Defosiwn

fel

2 Corinthiaid 13: 13

Gras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glan a fyddo gyda ni oll! Mae’r geiriau yn rhan annatod o’n haddoliad o Sul i Sul. Dyma eiriau cyfarwydd iawn, ond ymhlyg ynddynt mae dirgelwch arswydus o fawr! Tad, Mab ac Ysbryd Glân. Daeth un o’r tri yn un yn un ohonom, ac o’r herwydd mae gobaith gennym i ddechrau dechrau deall Iesu. Mae’r profiad cyffredinol o ofal a chariad tad yn agor cil y drws ar y syniad o Dduw fel Tad cariadlawn. Ond, rhaid wrth ddychymyg eang a dwfn i gyffwrdd hyd yn oed ag ymyl y syniad o’r Ysbryd Glân. Yr Ysbryd Glan? Beth yw hwnnw?

Mae Mathew, Marc a Luc yn gytûn bod yr Ysbryd hwn wedi disgyn ar Iesu adeg ei fedydd fel colomen. Yr Ysbryd Glân? Beth yw hwnnw? Colomen? Na, meddai Mathew, Marc a Luc fod yr Ysbryd Glân fel colomen. Bu’r Ysbryd hwn yn gymorth a chynhaliaeth i Iesu ar hyd ei weinidogaeth. Yn ddiweddarach, yn Llyfr yr Actau, cawn sôn gan Luc yr Ysbryd yn llenwi’r oruwch-ystafell yn un o strydoedd cefn Jerwsalem lle’r oedd ffrindiau Iesu wedi dod at ei gilydd fel gwynt stormus a thafodau o dân. Ond dweud y mae Luc fod yno sŵn fel gwynt a thafodau fel tan wedi ymddangos. Yr Ysbryd Glân? Beth yw hwnnw? Gwynt nerthol? Fflamau tân? Wel, rywbeth fel gwynt nerthol, rywbeth tebyg i fflamau tân.

Wrth ddarllen ymlaen yn Llyfr yr Actau fe ddown i weld a deall bod ffrindiau Iesu’n dibynnu ar yr Ysbryd i’w harwain – beth i ddweud a gwneud, pryd i aros neu symud ymlaen. Nid teyrn mo’r Ysbryd hwn, nid oedd gorfodaeth arnynt i ildio iddo, ond o ddewis gwneud, ‘roedd pethau syfrdanol yn digwydd. Grym Duw ar waith oedd yr Ysbryd, ac ‘roedd ildio iddo ‘roeddent fel dail yr Hydref yng ngafael y gwynt, fel darnau pren yn llif yr afon. Nid oedd modd reoli’r grym hwn, ond ‘roedd yn rhaid ildio iddo, ac o ildio daeth anturiaeth di-ben-draw!

Dwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r egni byw hwn mor rhyfedd a rhyfeddol nawr ag a bu erioed – mor annealladwy i ni nawr, ag ydoedd i awdur Genesis wrth iddo sôn am ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd (1:2a). Yr Ysbryd hwn, sydd yn cydio ti a minnau ynghyd yn y lle hwn; yr Ysbryd hwn sydd yn cydio pobl Dduw ynghyd ar draws pob ffin, rhwystr a magl. Yr Ysbryd hwn sydd yn cydio ynghyd pobl Dduw ddoe, heddiw ac yn oes oesoedd. A ninnau’n ddim byd ond esgyrn sychion, yr Ysbryd hwn sydd yn ein bywiocau. Yr ysbryd hwn sydd yn chwythu ffiws ein ffydd. Yr Ysbryd hwn sydd fel feirws yng nghyfrifiadur ein crefydd. Yr Ysbryd hwn sydd yn creu patrymau troellog llac o linellau syth ein credoau tynn. Ond erys y broblem o fedru siarad am yr Ysbryd hwn. Erys y cwestiwn: Yr Ysbryd Glân? Beth yw hwnnw? Sut mae sôn yn glir am rywbeth mor aneglur? Sut mae sôn yn bendant am rywbeth mor amhendant? Chi’n gweld? ‘Rydym ninnau yn union fel Mathew, Marc a Luc yn gorfod pwyso hefyd ar y gair bach hwnnw: fel. I ni, fel hwythau mae’r Ysbryd fel rhywbeth neu’i gilydd.

Mi gredaf fod gan wyddoniaeth gyfoes ambell fel newydd sydd yn gymorth mawr yn ein meddwl – a’n siarad – am yr Ysbryd Glân. Ar ôl pedwar cant o flynyddoedd o gecru cyson rhwng gwyddonwyr a diwinyddion, daeth gwawr glân o gymod newydd. Bellach, mae llyfrau yn cael eu cyhoeddi sydd yn anodd iawn i’w gosod yn dwt yn ei lle. Ydi The Faith of a Physicist gan John Polkinghorne yn perthyn i’r adran Gwyddoniaeth neu i’r adran Crefydd? Beth wedyn am The Physics of Immortality gan Frank Tipler, neu The Quantum Self gan Danah Zohar? Mae’r hen ffiniau wedi diflannu, ac o hynny daw iechyd i bawb.

Mi hoffwn y Sulgwyn hwn gydio mewn dau fel o fyd ffiseg. Dim ond ‘C’ ges i yn ffiseg lefel O gyda llaw. Ond ‘roedd arholiadau’n anodd y dyddiau rheini. Daw’r fel cyntaf o ddamcaniaeth Anrhefn – Chaos Theory. Hanfod y ddamcaniaeth hon yw’r syniad nad peiriant mor bydysawd, ond rywbeth byw, hyblyg. Y pennaf efallai o arloeswyr Chaos Theory yw Edward Lorenz, a ddarganfu yn ôl ym 1961 pam nad oedd modd darogan y tywydd yn fanwl gywir. Wedi bwydo manylion patrymau tywydd i’w gyfrifiadur, ar ddamwain daeth i sylweddoli bod y newidiadau lleiaf yn y manylion hynny yn gallu arwain i ganlyniadau syfrdanol fawr. Mae’r ddelwedd bellach yn enwog: bod curiad adenydd pili-pala ym Meijing heddiw yn creu storm yn Efrog Newydd mis nesaf. Wrth wraidd Damcaniaeth Anrhefn mae’r syniad o gydymddibyniaeth. Mae popeth a phawb yn gydiol wrth ei gilydd, yn ddibynnol ar ei gilydd. Yn union oherwydd bod popeth yn gydiol wrth bopeth nid oes modd darogan yn fanwl gywir sut y bydd un peth yn benodol yn ymddwyn o fewn y we hon o gydymddibyniaeth. Ydi, mae’r Ysbryd Glan fel Chaos Theory. Nid ydym yn byw fel peiriannau mewn peiriant o fyd mewn bydysawd peiriannol. Perthynwn i rwydwaith dirgel, dyrys ac mae pawb ohonom yn gydiol wrth ein gilydd yn a thrwy’r Ysbryd. Felly, gellir esbonio ffenomenon yr eglwys leol. Sylwch ar yr amrywiaeth o brofiad, cefndir, gobaith, dyhead, ffydd a thraddodiad sydd yma’r bore ‘ma. Dim ond o fewn yr eglwys, yn nhynfa dyner dynn yr Ysbryd mae’r fath amrywiaeth creadigol yn bosibl – nid oes dim byd arall a allasai ddod a ni i gyd ynghyd i gydweithio! Meddyliwch, wedyn am amrywiaeth anhygoel yr eglwys Gristnogol ar draws y byd. Mae’r amrywiaeth y tu hwnt i fynegiant, ond yn real a byw oherwydd rheffynnau’r Ysbryd yn dynn rhyngom a thrwom.

Yr ail beth yw’r hyn a elwir EPR paradox. EPR oherwydd mae Albert Einstein, Boris Podolsky and Nathan Rosen – EPR – gynigodd yn syniad yn ôl 1935. Paradocs, gan mai paradocs ydyw. Dwi’n hoffi’r syniad hwn, neu o leiaf dwi’n hoffi fy neall innau ohono. Dychmygwch, meddai Einstein, Podolsky a Rosen dau ronyn bychan bach – dau particle A a B. Daeth A a B i fodolaeth gyda’i gilydd, ond aethant oes pys oddi wrth ei gilydd, mor bell fel na allai fod unrhyw cyfathrebu rhyngddynt. Ond yn ôl ein mathemateg ni, meddai Einstein, Podolsky a Rosen, dyma sydd yn anhygoel, er y pellter sydd rhyngddynt pan mae A yn newid cyfeiriad, yn syth bin, gwna B yr un fath yn union fel pe bai’r ddau ronyn bychan bach yn ‘gwybod’ beth oedd y naill a’r llall yn gwneud. Fe ddigwydd hyn yn union syth, yn gynt hyd yn oed na chyflymdra golau. Nid ddylai hyn ddigwydd, ni ddylai hyn fod yn bosibl ond er gwaethaf hynny, dengys hafaliadau Einstein, Podolsky a Rosen fod hyn yn digwydd. Mae’r Ysbryd Glân fel yr EPR paradocs. Yr Ysbryd sydd pontio meithder ffordd ac amser ys dywed yr emyn. Pellter amser – troi’n ôl i’r gorffennol a wnawn yn reddfol, a cheisio cael Duw i ail-wneud, ail-greu, ailwampio. Nid Duw ddoe mohono, nid yw’r Ysbryd Glân yn ein harwain yn ôl. Y mae pellter ffordd yn fwy hyd yn oed na phellter amser. Sut gall rhyw boblach fel nyni obeithio dod yn agos at Dduw. Mae Duw allan o’n cyrraedd. Yr unig beth y gallwn ni ei wneud yw ei edmygu’n syn. Cofiwch A a B mewn perffaith cynghanedd er gwaethaf pob pellter; wel, mae’r Ysbryd ar waith yn symud pob pellter a difodi meithder ffordd ac amser yn sicrhau mae Duw agos, agos yw ein Duw ninnau, nid Duw ar goll yn niwl y bannau uchel, nac yn niwl y gorffennol pell.

Mae’r Ysbryd fel tafod tân, fel nerthol wynt, fel gwlith, fel gwin, fel Damcaniaeth Anhrefn, fel paradocs EPR. Pendraw hyn oll yw gorfod cydnabod mae ofer ceisio diffinio’r Ysbryd Glân i drwch y blewyn! Dim ond y fel sydd gennym, a chofiwn, ac atgoffwn ein gilydd yn gyson mae unig amod bendith hael yr Ysbryd yw chwilio am fel sydd inni’n gweithio, heb wadu gwerth unrhyw a phob fel arall.

Owain Llŷr Eva