DYSGU WRTH Y TADAU

Gellir cymeradwyo’n frwd i bwy bynnag sydd â diddordeb mewn cyfoesi’r ffydd, a’i pherthnasu’n ystyrlon ar gyfer yr oes gymhleth, oleuedig a sinigaidd yr ydym yn byw ynddi, gyfrol Keith Ward, Re-Thinking Christianity (Oneworld, Rhydychen, 2007). Cyn mynd ati i amlinellu ei ddehongliad yntau o hanfodion y ffydd – ac y mae’r awdur yn awyddus i bwysleisio nad rhywbeth statig, digyfnewid yw’r ffydd Gristionogol, ond rhywbeth sydd wedi ei haddasu a’i hail-ddehongli ar fwy nag un adeg yn ei hanes – y mae Ward yn delio â’r modd y dehonglwyd y ffydd gan y Tadau Eglwysig yn ystod y canrifoedd cynnar, gan dynnu sylw at y peryglon a oedd yn eu hwynebu wrth ymhél â’r dasg. Yn hyn oll cyfeirir at beryglon a themtasiynau y byddai’n dda i ninnau fod yn ymwybodol ohonynt heddiw, a gwersi y byddai’n fuddiol i ni eu dysgu.

1. Un newid mawr a ddigwyddodd yn hanes y ffydd yn y cyfnod cynnar hwn oedd i’r Tadau fabwysiadu termau technegol o’r Lladin ac o athroniaeth Roeg (termau nad ydynt yn digwydd odid unwaith yn y Testament Newydd – termau megis ousia (sylwedd), homoöusion (o’r un sylwedd), hypostasis (person), substantia (hanfod), persona (person) i ddiffinio natur Duw a pherson Iesu (barnwyd fod Iesu yn ddau substantia mewn un persona), a hynny, yn eu tyb hwy, mewn modd a oedd yn fanwl gywir. Yr eironi yn hyn oll yw bod yr union feddylwyr a haerai fod y natur ddwyfol yn anhraethol (ineffable) wedi amcanu at ei gosod mewn fframwaith meddyliol caeth a chyfyngedig.
Nid am eiliad y byddem yn dilorni lle rheswm a’r deall mewn crefydd (gwyliwn rhag i’n ffydd fod yn afresymol: nid yw ffydd yn groes i reswm ond yn hytrach y tu hwnt iddo), na chwaith yr ymgais i ddiffinio cynnwys y ffydd mewn modd trefnus a rhesymegol, ond fel y dengys Ward, os yw Duw yn anhraethol yna ni all unrhyw athrawiaeth amdano fod yn anffaeledig a digonol. Y mae yna ddirgelion y tu hwnt i wybodaeth a dirnadaeth dyn, ac nid oes yr un dirgelwch yn fwy na Duw ei hun. “Ganddo ef yn unig y mae anfarwoldeb, ac mewn goleuni anhygyrch y mae’n preswylio. Nid oes yr un dyn a’i gwelodd, ac ni ddichon neb ei weld. Iddo Ef y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol! Amen.” (1 Timotheus 6: 16)  Y mae’n dilyn y dylai hyn feithrin ynom wyleidd-dra. Onid oes gwir berygl ar adegau inni siarad yn slic ac yn orhyderus am Dduw, fel pe baem yn gwybod y cyfan sydd i’w wybod amdano, a bod y gair terfynol amdano eisoes wedi ei lefaru. Deil rhybudd Paul i’r Atheniaid yn un amserol: “Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, nid yw ef, ac yntau’n Arglwydd nef a daear, yn preswylio mewn temlau o waith llaw. Ni wasanaethir ef chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen rhywbeth, gan mai ef ei hun sy’n rhoi i bawb fywyd ac anadl a’r cwbl oll.” (Actau 17: 24, 25). Â’r Duw hwn, neb llai, y mae a fynno ffydd a diwinyddiaeth, a chred ac addoliad, a ‘does wiw inni anghofio hynny. Gair y ceir cryn ddefnydd ohono mewn diwinyddiaeth gyfoes yw apophasis, sef anallu iaith ddynol i gyflawn fynegi yr hyn yw Duw – “the breakdown of speech, which cracks and disintegrates before the absolute unknowability of what we call God.” (Karen Armstrong, The Case for God, 126.) Medd Ward:  “What we can learn from these errors of the Christian Patristic writers, errors that  led to violence, torture, censorship and repression, is that we must speak cautiously  and tentatively about the ineffable God.” (t. 68)  Ond. medd rhywun, oni chafwyd datguddiad cyflawn a therfynol o Dduw yn Iesu – digonol, yn sicr, ys dywed Calfin, ar gyfer iachawdwriaeth dyn? Gwir, ond y mae’n gwestiwn arall a yw ein dirnadaeth ninnau o Iesu yn gyflawn. Gan mai “o ran” (chwedl Ann Griffiths) yr ydym yn ei adnabod ef, a chan fod Duw yn ei hanfod yn ddirgelwch anamgyffredadwy i’r meddwl meidrol, onid yw’n ofynnol inni amlygu gostyngeiddrwydd wrth inni ymarfer ein ffydd? Yn sicr ni all unrhyw gredo o waith dynion fod yn hollgynhwysol a therfynol.
Yr un olaf i anwybyddu rheswm yng nghyd-destun ffydd fyddai D. Miall Edwards (“Nid yw’r ffaith na allwn ddeall popeth yn rheswm dros inni beidio â defnyddio’r deall o gwbl”, Bannau’r Ffydd, t. 20), ond nid yw’n petruso pwysleisio:  “Nid credo anffaeledig, cyfforddus fel gobennydd i gysgu arno yw angen yr oes,  ond ffydd bersonol, anturiaethus, filwriaethus, sy’n barod i ddysgu yn ysgol  profiad.” (op. cit. tt. 25-26)  Onid yw cariad Duw (ac y mae’n ffaith ddadlennol nad yw agape yn digwydd gymaint ag unwaith yn y credoau clasurol) y tu hwnt i allu dyn i’w lawn amgyffred?  Mae ehangder yn nhrugaredd Y mae cariad Duw yn lletach  Duw, fel mawr ehangder môr; Na mesurau meddwl dyn,  Mae tiriondeb gwell na rhyddid Ac mae calon Iôr tragwyddol  Yng nghyfiawnder pur yr Iôr. Yn dirionach fyrdd nag un.  (F.W.Faber, cyf. Gwili)
Cwbl, cwbl amhosibl yw gosod cariad o’r fath (cariad sy’n maddau i’r afradlon, sy’n barod i sefydlu perthynas â phechaduriaid a phublicanod, ac sy’n cwmpasu yr holl fyd, y cosmos cyfan) oddi mewn i ffrâm daclus, gymesur, a dyma lle y mae unrhyw gredo a luniwyd gan ddyn yn rhwym o fethu.

2. Ym marn Ward, ail gamgymeriad y diwinyddion cynnar oedd y ffaith iddynt wneud derbyn eu credoau a’u gosodiadau yn amod iachawdwriaeth, gan ddatgan bod unrhyw un na chydymffurfiai â’u diffiniadau yn golledig, y tu hwnt i achubiaeth. Yn hyn o beth yr oedd y Tadau’n euog o ddau gamgymeriad sylfaenol:
(i) Collwyd golwg ar bwysigrwydd goddefgarwch. Demoneiddiwyd unrhyw safbwynt-  iau a oedd yn groes i’w daliadau hwy, a chyhoeddwyd bod unrhyw un a wrthwynebai credoau swyddogol yr eglwys (e.e. Nicea, 325 O.C., a’r datganiad fod y Gair “wedi ei genhedlu, ac nid wedi ei greu”, a’i fod o’r un hanfod â’r Tad; Chalcedon, 451 O.C., a ddisgrifiai Iesu yn nhermau “dwy natur (dwyfol a dynol) mewn un person”) yn anathema. Fel yr âi amser yn ei flaen, a’r eglwysi “uniongred” yn ymdrechu fwyfwy i warchod yr hyn a oedd, yn eu tyb hwy, yn wirionedd a oedd wedi ei ymddiried iddynt gan Dduw ei hun, aeth yr ysbryd anoddefgar ar gynnydd, a hyn yn arwain at erlid a chosbi pwy bynnag a anghytunai.
Y mae Ward yn dadlau bod amrywiaeth barn (diversity) yn anochel mewn unrhyw fynegiant deallusol o gynnwys y ffydd:  “Pluralism of understanding is inevitable, given the limitations of all human concepts  and the variety of human philosophical standpoints. It is not the case that you must  have all the correct beliefs in order to be saved. What matters is that you try to  understand as well as you can, and admit your limitations.” (t. 67)  Onid yw o’r pwys mwyaf, felly, ein bod ninnau sy’n arddel yr enw “Cristionogion” yn y Gymru gyfoes, waeth i ba ysgol ddiwinyddol neu garfan enwadol y perthynwn, yn dysgu goddef ein gilydd, a pharchu a chydnabod ein gilydd, mewn cariad? Tawed pob sôn am Gristnogion eilradd.
(ii) Cyfystyru achubiaeth â chredo gywir. Fe all credo a chyffes fod yn ganllawiau defnyddol, ond y mae llawer mwy ymhlyg mewn iachawdwriaeth na chydymffurfio â chyfres o ddogmâu. “A wyt ti’n credu mai un Duw sydd? Da iawn! Ond y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu. Y dyn ffôl, a oes raid dy argyhoeddi mai diwerth yw ffydd heb weithredoedd?” (Iago 2: 19. 20) Mynn Ward mai nod ac amcan (a gwyrth!) iachawdwriaeth yw bod bywyd dyn yn cael ei drawsnewid gan Ysbryd cariad dwyfol. Digwydd hynny pan yw dyn yn gwisgo amdano “y natur ddynol newydd” (Colosiaid 3: 10), a “ffurf Crist” yn cael ei amlygu ynddo (Galatiaid 4: 19). Dyma’r union gasgliad y daeth George M. Ll. Davies iddo: “Nid yw Cristnogaeth i mi mwyach yn fater o Gorff Diwinyddiaeth neu Drefnyddiaeth Eglwysig, ond yn fater o ysbryd Cristaidd.”
Ar un olwg, y mae’n hawdd adrodd credo; anos o lawer yw caniatáu i Ysbryd Crist ein meddiannu nes ein bod yn byw, yn ymddwyn ac yn gweithredu mewn cariad. Eithr hyn yw nod amgen y bywyd Cristionogol, ac ni ellir ei sylweddoli ond trwy ras, ac yn nerth a chymorth yr Ysbryd Glân. “Byddwch yn dirion wrth eich gilydd, yn dyner eich calon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi. Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl iddo, gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a’i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr.” (Effesiaid 3: 32 – 5: 2)

3. Y trydydd o gamgymeriadau’r Tadau oedd iddynt ddefnyddio’r Beibl mewn modd llythrennol, gan ddethol darnau ohono i’r diben o gefnogi eu dehongliad arbennig hwy o’r hyn a ddysgodd Iesu i’r apostolion, a thrwyddynt hwy i’r sawl a oedd yn yr olyniaeth apostolaidd oddi mewn i’r eglwys. Er enghraifft, buont yn pwyso’n drwm ar Efengyl Ioan, gan gymryd fod y cwbl o’r ymadroddion a briodolir i Iesu oddi mewn i’r bedwaredd efengyl yn ddim llai na’r hyn a lefarodd ef Iesu ei hun, verbatim, yn hytrach na’u gweld fel myfyrdod diwinyddol a defosiynol o eiddo’r awdur(on) yn dilyn yr atgyfodiad, ar berson a gweinidogaeth Iesu o Nasareth.  “They took John’s Gospel to report the actual words of Jesus and to be the source of  detailed and complex theoretical beliefs about the divine nature, thus changing evocative poetic symbolism into particularly obscure philosophical prose.” (Ward, 68)  Y sylw a wneir fan hyn yw bod trin y Beibl mewn modd llythrennol ac anfeirniadol yn gallu arwain at beryglon mawr. Mor hawdd yw dyfynnu adnodau ymylol o lyfr Lefiticus, a dyfarniadau o eiddo Paul (a fwriadwyd yn unig ar gyfer sefyllfa arbennig, mewn eglwys arbennig, ar adeg arbennig, ac nid fel deddf ddiwyro ar gyfer yr eglwys fyd-eang, gyffredinol, ym mhob oes ac amgylchiad) i fod yn llawdrwm ar bobl hoyw, ac yn wrthwynebus i ordeinio merched a’u neilltuo’n esgobion. Nid defnydd o’r Beibl a geir yn yr achosion hyn, ond camddefnydd ohono, a hynny’n dwyn anfri ar yr eglwys ac amheuaeth ar ddilysrwydd ei chenhadaeth. Beth, felly, yw’r angen?:  “We must restore to the Bible its function as a set of inspired and diverse responses  to a discernment of God’s liberating love in Christ.” (t. 69)  Y mae a wnelo craidd a chalon yr Efengyl â chariad anrhaethol, anchwiliadwy Duw yng Nghrist, cariad sydd â’i fryd ar achub, adfer, a rhyddhau dyn o’i gaethiwed i bechod a drygioni, ac i’r graddau ei fod yn tystio i hynny y gellir ystyried y Beibl yn Air Duw.

Yn eu hymgais i ddiffinio’r ffydd, a’i chostrelu mewn credo a chyffes, nid oedd y Tadau yn ddi-fai. Nid yw hyn yn annisgwyl, yn enwedig o gofio eu bod yn fynych o dan bwysau gwleidyddol ac ymerodrol, i sefydlu undod eglwysig. Eglwys unedig mewn ymherodraeth unedig, dyna oedd y gri. Y cwestiwn a erys yw hwn: A ydym ninnau heddiw yn barod i ddysgu o’u camgymeriadau, er mwyn osgoi syrthio i’r un maglau â hwy? Ystyriwn fod plwraliaeth, goddefgarwch, eangfrydedd, ac yn bennaf oll, cariad, yn anorfod mewn unrhyw gymuned Gristionogol iach a diragfarn.  (-Desmond Davies)

20/01/2013