E-fwletin Mai 13eg, 2013

Byddwn wrth fy modd yn cael dweud wrth eglwys fy ngofal i ‘fynd i’r diawl’! Ie, i uffern â hi!

Er mor bwysig cyhoeddi gras, a chariad a chymdeithas, dylwn hefyd, yn gyson, gyhoeddi mai ‘mynd i’r diawl’ yw gwaith yr eglwys, mynd i’r afael â’r uffern hwnnw sy’n stripio pobl o’u hunaniaeth fel plant Duw. Nid cadw’n glir o fywyd yw ffydd, ond mynd ma’s i’w ganol. Nid cymal astrus mewn credo yw ‘Disgynnodd i Uffern’, ond crynodeb o bwrpas ein bodolaeth fel eglwysi lleol.

Felly, y bore Llun hwn, dw i am i chi gyd ‘fynd i’r diawl’! Pe gofynnid i mi am awgrymiadau plwmp a phlaen, fe’u rhestrwn:

• Mynnwch gyfle i nodi pwy yn eich eglwys, eich cymuned, eich cymdogaeth, eich gwlad a’r byd sydd mewn angen. Nodwch, ar ddarn o bapur, osodiad tebyg i hwn: Myfi yw…mam yn y Congo. Myfi yw…a dw i’n llusgo byw yng ngwersyll ffoaduriaid Za’atari. Myfi yw…plentyn yng Nghymru sy’n byw o ddydd i ddydd heb ddigon i’w fwyta. Gosodwch y darnau papur hyn o gwmpas eich capel un bore Sul. Gweddïwch dros y bobl hyn.

• Amlygwch y ffiniau yn eich eglwys leol – y ffiniau a saif rhwng ‘Ni’ fan hyn, a ‘Nhw’ fan draw. Amlygwch ffiniau tebyg yn eich cymuned a’ch cymdogaeth, boed ddinas, dref neu bentref. Trefnwch gyfle i groesi’r ffiniau hyn. Trefnwch ymweliad â mosg neu synagog, nid i genhadu, ond i wrando. Mae’r naill yn haws o dipyn na’r llall! Oes carchar yn lleol? Oes Banc Bwyd yn agos? A oes bellach, gymuned o ‘estroniaid’ yn y gymdogaeth leol? Mynnwch gael camu dros y ffin a saif rhyngom ‘Ni’ a ‘Nhw’. Nid cynnal gardd furiog mo’n gwaith, ond codi pont o ynys fechan ein ffydd i gyfandir cymhleth byw a bod. Dylid sicrhau mai cyfarfod â phobl yw’r nod, nid gweld adeiladau ac adnoddau – y cyfarfod hwn sy’n achub, a’r adnabod sy’n iachau. Wedi croesi’r ffiniau, dewch ynghyd i drafod nid beth allwn ‘Ni’ ei wneud i helpu ‘Nhw’, ond yn hytrach: Sut mae ‘Nhw’ yn gweld a’n deall ‘Ni’? Cyn cyhoeddi, mae’n rhaid dysgu gwrando; cyn rhoi, rhaid dysgu derbyn.

• Ffurfiwch gylch o bobl o fewn eich eglwys leol sy’n fodlon buddsoddi egni, amser ac amynedd er mwyn bod yn feirniaid creadigol o’ch gweinidogaeth. Efallai bod angen dweud ambell beth digon elfennol a naïf cyn mentro cam ymhellach. Mae rhai’n tybio mai ystyr beirniadu eglwysi lleol ydy lladd ar yr eglwys honno. Dw i’n gwrthod y dadleuon hynny’n llwyr. Rhaid wrth feirniadaeth, ac nid oes diben o gwbl i feirniadaeth, os nad yw’n feirniadaeth ddi-flewyn-ar-dafod. Mae angen dad-adeiladu yn y Gymru Grefyddol: tynnu’r llechi a’r brics i ffwrdd, a gweld y trawstiau; codi prennau’r llawr, a mynd at y sylfeini. Mae angen dadansoddi; dadelfennu sydd angen. Dylai hyn fod yn broses organig, mewnol a gwirfoddol.

• Gan ddefnyddio pob cyfrwng, cyfle ac adnodd mynnwch amlygu’r gwahaniaeth rhwng ‘gwaith eglwys’ (gweinyddiaeth, strwythurau, strategaethau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau) a ‘gwaith yr eglwys’ – ei gweinidogaeth hi, estyn allan â chariad, mewn ffydd, gyda gobaith. Ym mhob cylch ar fywyd yr eglwys, lleol ac enwadol, dylid sicrhau bod ‘gwaith eglwys’ yn gwasanaethu a hyrwyddo ‘gwaith yr eglwys’, a byth ‘gwaith yr eglwys’ yn was, os nad yn ysglyfaeth i ‘waith eglwys’.

Ni fydd yr un o’r uchod, nac unrhyw syniad arall yn tolcio dim ar uffern ein byw, heb ein bod ni a’n tebyg, nid yn unig yn clywed am rym achubol yr Efengyl, ond yn ei brofi hefyd. Yr unig bridd da i’r hadau gwan uchod yw’r math o gymuned Gristnogol lle mae pob un a berthyn iddi yn derbyn y nerth i wynebu, a’r ysgogiad i herio’r ‘tywysogaethau’ a ‘grymusterau’ sy’n ei bygwth yn feunyddiol. Os na lwyddwn yn hynny, waeth i ni roi ein pregethau, ein blogiau, ein gwefannau – y cyfan oll – yn y to ddim!

(Gyda llaw, ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y Gynhadledd eto?)