E-fwletin Medi 23

Cristnogaeth 21 –E-fwletin Medi 23ain 2013.

 

Ynof y mae dau ‘wirionedd’ nad wyf hyd yn hyn, beth bynnag, wedi medru eu cysoni o gwbl. Nid wyf yn meddwl bellach fod modd eu cysoni.

Ers talwm yn yr offeren arferwn gydag eraill weddio dros y rhai a oedd yn ddifrifol  wael -rhai ohonynt yn ieuanc iawn, ambell un yn blentyn.Buont i gyd farw. Clywais ar adegau am wyrthiau oedd wedi digwydd yn y lle-a’r-lle. Yr oedd yn amlwg i mi fod yr ardal yr oeddwn i ynddi yn ‘miracle free zone’. Nid yw’r profiadiadau yma yn ddieithr o gwbl i unrhyw un sydd wedi gorfod ymgodymu  a ‘bodolaeth’ honedig Duw cariadus, hollalluog ar y naill law a ffeithiau brwnt ein bywydau ar y llaw arall. Ai diniwed-simplistig ar fy rhan oedd gofyn,  petai gennyf fi, feidrolyn, y gallu i atal poen rhywun arall y gwnawn hynny ar fyrder , pam felly na fyddai ‘duw’ hollalluog yn gwneud yr un peth? I fy nghyfarfod daeth ‘dadleuon’ am ‘fyd y Cwymp’, ‘pris pechod’, ‘ewyllys rydd’. Wyneb yn wyneb â rhywun oedd yn cael ei ysglyfaethu gan ganser collodd y ‘dadleuon’ hyn eu nerth yn llwyr a ‘duw cariad’ ynof yn gwingo ar homar o fachyn.A phan glywn am ‘wyrth iachad,’ gwneud pethau’n waeth a wnai hynny bob tro. Os ‘achub’ un neu ddau fan hyn fan draw, pam nid pawb? Anghyfiawnder a deimlwn nid gorfoledd. Atgasedd nid awydd i addoli. ‘Roedd y ‘gwyrthiau’ bondigrybwyll yn codi cwestiynau difrifol am foesoldeb duw ei hun.Onid oedd rhywbeth sadistaidd am yr ‘ymyrryd’ hwn? Eto – y fi simplistig – petai fy mhlant yn sal a finnau hefo’r gallu i’w gwaredu, ni fyddwn fyth yn dewis un ohonynt a gadael y ddau arall i’w ‘tynged’. I fy nghyfarfod daeth ‘dadl’ arall: dyma ‘ewyllys duw’ neu ‘ei ddirgelwch’. Yn fewnol fe’m ffieiddwyd gan y ‘ddadl’ hon. Roedd duw fwy-fwy ar y bachyn. Lliniarwyd hyn dro gan ‘ddadl’ arall: fod duw yn ‘ymyrryd’ drwy ‘fod yn y dioddef’. Nid oedd ef ar wahan o gwbl, roedd o ‘yno’. Bu i mi fyw â’r ‘ddadl’ hon yn lled hapus am gyfnod go hir. Hyd nes i mi holi un diwrnod, beth yn union oedd ystyr y ‘bod yno’? Fawr o ddim hyd y gwelwn: roedd y dioddefau yn parhau yn eu grymuster brwnt. Os oedd duw ‘yno’ neu beidio yr un oedd y dioddef. Chwarae geiriol ydoedd yn y bon. Canfyddais fod tirwedd fy ymennydd wedi troi o fod yn un crediniol i fod yn un anffyddiol. A hwn yw’r ‘gwirionedd’ cyntaf a goleddaf.

Eto, mae ‘gwirionedd’ arall. Yn fy nghalon y mae hwnnw. Y mae digonedd o bethau pur ddifrifol wedi digwydd i mi ac ‘rwyf wedi dod drwyddynt i leoedd gwell a lletach ac nad oedd a wnelo’r’ dod drwyddynt’ fawr ddim â fi. Wrth edrych yn ol ymdeimlaf â rhyw ‘Arall’ oedd ‘yno’ drwy’r adeg er nad oeddwn ar y pryd yn ymwybodol ‘ohono’. Dof wyneb yn wyneb a’r ‘Arall’ hwn wrth ddarllen ambell i gerdd neu nofel-cyfuniad o eiriau gan lenor dawnus sy’n dod ag ef i’r fei; yn ddiffael bron mewn cerddoriaeth; wrth bendroni uwchben bywyd ambell un pur arbennig; mewn eglwys wag a hynafol; neu lecyn megis Enlli a’r ser yn gyforiog uwch fy mhen.Teimlaf fy hun yn ymestyn tuag ato ac yn cael fy ymestyn. Ynddo y mae rhyw ‘swildod’ llawn trugaredd. Rhywbeth yn fy ymennydd yw hyn ynteu rhywbeth o’r tu allan i mi? Beth bynnag ydyw ac o ba le bynnag y daw dewisaf yr hen air trwblus hwnnw ‘Duw’ i’w ddisgrifio.

Ni fynnaf setlo am y naill ‘wirionedd’ na’r llall: mae’r ddau mor ddilys a’i gilydd. Dewisaf fyw hefo’r ddau. Mae ffin yn bod rhwng ‘ffydd’ ac ‘an-ffyddiaeth’. Ar y ffin honno y mae sawl un ohonom. Yng Nghymru C21 yw’r unig le sy’n cynnig cartref i ni.

 

Cofiwch am y Bwrdd Clebran sef y cyfle i ymateb, rhannu, trafod, seiadu. Efallai y gwyddoch am rhywun y byddai ambell i e-fwletin – fel yr un heddiw –  yn ‘canu cloch’  yn eu profiad.Rhowch wybod iddynt am C21 neu anfonwch y neges ymlaen iddynt.