Cristnogaeth 21 – E-fwletin Hydref 7ed 2013
Daeth nifer ynghyd i dreulio 24ain. awr gyda’n gilydd yn hyfrydwch Trefeca a chael blas a bendith ar yr addoli, y cyflwyniadau , y drafodaeth a’r cymdeithasu. ‘Melys moes mwy’ oedd ein gobaith wrth ymadael.Braf oedd clywed Enid Morgan yn cywiro’r camargarff ar Bwrw Golwg mai ‘cynhadledd i drafod dyfodol C21’ ydoedd. Yr wythnos hon a’r wythnnos nesaf cawn flasu peth o’r seiadu.
Pwrpas y sesiwn agoriadol ( dan arweiniad Eirian Rees ) oedd i agor y drws i seiadu pellach. Rhoddwyd cyfle i ystyried natur a lle Cristnogaeth 21 o fewn bywyd Cymru. Codwyd nifer o gwestiynau a chafwyd trafodaeth gyfoethog a braf oedd gallu sgwrsio a rhannu heb edrych ar y cloc.
Y mae Cristnogaeth 21 wedi sefyll ar blatfform cadarn, sef rhannu yn barchus yr ymchwil am ffydd Gristnogol yng ngoleuni profiadau cyfoes a bod yn lwyfan i gynnal sgwrs yn gwrtais, gonest ac yn gwbl rhydd ac agored. Mae’n wefan i ofyn cwestiynau, i rannu gwybodaeth a phrofiad. Nid gwrthwynebu neb na dilorni safbwyntiau eraill yw’r bwriad ond bod yn sianel greadigol, i drafod yr hyn sy’n wir ac yn heriol.
Teimlodd y cwmni oedd yn bresennol nad oes angen ofni bod yn ddadadeiladol (de-constructionist). Tros amser y mae pob model yn rhwym o gael ei ddadansoddi a’i ail esbonio a’i gyflwyno i gyd-destun gwahanol. Onid dyna beth wnaeth Iesu yn ei oes, ac onid yw’n dal i herio’n sylfaenol pob model o gredu? Y mae bod yn Gristion yn arwain at gwestiynu, addasu ac ail adeiladu. Y mae, er enghraifft, agweddau at y wladwriaeth, militariaeth a rhywioldeb yn cael eu ail gwestiynu’n barhaol. Nid oes un man lle mae hyn yn fwy gwir na’r sefydliadau eglwysig ar hyd y canrifoedd.
Ystyriwyd wyth pwynt creiddiol mudiadau fel y “Progressive Christianity Alliance” a’r “Progressive Christianity Network Britain”. Nodwyd y prif bwyntiau sy’n sylfaen i’r mudiadau hyn, sef, eu bod:
- yn dod o hyd i Dduw trwy fywyd a gwaith yr Iesu,
- yn cydnabod dilysrwydd a hawl pobl eraill i’w llwybrau at Dduw,
- wrth dorri bara yn enw Iesu, yn cynnal gwledd Duw i bobloedd daear,
- yn derbyn fod pobl yn wahanol iawn i’w gilydd,
- a’u ymddygiad tuag at bobl eraill yn fynegiant o’r hyn a gredant,
- yn profi gras wrth ymchwilio heb sicrwydd absoliwt,
- yn creu cymunedau sy’n ceisio cyfiawnder, heddwch, cynhaliaeth i’r amgylchedd a gobaith i’r lleiaf o’u brodyr a chwiorydd
- wrth ddilyn Iesu yn rhwym o garu’n anhunanol, a gwrthod drygioni heb geisio breintiau hunanol.
A yw Cristnogaeth 21 am berthyn a bod yn rhan o gymdeithas fel hon? Teimlwyd yn gryf fod gwerth mawr mewn cynnal, yn y Gymraeg, wefan eang, groesawus, i rannu barn, gwybodaeth ac argyhoeddiad yn y ffordd mwya di-rwystr posibl. Y mae ceisio diffinio’n fanwl bob amser yn codi cloddiau a chreu carfanau. Gwefan i oedolion sy’n anelu at fod yn onest a grasol yw Cristnogaeth 21 a bydded iddi barhau felly.
Ein cofion cynnes atoch. A ydych wedi cael eich copi o ‘Byw’r Cwestiynau’ ? Mae’n mynd i ail argraffiad !