Mae nifer ohonom yn edrych ymlaen yn fawr i fwynhau bendithion Ha’ Bach Mihangel yn hyfrydwch Trefeca yr wythnos hon.
Wythnos i’r Sadwrn diwethaf traddododd Don Cupitt ei anerchiad gyhoeddus olaf: hynny a ddywedwyd, beth bynnag, ar wefan Môr Ffydd (Sea of Faith), rhwydwaith a ddaeth i fod yn sgil ei gyfres deledu o’r un enw flynyddoedd lawer yn ôl bellach. Y mae Cupitt mewn gwth o oedran erbyn hyn ac wedi cyhoeddi cyfrolau lawer yn ceisio darganfod beth a eill crefydd a chrefydda ei olygu mewn byd sydd wedi colli ymwybyddiaeth o’r ‘goruwchnaturiol’; yn ‘ffieiddio’ awdurdodau allanol boed hwy feibl neu bab; ac ymhle y mae’r syniad o ‘Dduw’ hollalluog wedi colli ei nerth bron yn llwyr. Ni wn a yw’r datganiad yn golygu fod Cupitt yn rhoi heibio ysgrifennu yn ogystal. Yr offeiriad Anglicanaidd hwn fu bête noire y sefydliad eglwysig ers degawdau. Hwyrach ei fod yn fwy o athronydd nag o ddiwinydd. Cytuno ag ef neu beidio, y mae ei lyfrau – y rhai diweddar yn rhai byrion iawn – yn werth i’w darllen. Os nad ydych wedi gwneud eisoes, cymrwch olwg ar Solar Ethics a The Fountain . Afraid dweud fod ei enw yn ddiofryd-beth i’r efengylwyr a’r ‘uniongred’ yn gyffredinol. Ond y mae’n ddyn o ddifrif. Nid chwalu er mwyn chwalu y mae. Wrth fyfyrio yn ddwfn-ddwys ar ragdybiaethau y gymdeithas Orllewinol gyfoes daeth i’r casgliad nad yw’n bosibl i ni fedru dal ein gafael ar yr ‘hen eiconau’. Trwy ei ddychymyg crefyddol ei hun cyflwynodd lu o ddelweddau amgen a fedrai, efallai yn ei dro, gyffwrdd dychymyg gwŷr a gwragedd sydd o hyd yn teimlo’r ysbrydol ond heb fedru mwyach lyncu’r storïau traddodiadol. Gweler eto, Solar Ethics a The Fountain am ddwy enghraifft o’r gallu sydd ganddo i greu a chanfod delweddau. Ysywaeth, nid oes neb tebyg iddo yng Nghymru.
Soniais am ei ‘ddychymyg crefyddol’. Ac y mae yna’r ffasiwn beth a dychymyg sy’n benodol hefo gogwydd grefyddol. Fe ddywedwn i fod Iesu, Bwda, Muhamad yn ddychmygwyr crefyddol o’r radd flaenaf. Eseia ac Eseciel hefyd. Rumi a Nagarjuna yn ogystal. Morgan Llwyd ac Islwyn i’n cenedl ni. Beirdd y Trosgynnol oeddynt. Yn medru canfod delweddau ffres ac ysgytwol ac ail-gystrawennu hen iaith oedd wedi cyrraedd man o syrffed a nychdod. Wedi’r cyfan o ba le y daeth ‘Duw’ ond drwy’r dychymyg dynol? A’r gallu wedyn i’w gyfoethogi a’i fireinio drwy’r un dychymyg.
Y dychymyg crefyddol hwnnw ddywedwn i sydd wedi ei wanio bellach. Hwyrach nad yw hynny yn syndod yn y byd gan fod crefydd ei hun wedi cyrraedd man isel yn yr ymwybyddiaeth Gorllewinol. Creisis y dychymyg crefyddol yw ein creisis ni erbyn hyn. Ac os mai’r ateb yw pethau go banal fel ‘messy church’ neu ‘orfoledd’ -chwatrter-canrif-rhy-hwyr yr Eglwys yng Nghymru yn ordeinio merched i’r esgobyddiaeth yna ‘Duw’ a’n gwaredo-neu beidio!
Gyda’n cofion a’n dymuniadau gorau at bawb ohonoch.