RHWNG Y PASG A’R PENTECOST

‘Ryn ni yn y cyfnod rhwng y Pasg a’r Pentecost, ac mi garwn i wneud rhai sylwadau wedi’u seilio ar ddamcaniaeth yr Esgob Spong yn ei lyfr Resurrection: Myth or Reality?
Mae Spong yn tynnu sylw at adnod yn llyfr Deuteronomium, pennod 21, adnod 23 “y mae un a grogwyd ar bren dan felltith Duw.” Mae hyn yn awgrymu mai Duw trwy ei farnwyr bioedd cael dyn yn euog a’i gosbi, ac felly nid oedd y syniad o ddienyddio dyn dieuog ar gam yn taro meddwl yr Iddew o gwbl.
Pan ddwedodd Iesu y byddai’n cael ei ladd, ymateb Pedr oedd “Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti.” Ni allai Pedr ddychmygu’r Crist, mab y Duw byw, yn cael ei ddienyddio. Ar y nos Iau yn yr oruwchystafell, pan ddywedodd Iesu fod un ohonyn nhw yn mynd i’w fradychu, ‘rwy’n siŵr nad oedd yr un ohonyn nhw yn meddwl o ddifri y byddai’n cael ei ddienyddio. Ac yna yng Ngardd Gethsemane, ‘rwy’n siŵr fod Pedr yn teimlo ei fod yn offeryn yn llaw Duw yn tynnu’i gleddyf i amddiffyn Iesu, ac y byddai, gyda help Duw, wedi llwyddo i’w achub rhag y milwyr. Ond beth wnaeth Iesu ond ei wahardd. Dyma’r foment y sylweddolodd y disgyblion fod posibilrwydd cryf bellach y câi Iesu ei ddienyddio, ac os digwyddai hyn fe fyddai’n golygu mai dyn drwg yn haeddu melltith Duw oedd e. Anodd yw dychmygu maint y sioc oedd hyn iddyn’ nhw: oes ryfedd eu bod nhw wedi dianc?
Fe gofiwn i Pedr ddilyn yr osgordd i’r llys, a’i feddwl yn gymysg oll i gyd, mewn cyflwr o sioc a phanig. ‘Roedd yn mentro yno er mwyn cael ateb i’r cwestiwn oedd wedi codi yn ei feddwl; ai’r Athro a’r Meistr yr oedd yn ei garu oedd Iesu, ynteu dihiryn oedd wedi’i dwyllo fe a’r disgyblion eraill? Os mai dyn drwg oedd e, yna ‘roedd eu bywydau nhw mewn perygl hefyd; fyddai’r Rhufeiniaid yn poeni dim am groeshoelio’r cwbl lot ohonyn nhw os oedden nhw’n dymuno gwneud hynny? Felly pan ofynnwyd i Pedr a oedd yn un o ddilynwyr Iesu, fe wadodd dair gwaith. Allwn ni ei feio fe? Wedi i Iesu edrych arno, fe dorrodd i wylo; ‘roedd y sefyllfa’n drech nag ef. Gallwn ddychmygu’r gri ingol yn codi o’i galon, “Dduw mawr, beth sy’n digwydd?”
Brynhawn drannoeth fe groeshoeliwyd Iesu.
Ac fel yna daeth pethau i ben. ‘Doedd dim amdani bellach ond cerdded yn ôl i Galilea, yn dal i ddioddef ergyd lem ‘roedden nhw wedi’i chael, ac yn methu deall sut y bu iddyn nhw gael eu twyllo gan y melltigedig hwn. Ail-gydio yn y gwaith o bysgota – ‘roedd yn rhaid cadw corff ac enaid ynghyd.
Ond fedren nhw ddim anghofio; ‘roedd yr atgofion yn dod yn ôl o hyd ac o hyd. Cofio’r hyn ddwedodd Iesu:
“Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu’r ddaear. Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw.  Carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid.  Maddau inni ein troseddau, fel yr ŷm ni wedi maddau i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn.”Cofio’r straeon hynny oedd yn dal eu sylw yn dynn, ac yn dysgu gwersi pwysig am eu buchedd; am gariad anhygoel y tad hwnnw a dderbyniodd ei fab yn ôl i’r cartref yn ddiamod, a’i anrhydeddu, wedi iddo dreulio amser maith i ffwrdd gan wario cyfran helaeth o eiddo’r teulu; am yr ynfytyn cyfoethog hwnnw a fynnai gasglu mwy o gyfoeth iddo’i hun mewn ysguboriau mwy, ond heb sylweddoli y gallai Duw derfynu’i einioes yn ddirybudd.
Ond ‘roedd Iesu wedi’i ddienyddio, a dynion drwg oedd yn cael eu dienyddio.
Cofio wedyn am weithredoedd Iesu, am y nifer fawr o bobl yr oedd wedi’u hiachau o’u hafiechydon, afiechydon yr oedden nhw’n credu eu bod yn gosb am bechodau.  Cofio amdano yn galw’r plant ato gan ddweud, “i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.”
Ond ‘roedd Iesu wedi’i ddienyddio, a dynion drwg oedd yn cael eu dienyddio.
Arfer y pysgotwyr oedd mynd allan yn eu cychod yn ystod y nos, a dal yr helfa orau yn ystod yr oriau cyn y wawr. Cyn mynd â’r pysgod i’r farchnad, bydden nhw’n cael brecwast ar y traeth; coginio ychydig o’r pysgod newydd eu dal, a thorth o fara cartref. Mi fyddai un ohonyn nhw yn torri’r bara gan offrymu gweddi megis “Bendigedig wyt ti, O Arglwydd Dduw, Brenin y bydysawd, sy’n peri i’r grawn dyfu o’r ddaear er cynhaliaeth ein cyrff.” Cofio am Iesu’n torri’r bara ar sawl achlysur, yn arbennig wrth swper y noson cyn ei groeshoelio.
Ond ‘roedd Iesu wedi’i ddienyddio, a dynion drwg oedd yn cael eu dienyddio.
Fe allwn ni deimlo’r tensiwn yn tyfu’n dynnach, dynnach ym meddwl a chalon Pedr a’r disgyblion. Ni fyddai Iddew cyffredin byth yn meddwl amau’r Torah. Ac eto, po fwyaf yr oedden nhw’n meddwl dros yr atgofion lu am Iesu, yn eu byw y medren nhw gofio dim amdano oedd yn ddrwg, yn sicr dim i gyfiawnhau ei ddienyddio.
I’r gwrthwyneb, wrth feddwl fel hyn dros gyfnod o wythnosau a misoedd, ‘roedd y darnau fel pe baen nhw’n disgyn i’w lle. Nid rhywun oedd wedi dod i adfer y frenhiniaeth i Israel oedd Iesu, ond rhywun anhraethol bwysicach na hynny. ‘Roedd e’n berson o dragwyddol bwys ym mywyd pob un ohonyn’ nhw, yn sylfaen ac yn hanfod eu bywyd. Fedren’ nhw ddim byw hebddo mwyach. ‘Roedd e’n FYW iddyn’ nhw.
Pam felly ‘roedd Iesu wedi’i groeshoelio? Yn sicr nid am fod Duw wedi’i gael e’n euog o ddrygioni. Rhaid bod yna eglurhad arall. Daethon’ nhw i weld mai marwolaeth Iesu ar y groes oedd uchafbwynt ei fywyd, y mynegiant mwyaf a chliriaf o gariad Duw, y cariad diamod, cariad tu hwnt i ffiniau cyfiawnder, cariad nad oedd yn gofyn unrhyw dâl. ‘Roedden nhw’n teimlo’r cariad hwn yn eu cofleidio, a hynny’n atgyfnerthu’u sicrwydd fod Iesu’n FYW iddyn’ nhw.
Erbyn hyn ‘roedd yr haf yn dirwyn i ben, a’r hydref, tymor Gŵyl y Pebyll yn agosáu. Hon oedd yr Ŵyl Ddiolchgarwch, gŵyl arall pryd y disgwylid i’r Iddewon ymgynnull yn Jerwsalem. A dyma Pedr a’r disgyblion yn cerdded drachefn i Jerwsalem, cyfarfod eto â’r disgyblion oedd yn dal yno a’u hargyhoeddi nhw o’r sicrwydd a’r llawenydd newydd oedd wedi gafael ynddyn’ nhw. Ac yna, dechrau pregethu’r Crist byw i’r bobl oedd wedi dod ynghyd yno ar gyfer yr ŵyl.
Ond pam Gŵyl y Pebyll? Y darnau ysgrythur mwyaf perthnasol i’r ŵyl hon oedd Salm 118 ac ail ran Llyfr Sechariah. Mae Spong yn dweud “This psalm meant Tabernacles to Jewish people just as surely as ‘O come all ye faithful’ means Christmas to Christians.” Ynddi fe geir yr adnodau hyn:
“Yr ydym yn erfyn, Arglwydd, achub ni; (dyma ystyr y gair Hosanna)  yr ydym yn erfyn, Arglwydd, rho lwyddiant.  Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd.  Bendithiwn chwi o dŷ’r Arglwydd.  Yr Arglwydd sydd Dduw, rhoes oleuni i mi.  Â changau ymunwch yn yr orymdaith hyd at gyrn yr allor.”
Ac yr oedd gorymdeithio gan gario cangau palmwydd a gweiddi Hosanna yn rhan hanfodol o Ŵyl y Pebyll.
Yn Llyfr Sechariah fe geir yr adnodau hyn:
“Llawenha’n fawr, ferch Seion;  bloeddia’n uchel ferch Jerwsalem.  Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen.”
“A dywedais wrthynt, ‘Os yw’n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch.’ A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian. Yna dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Bwrw ef i’r drysorfa – y pris teg a osodwyd arnaf, i’m troi ymaith!’ A chymerais y deg darn ar hugain o arian a’u bwrw i’r drysorfa yn nhŷ’r Arglwydd.”
“A thywalltaf ar linach Dafydd ac ar drigolion Jerwsalem ysbryd gras a thrugaredd, ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt, a galaru amdano fel am un unig anedig, ac wylo amdano fel am gyntaf-anedig.”
Ac ar ddiwedd y llyfr ceir cyfeiriad at yr ŵyl ei hunan: “Ac os bydd teulu o’r Aifft heb fynd i fyny ac ymddangos, yna fe ddaw arnynt y pla sydd gan yr Arglwydd i daro’r cenhedloedd nad ydynt yn mynd i fyny i gadw Gŵyl y Pebyll. Dyna fydd cosb yr Aifft, a chosb unrhyw genedl nad yw’n mynd i fyny i gadw Gŵyl y Pebyll.”
Rhan bwysig o ddefodau’r ŵyl oedd bod teulu yn gosod pabell, neu godi sukkoth, adeilad dros dro yng ngardd eu cartref. Yn ystod wyth niwrnod yr ŵyl (yr un nifer o ddyddiau â’r wythnos sanctaidd o Sul y Blodau i Sul y Pasg, gyda llaw) mi fyddai’r teulu yn paratoi pryd arbennig o fwyd a’i gludo i’r sukkoth i’w fwyta. Hefyd mi fydden’ nhw’n mynd â blwch o berlysiau i mewn i’r sukkoth. Ac yna ar yr wythfed dydd mi fyddai’r teulu yn ymadael yn derfynol â’r sukkoth.
‘Does dim angen i mi egluro’r cyfeiriadau hyn a’u harwyddocâd yn stori’r Pasg fel y’i ceir yn yr efengylau. Mae’n bosib fod profiad newydd a gogoneddus y disgyblion o’r Iesu byw yn ystod Gŵyl y Pebyll wedi peri i’r ddau beth fod yn anwahanadwy yn eu profiad. A dyna’r ffurf a gymerodd stori’r Pasg rai degawdau’n ddiweddarach.
Ai dyma ddigwyddodd mewn gwirionedd? Pwy all ddweud? Ond dyma fel mae’r esgob Spong yn diweddu: Y tu ôl i’r straeon a gododd o gwmpas y foment hon, mae yna realiti na fedra’ i byth ei wadu. Mae’r Iesu’n fyw. Mi ‘rydw i wedi gweld yr Arglwydd. Wrth y ffydd a’r argyhoeddiad yna ‘rwy’n byw fy mywyd ac yn cyhoeddi ‘r efengyl.
Delwyn Tibbott
(Traddodwyd mewn cyfarfod yn Eglwys  y Crwys, Caerdydd, a’i gyhoeddi yn  Y Gadwyn, cylchgrawn yr eglwys)
08/04/2013