E-fwletin Mai 6ed, 2013

’Roedd pethau’n reit dda erbyn hyn…daeth pethau’n ôl i drefn…o fath. ‘Roedd ef gyda hwy o’r newydd. Aeth â hwy allan, fel sawl gwaith o’r blaen, i le digon cyfarwydd. Cododd ei ddwylo, a’u bendithio, ac fe’i dygwyd i fyny i’r nef (Luc 24:51)!

Hawdd cydymdeimlo â’r disgyblion. Ti’n cofio efallai, pan dynnwyd yr olwynion bach ’na oddi ar dy feic, a thithau nawr yn gorfod mentro ar ddwy olwyn!

Daw dydd Iau Dyrchafael yr wythnos hon. Mae stori’r Dyrchafael – Esgyniad Iesu – yn lletchwith. Luc sy’n mynd i’r afael â’r peth ar derfyn ei Efengyl, a hefyd ar ddechrau’r Actau. (Actau 1:1-11, Luc 24:44-53).

Ar ôl y Pasg, mae’r angylion yn newid eu cân. Mae gwarchod pethau gwanllyd dynol yn ormod o ffwdan bellach. Dim rhagor o ‘Paid ag ofni’, (Luc 1:30), ‘Peidiwch ag ofni…’ Bellach, maent yn procio’n ddiamynedd: ‘Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw’r hwn sy’n fyw?’ (Luc 24:5) ‘Pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua’r nef? Peidiwch â gwastraffu amser, calliwch – cymerwch gyfrifoldeb, wedi’r cyfan mae’r Crist wedi dweud wrthych yn union beth sydd angen i chi ei wneud: ‘…arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.’ (Luc 24: 49).

Mae’r Dyrchafael yn codi cwestiwn. Pam na esgynnodd Iesu yn syth bin ar ôl y Pasg? Pam aros o gwmpas am ddeugain niwrnod? Mae’r deugain yn gorfod bod yn arwyddocaol! Deugain mlynedd yn crwydro’r anialwch. Deugain niwrnod yn yr anialwch a deugain niwrnod gyda’i gyfeillion ar ôl y Pasg. Deugain niwrnod iddynt gael dechrau dod i arfer gyda’r ffaith fod Iesu wedi troi pob realiti â’i ben i waered a phob ffaith tu chwith allan. Am dair blynedd buont yng nghwmni Duw a dyn mewn cwlwm diwahân. Bu hynny’n ddigon i chwythu ambell ffiws ysbrydol, ond ‘roedd yr atgyfodiad wedi chwythu’r blwch ffiwsiau oddi ar y wal! Am ddeugain niwrnod cawsant amser i ddechrau dod i arfer â realiti cwbl newydd.

Yn yr un modd, mae angen y saith wythnos sydd rhwng y Pasg a’r Pentecost arnom ninnau i ddechrau dod i arfer gyda’r ffaith fod y Crist Atgyfodedig yn ymadael â ni, a hynny oherwydd ei fod ef wedi gorffen ei waith. Daeth yr amser i ni – ei bobl ef – gydio yn ein gwaith ninnau. Dydd Iau’r wythnos hon, bydd Iesu’n mynd, gan ymddiried parhad ei genhadaeth i ni. Wedi’r Pentecost, bydd yntau’n trigo ynom, a ninnau’n draed a dwylo a llais iddo. Tynnir yr olwynion bach hynny a fu’n ein cynnal ers yn hir. Dwy olwyn sydd bellach…

Ymgais barhaus Iesu i rannu ei genhadaeth â ni yng ngrym y Pentecost yw’r unig esboniad posibl ar yr eglwys. Nid dathlu’r glendid a fu, ond creu’r dyfodol yw ein tasg ddi-droi’n-ôl, wrth blygu i ffydd, ac wrth blygu ffydd. Os na wnawn, waeth i ni roi ein pregethau, ein blogiau, ein gwefannau – y cyfan oll – yn y to ddim.

(Gyda llaw, cofiwch gofrestru ar gyfer y Gynhadledd.)