yn un twyllodrus a hyd yn oed diystyr. Ond rydyn ni ( er efallai na wyddech chi ddim am hyn) yn Ôl-fodernwyr sy’n gallu holi, beth yw ystyr y stori hon, i ba bwrpas y dehonglwyd rhyw ddigwyddiad yng ngoleuni rhyw ddyfyniad arall o’r Hen Destament. Mae’r Ôl-fodernwyr, y rhai ceidwadol a rhyddfrydol eu cefndir yn dechrau mynd ati o’r newydd y tu hwnt i ffeithiau hanesyddol i ddarganfod gwirioneddau newydd yn y testun ac i glywed llais sy’n gyfarwydd ac anghyfarwydd yn siarad â ni.
Y mae’r Ôl-fodernwyr yn chwilio’n hytrach am themâu sydd o bwys i’r ddynoliaeth, yn edrych ar y Beibl fel cynnyrch/tystiolaeth pobl ar daith mewn perthynas â’r trosgynnol, a’u dealltwriaeth hwy o beth oedd yn digwydd. Yr oedd y ddealltwriaeth honno, weithiau’n gamddealltwriaeth go enbyd, yr oedd y ddynoliaeth fach hon yn methu cadw at y ddelfryd ac yn bodloni ar rywbeth llai. Beth sy’n fy nghalonogi i yw bod yna ysgolheigion a dehonglwyr erbyn hyn yn ein helpu i gloddio ystyron llachar yn llawn syndod a her. (Brueggeman, Tom Wright, Walsh & Keesmat, James Alison , Rene Girard ac eraill.)
‘Rwy wedi sylwi’n ddiweddar sut, yn yr Efengylau, y mae Iesu’n gwrthod ateb cwestiynnau twp. Mae e naill ai’n ateb cwestiwn arall, neu’n holi cwestiwn nôl, ac weithiau’n dweud y drefn. “ Nid ydych yn deall yr ysgrythur nac yn deall meddwl Duw” meddai wrth y rhai oedd yn credu eu bod yn arbenigwyr ar y pwnc.
Dyna felly lle ‘rwyf i’n sefyll – ond amcan y grŵp yma ydi medru rhoi lle diogel i fynegi amheuon, i holi’n gilydd, i herio hyd yn oed, ond i wneud hynny’n barchus – a gwrando ar ein gilydd gan wybod mai peth anodd ydi hyn i gyd. Dyma James Alison eto. Diwinydda ydi :
Llafur trwm llusgo’n deallusrwydd ystyfnig trwy bigau a drain ein hunan dwyll er mwyn dod â phob meddwl, pob cerpyn o falchder deallusol yn garcharor gerbron Crist,(2 Cor. 10:5) gan aredig rhyw ystyr allan o bridd sych a diffrwth.( Living in the End Times t.15)