E-fwletin Mai 27ain, 2013

Ym Mhroffwydoliaeth Eseia, dywedir y bydd Effraim yn cymodi â Jwda. Bu’r ddau lwyth yn cecru, fel piod a brain ers canrifoedd, ond fe ddaw amser, meddai Eseia, pan fydd yn naill yn fodlon yng nghwmni’r llall.
Beth oedd y drafferth rhyngddynt felly? Penodwyd Effraim gan Dduw i amddiffyn y Gyfraith, i gynnal a chadw’r Gorchmynion. Dyna pam mae Amos broffwyd yn rhybuddio plant Israel o beryglon peidio â chadw’r Gorchmynion (5:6). Penodwyd Jwda i chwilio a thwrio am Dduw – nid amddiffyn mo Jwda, ond anturio; nid cynnal a chadw ond arbrofi a mentro. ‘Roedd Jwda’n anfodlon gwneud heddiw, beth a wnaethpwyd ddoe, dim ond oherwydd mae dyna a wnaethpwyd echdoe. Bu’r dyfal chwilio hwn am Dduw, weithiau’n peri i Jwda grwydro oddi ar lwybr traddodiad ac arfer. Gall fynd ar goll yn ei chwilio.
Ond, myn Eseia, fe ddaw amser pan fydd yn ddau yn gytûn. Bydd y ddau yn sefyll gyfysgwydd â’i gilydd, yn cerdded yn gytgam – dyddiau da, o fendith a hedd bydd y rheini.
Boed yn gam neu’n gywir, mi welaf yma ddarlun o’n cyflwr, a delwedd o’n gobaith. Heb fy mod i’n dymuno i neb wthio’r darlun, a thynnu’r ddelwedd yn rhy bell, mi gredaf fod llwythi Effraim a Jwda yn bodoli o hyd. Mae iddynt drwch o wahanol enwau, ond ymhlith y mwyaf cyfarwydd mae Efengylwyr a Rhyddfrydwyr; ceir Cristnogion Efengylaidd a Rhyddfrydol, eglwysi Rhyddfrydol ac eglwysi Efengylaidd. Er bod pob Cristion yn gorfod bod yn Efengylaidd, heb Efengyl nid oes Cristion! Mae pob Eglwys ‘Efengylaidd’ yn Rhyddfrydol i rywrai! Nid gwamalu mohonof, ond ceisio dangos mor gamarweiniol yw’r labeli hyll hyn, ac mor ffôl ydym i’w defnyddio mor hapus am ein brodyr a chwiorydd yn y ffydd. Mae’r labeli hyn yn gwneud anghyfiawnder a daliadau didwyll y naill a’r llall, ac yn methu cyfleu’r cyfoeth o amrywiaeth sydd rhwng y naill begwn a’r llall.
Efallai fy mod i’n ffŵl! Ond, mi gredaf fy mod yn gweld pegynnu peryglus, a charfanu gwenwynig yn digwydd yn y byd bach Cristnogol Gymreig: nyni gyda’n gilydd fan hyn, a hwythau gyda’i gilydd fan draw. Effraim a Jwda. Amlygir cariad Duw, meddai Eseia wrthym yma’ng Nghymru nid yn safbwyntiau’r naill neu’r llall, ond yn y tensiwn creadigol rhwng y naill a’r llall. O sicrhau heddwch a chymod rhyngddynt a’i gilydd, daw heddwch a chymod Cristnogol i’n gwlad. Heb fod Effraim a Jwda yn cymodi waeth i ni roi ein pregethau, ein blogiau, ein gwefannau – y cyfan oll – yn y to ddim.
(Mae gennym le i ddau neu dri arall yn y Gynhadledd yn Aberystwyth ar Fehefin yr 8fed.  Cysylltwch ar unwaith i gofrestru.)

26/05/2013