DADFYTHU’R ŴYL

E-Fwletin Rhagfyr 17eg, 2012

DADFYTHU’R ŴYL
Y mae’n hen arferiad erbyn hyn mewn llawer o’n heglwysi i wahodd Siôn Corn i barti Nadolig y plant, er, yn ôl pob sôn, aeth yn fwy o dasg, bellach, i sicrhau gwirfoddolwyr i wisgo’r clogyn coch a’r farf wen. Gall hon fod yn weithred ddigon diniwed, ac nid yw’n hawdd penderfynu bob amser pwy sy’n cael y mwyaf o fwynhad, ai’r plant, ai’r rhieni!

Mae’n debyg erbyn hyn, mewn rhai achosion, fod Siôn Corn yn cael croeso nid yn gymaint i’r parti yn y festri ond hefyd i fod â rhan yn y gwasanaeth Nadolig yn y capel.
Yn dilyn y cyflwyniad o ddrama’r geni gan blant yr ysgol Sul daw cnoc ar y drws a bydd Santa’n araf gerdded i’r sedd fawr i gyfarch y gynulleidfa ac i ddosbarthu anrhegion. Dyma lle mae angen bod yn wyliadwrus, oherwydd o ganlyniad i hyn bydd y plentyn, yn anorfod yn ei feddwl ei hun, yn cysylltu Siôn Corn â baban Bethlehem; yna, wedi iddo dyfu’n hŷn, a phan fydd yn gwawrio arno nad yw’r gŵr hael o Wlad y Lapiaid yn ddim ond ffrwyth dychymyg, bydd perygl mawr iddo ddod i’r un dyfarniad yn hollol ynghylch Iesu o Nasareth. Mae’n holl bwysig, yn enwedig gan fod meddwl plentyn yn rhywbeth mor agored â derbyngar, ein bod yn gwahaniaethu rhwng ffug a ffaith, rhag i’r cyfan fynd yn un gybolfa ddryslyd ym mhrofiad yr ifanc.

Ond arhoswn foment. Beth am yr elfennau mytholegol sydd yn adroddiadau Mathew a Luc o’r geni? Oni ddaw amser yn natblygiad y plentyn pan fydd yn holi ai gwir yr hanes am eni (neu, yn hytrach, genhedlu) annormal, am fodau nefol yn ymddangos uwchben meysydd Bethlehem, am seren symudol yn cyfeirio gwŷr doeth? Deuwn yn ôl at neges ganolog y Nadolig. Ganwyd Ceidwad dyn; “daeth Duwdod mewn baban i’r byd”; daeth Tywysog Tangnefedd i “oedfa ein hadfyd”. Er mwyn egluro fod y baban hwn yn rhywun unigryw a thra arbennig, yr hyn a wna awduron efengylau Mathew a Luc, yn unol â chonfensiynau llenyddol yr oes, yw gwisgo ei ddyfodiad i’r byd mewn symbolaeth ddramatig, ac yn fwy na dim, esbonio fod hyn oll yn cyflawni rhai o broffwydoliaethau allweddol yr Hen Destament. Rhaid oedd i’r geni “ddigwydd” ym Methlehem (tref Dafydd: mae’n fwy tebygol mai yn Nasareth y ganed Iesu) er mwyn portreadu Iesu fel ail Ddafydd, y Meseia hir-ddisgwyliedig. Dyfais oedd y “geni gwyrthiol” i danlinellu’r ffaith y deuai Iesu “oddi uchod” ac “o Dduw”. Daeth “doethion o’r dwyrain” gan fod hynny’n gwireddu disgwyliadau Eseia 60 a Salm 72: 8-11. Cynhwyswyd y cyfeiriad at ladd y plant gan fod arbed y baban yn adleisio’r waredigaeth a ddaeth i deuluoedd yr Iddewon adeg lladd y cyntaf-anedig yn yr Aifft (Exodus 12). Diben trefnu i Joseff a Mair gymryd yr un bach a dianc i’r Aifft, a dychwelyd oddi yno i Nasareth yn dilyn marwolaeth Herod, oedd er mwyn datgan mai swyddogaeth Iesu fyddai arwain ail Exodus, nid o’r Aifft y tro hwn, ond o gaethiwed drygioni a phechod i ryddid meibion Duw. A beth am yr angylion? Cofiwn mai ystyr gwreiddiol y gair angelos yw negesydd – negesydd sydd â chenadwri dyngedfennol bwysig i’w chyhoeddi, neges, fel arfer (ac y mae’r neges, bob amser, yn bwysicach na’r cyfrwng), oddi wrth Dduw ei hun. Nid oes raid i angel fod mewn gwisg wen ag iddi adenydd a choron o dinsel!

Mae’n bwysig gwahaniaethau rhwng ffydd a ffiloreg, rhwng gwir a gau, rhwng y digwyddiad ei hunan a’r symbolau a ddefnyddir i gyfleu arwyddocâd y digwyddiad. Mae’r symbolaeth sy’n gysylltiedig â’r Nadolig yn brydferth ac yn gofiadwy ond y mae’n ofynnol inni ddadfythu’r ŵyl, a chanolbwyntio ar y neges sy’n gorwedd y tu i’r myth, neges sy’n ein herio heddiw i fyw mewn cyfiawnder a chymod a heddwch:
“Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd wrth ei fodd.”

Efallai bydd rhai yn anghytuno â chynnwys y neges hon. Gwerth gwefan Cristnogaeth 21 yw rhoi cyfle i bobl ddatgan safbwyntiau gwahanol mewn ysbryd cynhwysol. Croeso i chi ymateb trwy fynd i www.cristnogaeth21.org a dewis y botwm “Bwrdd Clebran” Cofiwch y bydd yn rhaid i chi gofrestru cyn medru postio ymateb. Rydym hefyd yn Trydar erbyn hyn – @Cristnogaeth21

Fydd dim E-fwletin dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – cewch y neges nesaf ar Ionawr y 7fed. Tan hynny, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda, a diolch i bawb am eu cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.

16/12/2012