E-fwletin Mai’r 20fed, 2013

Mae’n bwysig diffinio geiriau; ond, ar adegau, pwysig hefyd yw dad-ddiffinio geiriau.

Meddylia am y gair ‘Duw’. O bob gair, hwn sydd wedi dioddef fwyaf o’n herwydd. Mae’r gair hwn yn cloffi dan bwysau ein disgwyliadau ohono. Ar gefn tair llythyren frau gosodwn holl bwysau ein didwylledd a’n rhagfarnau; ein doe, heddiw, ac yfory; yr hyn oll ydym fel pobl ffydd, a’r hyn oll y gwyddom y gallem/dylem fod.

Mae’n rhaid dad-ddiffinio’r gair hwn, ei ddad-ddweud; ei weld o’r newydd wedi dadlwytho’r pwysau’i gyd.

Wedi syrthio mewn cariad â rhywun, nid sŵn diystyr mo enw dy gariad. Mae swyn a gwefr yn yr enw hwnnw – enw dy gariad yw. Dychmyga felly, pe bai ti’n clywed pobl yn defnyddio enw dy gariad i greu a chynnal anghyfartaledd, i fagu casineb, barnu eraill, dwrdio eraill, bychanu pobl, lladd pobl yn enw’r hon/hwn sydd i ti’n gariad. Buaset, fel finnau, am weld diwedd ar y gwallgofrwydd hwn yn syth bin, gan dy fod ti’n gwybod nad dyma mae dy gariad yn ei ddymuno i ddigwydd yn, ac oherwydd, ei henw hi neu ei enw ef.

Os ydwyf wir yn caru Duw, onid oes yn rhaid i mi geisio ‘amddiffyn’ enw’r hwn a alwaf yn ‘Dduw’? Onid oes yn rhaid i mi gydnabod, a chael eraill i gydnabod, mai cynnyrch dychymyg pobl – gwan a gwamal fel ag yr ydym – yw’r enw ‘Duw’. Mae Duw ganwaith ganwaith mwy na phob gair a chyfuniad o eiriau sydd gennym i geisio sôn amdano. Mae Duw filwaith filwaith mwy na phob enw sydd gennym ar ei gyfer.

Mae’r enwau sydd gennym am Dduw, y geiriau a ddefnyddiwn i sôn amdano, bob un, ac i gyd gyda’i gilydd, yn rhy wan, bychan a bas i ddal y gronyn lleiaf o’r gwirionedd amdano. Po fwyaf y defnyddiwn yr enwau hyn, a’u trosglwyddo o law i law, mwyaf brwnt a threuliedig ydynt. Gwyddom hyn, ond parhawn i fynnu bod modd dal y Diderfyn mewn geiriau terfynol.

Nid oes plymio i waelod diwaelod. Perygl pob argyhoeddiad diwinyddol, boed Rhyddfrydol neu geidwadol, a phob peth a saif rhwng y naill a’r llall, yw credu mai’r hyn sydd i ni’n waelod yw gwaelod Duw. Hanfod diffinio yw cyfyngu ac amhosibl yw cyfyngu ar Dduw bythol symudol, oesol newydd, Duw heb iddo na ffin na chell na therfyn. Ofnaf y rhai sy’n gwbl sicr o’u diffiniad o Dduw, gan fy mod yn fwy fwy argyhoeddedig eu bod yn addoli nid Duw ond eu diffiniad hwy o Dduw.

Sut, felly, mae dad-ddiffinio’r gair blinedig hwn? Sut mae cael yr enw hwn i ddadlwytho?

Wn i ddim…

Ond, fi fy hun, buaswn yn hynod falch o gael teithio’n ôl mewn amser gyda’r gair ‘Duw’, yr holl ffordd yn ôl i’r preseb hwnnw ym Methlehem, a gweld y gair hwn yn ei gadachau’n gorwedd. Gweld yr ‘enw’ newydd anedig. Anodd iawn dychmygu pobl ffydd yn lladd ar ei gilydd, a lladd ei gilydd yn enw’r bychan hwn. Buasai hynny mor anodd ei ddychmygu â meddwl am y bychan hwn yn codi o’i breseb a’n dyrnu ni bob un!

‘Duw’…

Gair bach, hynod fawr…

Ffenest ydyw, i ni gael gweld trwyddi.

Ffydd, addoliad, diwinyddiaeth – mae pob un yn ffordd o syllu trwy’r ffenest; ffordd o weld, gwerthfawrogi, a chyfranogi o’r fendith a gorwedd y tu hwnt i wydr y llythrennau.

Peidiwn â throi ffenest yn wal. O wneud hyn, try ffydd, addoliad, diwinyddiaeth i gyd yn fater o godi wal frics, a bwrw ein pennau, neu bennau pobl eraill yn ei herbyn!

Mae deall a derbyn mai ffenest yw’r gair ‘Duw’, nid wal, yn warant o berthynas gallach rhyngom â’n gilydd fel pobl ffydd. Wrth sefyll gyda’n gilydd i edrych drwy’r ffenest, gwelwn Dduw, ac felly ni’n hunain. Os na lwyddwn yn hynny, waeth i ni roi ein pregethau, ein blogiau, ein gwefannau – y cyfan oll – yn y to ddim.

(Mae gennym nifer cyfyngedig o lefydd yn dal ar ôl ar gyfer y Gynhadledd yn Aberystwyth ar Fehefin yr wythfed. Cofrestrwch heddiw! Medrwch anfon gair at

• gwefeistr@cristnogaeth21.org

• neu ffonio i adael neges ar 07900 491257

• neu anfon trwy’r post i Cristnogaeth 21, 87 Maes-y-Sarn, Pentyrch, Caerdydd CF15 9QR

Cofiwch bod rhaglen y dydd ar gael ar y wefan www.cristnogaeth21.org wrth bwyso botwm “Cynhadledd 2013”)